Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 25/2018/1216 - BWLCH DU, NANTGLYN, DINBYCH
Ystyried cais am
addasiadau ac estyniad i gefn adeilad presennol, dymchwel strwythur y cwrtil,
codi adeilad atodol, cynnal a chadw caban pren (am gyfnod byr), ffens a gatiau
ar y ffin a darparu parcio ar y safle a man troi ym Mwlch Du, Nantglyn, Dinbych
(copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais am addasiadau ac estyniad i gefn yr adeilad presennol,
dymchwel strwythur cwrtil, codi adeilad atodol, cadw caban pren (dros dro),
ffensys a gatiau ffiniol a darparu man parcio a man troi ar y safle ym Mwlch
Du, Nantglyn, Dinbych.
Daeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i gadeirio eitemau rhif 11
a 12 ar y rhaglen sy’n ymwneud â Bwlch Du, Nantglyn, gan mai’r Cadeirydd, sef y Cynghorydd Joe
Welch, oedd yr Aelod Lleol.
Siaradwr Cyhoeddus –
Mr Mark Davies (O blaid) –
atgoffodd yr aelodau y cyflwynwyd y cais gan ddau o drigolion y ward oedd wedi
prynu’r eiddo er defnydd preswyl, ac oedd eisiau defnyddio Bwlch Du fel annedd
breswyl. Er iddo gydnabod nad oedd hon yn ystyriaeth gynllunio berthnasol,
gofynnodd i’r Pwyllgor gadw hyn mewn cof.
Tynnodd Mr Davies sylw at baragraff 2.7 Adroddiad Atodol y Swyddog i’r
Pwyllgor, lle’r oedd yr adroddiad yn gwrth-ddweud cyngor Cwnsler yr ymgeisydd y
byddai angen cymryd ‘camau cadarnhaol’ i ddangos bod yr eiddo wedi’i adael yn
wag. Dadleuodd Mr Davies ei bod yn bosib cymryd camau cadarnhaol i adael
rhywbeth yn wag. Ychwanegodd bod angen i’r Cyngor ddangos tystiolaeth na fu
defnydd preswyl i’r eiddo yn ôl pwysau tebygolrwydd, ac nid dyma’r
achos yma. Gan gyfeirio at gyfraith achosion a amlinellwyd yn nogfennau’r
Pwyllgor, amlygodd Mr Davies benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol oedd yn nodi,
lle’r oedd dyluniad y strwythur wedi’i bennu mor agos gan y defnydd, a lle’r
oedd llawer o’r strwythur yn dal i fod yn sefyll, y byddai’n rhaid dibynnu ar
dystiolaeth o gamau mwy cadarnhaol i benderfynu a adawyd yr eiddo’n wag ai
peidio. Gan fod posib adnabod Bwlch Du yn amlwg fel annedd, roedd rhaid i’r Cyngor
edrych ar dystiolaeth mwy cadarnhaol i ddangos y gadawyd yr eiddo’n wag.
Wrth droi at argymhellion y swyddog i wrthod y cais, tynnodd Mr Davies sylw
at y defnydd o Bolisi PSE4 Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych
i gefnogi gwrthod y cais. Roedd PSE4 yn ymwneud ag ailddefnyddio ac addasu
adeilad gwledig yng nghefn gwlad agored i’w ddefnyddio fel annedd. Dywedodd Mr
Davies wrth y Pwyllgor nad oedd Polisi PSE4 yn gymwys gan fod Bwlch Du yn dal i
fod yn annedd breswyl, ac wedi bod erioed. Nododd Mr Davies hefyd nad oedd
rhesymau 2 a 3 dros wrthod yn ddilys. Tynnodd sylw’n arbennig at reswm 4 fel
mater amherthnasol – diogelu safleoedd ffermydd gwynt rhag datblygiadau eraill allai arwain at fethu eu defnyddio – gan ei fod, unwaith yn
rhagor, yn seiliedig ar adeilad heb statws defnydd preswyl eisoes.
Trafodaeth Gyffredinol – Bu i’r
Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd, gyfeirio’r Pwyllgor at wybodaeth arwyddocaol a ddosbarthwyd yn yr
atodiad i brif adroddiad y rhaglen, ynghyd â gwybodaeth atodol a gyflwynwyd gan
gyfreithwyr yr ymgeisydd.
Cyfeiriodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Joseph Welch, at y pwyntiau
canlynol:
·
Roedd sylwadau Natural Power
nad oedd trigolion lleol wedi codi Bwlch Du fel annedd preswyl yn ystod y
broses wneud cais am y fferm wynt, yn amherthnasol. Mae penderfynu a adawyd yr
adeilad yn wag ai peidio yn dibynnu ar y 4 prawf gadael eiddo’n wag, nid ar farn trigolion lleol amdano.
·
Amlinellodd yr adroddiad y 4 ffactor perthnasol i’w
hystyried wrth bennu a gefnwyd ar ddefnydd annedd ai peidio, a gwnaeth y
Cynghorydd Welch y sylwadau canlynol:
o
Cyflwr materol yr adeilad: roedd yr adeilad, sy’n sefyll 1,400 o
droedfeddi uwchlaw lefel y môr, yn uchel iawn am adeilad yng Nghymru. Er hynny,
roedd ganddo do, simnai, pedair wal mewn cyflwr da ac roedd mewn cyflwr eithaf
da ar y cyfan.
o
A ddefnyddiwyd yr adeilad er unrhyw ddiben arall: Roedd
yn amlwg mai dim ond er dibenion preswyl y defnyddiwyd yr adeilad hwn.
o
Ers faint o amser y mae’r adeilad heb gael ei ddefnyddio
er dibenion preswyl: roedd ansicrwydd a dryswch yma, ond yn sicr, roedd rhywun
yn byw yn yr adeilad yn y 1960au, ac roedd tystiolaeth ddibynadwy gan dyst ei
fod wedi cael ei ddefnyddio fel bwthyn penwythnos yn llawer mwy diweddar.
o
Bwriad y perchnogion: Roedd y perchennog blaenorol wedi
parhau i dalu treth y cyngor ar yr eiddo, oedd yn awgrymu ei fod yn dal i gael
ei ystyried yn eiddo preswyl. Byddai’n rhaid i’r Pwyllgor benderfynu ar y pwynt
hwn. Yn ogystal, roedd y perchennog hwnnw wedi gyrru i fynychu digwyddiad
ymgynghori ar y fferm wynt.
·
Credai y gallai ac y dylai’r Pwyllgor oresgyn y rhesymau
a roddwyd dros ystyried bod yr adeilad wedi’i adael yn wag.
·
Mewn perthynas â’r rhesymau
arfaethedig dros wrthod y cais, roedd rheswm 2 yn ymwneud â'r
caban pren a graddfa'r adeilad ategol arfaethedig. Nododd y Cynghorydd Welch y
byddai’r caban pren yn cael ei ddymchwel ar ôl cwblhau’r gwaith y gwnaed cais
amdano, felly nid oedd yn broblem. Ychwanegodd bod rhaid gosod unrhyw effaith
weledol niweidiol y byddai’r adeilad ategol yn ei gael, yng nghyd-destun
effaith weledol y fferm wynt 16 tyrbin sydd wedi'i lleoli tua 400 metr oddi
wrth yr eiddo.
·
Mewn perthynas â rheswm 3, roedd y ffeithiau sy’n ymwneud
â materion ecoleg yn aneglur, ond yn ymwneud yn bennaf â gwarchod ystlumod yn
yr ardal, ac nid oedd tystiolaeth bod unrhyw ystlumod yn bresennol yma.
Dyfynnodd y Cynghorydd Welch ymchwil a ganfu fod 80,000 o ystlumod yn cael eu
lladd bob blwyddyn gan dyrbinau, oedd yn golygu y byddai’n safle annhebygol ar
eu cyfer.
Cydnabu’r Cynghorydd Welch na fyddai caniatâd ar gyfer annedd preswyl
newydd yng nghyffiniau fferm wynt yn cael ei ganiatáu, ond gan fod Bwlch Du yno
cyn y fferm wynt, roedd yn argymell y dylid caniatáu’r cais gydag amodau
priodol.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (RhD) at y ffaith y gohiriwyd y cais hwn ers cyfarfod y
Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2019, er mwyn caniatáu ystyriaeth o wybodaeth hwyr a
gyflwynwyd ar ran yr ymgeiswyr. Nododd fod cwnsel y Cyngor yn ystyried fod adroddiad
pwyllgor mis Gorffennaf yn gadarn ac yn dod i gasgliadau rhesymol. Ceisiwyd cyngor cyfreithiol arbenigol hefyd
ar gyfer Adroddiad Ategol y Swyddog, a dywedwyd wrth y swyddogion Cynllunio eu
bod wedi asesu’r materion yn gywir a bod y pedwar rheswm dros wrthod yn gywir.
Amlinellodd y RhD y risgiau i’r Cyngor pe bai’r
Pwyllgor yn rhoi caniatâd cynllunio yn groes i gyngor y swyddogion. Atgoffodd
yr aelodau bod fferm wynt wedi’i lleoli ger yr eiddo, a gafodd
ganiatâd cynllunio gan y Cyngor, ac mai rhan o’r broses honno oedd derbyn bod
Bwlch Du wedi cael ei adael yn wag. Adroddodd bod y swyddogion yn hyderus bod
eu safle dros wrthod caniatâd yn gywir yn ôl y gyfraith, ond y gallai
penderfyniad i roi caniatâd i’r cais ddod yn destun adolygiad barnwrol.
Dywedodd Swyddog Cyfreithiol y Cyngor wrth y Pwyllgor mai ei rôl oedd pwyso
a mesur y dystiolaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â gadael eiddo’n wag, a dod i
benderfyniad. Cyflwynwyd dadleuon cyfreithiol dros y ddwy ochr, a mater i’r
aelodau oedd asesu a gafodd yr eiddo ei adael yn wag
ai peidio ar sail y dystiolaeth o’u blaenau. Ychwanegodd bod perygl i unrhyw
benderfyniad cynllunio a wnaed gan y Pwyllgor gael ei adolygu’n farnwrol, gan
nodi pwysigrwydd gwneud penderfyniadau priodol.
Crynhodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y rhan hon o’r drafodaeth
fel ymwneud â sicrhau penderfyniad cywir a chadarn gan werthfawrogi'r risgiau.
Adroddodd y RhD ar y rhybudd gorfodi
diweddar ar Bwlch Du, a ategwyd ar apêl, oedd yn gofyn am ddymchwel rhai o’r
strwythurau ar y safle.
Croesawodd y Cynghorydd Merfyn Parry ddiddordeb yr ymgeiswyr mewn buddsoddi
mewn adeilad rhestredig.
Cwestiynodd y Cynghorydd Mark Young y meini prawf ar gyfer tynnu statws
defnydd preswyl oddi ar eiddo gwag, gan gyfeirio at un yn ei ward oedd wedi bod
yn wag ers rhai blynyddoedd, ond wedi cadw ei statws preswyl. Nododd y RhD fod ceisiadau am waith ar eiddo gwag mewn ardaloedd
gwledig yn dibynnu ar p’un ai oedd gan yr adeilad eisoes ddefnydd cyfreithlon
fel annedd, a barn y swyddogion oedd nad oedd hynny’n
wir am Bwlch Du.
Ymhellach at y pwynt hwn, nododd y RhD nad cais
am dystysgrif cyfreithlondeb oedd dan sylw yma, felly roedd rhaid dyfarnu a
adawyd yr eiddo’n wag ai peidio yn gyfannol ar sail y pedwar ffactor perthnasol
a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn.
Ychwanegodd y Swyddog Cyfreithiol bod y Swyddog Cynllunio oedd yn
ymwneud â’r cais hwn wedi mynd i’r afael â’r pedwar maen prawf, gan ddadansoddi’r ffactorau
perthnasol yn yr adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Tony Thomas ei fod o blaid dilyn argymhellion y
swyddogion a gwrthod y cais. Byddai dewis ar gael i apelio yn erbyn y
penderfyniad, fyddai’n cael ei benderfynu gan Arolygydd Cynllunio Llywodraeth
Cymru, a gallai hyn leihau atebolrwydd y Cyngor mewn achos o adolygiad barnwrol
cysylltiedig.
Cadarnhaodd y RhD, mewn ymateb i gwestiynau gan
yr aelodau, y dynodwyd Bwlch Du fel annedd oedd wedi’i adael yn wag yng nghais
gweithredwr y fferm wynt. Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ac roedd yn rhan o broses
cais cynllunio faith y fferm wynt. Nid oedd statws yr adeilad fel annedd a
adawyd yn wag yn destun dadl gan unrhyw un yr adeg honno. Cynghorodd mai’r
drefn arferol o hynny ymlaen fyddai ceisio tystysgrif cyfreithlondeb defnydd.
Cynnig – Cadarnhaodd
y Cynghorydd Alan James, oedd yn cadeirio,
fod cynnig gan y Cynghorydd Welch i roi caniatâd cynllunio wedi cael ei
eilio gan y Cynghorydd Ellie Chard.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Welch fod y rhesymau a gynigiwyd
dros roi’r caniatâd wedi’u seilio ar y ffactorau perthnasol i’w hystyried wrth
benderfynu a gefnwyd ar ddefnydd yr annedd ai peidio, fel yr amlinellwyd ganddo
yn gynharach yn y drafodaeth. Y ffactorau hyn oedd fod yr adeilad mewn cyflwr
rhesymol dda, ei fod wedi cael ei
ddefnyddio erioed ac wedi’i fwriadu i gael ei ddefnyddio fel annedd preswyl yn
unig, fod tystiolaeth i ddefnydd preswyl yr adeilad barhau tan yn eithaf
diweddar, a bod y dystiolaeth hon yn nodi fod gan yr adeilad eisoes ddefnydd
cyfreithlon fel annedd preswyl.
Mewn perthynas â’r
gwrthwynebiadau i’r cais ar sail effaith niweidiol ar amwynder gweledol, roedd
hyn yn ddibwys o ystyried effaith sylweddol fwy'r fferm wynt gyfagos. I gloi,
codwyd lles ystlumod, ond ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ar gyfer y cais hwn nac
yn ystod proses y fferm wynt, fod yna ystlumod ar y safle hwn.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU – 8
GWRTHOD - 5
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD RHOI
caniatâd (yn amodol ar amodau cynllunio priodol i’w cytuno gan y swyddogion a'r
aelod lleol) yn groes i argymhellion y swyddogion, ar y sail fod gan yr adeilad
ddefnydd preswyl cyfreithlon eisoes, ac y byddai'r effaith niweidiol ar
amwynder gweledol neu les ecolegol
yr ardal yn ddibwys.
Dogfennau ategol: