Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH SAFLE SIPSIWN A THEITHWYR YN Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi amgaeedig) sy’n ceisio arsylwadau’r Pwyllgor am y broses o symud ymlaen â darpariaeth safle Sipsiwn a Theithwyr trwy’r CDLl newydd.

 

 10.10am – 11.10am

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad ac atodiadau (eisoes wedi’u cylchredeg) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y broses a ddilynwyd er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol o ran darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn y sir.  Roedd yr adroddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar safleoedd a drafodwyd yng nghyfarfodydd y Grŵp Rheoli Asedau a’r Grŵp Cynllunio Strategol i’w hargymell i’r Cabinet i’w cynnwys ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd fel safleoedd posibl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Yn ystod eu cyflwyniad, rhoddodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion drosolwg i'r Pwyllgor o'r dyletswyddau statudol a osodir ar y Cyngor i ddarparu safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr.  Yng ngoleuni’r ffaith bod angen wedi’i nodi yn y sir trwy’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a gymeradwywyd yn ffurfiol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn 2017.  Hefyd, cafwyd amlinelliad o’r broses ddilynol i ddewis safleoedd posibl at ddibenion preswyl a thramwy, nifer y lleiniau sy’n ofynnol i safleoedd preswyl a thramwy ac atgoffwyd aelodau bod y Cabinet wedi penderfynu ym mis Mawrth 2019 mai'r lleoliad a ffefrir ar gyfer y safle preswyl chwe llain fyddai Green Gates (dwyrain) ger Llanelwy.  Wrth gytuno ar y safle hwn fel lleoliad a ffefrir ar gyfer safle preswyl, roedd y cabinet hefyd wedi cytuno y dylid dyrannu safleoedd posibl ar gyfer y safle tramwy pum llain fel rhan o broses y CDLl newydd, ac na ddylid ystyried Green Gates (dwyrain) ar gyfer safle tramwy, a dyna’r rheswm dros gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Pwyllgor.

Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd copi o adroddiad a gyflwynwyd yng nghyfarfod briffio’r Cabinet ar 9 Medi 2019 yn amlinellu’r broses y bwriedir ei dilyn er mwyn symud ymlaen â safleoedd tramwy posibl i Sipsiwn a Theithwyr i’w cynnwys yn y CDLl newydd, ynghyd â chopi o adroddiad yn nodi safleoedd tramwy posibl i Sipsiwn a Theithwyr a gyflwynwyd i'r AMG ar 30 Medi 2019.  Roedd yr ail adroddiad yn cynnwys manylion am y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth a oedd yn gosod dyletswydd statudol ar y Cyngor i asesu’r angen am ddarpariaeth fel hyn, a darparu safleoedd yn ôl yr angen.  Atodiadau a gynhwyswyd gyda’r adroddiad hwnnw oedd:

·         manylion y meini prawf adolygu safleoedd dechreuol

·         gwybodaeth yn gysylltiedig â’r dadansoddiad safle ac argymhellion o ganlyniad i hynny, ynghyd â manylion yr ystyriaeth bellach a roddir i’r safleoedd hynny ar y rhestr fer ac ymateb yr Adran Brisio ac Ystadau ynglŷn â'r posibilrwydd o golli tir amaethyddol a phroblemau posibl yn ymwneud â chyflwyno hysbysiadau terfynu i denantiaid

Cadarnhaodd swyddogion bod yr holl safleoedd a ystyriwyd yn y gorffennol fel rhan o’r ymarfer darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gwreiddiol, yn cael eu hystyried eto.  Gan nad oedd unrhyw dirfeddianwr wedi dod ymlaen i gynnig tir ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, fel rhan o broses y galwad dechreuol am dir ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr nac fel rhan o ymarfer tebyg o dan broses y CDLl newydd, roedd y Cyngor wedi cyflwyno nifer o safleoedd yr oedd yn berchen arnynt i’r diben hwn, gan fod angen iddo ddangos i Lywodraeth Cymru ei fod yn ymdrechu i gyflawni ei rwymedigaethau statudol.  Dyna pam y cynhwyswyd tir amaethyddol a mannau agored cyhoeddus dynodedig fel safleoedd posibl i’w cynnwys yn y CDLl newydd i’r diben hwn, gan fod proses y CDLl yn gyfle i'r Cyngor newid dynodiadau tir presennol. 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Grŵp Rheoli Asedau yn ei gyfarfod ar 30 Medi wedi rhoi cefnogaeth i gynnwys y pedwar safle a gyflwynwyd i’w hystyried sef:

·         Rhuallt – tir ger Ffordd Treffynnon

·         Rhuallt – hen gae'r ysgol

·         Dinbych, Ffordd Henllan – Safle 1

·         Dinbych, Ffordd Henllan – Safle 2


Yn ogystal, gofynnwyd am gynnwys safle arall yn Rhuallt, sef tir ger B5429 (rhan o Bant Ifan Newydd gynt), fel safle posibl hefyd.

Pwysleisiodd y Swyddogion, pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno unrhyw un o’r safleoedd posibl neu bob un ohonynt i’w hystyried yn y CDLl newydd, byddai llawer iawn o waith manwl yn ofynnol cyn i unrhyw un ohonynt gael eu cynnwys yn y CDLl newydd terfynol mabwysiedig.  O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd rhai neu bob un ohonynt yn methu â chyflawni’r meini prawf cynhwysiant yn y pen draw.  Pe bai’r Cabinet yn penderfynu eu cynnwys yn y CDLl newydd a archwilir gan y cyhoedd, esboniodd y ddau y byddai cymeradwyaeth y Cyngor Sir yn cael ei geisio i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y CDLl a archwilir gan y cyhoedd.  Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, byddai cymeradwyaeth y Cyngor yn cael ei geisio i gyflwyno’r ddogfen i’r LlC a'r Arolygiaeth Gynllunio i’w harchwilio’n gyhoeddus.  Byddai’r Archwiliad Cyhoeddus yn gyfle i unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n gwrthwynebu unrhyw beth yn y CDLl i roi tystiolaeth i arolygydd annibynnol.  Ar ôl i adroddiad terfynol yr Arolygydd gael ei gyhoeddi, byddai cymeradwyaeth y Cyngor yn cael ei geisio i fabwysiadu’r CDLl.

Mewn ymateb i gwestiynau gan Gadeirydd y Pwyllgor, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

·         y byddai’r CDLl presennol yn dod i ben ar ddiwedd 2021.  Pe na bai CDLl newydd yn cael ei fabwysiadu erbyn y dyddiad hwnnw byddai polisïau cynllunio cenedlaethol yn gorchfygu. 

Byddai hynny’n golygu bod polisïau a dyraniadau lleol h.y. mewn perthynas â thai fforddiadwy a ffiniau datblygiadau yn darfod ac ni fyddai modd eu defnyddio wrth ystyried ceisiadau cynllunio.  Byddai penderfyniadau cynllunio lleol yn cael eu pennu yn seiliedig ar bolisïau cenedlaethol ac nid rhai lleol;

·         hysbyswyd aelodau lleol sy’n cynrychioli wardiau’r Cyngor a oedd yn cynnwys safleoedd arfaethedig i'w datblygu fel safleoedd Sipsiwn a Theithwyr o'r cynigion cyn cyfarfod y Grŵp Rheoli Asedau

Pwysleisiodd swyddogion nad oedd cynnwys safleoedd posibl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y CDLl Newydd yn cyfateb i’r safleoedd hynny a oedd yn cael eu datblygu i’r diben hwnnw, gan y byddai’n rhaid iddynt barhau i fod yn destun proses ceisiadau cynllunio’r awdurdod lleol, a gan hynny gellid eu gwrthod yn y cam hwnnw.

Cafodd aelodau lleol wardiau’r Cyngor a oedd yn cael eu hystyried ar gyfer gosod safleoedd posibl gyfle i godi pwyntiau a holi cwestiynau i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion.  Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd a’r pryderon a gyflwynwyd gan y cynghorwyr ar gyfer ward Dinbych Uchaf a Henllan, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

·         gadarnhau nad oedd ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ynghylch y safleoedd posibl arfaethedig eto. 

Ar y cyd â’u grwpiau eirioli, byddent yn cael cymryd rhan mewn ymgynghoriad ynghylch safleoedd posibl trwy broses y CDLl Newydd;

·         dweud bod dau ‘alwad am dir’ ar wahân wedi cael eu gwneud i dirfeddianwyr er mwyn diwallu’r angen a nodwyd am Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. 

Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dirfeddianwyr wedi cysylltu â’r Cyngor i awgrymu tir i’r diben hwn. Yn ogystal, cysylltwyd â phob cynghorydd a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn gofyn am awgrymiadau o dir addas ond ni chafwyd unrhyw beth o gwbl.  Yn y gorffennol roedd y Cyngor wedi cysylltu â thirfeddianwyr gyda'r bwriad o brynu tir i’r diben hwn, ond nid oedd yr un ohonynt yn barod i werthu tir i’r Awdurdod, a dyna pam yr oedd y Cyngor ei hyn yn cyflwyno rhywfaint o’i dir ei hun i’w gynnwys o bosibl i ddangos i LlC bod ganddo gynnig realistig a chyraeddadwy yn ei CDLl newydd er mwyn diwallu’r angen a nodwyd;

·         cadarnhau nad oedd tenantiaid presennol y tir a oedd yn perthyn i’r Cyngor a gyflwynwyd wedi cael eu hysbysu nac wedi bod yn rhan o ymgynghoriad ynghylch y cynnig cyn cyfarfod y Grŵp Rheoli Asedau hyd yma gan nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto ynglŷn â p’un a ddylid cynnwys y tir fel safle posibl. 

Y rheswm am hynny oedd y posibilrwydd na fyddai’r Grŵp Rheoli Asedau yn cytuno â’u cynnwys felly gallai hysbysu tenantiaid o flaen llaw achosi straen a phryder di-angen iddyn nhw.  Er bod y Grŵp Rheoli Asedau yn cytuno y dylid cynnwys y safleoedd ar y rhestr o safleoedd posibl, gofynnodd hefyd am gael ychwanegu safle arall yn Rhuallt at y rhestr o safleoedd posibl, gan ddod â chyfanswm y safleoedd posibl i’w cynnwys i bump;

·         dweud mai'r prif lwybr a ddefnyddiwyd gan Sipsiwn a Theithwyr i mewn ac allan o Sir Ddinbych oedd yr A55.  O ganlyniad roedd y rhan fwyaf o wersylloedd diawdurdod wedi digwydd mewn ardaloedd arfordirol i'r gogledd o'r A55.  Y rheswm posibl am hynny yw bod y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn gallu dod o hyd i ddigon o waith yn y rhan honno o’r sir;

·         cadarnhau bod grant LlC tuag at gostau darparu Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodedig ar gael ar hyn o bryd tan ddiwedd 2021.  Pe bai'r Cyngor yn cymeradwyo'r safleoedd ac yn derbyn caniatâd cynllunio, gallai'r Awdurdod gyflwyno cynnig am unrhyw gyllid sydd ar gael tuag at ddatblygu'r safleoedd;

·         dweud y disgwylir i ddigon o le fod ar gael mewn ysgolion yn yr ardaloedd arfaethedig i ddarparu ar gyfer nifer y plant o safle tramwy pe bai’r angen yn codi;

·         cadarnhau bod oddeutu 15 o wersylloedd diawdurdod yn digwydd yn Sir Ddinbych bob blwyddyn;

·         pwysleisio bod yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) a gynhaliwyd gan y Cyngor yn ofyn cyfreithiol o dan Adran 102 Deddf Tai (Cymru) 2014.  O ganlyniad i’r asesiad hwn yn Sir Ddinbych mae’r angen am safle preswyl a safle tramwy wedi’u nodi. 

O ganlyniad, mae Adran 103 y Ddeddf uchod yn mynnu bod y Cyngor yn gwneud darpariaeth i ddiwallu’r angen a nodwyd.

Dywedodd yr aelod lleol dros Dremeirchion bod:

·         Rhuallt yn gymuned wledig fach gerllaw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, lle nad oedd llawer o wasanaethau nac amwynderau lleol. 

Nid oedd siop nac ysgol yn y pentref bellach, nid oedd gwasanaeth bws yno chwaith, dim ond gwasanaeth bws-tacsi ddwywaith yr wythnos;

·         roedd yr ysgol gynradd agosaf yn Nhremeirchion, gydag ychydig iawn o leoedd dros ben ar hyn o bryd ac mae’n ysgol cyfrwng Cymraeg;

·         roedd safle hen gae’r ysgol yn Rhuallt, a oedd yn gynwysedig ar y rhestr o safleoedd posibl, yn amwynder i blant a theuluoedd lleol ar hyn o bryd ac roedd newydd gael ei ailwampio gydag offer chwarae newydd o’r radd flaenaf. 

Fel cae chwarae roedd yn cael ei warchod rhag datblygiad o dan y CDLl presennol fel man agored cyhoeddus;

·         roedd y tir ger B5429 yn Rhuallt ger hen ddaliad amaethyddol y Cyngor, Pant Ifan Newydd, ac roedd y Cyngor wedi gwerthu’r ffermdy a’r ysgubor am swm mawr o arian i unigolion a oedd wedi’u trosi yn gartrefi yn ddiweddar. 

Roedd perchnogion yr adeiladau hyn wedi cael eu harwain i gredu y byddai’r tir gerllaw eu heiddo yn cael ei ddatblygu at ddibenion preswyl yn y pen draw, nid fel safle tramwy i Sipsiwn a Theithwyr.  Byddai datblygiad fel hyn yn cael effaith andwyol ar werth eu heiddo.  Ar ochr arall y B5429 roedd nifer o fusnesau a oedd yn cyflogi dros 100 o bobl rhyngddynt.  Pe bai’r darn penodol hwn o dir yn cael ei ddatblygu fel darpariaeth tramwy i Sipsiwn a Theithwyr yn y pen draw, gallai gael effaith ddifrifol ar y busnesau hyn a bywoliaeth nifer fawr o bobl;

·         dim ond traean o hen safle’r lladd-dy ger Ffordd Treffynnon oedd Cyngor Sir Ddinbych yn berchen arno. 

Roedd y tir ar y safle hwn yn cynnwys lefelau uchel o halogiad, gan gynnwys gwastraff gwenwynig a gwastraff clwyf y traed a’r genau, a byddai hyn oll yn ychwanegu at gostau paratoi’r safle i’w ddatblygu.  Roedd materion hawliau tramwy hefyd yn gysylltiedig â’r safle fel yr amlinellir mewn llythyr gan gymydog a ddarllenwyd yn y cyfarfod. Hefyd, credwyd bod LlC yn ffafrio’r safle penodol hwn i’w ddatblygu fel safle ailgylchu Cynnyrch Hylendid Amsugnol; 

·         gan mai dim ond am oddeutu 8 milltir y mae’r A55 yn mynd trwy Sir Ddinbych, a gan ei bod mor hawdd cael mynediad at y briffordd a'r lleoliadau, roedd Rhuallt a Llanelwy dan anfantais anghymesur o ran nifer y mathau hyn o ddatblygiadau a oedd yn cael eu cyflwyno ar gyfer yr ardal.

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau’r Pwyllgor, gwnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

·         gadarnhau oherwydd bod ‘angen’ wedi’i nodi am safle Sipsiwn a Theithwyr tramwy yn y sir, byddai CDLl y Cyngor yn wynebu'r perygl o gael ei wrthod gan LlC pe na bai’n cynnwys safleoedd arfaethedig i’w datblygu i’r diben hwn. 

Pe bai hynny’n digwydd, pwysleisiwyd y byddai’n rhaid i’r Cyngor wedyn gadw at bolisïau cynllunio cenedlaethol wrth bennu ceisiadau cynllunio, waeth beth fo’r angen neu’r dewisiadau yn lleol;

·         dweud os yw awdurdod lleol wedi nodi angen am safle preswyl a/neu safle tramwy i Sipsiwn a Theithwyr fel rhan o’i GTAA, roedd ganddynt ddyletswydd rwymedig i ddatblygu'r safleoedd hynny o fewn ffiniau'r sir, waeth beth fo'r argaeledd o unrhyw ddarpariaeth debyg mewn ardaloedd awdurdod lleol cyfagos;

·         cadarnhau bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) safle preswyl eisoes, ac roedd mewn sefyllfa debyg i Sir Ddinbych o ran nodi safleoedd i ddiwallu anghenion tramwy. 

Roedd gan Sir y Fflint eisoes nifer o safleoedd preswyl yn ardal y Fflint.  Yn ddiweddar roedd wedi nodi lleoliad yn yr un ardal ar gyfer datblygiad posibl fel safle tramwy;

·         dweud, er bod y Grŵp Rheoli Asedau wedi dangos ei fod yn ffafrio gweld hen safle'r lladd-dy ger Ffordd Treffynnon, Rhuallt yn cael ei droi yn safle gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol (AHP), roedd hefyd wedi rhoi cyfarwyddyd y dylid parhau i archwilio’r posibiliadau o’i droi yn safle tramwy i Sipsiwn a Theithwyr, rhag ofn i’r safle AHP fethu â dwyn ffrwyth.

·         cadarnhau bod risg mewn perthynas â’r tir ger Pant Ifan Newydd yn Rhuallt oherwydd pe bai’r lleoliad yn cael ei gynnwys yn y CDLl Newydd i’w ddatblygu fel safle tramwy posibl i Sipsiwn a Theithwyr, byddai gwerth cyfalaf y tir gweddilliol yno a oedd â photensial at ddibenion datblygu preswyl yn gostwng yn sylweddol;

·         dweud mewn perthynas â rhai o’r safleoedd arfaethedig bod angen cael cydbwysedd rhwng cost a budd a gwerth/dibrisiad asedau h.y. yn safle’r hen ladd-dy roedd cyllid sylweddol ar gael gan LlC er mwyn gwneud gwaith i adfer y safle. 

Pa bynnag gyfleuster a fyddai’n cael ei ddatblygu ar y safle hwnnw yn y pen draw, byddai’n rhaid gwneud gwaith adfer yno;

·         dweud, pe na bai unrhyw un o’r pum safle posibl sy’n cael eu cynnig i’w cynnwys yn y CDLl Newydd at ddibenion safle Sipsiwn a Theithwyr, yn cael eu hystyried yn addas ar ôl gwneud gwaith ymchwil pellach, byddai'r broses o nodi safleoedd posibl yn ailddechrau;

·         cadarnhau bod safle hen gae’r ysgol yn Rhuallt yn cael ei warchod fel man agored o dan y CDLl presennol. 

Fodd bynnag, gyda datblygiad y CDLl Newydd byddai cyfle i’r Cyngor adolygu'r holl ddyraniadau presennol pe bai’n teimlo bod hynny’n angenrheidiol.  Gallai wneud hynny pe bai’n amnewid dyraniadau blaenorol am ddyraniadau tebyg eraill yn y CDLl newydd;

·         dweud bod gan LlC bwerau diofyn (Rhan 6 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adran 71) sy’n golygu, pe bai LlC yn credu bod y cyngor yn methu neu’n peidio â gwneud rhywbeth sy'n angenrheidiol mewn perthynas â CDLl, y gallai dynnu CDLl sydd wrthi’n cael ei baratoi o reolaeth yr awdurdod lleol a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol. 

Byddai archwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal a gallai LlC wedyn gymeradwyo eu CDLl fel cynllun datblygu i’r ardal. Pe bai hynny’n digwydd, byddai unrhyw benderfyniadau yn ymwneud â lleoliadau safleoedd ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr a materion eraill yn cael eu cymryd allan o ddwylo cynghorwyr etholedig;

·         dweud bod y CDLl presennol yn cynnwys polisi yn seiliedig ar feini prawf i asesu unrhyw gynigion ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, gan nad oedd asesiad GTAA wedi cael ei gwblhau. 

Roedd yr asesiad wedi cael ei gymeradwyo ym mis Ionawr 2017 ac o ganlyniad roedd yr angen am safle preswyl a thramwy wedi cael ei nodi.  O ganlyniad, roedd angen i’r Cyngor amlinellu yn ei CDLl Newydd sut yr oedd yn bwriadu diwallu’r anghenion dynodedig hynny;

·         cadarnhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych wedi cynnal asesiad o anghenion llety ar y cyd. 

Wrth gynnal yr asesiad roeddent wedi dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan LlC.  Er bod yr ymarfer coladu data wedi’i gynnal ar y cyd, roedd y data a gyflwynwyd i LlC wedi bod yn seiliedig ar bob ardal sirol unigol.  Roedd LlC wedi craffu’r data a ddarparwyd iddynt ac wedi dangos ei fod yn derbyn y broses a ddilynwyd ac wedi dilysu’r data.  O dan reolau Diogelu Data nid oedd y Cyngor mewn sefyllfa i rannu ymatebion unigol a dderbyniwyd i’r asesiad GTAA;

·         cadarnhau bod y ddau gyngor yn y broses o wahodd tendrau ar gyfer yr asesiad o anghenion llety nesaf. 

Roedd yr asesiad cymeradwy presennol yn cwmpasu’r cyfnod hyd at 2021, byddai’r asesiad newydd yn cwmpasu’r cyfnod hyd at 2033 a oedd yn cyfateb â llinell amser y CDLl Newydd. Byddai’r asesiad newydd yn darparu gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw angen ychwanegol i’r rheiny a nodwyd yn yr asesiad presennol. Ni fyddai’n cymryd lle canfyddiadau’r asesiad presennol a oedd wedi nodi bod angen safleoedd preswyl a thramwy, ac yr oedd y Cyngor yn rhwymedig trwy gyfraith i’w darparu;

·         dweud bod yr asesiadau o nodau lles yn yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) yn asesiadau ar gyfer y sir gyfan ar hyn o bryd. 

Byddai asesiadau tebyg yn cael eu cynnal fesul safle pe bai unrhyw safleoedd arfaethedig yn cael eu hargymell i’w cynnwys yn y CDLl Newydd pryd bynnag y byddai hynny’n digwydd;

·         cadarnhau y daethpwyd i’r casgliad bod y ddarpariaeth ar gyfer pum llain yn ddigonol ar gyfer safle tramwy yn Sir Ddinbych. 

Roedd y ffigwr hwn wedi deillio o nifer a maint y gwersylloedd diawdurdod a oedd wedi bod yn y sir dros gyfnod o 12 mis.  Gan hynny, ymddengys bod pum llain yn ddigonol ar hyn o bryd.  Pe bai’n dod i’r amlwg dros amser nad oedd pump yn ddigonol, byddai gwaith pellach yn ofynnol i asesu’r ffordd orau o ddiwallu’r angen hwnnw. Gallai hynny gynnwys ymestyn safle presennol. Byddai unrhyw gynnig felly yn amodol ar y broses ceisiadau cynllunio arferol.

Caniataodd y Cadeirydd i ddau aelod o’r cyhoedd annerch y Pwyllgor ar eu pryderon ynglŷn â lleoliadau'r safleoedd arfaethedig yn eu hardaloedd, un o bob ward Cyngor Sir.  Roeddent yn cydnabod yr awgrym bod y Cyngor yn rhwymedig yn unol â'r gyfraith i ddarparu cyfleusterau tebyg a bod mwyafrif y cymunedau wedi mabwysiadu agwedd ‘nid yn fy iard gefn i' (NIMBY) tuag at y mathau hyn o ddatblygiadau.  Wedi dweud hynny, er bod eu pryderon yn adlewyrchu pryderon aelodau etholedig yn gyffredinol, roeddent hefyd yn tynnu sylw at y posibilrwydd o golli mannau gwyrdd mewn cymunedau gwledig a oedd eisoes heb lawer o amwynderau cyhoeddus ar gael iddynt, colli tir amaethyddol a’r effaith ar fywoliaeth ffermwyr unigol, a’r diffyg seilwaith lleol mewn rhai ardaloedd i gefnogi’r mathau hyn o gyfleusterau.

Cofrestrodd aelod o’r Pwyllgor ei bryderon am natur ‘annemocrataidd’ Grŵp Rheoli Asedau’r

Cyngor, sydd yn ei farn ef yn ddylanwadol dros ben er gwaetha’r ffaith mai dim ond un aelod etholedig, sef aelod Cabinet, sy’n gwasanaethu arno.  Roedd o’r farn y dylai cylch gwaith a rôl y Grŵp gael ei adolygu.  Cafodd ei atgoffa gan yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod Y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel bod cyfarfodydd y Grŵp ar agor i bob cynghorydd fynychu.  Hefyd, gallai unrhyw gynghorydd annerch a herio’r Grŵp am unrhyw gynigion yn eu cyfarfodydd.  Yn wir, roedd hyn wedi digwydd yn ystod trafodaeth ar leoliadau arfaethedig Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng nghyfarfod y Grŵp ar 30 Medi, a oedd wedi arwain at ychwanegu pumed safle posibl at y rhestr.

Cafodd cwestiwn ei ofyn ynglŷn â pham bod rhestr o safleoedd arfaethedig i’w defnyddio ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei chyflwyno i'w chynnwys yn y CDLl newydd heb ymgynghori â'r gymuned Roma, Sipsiwn a Theithwyr ymlaen llaw ynglŷn â'r lleoliadau a ffefrir ganddynt, a/neu p’un a oedd unrhyw un o'r safleoedd a oedd yn cael eu hystyried gan y Cyngor yn addas i'r gymuned.  Oni ddylent fod yn gysylltiedig â thrafodaethau yn ymwneud â lleoliadau safleoedd posibl mor fuan ag sy’n bosibl?

Tra’n cydnabod bod y broses bresennol hyd yma yn ymddangos yn fwy agored a thryloyw na rhai tebyg a gynhaliwyd yn y gorffennol, holodd yr Is-Gadeirydd a allai’r Cyngor wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer mwy nag un safle tramwy i Sipsiwn a Theithwyr ar yr un pryd?  Dywedodd swyddogion y gellid llunio rhestr flaenoriaeth o safleoedd a ffefrir pe bai angen.

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

·         bod y meini prawf a ddefnyddir i asesu addasrwydd safleoedd yr un peth â’r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer ymarferion blaenorol. 

Roedd yn cymryd i ystyriaeth gofynion y CDLl a pholisïau LlC ymhlith pethau eraill; a

·         tra bo mwyafrif y gwersylloedd diawdurdod yn y sir wedi bod yn ardaloedd y Rhyl a Phrestatyn, sy’n awgrymu ei fod yn ardal a ffefrir gan y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, roedd mwyafrif y tir sy’n perthyn i’r Cyngor yn yr ardal honno yn cael ei ystyried yn anaddas i’w ddatblygu i’r diben hwn gan eu bod o fewn ardaloedd llifogydd cydnabyddedig. 

Byddai LlC yn gwrthod cynnwys y safleoedd hynny ar y sail honno.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, a fyddai’n gyfrifol an y safle(oedd) ar ôl iddynt gael eu datblygu yn y sir, ei fod o'r farn y byddai angen creu llwybrau cenedlaethol i safleoedd tramwy ledled y DU, dan gyfarwyddyd llywodraeth ganolog.  Datganodd bod y tymor 'tramwyo' yn gyffredinol yn para rhwng mis Mehefin a diwedd yr hydref bob blwyddyn a bod gan yr Heddlu bwerau i symud gwersylloedd diawdurdod os oedd safleoedd awdurdodedig ar gael ar eu cyfer yn yr ardal awdurdod lleol benodol honno.  Roedd ef o’r farn nad oedd pum llain yn ddigon a bod y lleoliadau a oedd yn cael eu cynnig yn anaddas.  Dyna pam y dylai llywodraeth ganolog arwain y gwaith o ddatblygu rhwydwaith o safleoedd tramwy wedi’u lleoli’n strategol i ddiwallu anghenion ac ateb gofynion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.  Mynegodd ei farn hefyd y dylai Cyngor Sir Ddinbych weithio’n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddatblygu safle tramwy.  Ar sail y pryderon a godwyd yn y cyfarfod, pe bai safle neu safleoedd tramwy yn cael eu dyrannu yn y CDLl, awgrymodd yr Aelod Arweiniol y byddai’n oedi eu gweithrediad cyhyd ag sy’n bosibl.

Cytunodd aelodau lleol ar gyfer Dinbych Uchaf a Henllan gyda’r Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel nad oedd lleoliadau Ffordd Henllan, Dinbych yn ddelfrydol ar gyfer safle tramwy gan eu bod yn rhy bell i ffwrdd o’r prif lwybr tramwy, nid ydynt yn ddigon agos at amwynderau lleol ac ni fyddent yn darparu sylfaen boblogaeth sy’n ddigon mawr i gefnogi eu cyfleoedd busnes.  Oherwydd eu lleoliad, pe bai un o’r safleoedd hyn yn cael eu datblygu i’r diben hwn, byddai risg sylweddol na fyddai'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn ei ddefnyddio.

Cadarnhaodd swyddogion ei bod yn rhwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu lleiniau a oedd yn ddigonol i wasanaethu carafanau teithiol, nid ydynt yn rhwymedig i ddarparu lle i breswylwyr redeg eu busnesau.  Cadarnhawyd hefyd nad oedd safleoedd Ffordd Henllan, Dinbych wedi cael eu hystyried yn ystod y broses ddechreuol ar gyfer darparu safle i Sipsiwn a Theithwyr gan mai’r bwriad gwreiddiol oedd gosod y safleoedd preswyl a thramwy yn Green Gates (dwyrain), Llanelwy.

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd mai pwrpas y drafodaeth yn y cyfarfod presennol oedd ceisio eu harsylwadau i’r broses o symud safleoedd posibl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr trwy’r CDLl ac nid asesu addasrwydd neu ddiffyg addasrwydd safleoedd unigol sy’n cael eu cyflwyno i’w cynnwys yn y CDLl fel safleoedd posibl i’r diben hwn ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl a thrylwyr, pwysleisiodd y Pwyllgor eu pryderon am lymder Rheoliadau LlC sy’n mynnu bod pob awdurdod lleol sydd wedi nodi bod angen Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr preswyl a/neu thramwy yn datblygu’r safleoedd hynny fesul sir ac ar wahân i ddarpariaeth sydd o bosibl eisoes ar gael ac sy'n cael ei danddefnyddio mewn ardal awdurdod lleol cyfagos.  Teimlwyd bod y Rheoliadau hyn yn mynd yn groes i’r pwyslais cynyddol y mae LlC yn ei roi ar waith rhanbarthol ac is-ranbarthol er mwyn gwireddu gwerth am arian ac arbedion effeithlonrwydd.  Gan hynny, gyda’r mwyafrif o blaid ac un yn ymatal, penderfynodd y Pwyllgor:

Penderfynwyd: - argymell wrth y Cabinet, cyn penderfynu ar y safleoedd tramwy i’w cyflwyno fel safleoedd i’w symud ymlaen fel Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr posibl yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd, y dylid rhoi sylw i’r materion canlynol -

(i)           y diffyg ymgynghori â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a'u grwpiau eirioli ynghylch addasrwydd safleoedd arfaethedig i’w datblygu fel safleoedd ar gyfer eu defnydd penodol cyn eu cynnwys ar restr o safleoedd posibl i’w cyflwyno fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol newydd;

(ii)          y dylai prosesau ar gyfer nodi a dewis Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr posibl yn y dyfodol fod mor agored a thryloyw ag sy'n bosibl i aelodau a phreswylwyr, gyda chynigion yn cael eu cyflwyno i bob cynghorydd mewn sesiwn friffio i'r Cyngor ac i'r gwasanaeth Craffu i'w harchwilio cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cabinet am gymeradwyaeth;

(iii)        bod eglurhad yn cael ei roi ynglŷn â sut y daeth Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr Cyngor Sir Ddinbych i'r casgliad y byddai safle tramwy â phum llain yn ddigon i ddiwallu anghenion tramwy Sipsiwn a Theithwyr yn y sir;

(iv)        bod y Cabinet yn ysgrifennu yn y termau cryfaf posibl at Lywodraeth Cymru gan fynegi eu pryderon difrifol am ofynion Rhan 3 Deddf Tai (Cymru) 2014 sy’n gosod rhwymedigaeth ar bob awdurdod lleol unigol i gynnal Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr, ac os nodir yr angen i ddatblygu safle tramwy, bod pob awdurdod unigol yn rhwymedig i ddarparu safle tramwy o fewn ei ffiniau hyd yn oed os oes datblygiadau tebyg yn bodoli neu ar fin cael eu datblygu mewn ardal awdurdod cyfagos.  Ymddengys bod y Rheoliadau hyn yn amhriodol ac yn anghymesur i fynd i’r afael ag anghenion y gymuned deithiol a’u bod yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth, polisïau a dyheadau eraill Llywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo cydweithio effeithiol rhwng awdurdodau ar sail ranbarthol ac is-ranbarthol;

(v)          nes bo’r materion uchod wedi’u gweithredu a bod adroddiad pellach wedi’i gyflwyno i’r gwasanaeth Craffu, bod penderfyniad ar gynnwys y pum safle a restrir yn yr adroddiad i’w cynnwys fel lleoliadau datblygu posibl ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cael eu cadw ar encil; 

(vi)        y diffyg ymgynghori ag aelodau lleol ynghylch y safleoedd arfaethedig o fewn eu wardiau cyn eu cynnwys yn yr adroddiad i’r Grŵp Rheoli Asedau. 

Yn y dyfodol, dylai aelodau lleol fod yn rhan o ymgynghoriadau ynghylch unrhyw gynigion arwyddocaol sy’n effeithio ar eu wardiau ac nid dim ond cael eu hysbysu ohonynt; a

(vii)       yr angen i’r Grŵp Rheoli Asedau fod yn fwy agored, hygyrch a thryloyw i bob cynghorydd, yn arbennig gan mai dim ond un aelod etholedig sy’n aelod o’r Grŵp.

Pleidleisiodd y Pwyllgor drwy fwyafrif ar gynnig y dylid dod ag adroddiad sy'n ymwneud â'r broses a'r safleoedd penodol hyn yn ôl i'w ystyried ymhellach ar ôl gweithredu argymhellion (i) i (v) uchod.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: