Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 45/2019/0415/OB – TIR YN FFORDD BROOKDALE, Y RHYL

Ystyried cais am Weithred Amrywio er mwyn tynnu Plot 5 o’r Rhwymedigaeth Adran 106 sy’n ymwneud â darpariaeth tai fforddiadwy mewn perthynas â chaniatâd cynllunio 45/2006/0816/PF ar dir yn Ffordd Brookdale, y Rhyl (copi wedi’i atodi).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am Weithred Amrywio er mwyn tynnu Plot 5 o’r Rhwymedigaeth Adran 196 sy’n ymwneud â darpariaeth tai fforddiadwy mewn perthynas â chaniatâd cynllunio 45/2006/0816/PF ar dir yn Ffordd Brookdale, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Fel mater o drefn holodd y Cynghorydd Mark Young pam yr oedd cais blaenorol wedi ei ystyried o dan rhan 2 o’r rhaglen a dywedodd swyddogion bod gwybodaeth fasnachol sensitif wedi cael ei hystyried fel rhan o’r cais penodol hwnnw nad oedd yn berthnasol yn yr achos hwn.

 

Trafodaeth Gyffredinol – gan gydnabod y rhesymu y tu ôl i’r cais mynegodd y Cynghorydd Pete Prendergast (Aelod Lleol) ei siom ynghylch colled posibl tai fforddiadwy yn yr achos hwn, yn arbennig o ystyried faint o amser yr oedd wedi ei gymryd i gwblhau’r datblygiad - datblygiad yr honnir yn awr nad yw’n  ariannol hyfyw.  Roedd yn teimlo y dylid cadw elfen tai fforddiadwy’r datblygiad dan adolygiad agos er mwyn sicrhau y caiff y rhwymedigaethau cynllunio eu diwallu, yn arbennig yng ngoleuni’r angen dybryd am dai cost isel yn yr ardal.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol mynegodd yr aelodau eu pryder ynghylch colled posibl tai fforddiadwy, yn enwedig gan fod yr achos hyfywedd blaenorol wedi ei dderbyn ar gyfer y datblygiad, sydd wedi cwtogi  nifer y tai fforddiadwy yn barod.  Er gwaethaf y gwerthusiad hyfywedd ariannol mae angen tai fforddiadwy o hyd ac roedd peth trafodaeth ynghylch a fyddai o fudd profi'r wybodaeth ariannol ymhellach.  Roedd yr aelodau’n awyddus i sicrhau bod darpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei ddiogelu a bod datblygwyr yn cadw at eu rhwymedigaethau yn y cyswllt hwnnw.  Cadarnhaodd swyddogion bod hwn yn achos anffodus, gan dynnu sylw at y broses ddatblygu hirfaith a'r rhesymau dros hynny, ond yng ngoleuni’r newid mewn amgylchiadau ariannol ac asesiad o’r gwerthusiad hyfywedd ariannol gan Reolwr Prisio ac Ystadau’r Cyngor, ystyriwyd y byddai'n afresymol mynnu cydymffurfiad â'r rhwymedigaethau cynllunio yn yr achos hwn.   Wrth ddod i’w penderfyniad roedd y swyddogion hefyd wedi ystyried y rhagolygon o ran diwallu'r rhwymedigaeth gynllunio ac unrhyw broses gyfreithiol y byddai angen ei gweithredu i fynd ar drywydd hynny a/neu i ymateb pe bai apêl.  Roedd swyddogion wedi ystyried bod yr asesiad ariannol yn ddigonol o ystyried lefel yr arbeniged oedd yn angenrheidiol yn yr achos hyn a  nodwyd y byddai unrhyw graffu annibynnol pellach ar y wybodaeth ariannol yn debygol o achosi costau ychwanegol i’r Adran Gynllunio.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth dywedodd y Cynghorydd Pete Prendergast bod y datblygwr yn yr achos hwn yn cael ei ystyried yn adeiladwr hirsefydlog a llwyddiannus, pa un a fydd colled yn digwydd gyda’r datblygiad penodol hwn ai peidio.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar sail y ddarpariaeth tai fforddiadwy a gan mai'r rhwymedigaeth gynllunio oedd darparu un annedd fforddiadwy, nid oedd yn teimlo ei bod yn afresymol gofyn bod hyn yn cael ei gyflawni.

 

Cynnig – cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Emrys Wynne, bod y cais yn cael ei wrthod ar y sail bod y rhwymedigaeth gynllunio yn dal yn cyflawni pwrpas defnyddiol er gwaethaf y gwerthusiad ariannol a gyflwynwyd.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 3

GWRTHOD - 13

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD caniatâd, yn groes i argymhelliad y swyddogion, ar y sail bod y rhwymedigaeth gynllunio’n dal yn i gyflawni pwrpas defnyddiol o ran darparu tai fforddiadwy er gwaethaf y gwerthusiad ariannol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m.

 

Dogfennau ategol: