Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 43/2018/0751 – TIR DE-ORLLEWIN O FFORDD TALARGOCH, ODDI AR FFORDD TALARGOCH (A547), GALLT MELYD, PRESTATYN

Ystyried cais ar gyfer dymchwel annedd bresennol a’r tai allan, adeiladu 133 o anheddau, adeiladu ffyrdd mewnol y stad, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy a mannau agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol gyda chais 43/2018/0751 ar gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd Talargoch (A547) ar dir i ogledd, dwyrain a gorllewin i Mindale Farm, Ffordd Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd Talargoch (A547) ar dir i’r gogledd, gorllewin a dwyrain Mindale Farm, Ffordd Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Mr Bob Paterson (Yn erbyn) - Awgrymwyd mai dyma’r lleoliad anghywir i leoli’r ffordd, gan y byddai’n cael ei adeiladu dros hen geuffordd/draen mwynglawdd Prestatyn, lle mae dŵr ffo'r mynyddoedd gerllaw yn disgyn. Pe byddai’r ffordd yn cael ei adeiladu gan achosi difrod i’r geuffordd, gallai hyn gynyddu’r perygl o lifogydd. Byddai’r datblygiad yn effeithio ar rai o’r 43 o dai, ac yn effeithio ar werth yr eiddo. Rhagwelir gostyngiad o tua 30%. Roedd y pwynt mynediad arfaethedig yn agos at gyffordd Ffordd Tŷ Newydd ar yr A547. Byddai graddiant y ffordd yn codi materion hygyrchedd ar gyfer unigolion gyda symudedd cyfyngedig.

 

Mr David Manley (O blaid) – Ymatebodd i’r pwyntiau a godwyd gan Mr Paterson.  Nid oedd gwerth eiddo yn fater cynllunio materol. Aethpwyd i’r afael â materion hygyrchedd drwy’r arolygydd cynllunio blaenorol ac fe’i ystyriwyd yn dderbyniol. Roedd y peryglon i’r geuffordd a’r hen fwynglawdd wedi cael eu nodi yn yr Asesiadau Geoffisegol ac wedi eu llywio drwy graffu ar hen fapiau. Fe ganfu’r asesiad dair siafft yng nghyffiniau'r ffordd arfaethedig. Nid oedd y siafftiau a ganfu yn peri peryglon sylweddol. Awgrymwyd gosod amodau ar y caniatâd ac y byddai gwaith tir yn cael ei gynnal cyn adeiladu unrhyw ffordd.

 

Trafodaeth Gyffredinol

 

Hysbysodd y Cynghorydd Peter Evans (aelod lleol) y pwyllgor bod preswylwyr yn erbyn y datblygiad ffordd arfaethedig. Ceisiwyd eglurhad os oedd unrhyw waith drilio wedi cael ei gyflawni ar y safle, ac oes oedd yr ymgeiswyr yn berchen y tir. Gofynnwyd oes oedd unrhyw bwynt delio â'r cais gan fod y cais safle tai wedi cael ei wrthod, gan olygu na fyddai'n 'ffordd i unman'.

 

Holodd yr aelodau os oedd y tir o fewn y ffin Cynllun Datblygu Lleol.   Codwyd cwestiynau pellach dros berchnogaeth y tir, y goblygiadau pe byddai'r perchennog tir yn gwrthod gwerthu'r tir, a'r dryswch a oedd yn codi o gyflwyno dau gais, yn hytrach na chyflwyno un cais.

 

Ymatebodd y swyddogion, gan gadarnhau nad oedd y tir o fewn ffin Datblygu ar gyfer Prestatyn a Gallt Melyd, ond nid oedd hyn yn golygu nad oedd y datblygiad yn annerbyniol o ganlyniad i hynny. Cadarnhawyd hefyd nad oedd yr ymgeisydd yn berchen y tir, ond nid oedd hyn yn fater a ddylai ddylanwadu ar unrhyw benderfyniad yn ymwneud â’r cynigion.   Mewn perthynas â’r sylwadau o ran gwrthod caniatâd ar gyfer y safle tai, eglurwyd y gallai’r penderfyniad hwn fod yn destun apêl ac y dylai’r cais ffordd gael ystyried ar ei rinwedd cynllunio. Nodwyd yr aethpwyd i’r afael â phryderon bod y ffordd yn cael ei ddatblygu fel cynllun ar ei ben ei hun, drwy awgrymu amod a chytundeb cyfreithiol, a fyddai’n atal unrhyw waith nes bod caniatâd cynllunio mewn lle ar gyfer y datblygiad tai. Nid oedd posib dweud os oedd gwaith drilio wedi cael ei gyflawni, ond byddai angen cyflawni ymchwiliad tir i benderfynu presenoldeb tir halogedig a’r angen i fynd i’r afael ag ansadrwydd tir, cyn dechrau unrhyw waith adeiladu. Roedd yr ymgeiswyr yn gweithredu o fewn eu hawliau drwy gyflwyno dau gais, ac roedd yn fater i’r Awdurdod ddelio â hwy ar eu nodweddion cynllunio eu hunain.

 

Cynnig

Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry wrthod y cais ar sail bod y ffordd yn cael ei ddatblygu tu allan i’r Cynllun Datblygu Lleol ac yng nghefn gwlad agored, ac ni fyddai’r ffordd yn arwain at unrhyw ddatblygiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO 1

GWRTHOD – 11

YMATAL 0

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd, yn erbyn argymhelliad y swyddog, ar y sail nad oedd y cais yn ffurf dderbyniol o ddatblygiad tu allan i’r ffin ddatblygu.

 

 

Dogfennau ategol: