Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2018 – 31 MAWRTH 2019

Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Gwasanaethau Diogelu Gweithredol (copi ynghlwm) sydd am i’r Pwyllgor adolygu cynnydd y Cyngor o ran trefniadau ac arferion diogelu lleol yn ystod y cyfnod uchod, a’u heffaith ar oedolion diamddiffyn yn y sir.

 

10.45am – 11.30am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych 1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2019 (dosbarthwyd yn flaenorol). 

 

Dros y 12 mis diwethaf, bu ffocws parhaus ar wella cysondeb ac ansawdd gwaith diogelu.  Roedd cryn dipyn o waith wedi’i wneud i wella perfformiad yn erbyn dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru o ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith.  Er hynny, nid oedd ac ni fyddai’r Awdurdod yn llaesu dwylo yn y maes hwn.

 

Cafodd Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 gydsyniad brenhinol ym mis Mai 2019, oedd yn diwygio Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (“MCA”).  Roedd y diwygiadau’n cyflwyno’r Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd (LPS).  Nod y Ddeddf yw lleihau’r straen ar y system trefniadau diogelu rhag colli rhyddid ers dyfarniad Gorllewin Swydd Gaer a adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor Craffu. 

 

Roedd prif gyflawniadau yn 2018-19 fel a ganlyn:

·         Dyddiau penodol wedi eu sefydlu ar gyfer cyfarfodydd strategaeth cychwynnol yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus.

·         Archwiliadau chwarterol ar sampl o achosion diogelu er mwyn sicrhau ansawdd a chysondeb gwaith.

·         Cynllun peilot i sefydlu proses rhwng CSDd a'r bwrdd iechyd yn ymwneud ag adborth ar yr argymhellion a nodwyd o ganlyniad i’r broses ddiogelu. 

Roedd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar ddiogelu adroddiadau/nodweddion yn ymwneud ag Uned Ablett.  Bydd trosolwg o’r cynlluniau gweithredu diogelu hyn yn parhau’n gyfrifoldeb Craffu Diogelu Corfforaethol o fewn BIPBC.  Cytunir ar adolygiadau a rhan arweinwyr diogelu'r awdurdod lleol yn y cyfarfod strategaeth terfynol.

·         Peilota dull o fynd i’r afael ag adroddiadau diogelu yn ymwneud â briwiau pwyso. 

Nod y cynllun peilot oedd sefydlu proses agosach a mwy effeithiol rhwng BIPBC a’r awdurdod lleol.

·         Adolygu systemau i reoli ceisiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a dderbyniwyd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Arbenigol bod atgyfeiriadau yn parhau ar gynnydd gyda 9.5% o gynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.   Roedd 21% o atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn mynd i gyfarfodydd Strategaeth. 

 

Esgeulustod a cham-drin corfforol oedd y mathau mwyaf cyffredin o gamdriniaeth a nodwyd, a oedd yn debyg i dueddiadau cenedlaethol.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Gofal priodol, yn arbennig amser prydau, os nad oedd person diamddiffyn yn gallu agor y bocsys brechdanau a ddarparwyd.  

Roedd hwn yn bryder a godwyd gan aelodau.  Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynnal Cymunedol y byddai’n codi’r pryder hwn gyda BIPBC  

·         Symud preswylydd i le diogel pan oedd problem gyda lleoliad wedi’i nodi yn ystod archwiliad – oedd yna amserlen?  

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynnal Cymunedol os oedd unigolyn yn gallu, gallent ddewis aros yn y lleoliad.    Os nad oeddent yn gallu yna cysylltir â’r Atwrneiaeth os oedd yna un, neu cynhelir Cyfarfod Penderfyniad Budd Pennaf.   Roedd Gweithwyr Cymdeithasol Arbenigol, Seiciatryddion a Seicolegwyr yn asesu pa un a oedd gan unigolyn gapasiti ai peidio

·         Roedd swyddogion yn amlinellu’r broses a ddilynir ar ôl derbyn honiad o gamdriniaeth

·         Roedd perfformiad Sir Ddinbych o ran delio gyda cham-drin honedig yn cymharu ag awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn yr un modd â’i berthynas gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol. 

Roedd dau dîm adnodd cymunedol iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu sefydlu yn Sir Ddinbych hyd yma.  Roedd y berthynas gyda’r timau hyn yn dda yn gyffredinol, gyda staff yn gweithio tuag at gyflawni nodau cyffredin;

·         Cadarnhaodd Swyddogion bod y posibilrwydd o gyflwyno achrediad ‘dyfarniad’ i gartrefi gofal yn cael ei ystyried fel rhan o drefn rheoliad cenedlaethol ar gyfer sefydliadau o’r fath.

·         uchelgais y Gwasanaeth oedd cyflawni canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth, tra’n lleihau’r nifer o achosion o gam-drin honedig.  

Fodd bynnag, roedd y ffaith bod honiadau o gam-drin yn cael eu cofrestru yn ei hun yn gadarnhaol gan ei fod yn golygu bod defnyddwyr gwasanaeth a/neu eu gofalwyr yn gwybod ac yn fodlon rhoi gwybod am honiadau.  Dylai hyn yn ei hun helpu i atal cyflawnwyr trosedd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:

(i)    bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a chydnabod pwysigrwydd ymagwedd gorfforaethol at ddiogelu oedolion mewn perygl a chyfrifoldeb y Cyngor i weld hyn fel maes blaenoriaeth allweddol; a

(ii)  bod unrhyw siartiau sydd wedi eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys yr union nifer yn ogystal â ffigyrau canran. 

 

 

Dogfennau ategol: