Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TÂN MYNYDD LLANTYSILIO, HAF 2018

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) sydd yn cyflwyno adroddiad drafft y Pwyllgor i’w gymeradwyo, yn dilyn adolygiad o’r tân ar Fynydd Llantysilio yn ystod haf 2018, a’i effaith ar yr ardal.  Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn i'r Pwyllgor gychwyn cynnal trafodaethau gyda sefydliadau partner a budd-ddeiliaid er mwyn symud ymlaen gyda’r bwriad o leihau’r perygl bod digwyddiadau tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

 

10.10am – 11.45am

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod gan gynnwys cynrychiolwyr sefydliadau partner ac aelodau o’r cyhoedd oedd yn bresennol. 

 

Cyflwynodd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd y Cynghorydd Graham Timms adroddiad drafft y Pwyllgor ar ei adolygiad o'r tân ar Fynydd Llantysilio yn ystod yr haf 2018 a’i effaith ar yr ardal.    Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn i'r Pwyllgor gychwyn cynnal trafodaethau gyda sefydliadau partner a budd-ddeiliaid er mwyn symud ymlaen gyda’r bwriad o leihau’r perygl o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai nod ac amcanion y cyfarfod oedd i drafod yr adroddiad drafft ac argymhellion a chyflwyno ei ganfyddiadau a chasgliadau i’r cyhoedd.  Pwysleisiodd mai diben yr adolygiad oedd nid rhannu bai ond i ddeall beth ddigwyddodd yn well i helpu i wella’r ymteb a rheoli digwyddiadau tebyg a lleihau’r risg o danau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.   Cyfeiriwyd at y broses gynhwysfawr a gynhaliwyd o ran casglu tystiolaeth a gwaith manwl gan y Pwyllgor yn archwilio’r achos tân ac ymateb aml-asiantaeth iddo, a’i effaith ar yr ardal leol, yr amgylchedd a busnesau, a arweiniodd at ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor ar y ffordd ymlaen oedd yn cynnwys cydweithio gydag amrywiol asiantaethau ar ddatrysiad cyfunol.   Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn y broses a chynhyrchu'r adroddiad drafft terfynol.

 

Rhoddodd yr Is-Gadeirydd drosolwg o ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor.    Roedd nifer o themâu cyffredin wedi codi, y prif rai oedd Cyfathrebu, Tanau Gwyllt – eu rheoli a’r ffordd orau i leihau'r risg ohonynt rhag digwydd drwy Reoli Tir.   I grynhoi -

 

Cyfathrebu -

 

·         Byddai cyfathrebu rhwng amrywiol asiantaethau wedi gallu bod yn well ar adegau. 

Tra’n cydnabod bod y sawl oedd yn ymateb i’r tân yn gweithio o dan amodau anodd iawn a bod newid sydyn yn y tywydd yn golygu bod yn rhaid defnyddio tactegau anodd, daethpwyd i’r casgliad os byddai’r digwyddiad wedi’i ddynodi yn ‘Ddigwyddiad Mawr’ a bod Grŵp Cydlynu Tactegol wedi'i sefydlu byddai hynny wedi golygu cyfathrebu gwell, mwy effeithiol rhwng yr amrywiol asiantaethau a sicrhau bod y sawl gafodd eu heffeithio gan y tân yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar y sefyllfa.   Roedd cyfathrebu effeithiol rhwng y sawl oedd yn delio gyda digwyddiadau fel hyn a’r sawl oedd wedi eu heffeithio ganddo yn allweddol, er mwyn i’r holl ymatebwyr ddeall gallu ac adnoddau oedd ar gael iddynt a sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwybodaeth reolaidd, cyson a chredadwy, gyda golwg ar oresgyn camwybodaeth a allai’n hawdd gyrraedd cynulleidfa estynedig drwy’r cyfryngau cymdeithasol.   Felly, argymhellwyd bod Grŵp Cydlynu Tactegol yn cael ei sefydlu gynted â phosibl yn ystod y camau ymateb i ddigwyddiad yn y dyfodol i helpu cyfathrebu a dealltwriaeth.     Os byddai’n amlwg wrth i’r digwyddiad ddatblygu nad oedd angen y Grŵp mwyach, gellir yn hawdd ei hysbysu nad oedd ei angen.   Byddai sefydlu’r Grŵp hwn i gyfleu negeseuon cadarn, clir, cydlynol yn ystod camau cynnar digwyddiad yn helpu pawb dan sylw.

 

·         Roedd perchnogion ystâd, ffermwyr a phorwyr wedi mynegi pryder am ddiffyg y cyfathrebu gyda nhw yn ystod y tân.    

Roeddent yn adnabod y mynyddoedd a’r ardaloedd lleol yn dda ac roeddent mewn sefyllfa dda i hysbysu staff y gwasanaeth tân ac achub am y tir a pheryglon cudd posibl. 

 

·         Roedd hefyd yn bwysig pwysleisio nad oedd unrhyw fywydau wedi eu colli nac unrhyw eiddo wedi llosgi i lawr yn y tân.    

Fodd bynnag, gyda rhywfaint o addasiadau gellir gwella cyfathrebu a chydlynu. 

 

Tanau gwyllt -

 

·         O ystyried amodau penodol, gallai’r math hyn o danau gwyllt barhau i ddigwydd ac roedd yn bwysig bod pob asiantaeth yn barod amdanynt. 

 

·          Oherwydd natur anrhagweladwy'r tanau hyn a’r tir anodd lle roeddent yn digwydd, roedd y Pwyllgor yn falch iawn o ganlyniad i'r tân a'r adolygiad hwn, bod perchnogion yr Ystad wedi cynnig mynediad i'r Gwasanaeth Tân ac Achub i'r mynydd at ddibenion hyfforddiant. 

 

·         Roedd y Pwyllgor hefyd yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol petai canllaw safonol yn cael ei lunio i bob asiantaeth gyfeirio ato fel templed wrth ymateb i’r mathau hyn o ddigwyddiadau yn y dyfodol.    

Roedd y Fforwm Cydnerthu Lleol eisoes wedi argymell bod Cynllun Tanau Gwyllt Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cael ei ddatblygu, roedd y Pwyllgor yn teimlo y dylai’r Cynllun arfaethedig hwn gynnwys pedair elfen ychwanegol -

 

Ø  sefydlu rhestr o gontractwyr lleol ac adnoddau y gellir galw arnynt i gynorthwyo yn ystod digwyddiadau o’r fath.

Ø  gwybodaeth ar sut i ddelio gyda cholled bosibl seilwaith telathrebu

Ø  angen cysylltu â’r Bwrdd Iechyd a Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â lles trigolion sâl ac agored i niwed, a

Ø  rhoi ystyriaeth i osod monitorau ansawdd dŵr/aer dros dro.

 

Rheoli Tir -

 

·         roedd diffyg gweithgaredd rheoli tir cadarn ar y rhan arbennig hon o’r mynydd dros nifer o flynyddoedd wedi cyfrannu at ddifrifoldeb y difrod tân i’r mynydd a hyd yr amser y bu’r tân yn llosgi.

 

·         roedd nifer o ffactorau yn cyfrannu at y diffyg rheoli tir hwn -

 

Ø   rhesymau economaidd-gymdeithasol - llai o borwyr yn defnyddio eu hawliau i bori ar y mynydd a gostyngiad yn y galw am wyn Mynydd Cymreig llai wedi arwain at ostyngiad ym mhris y farchnad oedd yn golygu nad oedd yn ymarferol yn economaidd i’w cynhyrchu. 

Ø  newidiadau i bolisïau amaethyddol oedd yn golygu bod cyfleoedd i gynnal gweithgareddau rheoli tir yn gyfyng o ran amser, ac ym marn y porwyr a’r ffermwyr yn cynnwys proses hynod fiwrocrataidd.

Ø  ymddengys bod diffyg rheoli’r mynydd o ganlyniad i’w ddynodiad SoDdGA – oedd wedi arwain at ffermwyr a phorwyr yn teimlo bod rheoli’r mynydd wedi’i gymryd oddi arnynt, roedd hyn yn ei dro wedi cynyddu’r teimlad o ddiffyg ymddiriedaeth rhyngddyn nhw a’r asiantaethau cyhoeddus.    

Roedd yn bwysig cael gwared ar y rhwystrau hynny ac roedd yn galonogol bod Cyfoeth Naturiol Cymru, tirfeddianwyr a phorwyr yn awyddus i drafod ffordd ymlaen o ran rheoli tir yn yr ardal.

 

·         o’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan bawb oedd yn rheoli cynefin ar y mynydd hwn roedd yn amlwg y byddai creu swydd Swyddog Rheoli Ucheldir a Rhostir yn cynorthwyo pawb dan sylw i reoli’r cynefin a lleihau’r risg o danau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.    

Roedd swydd debyg wedi bodoli o dan y prosiect Grug a'r Caerau ac roedd y swyddog hwnnw yn ganolog i adeiladu pontydd a chynnal perthynas rhwng pob asiantaeth ac unigolyn.    Ar sail hynny, roedd y Pwyllgor yn argymell sefydlu swydd debyg wrth symud ymlaen.  Y gobaith oedd y byddai’r prif asiantaethau yn gallu dod at ei gilydd i drafod y cynnig a chytuno ar ffordd o greu’r swydd honno a’i chyllido ar gyfer y dyfodol.    Roedd y Pwyllgor yn teimlo y byddai bodolaeth swydd o’r fath yn cynnig manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i’r ardal hon, i’r sir ac ymhellach.

 

·         roedd diffyg rheoli tir ar y darn arbennig hwn o'r mynydd yn rhannol oherwydd ffactorau economaidd-gymdeithasol a newid mewn polisïau amaethyddol y DU ac Ewropeaidd oedd allan o reolaeth awdurdodau lleol i'w newid.    

 Fodd bynnag, gyda pholisïau amaethyddol yn cael eu hadolygu yng Nghymru ar hyn o bryd a mwy o newidiadau ac ansicrwydd roedd y Pwyllgor yn teimlo bod ganddynt ddyletswydd i dynnu sylw Llywodraeth Cymru at yr angen brys i bolisïau amaethyddol yn y dyfodol anelu at sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd ucheldir a rhostir ar draws Cymru, cyn y byddai cynefinoedd tebyg a ffyrdd o fyw traddodiadol yn cael eu colli am byth.    Roedd y Pwyllgor yn bwriadu ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i bwysleisio’r angen i arferion ffermio a chynhyrchu defaid, gan gynnwys cynnal praidd, y cyfan yn cynnwys elfennau hanfodol ar gyfer rheoli tir effeithiol yn y math hyn o ardaloedd, i'w diogelu drwy ddatblygu polisiau amaethyddol sy’n eu cefnogi i fod yn hyfyw yn economaidd. 

 

·         byddai’r Pwyllgor hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i geisio cymorth ariannol i gefnogi gwaith adfer ar y mynydd gyda’r bwriad i wyrdroi rhywfaint o ddifrod y tân cyn y byddai’n rhy hwyr. 

 

Yn ystod trafodaeth ddilynol y Pwyllgor, roedd aelodau yn pwysleisio'r pwysigrwydd bod pob asiantaeth yn cydweithio i fynd i'r afael ag argymhellion arbennig ac roeddent yn awyddus i sicrhau ymrwymiad gan bawb dan sylw yn y cyswllt hwnnw.  Roedd aelodau hefyd yn manteisio ar y cyfle i roi sylwadau ar yr adroddiad a holi cwestiynau a gofynnodd y Cadeirydd i Bennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd a Swyddogion Cefn Gwlad y Cyngor a chynrychiolwyr o'r sefydliadau partner oedd yn bresennol am eu hymateb a'u sylwadau ar yr adroddiad a'r materion a godwyd. 

 

Roedd prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·         wrth geisio cael ymrwymiad gan bartneriaid perthnasol i ddatblygu’r argymhellion roedd y Pwyllgor yn amlygu pwysigrwydd cynnwys Swyddog Rheoli Ucheldir/Rhostir yr oeddent yn ei hystyried yn swydd allweddol oedd angen ei chyllido ar gyfer y tymor hir, gydag ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i’r cyfrifoldeb a chwmpas er mwyn mwyhau manteision i’r ardal ehangach.   

Roedd y Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd yn cadarnhau fod y Cyngor yn llwyr gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac roedd wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ganfod datrysiad i gyllido a chreu’r swydd yr oedd Sir Ddinbych yn hapus i gynnig llety iddo.    O ran amserlenni, byddai angen cytuno ar y manylion a’r swydd-ddisgrifiad i ddechrau gyda phroses recriwtio i ddilyn; o ganlyniad y gobaith oedd y byddai rhywun yn y swydd erbyn dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf.    Cadarnhaodd Bethan Beech, cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi argymhellion yr adroddiad, yn arbennig yr angen i benodi Swyddog Rheoli Ucheldir/Rhostir, yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gefnogi mewn egwyddor, ac roedd yn hyderus y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu gwneud cyfraniad ariannol i’r swydd honno ac roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag asiantaethau partner o dan arweiniad Sir Ddinbych yn y cyswllt hwnnw.   Oherwydd cylch cyllido byr Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oedd yn bosibl rhoi ymrwymiad cyllid tymor hir ond roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn deall yr angen am ateb tymor hir ac yn croesawu manteision y swydd i'r gymuned ffermio a bioamrywiaeth ac wrth reoli a lleihau risg yn y dyfodol.     Roedd Richard Fairhead, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn croesawu’r argymhellion o’r adolygiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i ddelio gyda nhw.    Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn credu fod atal tân yn allweddol i leihau’r risg o ddigwyddiadau o’r fath a dylai’r holl rhanddeiliaid weithio gyda’i gilydd yn y cyswllt hwnnw ac roedd yn croesawu’r cyfle i weithio gyda phartneriaid i benodi Swyddog Rheoli Ucheldir/Rhostir yng Ngogledd Cymru.   Cymerodd Peter Lewis, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub y cyfle i roi sylwadau ar amrywiol agweddau o’r adroddiad gan ddweud: yn seiliedig ar brofiad yn y gorffennol ni fyddai rhai o’r pryderon ynglŷn â graddfa goroesi ar ôl tân yn datblygu; er y croesewir y cynnig o gymorth gan borwyr a chydnabyddir eu harbenigedd, roedd sefyllfa tân yn gwbl wahanol ac oherwydd bod diogelwch yn hanfodol, roedd yn bwysig sicrhau bod rheolaeth a gweithredu cymorth yn nwylo’r Gwasanaeth Tân ac Achub; roedd rhwystrau tân wedi arafu’r tân ond amlygodd yr anawsterau wrth ddelio gyda thân yn yr amgylchiadau anodd hynny, uwchben ac o dan y ddaear, a allai losgi am oriau yn y strwythur gwreiddiau sych ac o ganlyniad ailgynnau.   O safbwynt yr Awdurdod Tân ac Achub roedd Mr Lewis yn croesawu’r adroddiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid. 

·         roedd rhywfaint o’r drafodaeth yn canolbwyntio ar hyd y difrod tân a’r amserlen adfer/cyfradd adferiad. 

Dywedodd Bethan Beech fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu contractwyr arbenigol i gynnal arolwg o’r mynydd a gynhaliwyd ym Mehefin/Gorffennaf 2019 a byddai adroddiad drafft yn cael ei lunio a fyddai’n barod i’w rannu gyda phartneriaid/rhanddeiliaid yn ystod yr wythnosau nesaf.    Roedd wedi ymweld â’r safle ac roedd rhai rhannau wedi cael difrod sylweddol fyddai angen adferiad tymor hir (roedd yn cysylltu â thân tebyg ar Fynyddoedd y Berwyn yn 1976 lle roedd adferiad llwyr wedi cymryd tri deg o flynyddoedd) ac ardaloedd â difrod tymor canolig eraill oedd yn dechrau adfer.    Byddai’r adroddiad yn cael ei rannu gyda phartneriaid a rhanddeiliaid pan fyddai’n barod ac roedd yn cynnwys ystod o argymhellion a drafodir gyda phartneriaid i helpu i nodi pa gamau ddylid eu cymryd ynghyd â chost ariannol gwaith adfer.  Gofynnodd y Cadeirydd os gellir rhannu'r adroddiad gyda'r Pwyllgor pan fyddai ar gael.   

·          gofynnwyd am sicrwydd o ran cwblhau’r cytundebau rheoli tir ar gyfer Mynydd Llantysilio ac eglurodd Bethan Beech fod yr ardal yn eiddo i bedwar o brif dirfeddianwyr ac felly roedd angen pedwar o gytundebau rheoli tir A.16 na chytunwyd arnynt eto am resymau technegol.    

Fodd bynnag, roedd trafodaethau yn gadarnhaol ac roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer rheoli dros y gaeaf ac roedd yn eithaf hyderus y byddai cytundebau yn eu lle erbyn hynny.    Eglurodd y gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi caniatad ar gyfer gwaith rheoli tir ond roedd cytundeb yn caniatau i Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrannu at y gost

 

 

Yn ogystal, roedd rhai rhannau o’r mynydd eisoes yn cynnwys caniatâd i allu ymgymryd â gwaith rheoli.

 

Mewn ymateb i gwestiynau penodol oedd yn codi o’r adroddiad a’r argymhellion -

 

·         Eglurodd Bethan Beech (Cyfoeth Naturiol Cymru) nad oedd y Mynegai Difrifoldeb Tân (oedd yn darparu sbardun ar gyfer cyfyngiadau atal ar dir mynediad o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 wedi cyrraedd y lefel risg uchel oedd yn ofynnol er mwyn galw i ardaloedd gael eu cau.   

Roedd y model Mynegai Difrifoldeb Tân yn cael ei adolygu ar sail y DU ar hyn o bryd.    Roedd cynlluniau rheoli tân eisoes mewn lle ar gyfer ardaloedd coedwigaeth oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru (LlC), yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru, y byddai’r Swyddog Rheoli Ucheldir/Rhostir angen bod yn ymwybodol ohono.

·         ymatebodd y Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata i gwestiwn ynglŷn ag argymhelliad i alw Grŵp Cydlynu Tactegol gan gadarnhau y byddai'n sicrhau bod y prosesau perthnasol yn dechrau a phob asiantaeth wedi eu hyfforddi ac wedi paratoi’n dda  i ymateb mewn sefyllfa o'r fath. 

Roedd yr ymateb yn cynnwys negeseuon wedi eu cydlynu ar gyfer y cyhoedd ac ymgysylltu gyda thrigolion ac ymwelwyr â'r ardal yr effeithir arnynt.    Roedd aelodau yn amlygu pwysigrwydd hysbysu aelodau lleol a’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol fel modd o ddarparu diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth gywir.

·         Cadarnhaodd y Rheolwr Ardal AHNE a’r Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth fod swydd debyg i'r swydd Swyddog Rheoli Ucheldir/Rhostir wedi bodoli o dan y prosiect Grug a'r Caerau blaenorol oedd yn brosiect pum mlynedd a ariannwyd drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac roeddent yn croesawu’r argymhelliad i greu swydd debyg.    

Hefyd cadarnhaodd swyddogion fod rhestr o gontractwyr i dorri rhwystrau tân ar gael yn ystod y digwyddiad a byddai’n ddefnyddiol i’r deiliad swydd newydd lunio rhestr o gontractwyr, porwyr a phartneriaid, nid yn unig pan fydd yna ddigwyddiad, ond o amgylch rheoli, i rannu offer a chydlynu gweithgareddau, byddai proses o'r fath hefyd yn helpu os byddai yna ddigwyddiad.

·         Ymatebodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol i‘r cwestiwn ynglŷn ag argaeledd hydrant os digwydd tan gan gynghori bod peirianwyr hydrant tân yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Tân ac Achub oedd yn dilyn rhaglen archwilio a phrofi hydrant ac yn gweithio gyda chyfleustodau dŵr ar system cynnal a chadw ac atgyweirio.    

Roedd pob teclyn yn cynnwys terfynell data symudol a system mapio i sicrhau dull adnabod hydrant a chyflenwadau dŵr clir a hawdd gan staff tân ac achub. 

 

Roedd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (gan gynnwys Cefn Gwlad) a Chadeirydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn pwysleisio rôl AHNE.  Tra bod diogelwch yn brif flaenoriaeth wrth i'r digwyddiad tân fynd yn ei flaen, roedd gan y tîm AHNE y sgil a'r arbenigedd i helpu ar gyfer adferiad y mynydd ac amlygodd yr angen i adnoddau hwyluso’r adferiad.   Roedd yn canmol y tîm am eu gwaith a gwaith y Gwasanaeth Tân ac Achub a phartneriaid eraill i ddelio gyda’r tân o dan amgylchiadau anodd iawn ac roedd yn credu fod gwersi wedi eu dysgu ar gyfer y dyfodol.    Roedd hefyd yn canmol creu swydd Swyddog Rheoli Ucheldir/Rhostir i helpu i gydlynu a hwyluso camau rheoli tir. 

 

Daeth y Cadeirydd a’r drafodaeth i ben ac ar ran y Pwyllgor, diolchodd i bob gwasanaeth oedd yn rhan o daclo’r tân a'r gwaith oedd yn parhau i gael ei wneud ar yr adroddiad a'r argymhellion, darparu diogelwch ar gyfer y dyfodol a gwaith adfer ar y mynydd.    Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r adroddiad a'r ymateb cadarnhaol a dderbyniwyd iddo.    Ar ôl trafod y ffordd ymlaen gyda phartneriaid o ran lleihau’r risg o ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol ac ar ôl trafod a phleidleisio ar bob un o argymhellion yr adroddiad ar wahân (gyda newid yn ymwneud ag argymhelliad 3.3 i’r Pwyllgor dderbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd) -

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn -

 

(a)       Cymeradwyo argymhellion Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd yn dilyn ei gydadolygiad o ddigwyddiad tân mynydd Llantysilio, i’w weithredu mewn digwyddiadau tân mynydd yn y dyfodol, yn benodol:

 

(i)           Ymgynnull Grŵp Cydlynu Tactegol rhith neu gorfforol i hybu:

·           gallu i ryngweithredu amlasiantaethol

·           Negeseuon cyson, rhagweithiol y cytunwyd arnynt i’r cyhoedd

·           Diweddariadau dyddiol gan asiantaethau

·           Ystyried materion adferiad yn gynt yn y camau ymateb

·           Gwell dealltwriaeth o’r adnoddau technegol ac offer ar gyfer taclo tanau ar draws gwahanol sefydliadau.

·           Deall straen a’r effeithiau ar staff yn y prif asiantaethau (Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru) ac asiantaethau ategol.

(ii)          Trefnu a chynnal sesiwn ymgyfarwyddo ar y cyd i rannu gwybodaeth a phrofiad o danau rhostir a glaswelltir.

Bydd hyn hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r adnoddau ac offer asiantaethau ar draws Gogledd Cymru. 

(iii)        Byddai mwy o ymgysylltu strwythuredig gyda phorwyr a thirfeddianwyr yn cynorthwyo i annog rheoli tir gweithredol

Ystyried defnyddio’r Bwrdd Strategol Cenedlaethol Lleihau Tanau Bwriadol fel dull o gyflawni cefnogaeth ehangach ac ymrwymiad ar gyfer lleihau’r risg o danau gwyllt.

(iv)         Pob asiantaeth i adolygu gweithdrefnau rheoli porth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i sicrhau diogelwch a’r uned gorchymyn digwyddiad i gael ei hysbysu pwy sy’n bresennol yn y digwyddiad. 

(v)          Cyfoeth Naturiol Cymru i adolygu Mynegai Risg Tân ac asesu’r wybodaeth sy’n cael ei bwydo i mewn iddo.   

Unwaith y bydd y mynegai wedi’i adolygu ei rannu gydag asiantaethau eraill.

(vi)         Datblygu cynllun tanau gwyllt rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru

(vii)        Cyngor Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru i ystyried pa ymgysylltu pellach sydd ei angen i fynd i’r afael â phryderon cynghorwyr lleol a buddiannau busnesau yr effeithiwyd arnynt yn ystod y cyfnod ymateb;

 

(b)       cynnig yr argymhellion canlynol o ran delio gyda digwyddiadau mawr/brys a gofyn iddynt gael eu cynnwys yn y Cynllun Tanau Gwyllt Rhanbarthol:

 

(i)         bod Grŵp Cydlynu Tactegol yn cael ei sefydlu yn ystod camau cynnar ymateb i ddigwyddiad mawr/brys, fel tanau gwyllt, er mwyn hwyluso un pwynt cyswllt i bob asiantaeth, y sawl yr effeithir arnynt, y wasg/cyfryngau a’r cyhoedd i sicrhau fod pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu briffio’n llawn ar y sefyllfa sy’n datblygu yn rheolaidd.    Byddai bodolaeth y Grŵp hwn yn cynorthwyo trosglwyddo cyfrifoldeb rheoli digwyddiad yn effeithiol tra’n newid sifftiau.    Byddai’r Grŵp Cydlynu Tactegol yn cael ei hysbysu nad oedd ei angen os byddai’n amlwg nad oedd ei angen mwyach;

(ii)        datblygu rhestr o gontractwyr ac adnoddau lleol i gynorthwyo yn ystod argyfyngau i dorri rhwystrau tân ac ati.   (tebyg i’r rhestr contractwyr cynnal a chadw dros y gaeaf sy’n cael ei llunio gan awdurdodau lleol yn rheolaidd)

(iii)       gwybodaeth ar sut i ddelio gyda cholled bosibl unrhyw delathrebu/Teledu/mastiau radio a chysylltiadau technoleg hanfodol eraill a’u heffaith uniongyrchol ar ymateb y gwasanaethau brys i ddigwyddiadau, busnesau lleol, twristiaeth a diwydiannau eraill ac o bosibl diogelwch lleol a chenedlaethol; 

(iv)      angen cysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â lles trigolion sâl ac agored i niwed, ac

(v)       ystyried gosod monitorau ansawdd aer/dŵr dros dro i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y math hwn o ddigwyddiad;  

(c)       argymell bod swydd Swyddog Rheoli Ucheldir/Rhostir yn cael ei chreu.   Mae’r Pwyllgor yn gweld budd y swydd hon i gynnwys arwain ar y cydlynu effeithiol gyda'r amrywiol asiantaethau, tirfeddianwyr, ffermwyr, porwyr a chymunedau lleol ar weithgareddau rheoli tir a chynlluniau, gyda’r bwriad i gefnogi’r cynefin, ecosystemau ac economïau ardaloedd ucheldir a lleihau’r risg o danau gwyllt.  Argymhellir asiantaethau perthnasol i gytuno ar sut y gellir ariannu a chefnogi’r swydd allweddol hon.

(d)       ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddo:

(i)           gymryd camau ar frys i sicrhau bod Polisïau Amaethyddol y dyfodol yn anelu at sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol economaidd ucheldir ac ardaloedd rhostir ar draws Cymru drwy sicrhau bod arferion ffermio a bridio defaid, elfennau hanfodol ar gyfer rheoli tir effeithiol a chynaliadwy yn yr ardaloedd hyn yn hyfyw yn economaidd ac yn cael ei gynnal ar gyfer y dyfodol; a  

(ii)          cheisio cymorth ariannol ar gyfer gwaith adfer Mynydd Llantysilio;

(e)       derbyn gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd ar ddatblygiadau a derbyn adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor ymhen chwe mis ynglŷn â’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Ar yr adeg hon (11.10 am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: