Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DYLUNIAD GWASANAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU NEWYDD ARFAETHEDIG

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu (copi amgaeedig) sy’n ceisio barn y Pwyllgor am y gwasanaethau newydd arfaethedig, gan gynnwys dylunio’r gwasanaeth, costiadau a chyllid dangosol, a strategaeth gyfathrebu arfaethedig gyda phreswylwyr.

 

11.10am – 12.10pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd adroddiad y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu ac atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg).  Pwrpas hynny oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am sefyllfa ariannol ddiweddaraf y prosiect ynghyd â rhoi gwybodaeth am amserlenni a phrosiectau cysylltiedig.  Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol er bod Atodiad II yr adroddiad yn sôn y byddai amserlen darparu prosiect yn ymestyn hyd at 2022, cyfeiriai hyn at y flwyddyn ariannol 2021/22.  Yn seiliedig ar y cynnydd hyd yma roedd ganddo bob ffydd y byddai’r gwasanaeth newydd yn weithredol erbyn mis Medi 2021.

 

Ar gais y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd darparodd y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu fersiwn PowerPoint o Atodiad III i’r adroddiad a oedd yn darlunio gosodiad arfaethedig y Depo Canolog newydd a fyddai’n cael ei greu yn Ninbych.  Rhoddodd drosolwg i’r Pwyllgor o’r gosodiad a swyddogaethau’r holl ardaloedd gwahanol a fyddai'n gynwysedig yn y safle chwe acer hwn a'r cyfyngiadau rheoliadol amgylcheddol, tân ac eraill y byddai'n rhaid cydymffurfio â nhw wrth eu dylunio a'u datblygu.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu:

 

• ddweud nad oedd unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ynglŷn â dyluniad y cynwysyddion ‘Trollibocs’ a fyddai’n cael eu prynu a’u cyflwyno, gan fod nifer o gynhyrchwyr newydd wedi dod i’r farchnad yn ddiweddar.

• cadarnhau nad oedd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref presennol yn ffurfio rhan o’r prosiect penodol hwn.  Byddai unrhyw drafodaethau ynglŷn â’u dyfodol yn rhan o broses arall.  Roedd angen adnewyddu’r contract ar gyfer gweithredu’r canolfannau hyn ym mis Mawrth 2021 felly byddai ymarfer ail-dendro yn dechrau yn y dyfodol agos.  Fel rhan o’r broses ail-dendro, roedd modd ymchwilio i ddulliau o gynhyrchu incwm, gan gynnwys rhai ar gyfer cyrff elusennol o werthu ‘gwastraff’ y cartref sydd o safon dda.

• dweud er gwaethaf y ffaith bod safle’r depo canolog arfaethedig yn arwynebedd chwech acer, ni fyddai’n ddigon mawr ar gyfer symud y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref bresennol yn Ninbych i'r un safle gan fod cynigion i gynnwys ardal i drin gwastraff priffyrdd ar safle'r depo canolog faes o law, yn amodol ar gymeradwyo achos busnes ar wahân.

• dweud bod rheoliadau amgylcheddol yn golygu mai’r unig ddeunydd gwastraff y gellid ei ddadlwytho yn yr awyr agored oedd gwydr, byddai’n rhaid i bob gwastraff arall gael ei ddadlwytho dan orchudd mewn adeiladau pwrpasol.

• cadarnhau y byddai angen i ardal y depo cyfan gydymffurfio â rheoliadau caeth o ran sŵn, arogl, llygredd a thân a byddai angen hawlenni gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn dechrau rhai ymarferion trin gwastraff, yn arbennig y rheiny sy’n gysylltiedig â Cham 2 y prosiect – trin gwastraff priffyrdd.

• dweud o dan y system newydd ar gyfer casglu gwastraff y cartref, byddai gwastraff bwyd yn dal i gael ei gasglu ar yr un pryd â gwastraff arall ac yna byddai’n cael ei drosglwyddo o ddepo Dinbych i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Bwyd yn Rhuallt.

• dweud, er bod lle i 90 o gerbydau yn y maes parcio i staff y depo arfaethedig, nid oedd y rhif hwn yn cymryd i ystyriaeth pobl a oedd eisoes yn rhannu ceir.  Roedd yn Cyngor yn ymwybodol o’i ddyletswydd i ostwng allyriadau carbon a dyna pam y byddai nifer o bwyntiau gwefru cerbydau yn cael eu gosod yn y maes parcio ar gyfer cerbydau trydan.  Hefyd ni fyddai staff y depo i gyd yn dechrau gweithio ar yr un amser a byddent yn amrywio rhwng 6am a 6.45am, gyda cherbydau casglu sbwriel yn gadael y depo o 6.30am ymlaen.  Roedd y posibilrwydd o ddarparu cludiant i staff i’r gwaith ac adref wedi cael ei ystyried a gellid ymchwilio ymhellach i hyn.  Byddai’r holl faterion yn ymwneud â chludiant ar y safle yn amodol ar asesiad priffyrdd a thrafnidiaeth fel rhan o’r broses ceisiadau cynllunio.

• cadarnhau nad oedd y safleoedd gwag ar Ystad Ddiwydiannol Colomendy ar hyn o bryd yn ddigon mawr ar gyfer safle’r depo arfaethedig.  Hefyd roedd y Cyngor yn y broses o brynu rhywfaint o dir i greu pwynt mynediad addas ar gyfer y datblygiad ar hyn o bryd. Roedd manteision prynu’r llain penodol hwn o dir yn ddeublyg, byddai’n hwyluso datblygiad y depo newydd a hefyd yn rhyddhau dros 20 acer o dir datblygu a fyddai’n sicrhau dyfodol i nifer o fusnesau llwyddiannus ar Ystad Ddiwydiannol Colomendy trwy ddarparu lle iddyn nhw ehangu.

• cadarnhau bod gwerth ariannol ‘gwastraff' yn eithriadol o isel ar hyn o bryd, ond roedd targedau a rheoliadau'r llywodraeth yn mynnu bod awdurdodau lleol yn ailgylchu a thrin mwy o wastraff ac yn gwneud llai o ddefnydd o safleoedd tirlenwi.  Oherwydd bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol o’r difrod y mae plastig a ddefnyddir unwaith yn ei wneud i'r amgylchedd a'r posibilrwydd y bydd y llywodraeth yn cyflwyno cynllun prynu a dychwelyd, roedd arferion pobl yn debygol o newid a gallai hynny arwain at ostwng cyfanswm y gwastraff plastig a gynhyrchir, ond mae’n bosibl y caiff hyn ei wrthwneud gan gynnydd yn y boblogaeth.  Roedd trafodaethau ar y gweill rhwng llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol ar hyn o bryd ynglŷn â sut y gallai ALlau gyfalafu ar gyflwyniad cynllun prynu a dychwelyd.

• dweud bod llawer o safleoedd yn y sir wedi cael eu hystyried fel rhan o’r broses i leoli depo pwrpasol, roedd y lleoliad penodol hwn yn ganolog ac roedd yn hygyrch i bob rhan o'r sir.  Ymhen amser, efallai y byddai awdurdodau lleol cyfagos yn dymuno defnyddio cyfleuster pwrpasol Sir Ddinbych.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd rhoddwyd cyfle i aelod o'r cyhoedd a oedd yn bresennol annerch y Pwyllgor ynglŷn â’i phryderon am y model gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd.  Credai bod trigolion yn hoffi, yn gwerthfawrogi ac yn deall y gwasanaeth ailgylchu bin glas cymysg presennol a pryderai ynglŷn â sefydlogrwydd a pha mor hawdd fyddai'r system ‘Trollibocs’ i'w ddefnyddio, yn enwedig i drigolion anabl neu oedrannus.  Er ei bod wedi cael sicrhad yn ystod y drafodaeth na fyddai’r system newydd yn feichus o ran cost ychwanegol i drethdalwyr y Cyngor, gofynnodd i gynghorwyr y sir dynnu sylw pob preswylydd at y newidiadau a'r rhesymau y tu ôl iddyn nhw.

Mewn ymateb dywedodd swyddogion:

 

• bod amryw o ddulliau cyfathrebu wedi cael eu defnyddio er mwyn tynnu sylw preswylwyr at y newidiadau arfaethedig hyd yma, fel y gwelir yn y Cynllun Cyfathrebu yn Atodiad IV yr adroddiad, roedd y rhain yn cynnwys arolwg, sesiynau galw heibio, radio, datganiadau i’r wasg, gwefan y Cyngor a thudalennau cyfryngau cymdeithasol ac ati.

• un o fanteision y model gwastraff ac ailgylchu newydd arfaethedig oedd y byddai’n helpu i leihau'r pwysau presennol ar y gyllideb o dros £1m, a byddai hynny yn ei dro gobeithio yn helpu i reoli codiadau yn Nhreth y Cyngor yn y dyfodol a’u cadw’n îs na fyddent petai’r model gwasanaeth newydd ddim yn cael ei weithredu.  Y rheswm am hyn oedd y byddai’r model gwastraff newydd yn rhatach i’w redeg na’r model presennol.

• byddai Panel Dinasyddion y Cyngor yn gysylltiedig ag ymgysylltu ar y math o system ‘Trollibocs’ i’w brynu a’i gyflwyno.

• cydnabuwyd fod y system ‘bin glas’ cymysg yn boblogaidd gyda phreswylwyr a’i fod wedi ateb y diben, ond roedd gofynion llywodraeth ganolog yn newid ac roedd arferion ailgylchu preswylwyr yn gwella felly nid oedd y casgliad ailgylchu bob pythefnos yn ddigonol i ateb y galw bellach.  Byddai’r system Trollibocs yn cyflwyno casgliad ailgylchu wythnosol ac ni fyddai cost ychwanegol yn cael ei chodi ar aelwydydd a fyddai’n gofyn am gynwysyddion ailgylchu ychwanegol.

Cytunodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion gydag aelodau bod ymarfer monitro diweddar y Cyngor i nodi aelwydydd nad oeddent yn rhoi eu cadis ailgylchu bwyd oren allan i’w casglu yn rheolaidd wedi cael sylw helaeth yn y cyfryngau.  Roedd y gwaith monitro yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan y criwiau casglu ac roedd yn waith llafurddwys ac nid oedd bob amser yn gywir, dyna pam y penderfynwyd treialu technoleg newydd i fonitro cyfraddau casglu gwastraff bwyd.  Nod y dull hwn oedd helpu i addysgu preswylwyr am fanteision ailgylchu gwastraff bwyd a helpu i roi hwb i gyfraddau ailgylchu.  Byddai’r cyfnod treialu yn rhedeg mewn pedair ardal, gan gwmpasu tua 600 eiddo, rhwng mis Tachwedd 2019 ac o leiaf mis Mawrth 2020.  Amcangyfrifwyd bod oddeutu chwarter gwastraff gweddilliol y sir yn cynnwys gwastraff bwyd, felly i ostwng y cyfanswm hwn roedd yn bwysig i’r Awdurdod ddeall pam fod rhai preswylwyr yn dal i beidio â defnyddio’r cynllun ailgylchu gwastraff bwyd a ddarperir.  Y nod yn bennaf oedd addysgu pobl, roedd camau gorfodi yn ddewis olaf.  Roedd darparu sachau ailddefnydd na allai anifeiliaid fynd i mewn iddyn nhw yn cael ei ystyried ar gyfer lleoedd fel safleoedd aml-aelwyd.  Gellid gosod y sachau hyn mewn daliwr gwastraff bwyd cymunol mawr ar gyfer eu casglu.

  

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd:

(i)           yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma gan y Bwrdd Prosiect Gwastraff er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu newydd yn cael ei ddarparu i drigolion o fis Medi 2021 ymlaen;

(ii)          bod y Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yn dychwelyd i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y prosiectau peilot a oedd yn cael eu cynnal i gynyddu faint o wastraff ailgylchadwy sy’n cael ei gasglu ledled y sir, fel yr amlinellir yn Atodiad V; a

(iii)         bod y Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yn dod ag adroddiad i’r Pwyllgor yn y dyfodol i gynnig rhoi’r Cynllun Gwireddu Buddion ar waith i fonitro buddion y model gweithredu gwastraff newydd i’r amgylchedd, cyllideb, gweithwyr a chwsmeriaid.

 

Dogfennau ategol: