Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DOGFEN UWCH-GYNLLUN A GWELEDIGAETH CANOL TREF Y RHYL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno fersiwn derfynol dogfen weledigaeth Canol Tref Y Rhyl a’r dull arfaethedig i gyflawni’r gwaith llywodraethu a darparu adnoddau.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cefnogi’r uchelgeisiau hirdymor a’r 8 syniad allweddol sydd wedi’u nodi yn nogfen y Weledigaeth (Atodiad 2), a

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau a’i fod yn ymrwymo i’r Cyngor ganolbwyntio ar gyflawni’r effeithiau cadarnhaol, hirdymor ar les sydd wedi’u cynnwys ynddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a fersiwn derfynol o ddogfen Weledigaeth Canol Tref y Rhyl a'r dull arfaethedig ar gyfer llywodraethu a rhoi adnoddau i'w gyflawni.

 

Roedd y Cyngor wedi gweithio ar y cyd dros y deunaw mis diwethaf gan ymgysylltu gydag ystod o bobl a phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Canol Tref y Rhyl, a oedd yn canolbwyntio ar: ddarparu cytbwysedd bywiog o ran defnydd, gwell mynediad at ganol y dref a llif cerddwyr o amgylch canol y dref, ac atmosffer canol y dref dymunol.  Mae wyth syniad allweddol wedi’u cynhyrchu ac roedd gwaith ar y gweill i’w datblygu mewn rhaglen gwaith i'r dyfodol o flaenoriaethau a phrosiectau dros gyfnod pymtheg mlynedd y Weledigaeth.   Byddai hyn yn ffurfio sail y cynllun gweithredu drafft ar gyfer y rhaglen er mwyn i Fwrdd Rhaglen y Rhyl ei symud ymlaen.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y buddsoddiad a’r gwelliannau sylweddol yn y Rhyl dros y blynyddoedd diwethaf a bod angen cynllunio i ddatblygu canol y dref gyda Gweledigaeth a oedd yn adlewyrchu dyheadau lleol drwy broses ymgysylltu helaeth, ac a oedd yn ategu at gynlluniau presennol a buddsoddiad gyda dull cydlynol.   Darparodd y Rheolwr Rhaglen a Thîm Datblygu Busnes ac Economaidd rywfaint o gefndir creu'r ddogfen Weledigaeth a phroses ymgysylltu gynhwysfawr, gan dynnu sylw at y prif themâu sy'n dod i'r amlwg a'r prosiectau allweddol i ddatblygu'r syniadau allweddol, a darparu trosolwg o brosiectau presennol a'r rhai sydd eisoes ar y gweill er mwyn cymryd mantais o'r cyfleoedd cyllid adfywio presennol a gyda'r nod o ddenu buddsoddiad y sector preifat.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at waith Bwrdd Datblygu Cymunedol y Rhyl yn ategu at yr uwch gynllun a mynd i'r afael â materion cymdeithasol ac eglurodd y Prif Weithredwr rôl y Bwrdd, yn cynnwys uwch arweinwyr o'r sectorau statudol, i ystyried sut i wneud y budd mwyaf ar y cyd o fuddsoddiad ac adfywio wedi'i gynllunio'n ehangach yn y Rhyl i gydlynu a gwneud y mwyaf o gyfleoedd o ran cyflogaeth, iechyd, addysg, diogelwch cymunedol a thai.   Roedd y Cyngor wedi penderfynu buddsoddi mewn Swyddog Datblygu Cymunedol yn y Rhyl i weithio gyda’r gweithwyr o’r asiantaethau statudol, y sector gwirfoddol a’r grwpiau cymunedol i gynorthwyo i gyfeirio a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyllid ac adnoddau, i adrodd i’r Bwrdd ac i Grŵp Cyfeirio’r Rhyl i sicrhau ymgysylltiad gwleidyddol, a byddai adroddiadau'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet.   Roedd y Bwrdd wedi gosod targedau llym yn seiliedig ar y dangosyddion amddifadedd gyda’r bwriad o nodi effaith y buddsoddiad ar breswylwyr.

 

Croesawodd y Cabinet y ddogfen fel modd o ddarparu canolbwynt clir ar gyfer canol y dref a’i adfywiad a rhoi hyder a chreu dyfodol hir dymor gwell ar gyfer y Rhyl.   Croesawyd y broses ymgysylltu gynhwysfawr a’r ymdrechion cydweithredol i gynhyrchu’r Weledigaeth hefyd.   Roedd y prif bwyntiau trafod yn cynnwys -

 

·          o ran blaenoriaethu a chynllunio prosiectau, hysbyswyd yr aelodau bod y ddogfen Weledigaeth yn nodi rhaglen hir dymor a byddai prosiectau’n cael eu blaenoriaethu gan ddefnyddio’r fethodoleg gorfforaethol yn seiliedig ar fuddion a chanlyniadau mesuradwy; darparwyd sicrwydd o ran hyblygrwydd o fewn y cynllun i ymateb i’r cyfleoedd fel yr oeddent yn dod i'r amlwg pe bai cyllid ar gael, yn yr un modd pe bai diddordeb gan y sector preifat byddai'n bosibl symud prosiect i fuddsoddiad sector preifat diogel a gwneud y mwyaf o'r buddion.

·         Nododd y Prif Weithredwr adfywiad ffisegol y Rhyl a oedd yn amlwg wrth ymweld â’r dref a’r cynlluniau adfywio hirdymor, a thynnu sylw at yr her o sicrhau y byddai buddsoddi mewn isadeiledd yn cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr lleol a safonau byw.   

Roedd wedi ymweld â holl ardaloedd ward y sir ac wedi ymgysylltu â busnesau a phreswylwyr lleol wrth ymweld â'r Rhyl gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwrando ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

·         Croesawodd y Cynghorydd Richard Mainon swydd Swyddog Datblygu Cymunedol er mwyn gwneud y mwyaf o’r buddion a'r canlyniadau ac roedd yn awyddus bod y Cabinet yn derbyn adborth ynglŷn â hynny – cadarnhawyd y rhoddir ystyriaeth i gynnwys ymgysylltiad gydag aelodau ar yr elfennau adfywio a datblygu cymunedol a'r bwriad oedd darparu adroddiadau diweddaru i'r Cabinet a'r aelodau lleol.   

Nid oedd unrhyw aelodau etholedig ar y Bwrdd Datblygu Cymunedol oherwydd roedd yn cynnwys grŵp o uwch swyddogion i drafod materion gweithredol ac ymarferol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am gwestiynau gan rai nad ydynt yn Aelodau Cabinet-

 

·         Diolchodd y Cynghorydd Joan Butterfield i’r Cyngor ar ran preswylwyr y Rhyl am eu hymroddiad i adfywio’r Rhyl ac am y cyfraniadau lleol yn y ddogfen Weledigaeth.   

O ran ymgysylltu â’r gymuned yn y dyfodol, rhoddwyd sicrwydd y byddai’r Cyngor yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned leol yn hir dymor wrth i’r uwch gynllun barhau.

·         Roedd y Cynghorydd Meirick Davies yn awyddus am fuddsoddiad yn Nhrefnant a chydnabu’r aelodau bod angen gwario mewn ardaloedd ward eraill a thrafod potensial ffynonellau cyllid ar gyfer gwahanol brosiectau mewn gwahanol ardaloedd – nodwyd bod rhai prosiectau adfywio yn y Rhyl yn gymwys ar gyfer cyllid grant ond ar gyfer ardaloedd gwledig roedd potensial ar gyfer cyllid fferm wynt ar gyfer prosiectau lleol.   

O ran cwestiwn am adeiladau hanesyddol yn y Rhyl, darparwyd sicrwydd ynglŷn ag ymrwymiad y Cyngor o ran hynny drwy gymryd camau i wella a chadw adeiladau hanesyddol yn y dref.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler at swm y buddsoddiad yn y Rhyl dros sawl blwyddyn a holi a wnaed asesiad o’r canlyniadau.   

Cytunwyd y gellir dysgu gwersi o’r gorffennol ond na fu buddsoddiad yn y gorffennol yn gynaliadwy a byddai’r cynllun yn edrych tuag at y dyfodol ac yn hwyluso gwelliannau mewn safonau byw, nid buddsoddiad cyfalaf yn unig.   O ran goblygiadau refeniw darparwyd sicrwydd bod hyn yn ystyriaeth gan y Grŵp Buddsoddi Strategol yng ngham achos busnes y prosiectau unigol.

·         Lleisiodd y Cynghorydd Barry Mellor ei gefnogaeth ar gyfer y ddogfen Weledigaeth a thynnu sylw at fuddion y gwaith adfywio sydd eisoes wedi’i gyflawni, yn enwedig o ran y ddwy ysgol newydd, ac fe gadarnhawyd iddo bod y Weledigaeth yn darparu'r hyder gofynnol yn nyfodol y dref.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cefnogi dyheadau hirdymor a'r 8 syniad allweddol a nodwyd yn y ddogfen Weledigaeth (Atodiad 2 yr adroddiad), ac

 

(b)       yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau, ac yn ymrwymo bod y Cyngor yn canolbwyntio ar gyflawni’r effeithiau lles hirdymor cadarnhaol sydd wedi’u nodi ynddo.

 

 

Dogfennau ategol: