Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL AR GYFER 2018-19
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n ceisio
sylwadau’r Pwyllgor ar weithgarwch y Gyd Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn
2018-19 a’r cynllun gweithgarwch lleol a rhanbarthol ar gyfer 2019-20.
10.05am – 10.45am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Diogel, y Cynghorydd
Mark Young yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i gael sylwadau’r Pwyllgor
ar weithgaredd y Cydbartneriaethau Diogelwch Cymuned yn 2018-19 a’r Cynllun
Gweithgaredd Lleol a Rhanbarthol 2019-20.
Roedd y Cynghorydd Young hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel
Gogledd Cymru rhanbarthol hefyd.
Dywedodd y
Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 12 mlynedd yn ôl, unwyd Partneriaethau
Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Chyngor Sir
Ddinbych (CSDd), gyda CBSC yn gweithredu fel y prif gyflogwr. Roedd yr Adran Gwella Busnes a Moderneiddio
yn arwain o ran rheoli’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn Sir Ddinbych.
Rhoddodd y
Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol eglurhad o’r ystadegau yn yr
adroddiad.
Roedd trefn
cyfarfod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynnwys:
·
Grŵp
Llywio Strategol - cyfarfod deirgwaith y flwyddyn
·
Grŵp
Tasg Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - a gynhelir yn fisol
·
Grwpiau
Tasg a Gorffen – cynhelir fel bo’r angen
Roedd y tair blaenoriaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 2018-2019 fel a
ganlyn:
·
Blaenoriaeth
1 - lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal leol a rhanbarthol
·
Blaenoriaeth
2 - lleihau aildroseddu – blaenoriaeth genedlaethol/ranbarthol
·
Blaenoriaeth
3 – blaenoriaethau lleol
Roedd gan bob
maes blaenoriaeth nifer o ddangosyddion perfformiad i fonitro cynnydd a
thueddiadau troseddau. Adolygwyd yr
ystadegau yn chwarterol yng nghyfarfodydd y Grŵp Llywio Strategol, gan
weithredu ar unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg.
Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol:
·
Ailddioddefwyr
trosedd – oedd yna dueddiad arbennig?
Cadarnhaodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol y byddai’n casglu
manylion ac yn dosbarthu i aelodau, ond roedd dulliau newydd o adrodd a chyfrif
digwyddiadau wedi cael effaith ar y ffigyrau hyn.
·
Oedd
ystadegau ar gael ar gyfer trosedd gwledig – dywedodd y Rheolwr Partneriaeth
Diogelwch Cymunedol nad oedd ganddi'r ystadegau wrth law ond bu'n gweithio
gyda'r tîm trosedd gwledig.
Byddai’n casglu’r wybodaeth a’i dosbarthu i aelodau.
·
Roedd
yna ychydig o feirniadaeth ynglŷn â’r heddlu ac nad oeddent yn ymchwilio
bwrgleriaeth preswyl.
Roedd rhif trosedd at ddibenion yswiriant yn cael ei roi allan ond ddim yn
arfer cael ei ymchwilio. Fodd bynnag,
roeddent yn gweithredu nifer o fentrau a anelwyd at helpu trigolion i leihau'r
risg o fod yn darged trosedd e.e. y fenter 'Sbarduno’ oedd yn defnyddio
cyfryngau cymdeithasol at ddiben atgoffa pobl i gau a chloi pob drws a ffenestr
i geisio osgoi bwrglariaid sy’n bachu cyfle.
·
Problem
pobl ifanc heb oruchwyliaeth rhiant rhwng 3.00pm
(diwedd y diwrnod ysgol) a rhieni yn dychwelyd o’r gwaith fel arfer tua
5.00pm Gallai hyn achosi
problemau.
·
Cadarnhawyd
y byddai'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Mark Young yn cwrdd â'r Prif Arolygydd
ac y byddai’n codi’r pryderon gydag ef ac yn gofyn iddo amlygu’r meysydd hyn yn
ei gyflwyniad i sesiwn Briffio’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019.
·
Eglurwyd bod nifer
fawr o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu wedi mynychu’r cyfarfodydd CSP a’u
bod yn hynod ragweithiol.
·
Roedd
llinellau cyffuriau yn bryder mawr a chadarnhaodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol fod holl asiantaethau ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i
gilydd i liniaru’r mater hwn.
·
Roedd
meddiannu cartrefi hefyd wedi’i grybwyll ar gynnydd, ac eto roedd pob
asiantaeth yn gweithio gyda’i gilydd mewn perthynas â’r mater hwn.
·
Roedd
trosedd casineb wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ond roedd yn ymddangos fel
petai mewn lleoliadau penodol e.e. ysbytai, gorsafoedd heddlu a’r Ganolfan
Ddiwylliannol yn y Rhyl.
Byddai’r cydlynwyr rhanbarthol newydd arfaethedig yn canolbwyntio'n fawr ar
eu gwaith o amgylch yr agwedd arbennig hon o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
·
Roedd
pobl yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus fel yr
adroddwyd, adroddir ar y canlyniadau mwy cadarnhaol.
·
Roedd gwerthu
adeilad Neuadd Morfa yn y Rhyl oedd yn lleoliad i wasanaethau gwirfoddol wedi’i
godi fel pryder posibl ar gyfer y dyfodol.
A
oedd gwasanaethau gwirfoddol i gael eu hadleoli? Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol
y byddai’n codi’r mater gyda Phrif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Sir Ddinbych ac adrodd yn ôl i aelodau drwy'r Cydlynydd Craffu.
Yn dilyn
trafodaethau manwl:
PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor, yn amodol ar yr arsylwadau uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd
amdani, naill ai mewn fformat ysgrifenedig neu fel rhan o gyflwyniad Prif
Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru i
sesiwn Briffio’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019, cymeradwyo perfformiad y
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ystod 2018-19 a’i gynllun gweithgaredd
arfaethedig ar gyfer 2019-20.
Dogfennau ategol:
- CSP Report 160916 - Cym, Eitem 5. PDF 221 KB
- CSP Report 160916 - App 1, Eitem 5. PDF 473 KB
- CSP Report 160916 - App 2, Eitem 5. PDF 1 MB
- CSP Report 160916 - App 3, Eitem 5. PDF 494 KB