Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       cymeradwyo defnyddio’r Grant Cynnal Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac a fanylir arno yn yr adroddiad hwn ac atodiadau 5, 6 a 7.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn 2018/19)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £1.379 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn)

·        tynnwyd sylw at risgiau ac amrywiadau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth penodol, yn enwedig o ran gorwariant yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r Gwasanaethau Addysg a Phlant er gwaethaf cynnydd yn y cyllidebau sylfaenol, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai

 

Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r defnydd o’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol.

 

Trafododd y Cabinet y materion canlynol yn fanwl-

 

·         o ran cludiant ysgol, roedd newidiadau deddfwriaethol sy’n dod i rym yn y flwyddyn newydd yn ei gwneud yn ofynnol bod mynediad i bobl anabl ar gludiant nad yw’n gonsesiynol, ac o ystyried bod consesiynau’n cael eu cynnig i blant eisoes, roedd pryderon difrifol am y gallu i ddiwallu'r ddarpariaeth.   

Nodwyd y byddai Grŵp Ymgynghorol Cludiant rhanbarthol yn ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Chludiant yn tynnu sylw at y pryderon hynny a chytunodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai hefyd yn ysgrifennu at y Gweinidog ar ran y Cyngor.

·         Croesawodd yr aelodau’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion a ddyfarnwyd i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru a'r newidiadau a oedd yn caniatáu defnyddio cyllid ar gyfer gwaith hanfodol a meysydd gyda'r anghenion mwyaf ac fe gefnogodd y Cabinet y dull na ddylid dyrannu cyllid i ysgolion ym Mand A Ysgolion yr 21ain Ganrif neu ysgolion sy'n debygol o elwa o Fand B ac argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol.

·         Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â gofal cymdeithasol plant, yn benodol o ran costau lleoliadau, ac fe eglurodd Cyfarwyddwr : Cymunedau bod Gweithgor Llywodraeth Cymru yn ystyried y mater hwnnw ymhellach a chomisiynu darparwyr o ansawdd uchel – cydnabuwyd bod costau lleoliadau yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd yn y DU gydag ardaloedd â phoblogaeth uwch yn meddu ar fwy o bŵer prynu.   

Cadarnhaodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â'r costau ac roedd ganddo hyder yn y broses gomisiynu.   Eglurodd yr anawsterau o ran creu darpariaeth arbenigol yn lleol o ystyried y gwahanol anghenion a’r flaenoriaeth oedd comisiynu lleoliadau sy’n diwallu anghenion y plant orau gan olygu lleoliadau y tu allan i’r sir mewn achosion arbenigol gan achosi costau lleoliadau uchel.

·         Tynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at y pwysau parhaus yn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Oedolion  gyda gweddill cronfa wrth gefn y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu’r gorwariant presennol na fyddai ar gael yn y dyfodol a gofynnodd bod mwy o arian yn cael ei ddyrannu i’r gwasanaeth.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad oeddent yn Aelodau o’r Cabinet, bu i’r Aelodau Arweiniol a’r swyddogion ymateb fel a ganlyn –

 

·         o ran balansau ysgolion, roedd cynlluniau adfer ariannol cadarn yn eu lle ar gyfer ysgolion gyda diffyg ariannol ac rydym yn eu monitro’n agos; roedd yr holl ysgolion gyda diffyg ariannol yn datblygu fel y disgwylir yn erbyn eu cynlluniau adfer a byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.   

Roedd balansau ysgolion yn cael eu monitro’n barhaus ac roedd dull o alw ysgolion gerbron y Pwyllgor Craffu neu'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol pe bai’r angen.

·         Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddent yn lansio menter nofio am ddim diwygiedig a fyddai’n arwain at 25% o ostyngiad yn y cyllid y mae’r Cyngor yn ei dderbyn yn y flwyddyn ariannol hon a 50% o ostyngiad o fis Ebrill 2020- yn anffodus roedd hyn yn golygu bod rhaid i’r Cyngor adolygu'r rhaglen nofio a chynnig llai o weithgareddau nofio am ddim; byddai datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi’n fuan ynglŷn â’r mater

·         Sefydlwyd Grŵp Swyddogion Brexit ac roedd swyddog arweiniol ar gyfer Brexit a chofrestr risg Brexit ac roedd y mater yn cael ei drafod yn rheolaidd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth o ran lliniaru unrhyw effaith ar y Cyngor a'i weithrediadau.   

Yn benodol o ran prydau ysgol, cafwyd trafodaethau gyda chwmnïau cyflenwi arlwyo a gwasanaeth prydau ysgol a fyddai'n addasu'r fwydlen am y cyfnod gofynnol i sicrhau bod yr holl blant yn derbyn pryd maethlon yn yr ysgol

·         o ran costau tribiwnlys yn codi o apeliadau lleoliadau plant, eglurwyd y gallai'r Cyngor dalu am ei gostau cyfreithiol ei hun ond prin iawn y byddai gofyn iddynt dalu costau eraill; boed yr achosion unigol yn ymwneud â chamau penodol a gymerwyd yn y gorffennol neu beidio byddai'n ofynnol adolygu pob achos unigol i nodi'r rhesymau dros gyflwyno'r achos

·         eglurwyd y newidiadau i waith cysylltu draeniau dŵr budr sy’n ofynnol ar gyfer safle newydd Ysgol Llanfair gan fod y manylion cychwynnol a ddarparwyd yn ymwneud â mynediad i'r briffordd yn anghywir, yn unol â chyngor Dŵr Cymru, ac felly roedd angen hawddfraint ar gyfer mynediad i'r draen dŵr budr - roedd y mater wedi'i gyflawni'n uniongyrchol gan Ddŵr Cymru yn sgil yr oedi a’r costau a achoswyd.

·         Roedd cynigion ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif bron â'u cwblhau a byddent yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac

 

(b)       yn cymeradwyo’r defnydd o’r Grant Cynhaliaeth Ysgolion sydd wedi’i ddyfarnu i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, fel yr argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol ac fel y nodwyd yn Atodiad 5, 6 a 7 yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: