Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR FLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd hyd yma yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol.

(a)  Lles Meddwl

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar y flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSDd), a Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych)

(c)  Gwydnwch amgylcheddol

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y flaenoriaeth Gwydnwch Amgylcheddol (copi ynghlwm) gan y Cadeirydd

2.10 p.m. – 3.00 p.m.

 

Cofnodion:

(a)  Lles Meddwl

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar flaenoriaethau Lles Meddwl gan Richard Firth (Iechyd Cyhoeddus Cymru).  Cadarnhaodd bod gweithdy wedi’i gynnal ym mis Tachwedd 2018. Roedd wedi trafod lles meddwl da i bob oedran i alluogi pobl i fyw yn effeithiol ac i osgoi problemau iechyd meddwl yn y dyfodol.

 

Mae datblygu mentrau a chyfleoedd i gysylltu  â blaenoriaethau eraill wedi’u nodi.  Mae’r term lles meddwl yn eithaf aneglur.  Felly byddai gwaith yn parhau yn y misoedd nesaf i ddiffinio camau gweithredu a chyflwyno'r adroddiad mewn cyfarfod BGC yn y dyfodol.

 

(b)  Ymrymuso’r Gymuned

Cafwyd diweddariad ar flaenoriaeth Ymrymuso’r Gymuned gan Nicola Kneale, Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (CSDd).

 

Cynhaliwyd cyfarfod gyda Steve Grayson (BIPBC), Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Adrannau Hamdden yr Awdurdodau Lleol i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen i fynd i’r afael â rheoli pwysau.  Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda Iechyd i sicrhau fod ymarferwyr a phartneriaid iechyd yn cynnig rhaglenni rheoli pwysau a lle i gyfeirio pobl er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i fentrau ‘presgripsiynu cymdeithasol’.

 

Mae wedi cael ymateb dda a bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu ar gyfer y dyfodol.  Roedd y cyfarfod wedi digwydd yr wythnos flaenorol a bydd mwy o ddiweddariadau yn cael eu darparu mewn cyfarfodydd BGC yn y dyfodol.

 

Cawn ddiweddariad ar raglen Ymwybyddiaeth Dementia dan arweiniad y Gymuned CSDd yn y cyfarfod nesaf.

 

(c)  Gwydnwch Amgylcheddol

Cafwyd diweddariad gan Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) ar yr Addunedau Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi’r Amgylchedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol).

 

Ar ôl cymeradwyo’r Addunedau Gwyrdd yng nghyfarfod Gorffennaf, mae’r brandio wedi'i wella yn ôl y gofyn.  Cadarnhawyd bod yr adran farchnata yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael ei gomisiynu o’r grant BGC rhanbarthol i lansio a hyrwyddo addunedau.  Bydd lansio’r cynllun peilot yn digwydd ar ôl gorffen y pecyn gwaith ac yn cael ei gyfathrebu i'r timau marchnata gan sefydliadau BGC eraill.   

 

 Mae Datganiad Polisi'r Amgylchedd (Atodiad C) wedi cael ei adolygu yn unol â’r drafodaeth yng nghyfarfod mis Gorffennaf.  Mae bellach yn canolbwyntio ar ddau ardal ymrwymiad (ymrwymiad 1 – carbon a ynni ac ymrwymiad 2 – addasu i newid hinsawdd) gyda'r 7 ‘ymrwymiadau’ eraill blaenorol yn dod yn ganlyniadau yr ymrwymiad perthnasol.  Trwy ganolbwyntio ar yr ymrwymiadau penodedig bydd yn cael effaith uniongyrchol ar gyflawni yr ardaloedd allbwn eraill.  Cadarnhawyd bod angen nodi mesurau allweddol.   Cafodd cais ei wneud i bartneriaid enwebu swyddogion arweiniol i gefnogi'r gwaith o fewn eu sefydliadau.

 

Trafododd y Bwrdd yr amserlenni ynghlwm â chyflawni'r camau gweithredu a gynigir.  Pwysleisiwyd fod sefydliadau partner ar wahanol gyfnodau o gyrhaeddiad ar y dechrau ac yn gwerthfawrogi'r amser a gymerwyd i gyrraedd y gwahanol gamau yn amrywio rhwng partneriaid.  Felly nid oes amserlenni penodol i sefydliadau gyflawni'r gwaith ar wahân i'r amserlenni cenedlaethol.  Eglurwyd fod dyddiadau statudol wedi’u cynnwys yn y ddogfen, ond roedd y datganiad fwy am gefnogaeth ar y cyd a rhannu arferion da. 

 

 Cafwyd trafodaeth ynglŷn â ddylai lleihau carbon erbyn 2030 fod yn darged neu ddyhead.  Cytunwyd newid y geiriad i “uchelgais" i leihau allyriadau carbon erbyn 2030. 

 

Cadarnhawyd mewn gweithdy a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol, bod llawer o drafod wedi bod ynglŷn â newid hinsawdd, materion arfordirol a gweithredu gan y gymuned.  Cadarnhaodd Dirprwy Arweinydd CBSC, y Cynghorydd Goronwy Edwards bod gwarchod yr arfordir angen bod yn un o'r prif flaenoriaethau gan ei fod yn bryder sylweddol i'r bobl y mae'n nhw'n eu cynrychioli.  I dawelu meddwl y Cynghorydd Edwards dywedwyd bod llifogydd arfordirol wedi’i gynnwys yn Natganiad Polisi’r Amgylchedd.

 

Roedd yr holl aelodau yn gytûn i’r Bwrdd ddatblygu dull rhanbarthol.  Cytunwyd ar yr Addunedau Gwyrdd Cymunedol a nodwyd bod gwaith pellach yn cael ei wneud yn Natganiad Polisi’r Amgylchedd.

 

Dyma’r Aelodau yn llongyfarch y swyddogion am eu gwaith ar y papurau.

 

PENDERFYNWYD:

                      i.        Bod aelodau yn argymell bod y diweddariadau a ddarperir ar gyfer y blaenoriaethau Lles Meddwl a Ymrymuso’r Gymuned yn cael eu nodi, a

                    ii.        Bod adroddiadau pellach ar gynnydd yn cael eu darparu yn y cyfarfod BGC nesaf.

                   iii.        Argymhellodd Aelodau bod y cynnydd a wneir yn y flaenoriaeth Cadernid Amgylcheddol (Atodiad A) a'r Addunedau Gwyrdd Cymunedol diweddaraf (Atodiad B) yn cael eu nodi.

                   iv.        Yn ddarostyngedig i’r geiriad wedi’i ddiwygio dyma'r Aelodau yn argymell bod datganiad polisi amgylcheddol diwygiedig (atodiad C)  yn cael ei gymeradwyo yn y cyfarfod nesaf.

                    v.        Dyma aelodau yn argymell fod pob sefydliad BGC yn gallu blaenoriaethu eu hymrwymiadau a’r allbynnau y mae’n nhw’n dymuno canolbwyntio arnynt, ac

                   vi.        Aelodau yn argymell i bob sefydliad enwebu swyddog arweiniol i fod yn gyswllt ar gyfer y ddau ymrwymiad. 

 

 

Dogfennau ategol: