Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd (copi ynghlwm) ar y cynnig ar gyfer cynllun amddiffyn arfordir Dwyrain y Rhyl.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

 (a)      Yn cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiad o Effaith ar Les (a atodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad);

 

(b)       yn cefnogi’r cais i symud y cynllun ymlaen at y cam adeiladu, gan ddefnyddio'r model cyllido cymorth grant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn argymell i’r Cyngor y dylid cymeradwyo’r cais, a

 

(c)        Yn argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Bwrdd Prosiect Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Y Rhyl (y Bwrdd Prosiect i’w sefydlu yn dilyn cadarnhad o gymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen at y cam adeiladu) i gyflawni’r cynllun, cyn belled nad yw’r gost targed terfynol yn fwy na £27.5 miliwn.  Dylid dod a'r prosiect yn ôl at y Cyngor am ystyriaeth bellach os bydd y gost darged terfynol yn fwy na £27.5 miliwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad ar y cynnig ar gyfer cynllun amddiffyn arfordirol yn Nwyrain y Rhyl a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i’r cynllun a gofynion cyllid a’i argymell i’r Cyngor yn unol â hynny. 

 

Dwyrain y Rhyl oedd maes blaenoriaeth uchaf y Cyngor ar gyfer cynllun amddiffyn arfordirol o ystyried y byddai’n fwy tebygol o brofi llifogydd difrifol nag unrhyw le arall yn y sir.    Wrth gyflwyno’r achos ar gyfer y cynllun arfaethedig, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddifrod llifogydd Rhagfyr 2013 a bregusrwydd yr ardal yn y dyfodol o safbwynt perygl llifogydd.   Roedd ymchwiliad i lifogydd 2013 yn dangos y gall eiddo ddioddef llifogydd yn ystod 1 digwyddiad mewn 20 mlynedd a byddai’r cynllun yn darparu safon priodol o amddiffyniad llifogydd i oddeutu 1650 eiddo gydag amddiffyniad yn erbyn 1 digwyddiad mewn 200 mlynedd.  Fodd bynnag, bydd cost y prosiect, sydd wedi’i amcangyfrif yn £27.5m ar hyn o bryd, yn rhoi baich refeniw ychwanegol ar y Cyngor.

 

Roedd manylion y goblygiadau refeniw a amcangyfrifir a’r rhagdybiaethau ariannol yn seiliedig ar fenthyca presennol wedi’i fanylu o fewn yr adroddiad.   Roedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn cefnogi’r argymhelliad a chadarnhaodd fod y Grŵp Buddsoddiad Strategol wedi cymeradwyo’r cynllun.  O safbwynt ariannol, amlygodd y newid i’r drefn gyllido ac effaith y newid hwnnw ar refeniw.   Er bod y cynllun yn gymwys ar gyfer 75% o gyllid grant Llywodraeth Cymru disgwylir i’r Cyngor gyllido’r swm cyfan, gyda 75% o’r gost benthyca yn cael ei ad-dalu i’r Cyngor yn flynyddol drwy’r Grant Cefnogi Refeniw dros 25 mlynedd.    Roedd angen cyfraniad o £6.87miliwn gan y Cyngor a byddai angen benthyg y mwyafswm o’r cyllid hwnnw (£2m cyllid cyffredinol wedi’i glustnodi eisoes ar gyfer y cynllun) am gost amcangyfrifiedig o £29mil yn 2020/21, £205mil yn 2021/22 yn codi i £286mil y flwyddyn o 2022/23.  Gan dybio na fyddai’r sefyllfa cyllideb refeniw yn gwella byddai’n rhaid i’r swm ad-daliad gael ei glustnodi fyddai’n effeithio ar arbedion/toriadau yn y dyfodol. 

 

Roedd y Cabinet yn derbyn bod achos wedi’i wneud ar gyfer y prosiect o safbwynt amddiffyn rhag llifogydd o ystyried y risg sylweddol i’r gymuned ac ystyriwyd yr elfen gyllido a goblygiadau ariannol datblygu’r cynllun, gan nodi’r ymrwymiad tymor hir oedd yn ofynnol o safbwynt ad-dalu’r benthyciad a’r effaith ar y gyllideb refeniw.  Trafodwyd y materion canlynol ymhellach -

 

·          Gofynnodd Mark Young am y risg o orwariant o ystyried na fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau am fwy o grant lle'r oedd costau wedi cynyddu uwchlaw’r swm a gymeradwywyd a chadarnhawyd y byddai’r Cyngor yn atebol am unrhyw orwariant. 

Fodd bynnag roedd y risg wedi’i leihau drwy ddefnyddio fframwaith caffael cadarn oedd wedi arwain at lefel uchel o sicrwydd cost a £4miliwn wrth gefn ar gyfer risg wedi’i gynnwys yn y gyllideb £27.5miliwn gyda lwfans ar gyfer chwyddiant; yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, byddai’r gwaith yn dechrau yn Ebrill 2020.

·         Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn amlygu meysydd eraill o fewn y cyngor oedd yn tueddu i ddioddef llifogydd a gofynnodd am effaith ar gyllido cynlluniau llifogydd eraill o ystyried y cyllid sylweddol oedd yn ofynnol yn yr achos hwn.    

Dywedodd swyddogion am reoli llifogydd mewn ardaloedd eraill yn y sir, gan gynnwys cynlluniau arfordirol ac afonol oedd mewn amrywiol gamau datblygu a datblygir drwy’r Bwrdd Rhaglen.  Awgrymwyd bod Bwrdd Prosiect Perygl Llifogydd yn cael ei sefydlu i oruchwylio cynllun Dwyrain y Rhyl a hefyd i ystyried opsiynau ar gyfer cynlluniau eraill.   Byddai’r prosiect dod yn ôl at y Cyngor am ystyriaeth bellach os bydd y gost darged derfynol yn fwy na £27.5 miliwn.

·         Wrth gofio difrod llifogydd 2013 roedd y Cynghorydd Tony Thomas yn siarad o blaid y cynllun, gan amlygu’r bygythiad posibl i fywyd a difrod i eiddo os byddai yna lifogydd yn y dyfodol a’r angen i warchod y gymuned. 

·         Roedd y Cynghorydd Mark Young yn gofyn am sicrwydd ynglŷn â budd cymunedol y cynllun arfaethedig a chadarnhaodd swyddogion y cyfeiriwyd at elfen o fewn yr adroddiad ac wedi'i gynnwys yn y fframwaith caffael.

·         ymatebodd swyddogion i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies yn dweud bod y Cynllun Rheoli Traethlin yn cefnogi camau’r cynnig, y cyfeirir ato yn adroddiad y Cyngor.    

Hefyd cadarnhawyd y byddai lleihau cwmpas y cynllun yn lleihau safon amddiffyn.

·         Roedd y Cynghorydd Barry Mellor yn siarad o blaid y cynllun, gan ganmol y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â llifogydd 2013 ac roedd yn teimlo y dylai’r Cyngor fod yn fwy rhagweithiol yn gyffredinol o ran materion llifogydd.    

Roedd y Cynghorydd Alan James hefyd yn siarad am y cynllun gan amlygu'r effaith ariannol a lles trigolion.

·         O safbwynt amserlenni, os bydd y Cabinet o blaid cefnogi’r argymhellion, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 10 Medi. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi ystyried cynnwys yr Asesiad o Effaith ar Les (a atodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad);

 

(b)       cefnogi’r cais i symud y cynllun ymlaen at y cam adeiladu, gan ddefnyddio y model cyllido cymorth grant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn argymell i’r Cyngor y dylid cymeradwyo’r cais, a

 

(c)        argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Bwrdd Prosiect Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Y Rhyl (y Bwrdd Prosiect i’w sefydlu yn dilyn cadarnhad o gymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen at y cam adeiladu) i gyflawni’r cynllun, cyn belled nad yw’r gost targed terfynol yn fwy na £27.5 miliwn.   Dylid dod a'r prosiect yn ôl at y Cyngor am ystyriaeth bellach os bydd y gost darged derfynol yn fwy na £27.5 miliwn.

 

 

Dogfennau ategol: