Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

HAFAN DEG, RHYL

Monitro effeithiolrwydd trosglwyddo'r cyfleuster a'r gwasanaethau i ddarparwr allanol ac effaith y trosglwyddiad ar ddefnyddwyr y gwasanaeth, staff, preswylwyr lleol a’r gymuned leol (gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o’r broses)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) gyda chefnogaeth y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Gweithiwr Cyswllt Gwasanaethau Mewnol Cefnogi Pobl a Phrif Reolwr – Gwasanaethau Cynnal.

 

Roedd rheolaeth Canolfan Ddydd Hafan Deg wedi’i drosglwyddo i ddarparwr allanol, KL Care. Roedd yr adroddiad yn adolygu’r broses drosglwyddo a’i heffaith ar unigolion.

 

Clywodd y Pwyllgor nad oedd y trosglwyddiad wedi cael unrhyw effaith negyddol ar ddefnyddwyr y gwasanaeth.  I ddechrau, ni chafwyd gymaint o ddefnyddwyr gwasanaeth ag y gobeithiwyd, fodd bynnag, fe wnaeth hynny helpu i sicrhau proses drosglwyddo rwydd ac roedd y niferoedd yn gwella.

 

Mewn ymateb i resymau dros pam fod llai o ddefnyddwyr na'r disgwyl, nododd y Gweithiwr Cyswllt Gwasanaethau Mewnol Cefnogi Pobl:

·         roedd lle i wella o ran y gwaith hysbysebu, roeddent bellach yn mynd i'r afael â hyn drwy ddosbarthu pamffled newydd yn fewnol ac yn allanol i'r Awdurdod;

·         roedd y cymhwysedd yn dod i ben be bai defnyddiwr gwasanaeth yn mynd i ofal preswyl;

·         gostyngiad yn y galw am ganolfannau gofal dydd traddodiadol a

·         chynnydd mewn gwasanaethau/dosbarthiadau/grwpiau amgen a ddarperir mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor:

·         fod naw cleient yn defnyddio’r Gwasanaeth Gofal Dydd ar hyn o bryd;

·         ni all meddygon teulu gyfeirio unigolion at ofal dydd, ond maent yn eu cyfeirio at y Tîm Adnoddau Cymunedol am asesiad o anghenion;

·         canolbwyntiwyd yn bennaf ar wytnwch ac annibyniaeth yn hytrach na gofal dydd;

·         roedd Llyw-wyr Cymunedol yn cyfeirio trigolion a allai fod yn unig;

·         roedd y ganolfan yn amrywio ei defnydd, gan gynnwys rhagor o weithgareddau megis boreau coffi a chlybiau cinio ar gyfer trigolion  War Memorial Court, i gynyddu potensial busnes;

·         roedd darpariaeth cludiant ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a llwybrau wedi’u trefnu i osgoi unrhyw oedi diangen;

·         pris sesiwn (bore neu brynhawn) oedd £45 - £50 p'un a oedd y ffi honno yn cael ei thalu gan yr Awdurdod neu'n breifat (fodd bynnag, nid oes unrhyw gleientiaid preifat) ac

·         roedd cap o £90 yr wythnos ar ffioedd gofal cymdeithasol. Caiff fforddiadwyedd ei fonitro a gall y ffioedd gael eu hepgor.

 

Cydnabuwyd bod demograffeg Sir Ddinbych yn newid a bod y Gwasanaeth yn esblygu i ddarparu ar ei gyfer. Byddai’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddull Canolfan Gymunedol yn y dyfodol, gyda’r bwriad o leihau’r risg o arwahanrwydd cymdeithasol.

 

 

Gan gyfeirio at y gwersi a ddysgwyd o’r broses (para. 4.6), fe wnaeth y Swyddogion sicrhau’r Pwyllgor mai problem weinyddol oedd achos yr oedi yn nhrosglwyddiad y pensiynau gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, roedd KL Care wedi cael eu derbyn gan Gronfa Cynllun Pensiwn Clwyd a ni fyddai hyn yn cael effaith andwyol ariannol ar staff.

 

Croesawodd Aelodau’r adroddiad gan awgrymu y dylid blaenoriaethu gwaith hysbysebu cyfleusterau’r Ganolfan Ddydd, soniwyd am Lais y Sir a meddygon teulu yn bennaf. Gofynnodd y pwyllgor i adroddiad gwybodaeth blynyddol, gan gynnwys cyflwyniad gan KL Care, gael ei gynnwys yng nghynllun gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

PENDERFYNWYD:

      I.        derbyn yr adroddiad Trosglwyddo i Ddarparwr Preifat - Canolfan Gofal Dydd - Hafan Deg a’r Asesiad o Effaith ar Les cysylltiol;

    II.        y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor mewn 12 mis i adolygu darpariaeth y gwasanaeth ac y dylid adolygu dogfen yr Asesiad o Effaith ar Les cyn y cyfarfod hwnnw.  Gwahodd cynrychiolwyr o KL Care i’r cyfarfod i gyd-gyflwyno’r adroddiad. 

 

Dogfennau ategol: