Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 45/2019/0156/PF – 64 FFORDD BRIGHTON, Y RHYL
Ystyried cais am
newid defnydd ac addasiadau i gyn swyddfeydd i ffurfio ysbyty pwrpasol 61
gwely, 6 ward yn 64 Ffordd Brighton, y Rhyl (copi wedi’i atodi).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i newid defnydd a gwneud
addasiadau i gyn-swyddfeydd i ffurfio ysbyty pwrpasol 61 gwely, 6 ward yn 64
Ffordd Brighton, y Rhyl (copi ynghlwm).
Siaradwr Cyhoeddus –
Dadleuodd Mr. J. Horden (asiant) (O blaid) –
yn erbyn y sail dros wrthod oherwydd nad oes galw yn y Rhyl am adeiladau
swyddfa mawr, a fawr ddim gobaith o werthu neu osod y safle yn yr achos
hwn, a phe bai'r cais yn cael ei ganiatáu byddai'r defnydd da'n cael ei wneud o'r
adeilad a chyflogaeth yn cael ei greu.
Trafodaeth Gyffredinol - siaradodd y Cynghorydd Barry Mellor (Aelod
Lleol) yn erbyn y cais gan ddadlau na fyddai’r fath gyfleuster yn briodol ar
gyfer y lleoliad arfaethedig ac amlygodd yr effaith ar breswylwyr cyfagos o ran
aflonyddwch ac ofn troseddau a chyfeiriodd at gyflwyniad deiseb sy’n dangos
cryfder gwrthwynebiadau’r cyhoedd i’r cais. Cyfeiriwyd at yr achos busnes a’r model gwasanaeth
arfaethedig a chodwyd pryderon am y galw am wasanaethau a hyfywedd y cynigion
ynghyd â’r effaith dilynol ar gyfleusterau’r bwrdd iechyd lleol a’r
gwasanaethau cysylltiedig, a’r ffaith bod Heddlu Gogledd Cymru wedi codi pryderon
am y trefniadau diogelwch. Yn olaf, codwyd pryderon am golled tir cyflogaeth pe bai’r cais yn cael ei
ganiatáu.
Yn ystod y drafodaeth ystyriodd yr aelodau
rinweddau’r cais a'r meini prawf polisi, a chafwyd trafodaeth bellach yn
canolbwyntio ar y profion polisi perthnasol i Bolisi Datblygu Lleol PSE 3 ac
egwyddor y datblygiad yr oedd swyddogion wedi seilio eu hargymhelliad i wrthod
arno. Casgliad y Swyddogion oedd nad oedd y profion wedi eu diwallu gan nad oedd
unrhyw wir dystiolaeth bod safleoedd eraill wedi cael eu hystyried ar gyfer y
datblygiad na bod proses farchnata wedi ei dilyn i ddangos na allai’r safle
arfaethedig bellach ddarparu lle cyflogaeth, ac ni ddylid felly ei ildio’n
barhaol at ddefnydd arall. Ystyriwyd y byddai colli’r defnydd o’r swyddfeydd yn tarfu ar allu’r ardal
i ddiwallu amrywiaeth o anghenion cyflogaeth lleol. Cyfeiriwyd hefyd at Nodyn Cyngor Technegol
23 cysylltiedig â datblygiad economaidd ac roedd Swyddogion Datblygiad Economaidd
y Cyngor wedi cynghori ynghylch diffyg eiddo o’r maint hwnnw y gellid ei
ddefnyddio ar gyfer swyddfeydd – er nad oes defnydd dynodedig ar hyn o bryd nid
yw hynny’n golygu mai dyma fydd yr achos yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at yr
angen tebygol yn y dyfodol am dir cyflogaeth ac adeiladau cysylltiedig â phrosiectau’n deillio o Fargen Twf
Economaidd Gogledd Cymru.
Trafododd yr aelodau hefyd ystyriaethau cynllunio eraill posibl
cysylltiedig ag ofn troseddau fel sail dros wrthod gan na chafwyd tystiolaeth glir gan yr heddlu
o ran y pryderon a godwyd ganddynt a phe bai caniatâd yn cael ei roi efallai y
byddai'n bosibl rheoli'r pryderon hynny drwy bennu amodau. Cadarnhaodd yr aelodau hefyd y diffyg
tystiolaeth a gafwyd ynglŷn ag unrhyw effaith arwyddocaol ar isadeiledd y
gymuned a gofynion polisi yn y cyswllt hwnnw felly nid ystyriwyd bod yr effaith
ar yr isadeiledd yn sail briodol dros wrthod yn yr achos hwn. Am y rhesymau hyn roedd y swyddogion wedi
gwneud argymhelliad clir i wrthod ar y sail nad oedd y cynnig yn cydymffurfio â
Pholisi PSE 3.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at y diffyg
capasiti yn y gwasanaeth iechyd gan ddweud fod y safle wedi bod ar werth ers
dros ddwy flynedd. Roedd wedi ystyried y cyfle i greu nifer o swyddi a dod ag adeilad sy'n
dirywio yn ȏl
i ddefnydd yn erbyn y posibilrwydd y gallai'r safle barhau i ddirywio a pharau
i fod yn ddiddefnydd am flynyddoedd i ddod os gwrthodir y cais. Gan gydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn â'r datblygiad, gofynnodd am ragor o
eglurder ar ddosbarth y ddarpariaeth y gwnaed cais amdano; a yw Cyngor Tref y
Rhyl o blaid neu yn erbyn y datblygiad a faint o breswylwyr oedd wedi codi
pryderon am droseddu posibl.
Ymatebodd y Swyddogion fel a ganlyn –
·
eglurwyd
y gwahanol gategorïau o ddefnydd o fewn y
cais ar ôl cadarnhau’r categori defnydd C2 a oedd yn cynnwys cartrefi
gofal a chartrefi ymadferol yn
hytrach na chategori C2A sy’n ymwneud â sefydliadau preswyl diogel.
·
yn eu
hymateb roedd Cyngor Tref y Rhyl wedi codi pryderon amlwg ond nid oeddent wedi
datgan a oeddent yn dymuno gwrthwynebu’r cais.
·
cyfeiriwyd
at dudalen 183 yr adroddiad yn rhoi manylion y gwrthwynebiadau a gafwyd gan
breswylwyr gyda deg llythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn.
Roedd deiseb yn cynnwys 128 o lofnodwyr hefyd wedi
ei chyfeirio ati o fewn y papurau atodol hwyr (taflenni glas).
·
cadarnhawyd
y byddai angen i’r aelodau ystyried pa bwysau i’w roi ar y posibilrwydd o weld
adeilad gwag sy'n dadfeilio yn dod yn ôl i ddefnydd gan greu 150 o swyddi fel y
nodwyd yn yr adroddiad, yn erbyn y
materion eraill a godwyd mewn perthynas â Pholisi PSE 3 a chyngor a
gafwyd gan Swyddogion Datblygiad Economaidd y Cyngor.
Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Alan James
argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Brian Jones.
PLEIDLAIS:
CANIATÂU - 1
GWRTHOD - 15
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr
adroddiad.
Ar y pwynt hwn (10.45am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- ITEM 10 - 64 BRIGHTON ROAD, RHYL, Eitem 7. PDF 78 KB
- ITEM 10 - 64 BRIGHTON ROAD, RHYL - APPENDIX, Eitem 7. PDF 2 MB