Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

 

12pm – 12.20pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol –

 

·         trafodwyd yr ymresymiad y tu ôl i newidiadau arfaethedig i'r rhaglen waith fel y manylwyd yn yr adroddiad i sicrhau bod eitemau yn cael eu hystyried yn amserol ar gyfer hwyluso’r drafodaeth yn well a chraffu ar destunau arbennig a chytunwyd ar y newidiadau

·         roedd cynnwys yr adroddiad cynnydd ar yr argymhellion yn adroddiad Tân Mynydd Llantysilio mewn oddeutu chwe mis fel y cytunwyd yn gynharach ar y rhaglen wedi’i gadarnhau

·         Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Thomas am y cynnydd a wnaed gyda lleoliad arwyddion ymwelwyr brown ar yr A55 fel y trafodwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor a chytunodd y Pwyllgor Craffu i gael diweddariad i’r aelodau ar y sefyllfa bresennol.

·         yn dilyn cais craffu gan y Cynghorydd Rachel Flynn, byddai eitem yn ymwneud â’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion (CAMHS) yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu ar Bartneriaethau ar 16 Medi 2019

·         yn dilyn mater a godwyd gan y Cynghorwyr Brian Blakeley a Rachel Flynn ac yna cais craffu gan y Cynghorydd Brian Blakeley ynglŷn â chapasiti ysgolion yn ardal arfordirol y sir, roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion wedi ystyried bod y wybodaeth a ddarparwyd gan y Tîm Addysg Moderneiddio wedi delio â’r mater a godwyd ac felly nid oedd angen craffu manwl – cytunodd y Cydlynydd Craffu i ailddosbarthu’r deilliant

·         anogwyd aelodau i gyflwyno unrhyw ffurflenni cynnig ynglŷn â thestunau ar gyfer craffu i’w cyflwyno i gyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 11 Medi

·         o safbwynt yr eitem ar raglen waith y Cabinet oedd yn ymwneud â’r Model Darparu Amgen ar gyfer swyddogaethau/gweithgareddau oedd yn ymwneud â hamdden ac Aelodaeth y Bwrdd, cadarnhawyd ar ôl ystyried yr eitem yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Medi, y bwriad oedd i’r mater gael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Hydref

·         darparwyd manylion y Seilwaith i’w gwneud yn haws i lwyfannu digwyddiadau o fewn yr adroddiad a thrafodwyd enwebiad i fod ar y Bwrdd Prosiect i gynorthwyo ymgysylltu a dull traws sirol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghyd â rhinwedd penodi dirprwy gynrychiolydd

·         hefyd gofynnwyd i’r Pwyllgor benodi dau gynrychiolydd ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion (GMSY) ac roedd manylion cylch gorchwyl y Grŵp a dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer 2019/2020 wedi eu dosbarthu’n flaenorol a ystyriwyd gan aelodau

·         hefyd hysbyswyd yr aelodau am newidiadau i’r Broses Herio Gwasanaeth y cyfeiriwyd ati o fewn briff gwybodaeth y Pwyllgor a chytunwyd bod y cynrychiolwyr a benodwyd yn flaenorol yn parhau ar gyfer yr ardaloedd gwasanaeth unigol am y flwyddyn i ddod tra’n cydnabod y byddai angen gwneud rhywfaint o adlinio o ganlyniad i ailstrwythuro.    

Roedd y Cadeirydd yn annog aelodau i’w hysbysu ef neu’r Cydlynydd Craffu os nad oeddent yn gallu mynychu cyfarfod herio gwasanaeth a dywedodd y byddai’n fodlon dirprwyo lle bo’n bosibl.

·         dywedodd y Cydlynydd Craffu na dderbyniwyd unrhyw enwebiadau ar gyfer y pumed cynrychiolydd i fod ar y Gweithgor Cludiant i Ddysgwyr 

 Roedd y Cynghorydd Rachel Flynn yn mynegi diddordeb cyn belled â bod cyfarfodydd yn cyd-fynd â’i hymrwymiadau teuluol.

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad;

 

(b)       Penodi’r Cynghorydd Anton Sampson i fod ar y Bwrdd Prosiect Seilwaith i’w gwneud yn haws i lwyfannu digwyddiadau’ a bod y Cynghorydd Brian Blakeley yn cael ei benodi fel dirprwy gynrychiolydd  lle caniateir dirprwy;

 

(c)        Y Cynghorwyr Rachel Flynn a Graham Timms i gael eu penodi ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion;

 

(d)       Cynrychiolwyr blaenorol a benodwyd gan y Pwyllgor ar Her Gwasanaeth i aros ar gyfer yr ardaloedd gwasanaeth unigol a’u hailbenodi am y flwyddyn i ddod, a

 

(e)       Y Cynghorydd Rachel Flynn i gael ei phenodi fel y pumed aelod etholedig ar y Gweithgor Polisi Cludiant i Ddysgwyr ond os bydd amser y cyfarfodydd yn profi’n anodd i’r Cynghorydd Flynn fod yn bresennol, bod cynrychiolaeth y Pwyllgor ar y Grŵp yn lleihau i bedwar aelod etholedig ac un aelod cyfetholedig.

 

Dogfennau ategol: