Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 43/2018/0750 – TIR YN MINDALE FARM, GALLT MELYD, PRESTATYN
Ystyried cais ar
gyfer dymchwel annedd bresennol a’r tai allan, adeiladu 133 o anheddau,
adeiladu ffyrdd mewnol y stad, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy
a mannau agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol yn Mindale Farm, oddi ar Ffordd Hendre a Ffordd Gwilym, Gallt
Melyd, Prestatyn (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais
ar gyfer dymchwel annedd bresennol a’r tai allanol, adeiladu 133 o anheddau,
adeiladu ffyrdd mewnol y stad, carthffosydd, systemau draenio trefol cynaliadwy
a mannau agored, gwaith tirlunio strategol a chaled/meddal, a gwaith ategol
gyda chais 43/2018/0751 ar gyfer ffordd gyswllt newydd i Ffordd Talargoch (A547) ar dir i ogledd, dwyrain a gorllewin i Mindale Farm, Ffordd Hendre, Gallt Melyd, Prestatyn.
Siaradwr Cyhoeddus –
Mr Bob Paterson (Yn erbyn) –
Eglurodd wrth y pwyllgor nad oedd mwyafrif o breswylwyr lleol yng Ngallt Melyd
eisiau i’r datblygiad ddigwydd, gyda 150 o sylwadau yn erbyn y cais. Fe
bleidleisiodd y cyngor tref yn unfrydol yn erbyn y datblygiad hefyd. Awgrymwyd,
er bod angen tai yn ardal Gallt Melyd, mae’r angen ar gyfer tai fforddiadwy ac
eiddo lle mae rhentu yn opsiwn. Roedd y datblygiad ar waelod bryn mewn ardal
sy’n adnabyddus am lifogydd, ac roedd hyn yn achosi pryderon mawr i breswylwyr
yn yr ardal. Roedd y datblygwyr wedi cynhyrchu adroddiad a oedd yn amlygu’r
pryderon llifogydd, ac roedd Waterco wedi cael eu
galw mewn gan Sir Ddinbych i adolygu hyn, ac roeddent
wedi amlygu nifer o agweddau, gan ddod i'r canlyniad y gallai'r
materion gael eu datrys fel y manylir yng ngham cynllunio'r cais - ond ni
liniarodd hyn bryderon preswylwyr. Ni ystyriwyd y cais yn hygyrch ar gyfer rhai
gydag anableddau ychwaith.
Mr David Manley (O blaid) –
hysbysodd y pwyllgor y byddai’n ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan Mr Paterson. Roedd pryderon preswylwyr wedi’u clywed a’u
deall, fodd bynnag roedd y safle wedi cael ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl) ac yn 2017 cefnogodd yr Arolygydd Sheffield ddatblygiad y safle er gwaethaf y teimladau cryf a fynegwyd yn erbyn y cais. Roedd y cyflenwad o dir ar
gael ar gyfer tai yn yr awdurdod yn 1.55 mlynedd yn erbyn isafswm gofyniad o 5
mlynedd, ac felly’n amlygu'r angen am dai. Cyflawnwyd
asesiad perygl o lifogydd a cynigwyd mesurau lliniaru. Nid oedd gan Waterco nac y Swyddog Arweiniol Perygl Llifogydd y Cyngor
unrhyw wrthwynebiad i’r cynigion a gallai’r materion
gael eu datrys drwy roi amodau. Wrth nodi’r sylwadau ar hygyrchedd, cefnogodd
yr Arolygydd Sheffield y cais blaenorol gan nad oedd
y safonau o ran graddiannau wedi eu gosod.
Atgoffodd y
Swyddog Cynllunio aelodau o'r cyd-destun a osodwyd gan y cais gwreiddiol, a gafodd ei wrthod gan y Pwyllgor yn 2007 am ddau reswm
(priffordd a llifogydd), a bod y penderfyniad hwn wedi bod yn destun apêl, a gafodd ei wrthod. Roedd y cais presennol yn ailgyflwyno yr un nifer
o anheddau (133), fodd bynnag roedd dau gais wedi'u cyflwyno i aelodau, un ar
gyfer yr elfen dai a'r llall ar gyfer ffordd gyswllt newydd ar y safle. Roedd y
cynnig tai yn cynnwys 12 math o anheddau gwahanol, 2/3 ystafell wely yn bennaf,
ac roedd 13 o unedau fforddiadwy yn cael eu darparu. Roedd yr ymgeisydd wedi
cadarnhau ei barodrwydd i gyfrannu tuag at anghenion Addysg a Thai Fforddiadwy.
Argymhelliad y swyddog
oedd cymeradwyo’r cais.
Trafodaeth Gyffredinol -
Siaradodd y Cynghorydd Peter Evans (aelod lleol) yn erbyn y cais a mynegodd
bryderon am effeithiau'r datblygiad o ystyried annigonolrwydd isadeiledd lleol
- yn arbennig y rhwydwaith priffyrdd, a goblygiadau draenio, gan fod pryderon o
ran materion llifogydd yn yr ardal. Codwyd cwestiynau dros safle Llywodraeth Cymru o ran cyfrifo ffigyrau tir
ar gael ar gyfer tai a’r dull o benderfynu cyfraniad addysg, gan gynnwys y
fecanwaith o sicrhau estyniadau / addasiadau i Ysgol Melyd.
Mewn trafodaeth,
cyfeiriodd aelodau at ffordd y B5119, a oedd ar ymyl y datblygiad ac ystyriwyd
yn beryglus, a holwyd os oedd unrhyw asesiad wedi cael ei gyflawni ar yr
effeithiau ar y briffordd hon. Cydnabuwyd bod angen tai, ond nid oedd y
lleoliad yn cael ei ystyried yn briodol. Tynnwyd sylw at bresenoldeb tir
halogedig ac os oedd archwiliadau wedi cael eu cyflawni i’r effeithiau ar y
datblygiad. Roedd
dryswch dros gyflwyno dau gais ar wahân ar gyfer y datblygiad tai a’r ffordd
gyswllt i’r A547.
Ymatebodd y
swyddog priffyrdd i’r materion priffyrdd a godwyd gan yr aelodau. Cadarnhawyd
bod yr Asesiad Cludiant a gyflwynwyd wedi cael ei adolygu’n drylwyr gan
swyddogion priffyrdd, a thrwy drafodaethau gyda’r ymgeiswyr a’r asiantwyr,
roedd digon o wybodaeth i alluogi asesiad llawn o’r cais. Cydnabu bod yr un
cynigion sylfaenol wedi cael eu hystyried gan y pwyllgor cynllunio o’r blaen a
bod y cais hwnnw wedi cael ei wrthod, gan gynnwys rhesymau priffyrdd, a bod
apêl wedi hynny wedi cael ei wrthod ar sail gwelededd a threfniadau mynediad
mewn argyfwng, sydd wedi cael eu datrys erbyn hyn. Ystyriodd yr Arolygydd Apêl
bod yr isadeiledd priffyrdd yn gallu delio â’r
datblygiad yn ddiogel. Ystyriwyd y byddai’r rhwydwaith traffig yn gallu delio â’r traffig ychwanegol, yn destun amodau. Ni ddangosodd yr
asesiad o ddata damweiniau bod y briffyrdd yn nodedig o beryglus ar gyfer
defnyddwyr y ffordd gan gynnwys cerddwyr. Ystyriwyd, gyda'r rhaniad cyfraneddol
o ran siwrnai cerbydau, na fyddai cynnydd sylweddol o ran traffig ar y B5119.
Ymatebodd y
Swyddog Cynllunio i’r cwestiynau cyffredin a godwyd, gan dynnu sylw at
ymatebion ymgynghorai arbenigol a chynnig dehongliad / sylwadau ar bwyntiau
manwl. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru yn adolygu TAN1 a’r fethodoleg ar
gyfer cyfrifo’r ffigyrau cyflenwad o dir ar gael ar gyfer tai, ond yn seiliedig
ar y fformiwla wreiddiol, mae gan Sir Ddinbych
gyflenwad 1.5 mlynedd ar hyn o bryd. Mae’r angen i gynyddu’r cyflenwad tai yn
parhau yn bolisi Llywodraeth a'r Cyngor.
Cynigodd y
Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cynnwys amod ar unrhyw ganiatâd, fel bod angen
ymchwilio i dir halogedig cyn dechrau gwaith ar y safle, ac eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Alan James.
Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Peter Evans wrthod caniatâd. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Merfyn Parry. Rhoddodd y Cynghorydd
Evans y pwyntiau canlynol fel sail ar gyfer
gwrthod –
·
Isadeiledd
annigonol, yn arbennig ar yr A547 (Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones ychwanegu
cyfeiriad i’r B5119)
·
Goblygiadau
llifogydd
·
Effaith
ar amwynderau lleol a chymeriad y pentref
·
Cynigodd
y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid ychwanegu halogiad ar y rhesymau dros wrthod.
Wrth grynhoi, tynnodd y Rheolwr Datblygu sylw’r
aelodau at yr angen i ystyried y risg i'r Awdurdod o wrthod caniatâd heb
dystiolaeth glir i gefnogi’r rhesymau dros wrthod, a gwnaeth sylwadau ar y
rhesymau a gynigwyd fel yr amlinellwyd.
Derbyniodd yr aelodau na ddylai'r gwrthodiad gynnwys cyfeiriad ar y tir
halogedig na’r effaith ar amwynder.
Gofynnwyd am
bleidlais wedi’i chofnodi. Cytunodd 1/6 o’r aelodau a oedd yn bresennol am bleidlais
wedi’i chofnodi, a dyma’r canlyniad -
O blaid yr
argymhelliad i gymeradwyo caniatâd – Y Cynghorwyr Alan James, Christine Marston
a Tony Thomas.
Yn erbyn yr
argymhelliad i gymeradwyo caniatâd – Y Cynghorwyr Ellie Chard, Ann Davies,
Peter Evans, Brian Jones, Tina Jones, Melvyn Mile, Merfyn Parry, Andrew Thomas,
Joe Welch a Mark Young.
Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gan ei bod wedi cyrraedd y
cyfarfod yn hwyr.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 3
GWRTHOD - 10
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD – GWRTHOD caniatâd
yn erbyn argymhelliad y swyddog ar sail isadeiledd annigonol a goblygiadau llifogydd.
Dogfennau ategol: