Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/ SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN - CYFANSODDIAD Y BWRDD CYFARWYDDWYR

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am argymhelliad y Cabinet i'r Cyngor ynghylch cyfansoddiad a phenodi Bwrdd Cyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni fel y nodir yn yr adroddiad ac argymell y cyfansoddiad hwn i’r Cyngor -

 

·         Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus

·         Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth

·         Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

·         Rheolwr Gyfarwyddwr

·         Cyfarwyddwr Annibynnol x2

·         Aelod nad yw’n aelod o’r Cabinet

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor ar gyfansoddiad  a phenodiad Bwrdd Cyfarwyddwyr Denbighshire Leisure Limited (y Cwmni) a fydd yn gyfrifol am weithrediad dydd i ddydd y Cwmni.   [Byddai monitro a goruchwylio perfformiad y Cwmni yn gyfrifoldeb i’r Bwrdd Llywodraethu Strategol fel y cymeradwywyd ynghynt yn y rhaglen].

 

Ar 30 Mai 2019 cytunodd y Cyngor y byddent yn cefnogi creu cwmni masnachu awdurdod lleol cyfyngedig drwy warant nad er elw ac roeddent wedi cymeradwyo penodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Economi a’r Parth Cyhoeddus  fel Cyfarwyddwr.   Er bod yr achos busnes cychwynnol wedi awgrymu Cyfarwyddwr Cyllid roedd gwaith pellach yn awgrymu y gellir darparu arbenigedd, cyngor a rheolaeth ariannol priodol o'r Cwmni mewn modd arall heblaw drwy greu swydd ar y Bwrdd.   Felly cynigwyd bod y rolau’n cael eu llenwi gan gynghorwyr a gweithwyr y Cwmni ynghyd ag aelodau annibynnol sy’n cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored.

 

Eglurodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd rôl y Bwrdd ymhellach a phwysigrwydd cynnwys cymysgedd priodol o sgiliau yn yr aelodaeth.   Roedd Saith Cyfarwyddwr wedi'u cynnig ac fe gynigwyd bod rhai swyddi penodol ar y Bwrdd yn cael eu llenwi o ganlyniad i swydd neu gyflogaeth benodol h.y.  Cyfarwyddwr Corfforaethol, Rheolwr Gyfarwyddwr, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd.  Awgrymwyd Cyfarwyddwr ychwanegol nad yw’n aelod o’r Cabinet, gyda phrofiad busnes a /neu ddiddordeb yn y sector hamdden, gan nodi y dylid ceisio enwebiadau ar gyfer y rôl gan y Cyngor.   Awgrymwyd y dylid llenwi’r ddwy swydd arall ar gyfer Cyfarwyddwyr gan unigolion annibynnol sy'n cael eu recriwtio drwy hysbyseb agored, un gyda phwyslais ar hamdden / cyllid a'r llall ar ddatblygu cymunedol / hamdden, ac y dylid eu penodi gan y Cyngor.   Eglurwyd hefyd y byddai’r rhai sy’n cael eu penodi i'r Bwrdd yn destun cyfrifoldebau statudol Cyfarwyddwyr ac yn derbyn hyfforddiant.   Fel rhan arferol o’u dyletswyddau byddai’r Cyfarwyddwyr yn cael eu digolledu mewn perthynas â'u gwahanol rwymedigaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhawyd-

 

·         o ran y ddau Gyfarwyddwr Annibynnol, awgrymwyd y dylent dderbyn yr un taliadau presenoldeb â'r aelodau cyfetholedig ar gyfer y Pwyllgorau Craffu, aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau ac aelod lleyg y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol fel y gosodwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac y byddai’r Cwmni’n gyfrifol am wneud y taliadau hynny.

·         roedd gan yr holl Gyfarwyddwyr gyfrifoldeb statudol i osgoi gwrthdaro buddiannau.   

Roedd Cytundeb Aelod ac Erthyglau Cymdeithas wedi'u hysgrifennu mewn modd lle na ddylid trin swyddogion neu aelodau o'r cyngor fel rhai sydd â buddiannau sy’n gwrthdaro os ydynt yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwyr.   O ran penodiadau annibynnol yna byddai’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r holl reolau ar gyfer Cyfarwyddwyr mewn perthynas â gwrthdaro buddiannau a datgan unrhyw gysylltiad o'r fath.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cefnogi cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni fel y nodir yn yr adroddiad ac yn argymell y cyfansoddiad i'r Cyngor-

 

·         Cyfarwyddwr Corfforaethol:

Economi a’r Parth Cyhoeddus

·         Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth

·         Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

·         Rheolwr Gyfarwyddwr

·         Cyfarwyddwr Annibynnol x 2

·         Aelod nad yw’n aelod Cabinet

 

(b)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'u hystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn (11.25 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: