Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 45/2019/0181 - 17/19 WESTBOURNE AVENUE, RHYL
Ystyried cais ar
gyfer adnewyddu a throsi dau dŷ diffaith
i ffurfio 4 fflat 1x gwely ar y llawr cyntaf (i ddarparu llety â chymorth i'r
digartref) gyda swyddfeydd ar y llawr gwaelod yn 17/19 Westbourne Avenue, Rhyl (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais
ar gyfer Ailwampio a thrawsnewid dau dŷ adfeiliedig i ffurfio pedwar fflat
un ystafell wely ar y llawr cyntaf (i ddarparu llety â chymorth ar gyfer y
digartref) gyda swyddfeydd ar y llawr gwaelod yn 17/19 Westbourne
Avenue, Y Rhyl.
Trafodaeth Gyffredinol –
Hysbysodd y
cadeirydd yr aelodau fod gwybodaeth ychwanegol ar gael yn y ddalen sylwadau
hwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield (Aelod Lleol) bod trigolion lleol
wedi gofyn iddi fel aelod o'r ward siarad yn erbyn y cais. Roedd y preswylwyr wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i
drafod eu pryderon. Amlygwyd bod
gan yr eiddo arfaethedig botensial fel cartrefi teulu. Roedd trawsnewid tai eraill yr ardal yn fflatiau
wedi arwain at broblemau parcio ac wedi tynnu sylw at y ffaith bod dau o'r
fflatiau'n rhy fach. Lleisiodd y
Cynghorydd Butterfield bryderon yn ymwneud â phroblemau yr oedd yr ardal yn
mynd i’r afael â hwy na fyddai’n cael eu helpu trwy gael mwy o dai
amlfeddiannaeth.
Cytunodd y Cynghorydd Alan James (Aelod Lleol) â phwyntiau a godwyd gan y
Cynghorydd Butterfield. Bu sawl
cyfarfod gyda’r trigolion lleol a nododd y Cynghorydd James ei fod yn synnu nad
oedd y gymdeithas dai wedi mynychu’r pwyllgor cynllunio i gynrychioli eu
hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas fod y tai wedi bod yn adfeiliedig ers
nifer o flynyddoedd, ac nad oedd y posibilrwydd o ddatblygiad preifat ar y
safle yn debygol. Comisiynwyd yr
ymgeisydd Cymdeithas Tai Adullam gan y Cyngor i
gynorthwyo gyda digartrefedd yn Sir Ddinbych ynghyd â
gwasanaethau eraill. Ymatebodd y
Cynghorydd Butterfield y byddai'r eiddo'n addas i'r awdurdod lleol ei
ddefnyddio eto fel llety preswyl parhaol.
Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Tony Thomas.
Pe bai'r
pwyllgor yn caniatáu'r cais, gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am amodau
ynghylch:
·
Dylai'r staff ddefnyddio’r lle parcio y tu ôl i'r eiddo
ac nid ar y strydoedd o flaen yr eiddo.
·
Bod y fflatiau'n cael eu defnyddio i ddiwallu anghenion
trigolion y Rhyl.
·
Dylid lleoli'r darpariaethau bin yng nghefn yr eiddo, yn
hytrach nag ochr yr eiddo.
·
Systemau cymorth i fod ar gael bob amser 24/7 i'r
preswylwyr, ac os nad oedd angen yna gellid ailedrych ar y ddarpariaeth ymhen 6
mis.
·
Bod y cwmni'n cynnal cyfarfod chwarterol ar ôl 6 mis i
drafod unrhyw faterion a fyddai gan y preswylwyr.
Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygu opsiynau ar gyfer rheoleiddio
trefniadau rheoli naill ai trwy amodau ar ganiatâd cynllunio neu drwy
drefniadau comisiynu'r Cyngor ar gyfer lleoedd yn yr eiddo. Cytunodd y gallai roi amod i storio biniau yng
nghefn yr adeilad.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 12
GWRTHOD – 2
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a
nodwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: