Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 43/2019/0359 - WOODLEA, BISHOPSWOOD ROAD, PRESTATYN
Ystyried cais
i godi estyniadau ac addasiadau i annedd yn Woodlea, Bishopswood Road, Prestatyn
(copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladau estyniadau ac addasiadau i annedd yn Woodlea, Bishopswood Road,
Prestatyn.
Siaradwyr Cyhoeddus -
Atgoffodd Mr Tony Connor (yn Erbyn)
y Pwyllgor fod cais union yr un fath wedi cael ei wrthod gan y Pwyllgor
Cynllunio ar 18 Ionawr 2019. Dywedodd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael
effaith niweidiol ar dai cymdogion, byddai hefyd yn achosi colled o ran
preifatrwydd oherwydd maint, graddfa a gosodiad y datblygiad. Nododd y CCA
(canllaw cynllunio atodol) datblygiad preswyl pan fo ffenestr arfaethedig yn
wynebu eiddo cymydog, bod angen iddi fod 21 metr o ffwrdd oddi wrth adeiladau
eraill. Fodd bynnag, dim ond 18.9 metr i ffwrdd fyddai’r datblygiad
arfaethedig. Byddai drychiad yr adeilad yn gwaethygu effaith yr agosrwydd
dybryd ac ni fyddai’r gwrych arfaethedig yn lliniaru effaith y trosedrych a’r colled o ran preifatrwydd a fyddai'n cael ei
achosi. Roedd y trefniadau cynnal a chadw a monitro ar gyfer y gwrych yn peri
pryder.
Diolchodd Mr Ray Williams (O Blaid)
i’r pwyllgor am y cyfle i siarad. Mae’r ymgeiswyr wedi cadarnhau eu bod wedi
cydymffurfio â’r argymhellion oddi wrth y cyngor tref
mewn perthynas â sgrinio. Y dewis
sgrinio arfaethedig oedd gwrych yn hytrach na ffens. Byddai Cedrwydden Goch yn
cael ei defnyddio, sy'n tyfu'n sydyn, a byddai'n cael ei gadw ar 2.5 metr a
oedd yn lliniaru'r pryderon ynghylch trosedrych/
colli preifatrwydd.
Trafodaeth Gyffredinol
–
Siaradodd y Cynghorydd Tina Jones (Aelod Lleol) am y peryglon posibl sy’n
gysylltiedig â waliau cynnal tebyg i'r un yn Woodlea,
gan sôn am drasiedi mewn lleoliad arall ddeuddeg mlynedd yn ôl, pan oedd wal
gynnal wedi cwympo a lladd merch ifanc.
Soniodd y Cynghorydd Jones am ei phryderon ynghylch cyflwr gwael
presennol y wal gynnal a’r difrod iddi y gallai’r
gwaith adeiladu ac ymwthiad gwreiddiau’r gwrych newydd y bwriedir ei blannu ar
y ffin ag eiddo cyfagos ei wneud iddi. Roedd yr eiddo islaw Woodlea.
Roedd y Cynghorydd Jones wedi trafod y pryderon hyn gyda swyddogion cynllunio
ac fe’i hysbyswyd mai mater rheoliadau adeiladu
oeddent, nid materion cynllunio. Fodd bynnag, roedd yn teimlo dylai cyflwr a
diogelwch y wal gynnal gael sylw cyn rhoi caniatâd cynllunio a holodd sut y
byddai’r gwaith monitro a chynnal a chadw’r gwrych yn cael ei wneud yn y
dyfodol.
Soniodd y Cynghorydd Hugh Irving, fel aelod lleol a oedd wedi ymweld â
safle’r cais ac eiddo cyfagos, ac wedi derbyn saith gwrthwynebiad i’r
datblygiad arfaethedig ar sawl sail gan gynnwys colli preifatrwydd a’r effaith
ar sefydlogrwydd y wal gynnal sy’n dal y boncen rhwng eiddo. Fe’i hysbyswyd fod materion ynghylch y wal gynnal yn fater
rheoliadau adeiladu ac y byddai unrhyw broblemau sy’n codi yn fater sifil rhwng
y partïon cysylltiedig, ond roedd y Cynghorydd Irving yn teimlo ei bod yn
anfoddhaol i'r Cyngor fabwysiadu'r safiad hwn.
Holodd os oedd y cais wedi cael ei adolygu’n ddigonol i oresgyn y
rhesymau am wrthod y caniatâd cynllunio blaenorol.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu (DM) sut roedd yr ardal hon o Brestatyn yn nodweddiadol am eiddo ar wahanol lefelau ac
estyniadau i eiddo yn yr ardal hon a oedd yn codi problemau o ran trosedrych, sefydlogrwydd y ddaear, draenio ac ati, pob un
yr oedd y swyddogion cynllunio wedi eu hystyried. Roedd y wal gynnal wedi ei lleoli ym
mherchnogaeth yr eiddo gerllaw a oedd felly yn golygu fod y cyfrifoldeb am ei
chynnal hefyd yn gorwedd gyda nhw. Soniodd, os oedd y cymydog ar y tir uwch
(safle’r cais) eisiau plannu coed neu wrych yn unig ar y ffin, ni fyddai angen
caniatâd cynllunio i wneud hynny, a byddai unrhyw broblemau sy’n deillio o
hynny yn fater sifil.
Cynghorodd y DM fod swyddogion yn teimlo nad oedd y cais yn cael effaith afresymol
ar amwynderau cymdogion o ystyried y pellteroedd dan sylw, topograffi’r safle
a’r sgrinio arfaethedig. Roedd yr amodau cynllunio a gynigwyd
(gan gynnwys y rheiny ar y ddalen las atodol) yn cynnwys ar gyflwr y tir a
sefydlogrwydd, yn briodol a gellid eu defnyddio i orfodi
cydymffurfiaeth.
Trafododd yr Aelodau a fyddai wal neu ffens yn well fel sgrin yn hytrach na
gwrych, gan y byddai’n anodd i’w gynnal a chadw o’r eiddo is ac roedd yn codi
problemau o ran cydymffurfio â chyfyngiadau uchder. Dywedodd y DM bod yn rhaid
i'r pwyllgor ganolbwyntio ar y cais fel y'i cyflwynwyd, ond rhoddodd fanylion
am sut gellid cymryd camau gorfodaeth i gymell cydymffurfiaeth ag amodau
cynllunio.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tina Jones y dylid
gwrthod y cais, oni bai y gellid cynnal adolygiad strwythurol llawn o’r wal
gynnal. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ann
Davies.
Ymatebodd y swyddogion trwy ddweud nad yw’r wal
gynnal ar dir yr ymgeisydd ac nad gwaith yr adran gynllunio oedd bod yn rhan
mewn materion sifil. Gallai Cynllunio reoli'r cyflwr tir ar ochr yr ymgeisydd
o'r wal, ac roedd hyn yn un o'r amodau a gynigiwyd.
Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y gallai’r wal fod yn broblem er gwaethaf y datblygiad
arfaethedig. Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei fod yn credu fod pryderon y
pwyllgor i gyd wedi cael eu trin yn yr amodau a gyflwynwyd gan y swyddogion
cynllunio.
Cynnig
– Cynigiodd y Cynghorydd Alan James ddilyn argymhelliad y swyddogion i
ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Merfyn Parry.
Awgrymodd y Cynghorydd Andrew Thomas gynnwys amod
am i’r strwythur sgrinio fod yn ddidrafferth o ran cynnal a chadw, yn
ddelfrydol am tua 20 mlynedd. Pleidleisiodd y pwyllgor ynghylch cynnwys yr amod
y gofynnwyd amdani gan y Cynghorydd Andrew Thomas.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 4
GWRTHOD – 9
YMATAL – 1
Felly, ni chafodd
yr amod arfaethedig ychwanegol o ran y strwythur sgrinio ei chario. Yna
dychwelodd y Cadeirydd at y mater o ganiatáu’r cais cynllunio yn unol ag
argymhelliad y swyddogion neu i wrthod y cais.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 9
GWRTHOD – 4
YMATAL – 1
PENDERFYNWYD y dylid
CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: