Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

LLYWODRAETH CYMRU: FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL 2020 - 2040; DRAFFT YMGYNGHORI

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor ar Lywodraeth Cymru.   Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 – 2040; Drafft Ymgynghori

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Emrys Wynne gysylltiad personol â’r eitem hon gan fod aelod o’i deulu yn Arolygydd Cynllunio yng Nghymru.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad Llywodraeth Cymru: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040: Drafft Ymgynghori (a gylchredwyd yn barod) i ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor am gynnwys dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar luniad Cynllun Datblygu Lleol nesaf y sir yn ogystal â’i bwysigrwydd fel ffynhonnell bolisi cenedlaethol i wneud penderfyniadau ar geisiadau ac apeliadau cynllunio.

 

Mae’r swyddogion wedi gweithio ar draws adrannau’r Cyngor er mwyn llunio'r ymateb i’r ymgynghoriad (Atodiad 1).

 

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) ym mis Medi 2020. Bydd y FfDC yn berthnasol i Gymru gyfan a bydd yn nodi goblygiadau defnydd tir polisïau ac amcanion allweddol cenedlaethol. Mae’n nodi’r fframwaith ar gyfer datblygu cynlluniau haen isaf h.y. Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol. Nid oes Cynlluniau Datblygu Strategol yng Nghymru ar hyn o bryd.

 

Yn ystod trafodaeth fanwl codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Dywedwyd bod angen ehangu’r ymgynghoriad â’r cyhoedd.

Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel fod dros 2000 o ymatebion wedi’u derbyn yn dilyn yr ymgynghoriad. [Cafwyd sylw ynglŷn ag ymgynghoriad cyn adneuo CDLl Cyngor Sir Ddinbych; nid y FfDC drafft]

·         Roedd ansawdd y mapiau a ddarparwyd yn broblem fawr.

·         Roedd pryder ynghylch y posibilrwydd o or-ddatblygu’r ardal arfordirol.

·         Dylai tai fod yn ecogyfeillgar o ystyried yr argyfwng newid hinsawdd, ac mae hynny wedi’i gytuno arno yn dilyn Hysbysiad o Gynnig yn y Cyngor Llawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd yn y FfDC.

·         Dywedodd yr Aelodau fod tai fforddiadwy yn broblem fawr a bod angen mwy o dai dwy ystafell wely.

Mae’r FfDC yn nodi y dylai 51% o’r tai fod yn fforddiadwy ond nid yw’n ymddangos bod unrhyw waith wedi’i wneud o ran a yw hynny’n hyfyw ac yn gyraeddadwy. Mae Cyngor Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth hyfywedd ar gyfer y CDLl newydd, o ran pa ganran o dai fforddiadwy y mae modd ei chynnwys yn y ddogfen. Os ceisir canran uchel o dai fforddiadwy drwy’r polisi lleol, ond yn groes i’r asesiad hyfywedd, ni fyddai hynny’n gyraeddadwy. Bydd y swyddogion yn siŵr o ddarparu gwybodaeth am unrhyw gynnydd mewn perthynas â’r CDLl i’r Aelodau.

·         Mae yna amcangyfrif o ffigyrau tai yn y FfDC nad ydynt yn ofyniad polisi ond, yn hytrach, yn seiliedig ar fodel Albanaidd sydd wedi’i ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru.

·         Mae cysylltiadau i dde Cymru, yn hytrach na gogledd Lloegr, wedi’u nodi fel blaenoriaeth.

Cadarnhawyd fod y cysylltiad â Glannau Mersi a gogledd orllewin Lloegr wedi’i wneud oherwydd bod gan yr ardaloedd hyn economi cryfach. Cadarnhawyd hefyd fod angen cysylltu cludiant cyhoeddus â mwy o gymunedau.

·         Cadarnhawyd y bydd pob mater a godir yn y cyfarfod yn cael ei fwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y bydd Bil Llywodraeth Leol yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Bydd y Bil yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â Chydbwyllgorau Corfforaethol a chyrff rhanbarthol ond, hyd nes bydd y Bil wedi'i gyhoeddi, nid oes rhagor o wybodaeth i'w chyflwyno i Aelodau.

 

Dywedodd yr Arweinydd, y Cyng. Hugh Evans, fod CLlLC wedi ymateb yn gryf i’r Bil o ran y gofynion gorfodol. Mae’n gwanhau lleoliaeth a mynegodd bryder ynghylch hynny. Bydd cyfarfod ddydd Gwener 18 Hydref 2019 a bydd yr Arweinydd yn mynegi’r holl bryderon.

 

Mynegodd y Cyng. Arwel Roberts bryder ynghylch nod Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dywedodd y Cyng. Roberts na fyddai’r Gymraeg yn goroesi os nad yw’n cael ei blaenoriaethu o fewn y FfDC ac felly roedd yn cynnig y dylid cynnwys diogelu’r Gymraeg yn y FfDC ac ymhob cynllun a gyflwynir. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cyng. Gwyneth Kensler.

 

Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod angen pleidleisio dros y diwygiad.

 

PLEIDLAIS:

O blaid – 28

Ymatal – 3

Yn erbyn – 3

 

Felly, pleidleisiwyd o blaid cynnwys y diwygiad yn yr argymhellion.

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cyng. Gareth Davies am restr o’r goblygiadau cost ynghlwm wrth y diwygiad sydd newydd ei basio.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno ar yr ymateb i'r ymgynghoriad drafft ynghylch y FfDC (Atodiad 1) ond i gynnwys y Gymraeg fel blaenoriaeth yn y FfDC er mwyn diogelu’r iaith. Bydd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel yn cyflwyno'r ymateb terfynol i Lywodraeth Cymru ar ran Cyngor Sir Ddinbych dan y pwerau dirprwyedig.

 

Dogfennau ategol: