Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWNEUD PENDERFYNIAD YNGHYLCH HONIAD O DORRI'R COD YMDDYGIAD A ATGYFEIRIWYD AT Y PWYLLGOR SAFONAU GAN OMBWDSMON Y GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU DAN ADRANNAU 69 A 71(2) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm). Mae'r adroddiad yn ymwneud ag ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gŵyn bod cynghorydd o Gyngor Tref Prestatyn o bosibl wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor Tref.

 

Cofnodion:

Cyflwyniad

Gofynnodd y Cadeirydd, Ian Trigger, am gyflwyniadau o amgylch y bwrdd ac egluro’r weithdrefn ar gyfer y diwrnod. Eglurodd y Cadeirydd ei fod yn gyfarfod cyhoeddus a bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

 

Roedd pedwar cam posibl i’r gwrandawiad:

      I.        Cam 1 – materion gweithdrefnol rhagarweiniol;

    II.        Cam 2 – ystyried unrhyw ffeithiau sy’n destun dadl;

   III.        Cam 3 – gwneud penderfyniad a fu diffyg cydymffurfiaeth â’r Cod Ymddygiad yn seiliedig ar y ffeithiau a nodwyd;

  IV.        Penderfynu ar y gosb (os oes angen).

 

Roedd gwybodaeth ychwanegol ar ffurf copi o achos Livingstone v Panel Dyfarnu Lloegr (Hydref 2006). Roedd y Cadeirydd wedi gofyn i’r Pwyllgor ddarllen y papur dros nos.

 

Eglurodd y Cadeirydd i gyfreithiwr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) (Mrs A Ginwalla) a Chyfreithiwr Cynghorydd Tref Prestatyn Peter Duffy (Mr J Owens) fod y Cynghorydd Tref Prestatyn a Chyngor Sir Ddinbych, Paul Penlington (yr achwynydd) yn aelod o'r Pwyllgor Safonau ond nid oedd testun y cwyn wedi’i drafod yn unrhyw un o’r cyfarfodydd yr oedd wedi’u mynychu.

 

Gofynnodd Mr Owens bod y cyfarfodydd sy'n cael eu hystyried yn cael eu nodi gyda "c" fach gan nad oeddent yn gyfarfodydd cyhoeddus swyddogol. Cytunodd cyfreithiwr PSOW a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Gan nad oedd unrhyw faterion rhagarweiniol, gwahoddwyd datganiadau agoriadol byr gan y naill barti.

 

Ystyried unrhyw anghytundebau sylweddol o ran y ffeithiau.

 

Cyfeiriodd Mrs Ginwalla at adroddiad PSOW yn y papurau cyfrinachol (a ddosbarthwyd yn flaenorol), gan nodi cwyn gan y Cynghorydd Paul Penlington ynglŷn ag ymddygiad y Cynghorydd Peter Duffy tuag ato ar sawl achlysur.

 

Ymchwiliwyd dau o’r achosion. Roedd y digwyddiadau ar 2 Tachwedd 2016 a 11 Mai 2017 wedi’u nodi yn yr adroddiad ac roedd tystiolaeth wedi’i gasglu gan ddetholiad ar hap o dystion.

 

Roedd y PSOW wedi penderfynu yn ôl pob tebyg bod ymddygiad y Cynghorydd Duffy ar 2 Tachwedd 2016 wedi bod y tu hwnt i lefel sy’n rhesymol ac o bosib yn gamdriniaeth bersonol. Roedd tystiolaeth bod y Cynghorydd Duffy wedi dweud rhywbeth personol (er bod rhywfaint o ddadlau o ran yr hyn yr oedd tystion wedi’i glywed) i’r Cynghorydd Penlington mewn cyfarfod ar 11 Mai 2017.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd (IT) bod Cynghorydd Tref Prestatyn Martyn Poller wedi darparu datganiad tyst i'r PSOW yn flaenorol ond na fyddai'n bresennol ei hunan ac nad oedd eisiau iddo gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth. Cadarnhaodd Mrs Ginwalla hyn ond bod datganiad y Cynghorydd Poller a’r nodiadau cyfoes o’r cyfarfod ar 11 Mai 2017 wedi’u cytuno fel cofnod cywir a’u hystyried fel rhan o ystyriaethau PSOW. Roedd yr un peth yn wir ar gyfer datganiad tyst y Cynghorydd Sandilands, o Gyngor Tref Prestatyn. Nid oedd y Cynghorydd Sandilands wedi tynnu ei ddatganiad yn ôl ond roedd wedi gwrthod y gwahoddiad i fynychu’r gwrandawiad.

 

Hysbysodd Mr Owens y Pwyllgor bod y Cynghorydd Duffy wedi cysylltu ag ef fel Cynghorydd ers peth amser yn ceisio cyngor ar ymateb gan y PSOW ynglŷn â chwynion a wnaed am ei ymddygiad ynghyd â’r datganiadau tyst anghyson ac anghywir.

 

Gofynnwyd i dystion a gyflwynodd ddatganiadau i’r PSOW yn flaenorol, i gyflwyno eu tystiolaeth yn y gwrandawiad. Byddai cyfle i’r naill ochr a’r llall ac aelodau'r Pwyllgor i ofyn cwestiynau ategol at ddatganiadau'r tystion.

 

Wrth gyflwyno pob tyst gofynnodd Mrs Ginwalla i bob un ohonynt gadarnhau eu bod wedi cael cyfle i adolygu eu datganiad; fod ganddynt ddatganiad o’r gwir wedi'i lofnodi a gofyn a oedd angen unrhyw ddiwygiadau (nid oedd angen rhai).

 

Cafwyd tystiolaeth gan dystion yn y drefn ganlynol:

·         Peter Gaffey – Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·         Carol Evans – Clerc Tref Cynorthwyol (Prestatyn)

·         Tina Jones – Cynghorydd Tref Prestatyn a Sir Ddinbych

·         Paul Penlington – Cynghorydd Tref Prestatyn a Sir Ddinbych

·         Peter Duffy – Cynghorydd Tref Prestatyn

·         Rhingyll yr Heddlu Mark Jones - Heddlu Gogledd Cymru

·         Gerry Frobisher – Cynghorydd Tref Prestatyn

·         Andrea Tomlin – Cynghorydd Tref Prestatyn

·         Linda Muraca  – Cynghorydd Tref Prestatyn

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd o ran y sylwadau gan dystion nad oeddent yn bresennol:

·         Ni fyddai datganiad y Cynghorydd Poller yn cael ei ystyried a

·         Byddai datganiad y Cynghorydd Sandiland yn cael ei ystyried ond gyda llai o bwysau iddo.

 

Ffeithiau sy’n destun dadl.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ffeithiau sy’n destun dadl y PSOW (tudalen 17) a gofyn a oedd y rhain yn parhau i fod yn destun dadl neu a oes angen unrhyw ddiwygiad yn dilyn y dystiolaeth a gafwyd.

 

Yn dilyn trafodaeth cytunwyd y dylid gollwng y ffaith gyntaf o ran ymddygiad ymosodol a bygythiol ac y dylid diwygio geiriad y tair ffaith arall fel a ganlyn:

 

·         A oedd y Cynghorydd Duffy yn arddangos diffyg parch a diffyg ystyriaeth i unrhyw un neu'r ddau swyddog heddlu yn y cyfarfod ar 2 Tachwedd 2016?

·         A wnaeth y Cynghorydd Duffy gyfeirio at y Cynghorydd Penlington fel "f***ing prick" neu "prick" cyn dechrau cyfarfod 11 Mai 2017?

·         A wnaeth y Cynghorydd Duffy gyfeirio at y Cynghorydd Penlington fel “fool” neu “idiot” yn ystod cyfarfod 11 Mai 2017?

Gwahoddwyd y ddau barti i gyflwyno sylwadau ar y ffeithiau sy’n destun dadl o’r dystiolaeth sydd o’u blaenau.

Cyflwynodd Mr Owens bryderon o ran cyflwyniad rhannol e-bost gan Ringyll yr Heddlu Mark Jones. Roedd copi o’r e-bost gwreiddiol llawn ym mhapurau Mrs.Ginwalla a rhannodd gopi gyda’r Cynghorydd Duffy, Mr Owens a’r Pwyllgor.

Aeth y Pwyllgor Safonau i ystyried y cyflwyniadau, gan ofyn i’r Swyddog Monitro ymuno â nhw ar gyfer rhan o’r drafodaeth i gynghori ar faterion gweithdrefnol.

 

Penderfyniad a fu diffyg cydymffurfiaeth gyda'r Cod Ymddygiad.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth – llafar ac ysgrifenedig, penderfynodd y Pwyllgor Safonau’n unfrydol bod y Cynghorydd Duffy yn ôl pob tebyg:

 

      I.        Wedi arddangos diffyg parch a diffyg ystyriaeth i unrhyw un neu'r ddau swyddog heddlu yn y cyfarfod ar 2 Tachwedd 2016.

    II.        Wedi cyfeirio at y Cynghorydd Penlington fel “prick” cyn cyfarfod 11 Mai 2017.

   III.        Wedi cyfeirio at y Cynghorydd Penlington fel “fool” neu “idiot” yn ystod cyfarfod 11 Mai 2017.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau eiriolydd am yr arddull o gyflwyno sylwadau a gofyn iddynt gyflwyno sylwadau a oedd y gweithredoedd yn ddigon i dorri Cod Ymddygiad Cyngor Tref Prestatyn. Cafwyd trafodaeth ynghylch:

·         Para 5 – Mae'n rhaid i Aelodau.... ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill a

·         Para 6 – Ni chaiff Aelodau... ymddwyn mewn modd y gellir ei ystyried fel dwyn anfri ar aelod neu’r awdurdod.

 

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod y Cynghorydd Duffy yn rhoi’r argraff yn y cyfarfodydd ei fod yn gweithredu fel Cynghorydd ac felly roedd yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

 

Canfu'r Pwyllgor Safonau, mewn perthynas â’r ffeithiau, bod y Cynghorydd Duffy wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill ac wedi ymddwyn mewn modd a allai ddwyn anfri ar aelod neu'r awdurdod.

 

 

 

 

Penderfyniad ar gamau gweithredu i’w cymryd (os oes rhai)

 

Gwahoddwyd y ddau barti i gyflwyno sylwadau o ran cosbau. Roedd y cosbau posibl yn cynnwys:

 

·         dim camau pellach o ran methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

·         y dylid ceryddu’r Aelod; neu

·         y dylid gwahardd neu wahardd yr Aelod yn rhannol o fod yn Aelod o Gyngor Tref Prestatyn am gyfnod nad yw’n fwy na chwe mis.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Safonau oedd penderfynu a’u cyfeirio at y canllawiau gan Banel Dyfarnu Cymru.

 

Yn dilyn trafodaethau, cyhoeddodd y Cadeirydd mai penderfyniad unfrydol y Pwyllgor Safonau oedd bod y Cynghorydd Duffy wedi torri Cod Ymddygiad Cyngor Tref Prestatyn drwy:

 

·         Para 5 – beidio â dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill a

·         Para 6 –ymddwyn mewn modd y gellir ei ystyried fel dwyn anfri ar aelod neu’r awdurdod.

 

Hysbyswyd y partïon y byddent yn derbyn penderfyniad ysgrifenedig llawn yn nodi rhesymau’r Pwyllgor dros gyrraedd eu casgliadau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd Peter Duffy yn cael ei wahardd o’i rôl fel Cynghorydd Tref Prestatyn am gyfnod o bedwar mis.

 

 

 

Dogfennau ategol: