Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL GOFAL IECHYD CEFNDY 2018/19 a CHYNLLUN BLYNYDDOL 2019/20
Ystyried
perfformiad y cwmni yn ystod 2018/19 a’i Gynllun Blynyddol ar gyfer 2019/20
Cofnodion:
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD
Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem fusnes nesaf yn cynnwys gwybodaeth
gyfrinachol ac yn dilyn hynny:
PENDERFYNWYD
gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan
4 Atodlen 12A y Ddeddf.
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad cyfrinachol
gan Reolwr Gwasanaeth Masnachol a Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol Gofal Iechyd
Cefndy (a gylchredwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys gwybodaeth
am berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn ystod 2018-19 a’i gynllun busnes ar gyfer
2019-20.
Rhoddwyd gwybod i Aelodau mai pwrpas y busnes oedd “darparu cyflogaeth
ystyrlon a oedd yn talu’n dda, i aelodau difreintiedig y gymuned”.
Disgwyliwyd y byddai colli Grant Cynhaliaeth Cyflogwr Trawsnewidiol yr
Adran Gwaith a Phensiynau, a arferai gael ei alw'n ‘Rhaglen Dewis Gwaith’, ym
mis Mawrth 2021 yn cael effaith andwyol ariannol ar Ofal Iechyd Cefndy. Roedd yr incwm o’r grant penodol hwn yn is
na'r disgwyl yn ystod 2018/19 oherwydd bod rhai aelodau staff a oedd yn derbyn
y grant wedi gadael y sefydliad. Fodd
bynnag, nid oedd yna unrhyw gynigion presennol i ddiwygio’r statws dim
cymhorthdal gan yr Awdurdod.
Gyda’r bwriad o leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â cholli cyllid yr Adran
Gwaith a Phensiynau, roedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor wedi cymryd
rheolaeth o Wasanaethau Cyfarpar Cymunedol Integredig ledled Gwent, menter
gymdeithasol a oedd yn cynnwys pum awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan yn ardal Casnewydd, a weithredodd ar sail debyg i Ofal Iechyd
Cefndy.
Drwy weithredu’r ddwy fenter, gallai’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol
leihau costau gweinyddu diangen wrth ehangu ei gynnyrch a photensial i
gynhyrchu digon o incwm i barhau i ddarparu cyflogaeth werthfawr, ystyrlon,
sy’n talu’n dda i unigolion difreintiedig ar sail niwtral o ran cost.
Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Rheolwr Gwasanaethau Masnachol Cefndy:
- ddisgrifio’r
farchnad gystadleuol y gweithredodd Cefndy o’i mewn, yn enwedig yr
anawsterau a brofwyd wrth gystadlu yn erbyn mewnforion rhatach o economïau
sy’n datblygu ar draws y byd;
- cadarnhau bod
costau gweithredu Cefndy fymryn yn uwch na nifer o’i gystadleuwyr, gan mai
ei flaenoriaeth oedd cadw pobl dan anfantais mewn cyflogaeth gynhyrchiol
yn hytrach na hawlio budd-daliadau;
·
rhoi gwybod bod Gofal Iechyd Cefndy yn adran o fewn
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, o ganlyniad, ni chaniatawyd iddo wneud elw
sylweddol neu ymgeisio am gyllid/buddsoddiad menter gymdeithasol;
·
egluro eu bod yn chwilio am gyfleoedd ychwanegol i
liniaru’r golled o ran cyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys
dull darparu amgen ar gyfer y Gwasanaeth o bosibl. At y diben hwn, sefydlwyd Tîm Prosiect i
gefnogi’r gwaith
·
·
amcangyfrif bod 20 – 25 o gyflogwyr Gofal Iechyd Cefndy
yn drigolion Sir Ddinbych;
·
cadarnhau bod y swyddi yn cael eu gwerthuso a'u talu yn
unol â chynllun gwerthuso swyddi Sir Ddinbych;
·
cynghori bod croeso i blant anabl a phlant sydd wedi’u
hymddieithrio ymgymryd â phrofiad gwaith cyn belled nad oedd hyn yn ymyrryd â
chynhaliaeth y busnes;
·
rhoi gwybod bod Cefndy ar hyn o bryd yn derbyn Grant
Cefnogi Cyflogwr Trawsnewidiol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ond y byddai’r
rhaglen yn dod i ben ar 31 Mawrth 20201;
·
cadarnhau eu bod yn ystyried y posibilrwydd o ymgymryd â
gwaith gweithgynhyrchu is-gontract e.e. darparu prosesau gorchuddio â phowdr i
fusnesau allanol ac ati. a
·
cynghori bod dulliau darparu amgen yn cael eu hystyried
ac y byddai’r rhain yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu maes o law.
Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i’r Rheolwr Gwasanaeth Masnachol a’r Rheolwr
Gwasanaethau Gweithredol am eu presenoldeb a’u hymatebion cynhwysfawr. Awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth Masnachol y
dylid gwahodd cynghorwyr sir i fynychu Gofal Iechyd Cefndy i weld y gwaith sy'n
mynd rhagddo yn y ffactri..
PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod
(i)
derbyn yr Adroddiad Blynyddol
ar Berfformiad Gofal Iechyd Cefndy yn ystod 2018-19 (Atodiad 1);
(ii) cyflwyno canfyddiadau gwaith y Bwrdd Prosiect o lunio gwerthusiad
dewisiadau ar gyfer darparu busnes y cwmni yn y dyfodol i’r Pwyllgor yn ei
gyfarfod ym mis Ebrill 2020 a
(iii) threfnu ymweliad â Gofal Iechyd Cefndy i'r holl gynghorwyr sir, er mwyn
iddynt ymgyfarwyddo â'r busnes a'i amcanion
Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 8./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 8./2 yn gyfyngedig