Eitem ar yr agenda
CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL
- Meeting of Cyngor Sir, Dydd Mawrth, 10 Medi 2019 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Ystyried
adroddiad gan y Peiriannydd Risg Llifogydd (copi ynghlwm) ar y cynigion am
gynllun amddiffyn arfordir yn nwyrain y Rhyl.
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd adroddiad
Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Y Rhyl (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
hysbysu’r aelodau am gynllun amddiffyn arfordir arfaethedig yn Nwyrain Y Rhyl a
fyddai’n darparu safon briodol o amddiffyniad llifogydd i oddeutu 1,650 eiddo.
Nodwyd bod y
tebygolrwydd o lifogydd difrifol yn fwy acíwt yn Nwyrain y Rhyl nag unrhyw
leoliad arall yn Sir Ddinbych. Dangosodd ymchwiliad i lifogydd 2013 y gallai
eiddo ddioddef llifogydd yn ystod digwyddiad 1 mewn 20 mlynedd.
Cynllun Amddiffyn
Arfordir Dwyrain y Rhyl oedd y cynllun amddiffyn arfordir â’r flaenoriaeth
uchaf ar gyfer y Cyngor. Roedd cost y
prosiect wedi’i amcangyfrif yn £27.5 miliwn.
Roedd y cynllun i
fod i gan ei ariannu yn defnyddio model Menter Benthyca Llywodraeth Leol. Y gyfradd grant ar gyfer gwaith amddiffyn yr
arfordir oedd 75%, felly, byddai’r prosiect yn cael ei ariannu’n llwyr gan y
Cyngor, gyda 75% o’r costau yn cael eu had-dalu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod
o 25 mlynedd drwy’r Grant Cynnal Refeniw.
Oherwydd maint y cynllun, mae’n debyg y byddai’n rhaid i’r Cyngor
fenthyg y mwyafrif o’r arian, er bod £2m o arian cyffredinol wedi’i glustnodi
ar gyfer y cynllun.
Ni fyddai
Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau am fwy o grant lle’r oedd costau wedi
cynyddu uwchlaw'r swm a gymeradwywyd gan y grant. Er mwyn cyflawni sicrwydd
cost digonol ar gyfer cynllun Dwyrain y Rhyl, penderfynwyd caffael camau
dylunio ac adeiladu'r cynllun gan ddefnyddio Fframwaith Caffael y Sector
Cyhoeddus Scape. Ym mis Awst 2016 gwnaed cytundeb cyflawni gyda'r Partner
Fframwaith, Balfour Beatty. O ganlyniad i'r cysylltiad cynnar hwn gan y
contractwr, roedd hyder y gellid cyflawni'r cynllun hyd at ei gwblhau o fewn yr
amcangyfrif cost cyfredol.
Roedd Fframwaith
Scape yn cefnogi defnydd cadwyni cyflenwi lleol. Rheolwyd hyn trwy “Siarter Cadwyn Gyflenwi”
a'i hasesu yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Er enghraifft, dylai o leiaf 40% o wariant y
prosiect fod o fewn radiws o 20 milltir a 75% o fewn radiws o 40 milltir. Roedd Balfour Beatty wedi ymgysylltu'n helaeth
ag is-gontractwyr a chyflenwyr lleol, gan ddim ond edrych ymhellach i ffwrdd
pan nad oedd adnoddau ar gael yn lleol neu pan nad oeddent yn gallu darparu
gwerth am arian.
Roedd y cynllun
wedi cael ei ystyried yn flaenorol a’i gefnogi gan y Tîm Gweithredol
Corfforaethol, y Grŵp
Buddsoddi Strategol a’r Cabinet ac fe gynhaliwyd sesiynau galw heibio cyhoeddus
ym mis Hydref a mis Tachwedd 2018.
Y risg fwyaf
sylweddol oedd gysylltiedig â'r prosiect oedd bod telerau benthyciad
Llywodraeth Cymru yn arwain at faich refeniw hirdymor (25 mlynedd) i'r Cyngor.
Roedd y cynllun
arfaethedig yn cynnwys gosod 128,000 tunnell o feini o flaen yr amddiffynfeydd
môr presennol, yn ogystal ag amddiffynfa fôr newydd 600m o hyd ger y wal a'r
promenâd. Byddai tri phwynt
mynediad gwell at y traeth hefyd yn cael eu darparu. Cynigiwyd
y byddai’r gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Ebrill 2020 ac yn dod i ben ym mis
Rhagfyr 2022.
Cafwyd trafodaeth
fanwl a chodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mynegwyd
pryderon o ran hyd y benthyciad a’r cynnydd posibl i gyfraddau llog.
Cadarnhawyd y byddai’r gyfradd llog ar y benthyciad yn sefydlog am y cyfnod
o 25 mlynedd.
·
Codwyd
y risg o’r prosiect yn mynd dros y gyllideb.
Cadarnhawyd bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud gyda’r contractwr
ers dechrau’r trafodaethau ar y prosiect er mwyn ceisio lleihau gorwariant ond
ni fyddent byth yn gallu dileu'r risg ariannol. Byddai Bwrdd Prosiect yn cael
ei sefydlu i oruchwylio’r cynllun a monitro gwariant. Ar y pwynt hwn, gofynnodd
y Cynghorydd Joan Butterfield fod y Cynghorydd Barry Mellor yn cael bod yn
aelod o’r Bwrdd Prosiect.
·
Mynegodd
yr Aelodau bryder ynghylch y dŵr a symudwyd ac fe gadarnhawyd na fyddai’r cynllun yn cynyddu’r risg o
lifogydd mewn ardaloedd eraill ar hyd yr arfordir.
·
Gofynnwyd
a oedd amddiffynfeydd môr yn ofyniad statudol.
Esboniodd y Peiriannydd Risg Llifogydd, o ran dyletswydd statudol y Cyngor
mewn perthynas ag amddiffyn yr arfordir, roedd Cyngor Sir Ddinbych yn Awdurdod
Amddiffyn yr Arfordir ac roedd ganddo ddyletswyddau dan Ddeddf Amddiffyn Y
Glannau. Roedd y swyddogaeth statudol fel awdurdod amddiffyn yr arfordir ond
nid oedd hyn o reidrwydd yn cynnwys diogelu eiddo. Fodd bynnag, cymerodd Cyngor
Sir Ddinbych y cyfle i ddefnyddio argaeledd y cyllid ar gyfer y cynllun
amddiffyn.
·
Gofynnodd
yr Aelodau a oedd gwaith am ddechrau ar ardaloedd llifogydd eraill o fewn Sir
Ddinbych.
Cadarnhawyd bod nifer o ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yn cael eu hadolygu
ar hyn o bryd a byddai hyn yn cael ei ddwyn at sylw’r Aelodau yn y dyfodol.
·
Codwyd
y defnydd o dwyni tywod fel amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd.
Cadarnhawyd bod y broses o garthu tywod wedi cael
ei hystyried fel proses arall ond nid oedd bob amser yr un mor llwyddiannus. Roedd y Rheolwr Risg Llifogydd yn aelod o
Grŵp Arfordir Bae Lerpwl ac fe gytunodd i ddosbarthu cofnodion y Grŵp
i bob aelod.
·
TAN15
(Nodyn Cyngor Technegol - Datblygu a Pherygl o Lifogydd) – byddai cyfnod
ymgynghori Llywodraeth Cymru yn dechrau ar ddiwedd mis Medi 2019 a byddai'r
Rheolwr Risg Llifogydd yn sicrhau fod yr aelodau yn derbyn yr wybodaeth
ddiweddaraf.
Dywedodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, y byddai hyn yn flaenoriaeth i’r
Cyngor. Mynegodd bryder pe bai'r cynllun
yn mynd dros y gyllideb gan na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwariant
ychwanegol. Felly, gofynnodd am gynnwys argymhelliad ychwanegol sef, fel
cyngor, ni fyddai yn derbyn na fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth
ariannol ychwanegol pe bai'r cynllun yn mynd dros y gyllideb.
Dywedodd yr
Arweinydd hefyd y dylid ei gwneud yn glir bod y Cyngor yn deall y risg a’r
ymrwymiad dros 25 o flynyddoedd.
Cynigodd yr
Arweinydd fod yr argymhellion canlynol yn cael eu hychwanegu at yr adroddiad,
eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler:
(i)
Bod y
Cyngor yn cadarnhau ei fod yn deall y risgiau a’r ymrwymiad ariannol sydd
ynghlwm wrth y prosiect, a
(ii)
Bod y
Cyngor yn penderfynu cysylltu â Llywodraeth Cymru i ofyn am gyllid ychwanegol os bydd costau yn mynd tu
hwnt i'r gyllideb.
Yn y fan hon,
gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am bleidlais wedi’i chofnodi.
Dywedodd Pennaeth
y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n rhaid i un rhan o
chwech o’r Aelodau oedd bresennol gytuno i gael pleidlais wedi’i chofnodi. Bu i
fwy nag un rhan o chwech o’r aelodau gytuno â’r bleidlais wedi’i chofnodi.
Ar y pwynt hwn (11.25 a.m.) cafwyd egwyl o 25
munud.
Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.50 a.m.
Cafwyd y
bleidlais wedi’i chofnodi, fel a ganlyn:
O blaid yr
argymhellion – Y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Brian Blakeley, Joan Butterfield,
Ellie Chard, Ann Davies, Gareth Davies, Meirick Lloyd Davies, Hugh Evans, Bobby
Feeley, Tony Flynn, Rachel Flynn, Hugh Irving, Alan James, Brian Jones, Tina
Jones, Gwyneth Kensler, Geraint Lloyd-Williams, Richard Mainon, Christine
Marston, Melvyn Mile, Bob Murray, Paul Penlington, Arwel Roberts, Anton
Sampson, Peter Scott, Glenn Swingler, Rhys Thomas, Julian Thompson-Hill, Graham
Timms, David G. Williams, Eryl Williams, Huw Williams, a Mark Young.
Yn erbyn yr
argymhellion - Neb
Ymatal – Neb
O blaid – 33
Ymatal – 0
Yn erbyn– 0
Felly:
PENDERFYNWYD:
(i)
Bod y Cyngor yn cadarnhau ei fod wedi
ystyried cynnwys yr Asesiad o Effaith ar Les (a atodwyd yn Atodiad 1);
(ii)
Bod y Cyngor yn cefnogi’r cais i symud y
cynllun ymlaen at y cam adeiladu, gan ddefnyddio y model cyllido cymorth grant
a nodwyd gan Lywodraeth Cymru;
(iii)
Bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i Fwrdd
Prosiect Amddiffyn yr Arfordir i gyflawni’r prosiect, cyn belled â nad yw'r costau terfynol yn uwch na
£27.5m.
Dylid dod a'r prosiect yn ôl at y Cyngor os bydd y gost darged derfynol yn
fwy na £27.5m;
(iv)
Bod y Cyngor yn cadarnhau ei fod yn deall
y risgiau a’r ymrwymiad ariannol sydd ynghlwm wrth y prosiect, a
(v)
Bod y Cyngor yn penderfynu cysylltu â
Llywodraeth Cymru i ofyn am gyllid ychwanegol os bydd costau yn mynd tu hwnt
i'r gyllideb.
Dogfennau ategol:
- 10.09.19 Report - East Rhyl Flood Defence WELSH, Eitem 6. PDF 334 KB
- WellbeingAssessment, Eitem 6. PDF 426 KB