Eitem ar yr agenda
GWEITHREDU MODEL DARPARU AMGEN AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU A SWYDDOGAETHAU HAMDDEN: CYFANSODDIAD BWRDD CYFARWYDDWYR
- Meeting of Cyngor Sir, Dydd Mawrth, 15 Hydref 2019 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Thir y Cyhoedd a
Phennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd (gweler copi
ynghlwm) i gael cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfansoddiad y Bwrdd o Gyfarwyddwyr y
Cwmni.
Cofnodion:
Datganodd y Cyng.
Gwyneth Kensler gysylltiad personol gan fod Craig Kensler yn aelod o Ganolfan
Hamdden Sir Ddinbych a’i bod yn mynd i Theatr Twm o’r Nant, Dinbych a Theatr y
Pafiliwn, y Rhyl.
Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad Gweithredu Model Darparu Amgen ar
gyfer Amrywiol Weithgareddau / Swyddogaethau Hamdden: Cyfansoddiad Bwrdd
Cyfarwyddwyr (a gylchredwyd yn barod) i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer
Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni, penodi nifer o gyfarwyddwyr, a’r dull o benodi’r
cyfarwyddwyr eraill.
Ar 30 Mai 2019
rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth i greu cwmni masnachu nid er elw cyfyngedig
drwy warant fel model darparu amgen i ddarparu gwasanaethau hamdden ar ran y
Cyngor.
Nid oedd unrhyw
ofyniad statudol o ran maint y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Yr awgrym o fewn yr Achos
Busnes oedd penodi saith cyfarwyddwr. Cynigwyd i ffurfio Bwrdd Cyfarwyddwyr fel
a ganlyn:
·
Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus
·
Rheolwr
Gyfarwyddwr
·
Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
·
Aelod
Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd
·
Aelod
nad yw’n aelod o’r Cabinet
·
Cyfarwyddwr
Annibynnol x 2
Awgrymwyd y
dylai’r cyfarwyddwr nad yw’n aelod o’r Cabinet fod yn berson â phrofiad ym myd
busnes a/neu ddiddordeb yn y sector hamdden. Gofynnwyd am enwebiadau ac roedd
yn rhaid i’r enwebeion gyflwyno datganiad yn nodi pam eu bod yn bodloni
gofynion y swydd-ddisgrifiad i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd erbyn 12 p.m. ddydd Gwener 11 Hydref 2019. Mae un enwebiad wedi'i
dderbyn a'i gylchredeg i bob Aelod cyn cyfarfod y Cyngor.
Derbyniwyd
enwebiad gan y Cyng. Peter Prendergast sydd wedi cyflwyno CV gyda'i holl
brofiadau busnes perthnasol.
Ar y pwynt hwn,
cynigiodd y Cyng. Joan Butterfield y dylai’r Cyng. Peter Prendergast gael ei
benodi i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ac eiliwyd y cynnig.
Bydd y ddwy sedd
arall i gyfarwyddwyr yn cael eu llenwi gan unigolion annibynnol wedi’u
recriwtio drwy hysbysebu agored. Awgrymwyd y dylid hysbysebu un o’r rolau hyn
gyda phwyslais ar dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd â chefndir mewn hamdden
fasnachol / cyllid, a’r llall gyda phwyslais ar dderbyn ceisiadau gan unigolion
sydd â chefndir mewn datblygu cymunedol / hamdden.
Bydd panel
recriwtio gyda thri o aelodau etholedig a enwebir gan y Cyngor, yn ogystal â'r
Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a chymorth gan AD, yn cwrdd i
lunio rhestr fer ac yna i gyfweld ag ymgeiswyr posib. Bydd y panel recriwtio
wedyn yn argymell i’r Cyngor pa unigolyn y dylid ei benodi a bydd gofyn i’r
Cyngor roi cymeradwyaeth i hynny.
Ar y pwynt hwn,
cynigiodd y Cyng. Julian Thompson-Hill, y dylai’r Cyng. Hugh Irving fod yn rhan
o’r panel recriwtio ac fe eiliwyd y cynnig.
Cynigiodd y Cyng.
Joan Butterfield y dylai’r Cynghr. Graham Timms a Brian Blakeley fod ar y panel
recriwtio, ac eiliwyd y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
·
Cymeradwyo cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr
y Cwmni fel y nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad a phenodi Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus, Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn gyfarwyddwyr y cwmni.
·
Penodi’r Cyng. Peter Prendergast, nad yw’n
aelod o’r Cabinet, i fod yn un o gyfarwyddwyr y cwmni.
·
Cymeradwyo’r broses recriwtio arfaethedig
ar gyfer penodi’r ddau gyfarwyddwr annibynnol a phenodi’r Cynghr. Brian
Blakeley, Hugh Irving a Graham Timms i eistedd ar y panel recriwtio fel y nodir
ym mharagraff 4.7 yr adroddiad.
·
Bod yr Aelodau yn cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1, cyf. 564)
fel rhan o’u hystyriaethau.
Dogfennau ategol:
- Report - ADM Board of Directors WELSH, Eitem 6. PDF 221 KB
- Appendix 1 WIA, Eitem 6. PDF 106 KB
- Appendix 2 Role of Director, Eitem 6. PDF 188 KB
- Appendix 3 Risk register, Eitem 6. PDF 2 MB