Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 21/2019/0197/PF - TAN Y GRAIG, MAESHAFN, YR WYDDGRUG
Ystyried cais i
godi annedd newydd, garej ar wahân a gwaith cysylltiedig yn Nhan y Graig,
Maeshafn, Yr Wyddgrug (copi wedi’i atodi).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i godi annedd newydd, garej ar wahân a
gwaith cysylltiedig yn Nhan y Graig, Maeshafn, Yr Wyddgrug.
Siaradwr Cyhoeddus –
Ms. B. Smith (o blaid) –
eglurodd Ms Smith gysylltiadau ei theulu â'r ardal a'r rheswm y tu ôl i'r cais sef bodloni anghenion teuluol ac i aros yn yr ardal ar yr un
pryd a darparu annedd hunangynhaliol addas ar gyfer y dyfodol sydd yn
economaidd ymarferol.
Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Martyn Holland
(Aelod Lleol) o blaid y cais a fyddai’n galluogi teulu ifanc i aros yn yr ardal
a gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gymuned ffyniannus. Byddai’r eiddo newydd yn cwrdd a’r holl
heriau amgylcheddol ac yn cyd-fynd â’r mathau o eiddo sydd yn y cyffiniau
agos. Wrth gyfeirio at y polisïau a’r arweiniad
perthnasol dadleuodd y Cynghorydd Holland bod y profion perthnasol i Bolisi RD4
y Cynllun Datblygu Lleol wedi eu pasio oherwydd:
(i)
bod gan yr adeilad hawl defnydd cyfreithiol fel
annedd er nad oes unrhyw un wedi byw yno yn y blynyddoedd diweddar a bod yr
adeiladau allanol wedi dirywio.
(ii)
nid yw’r adeilad yn rhestredig ac mae amryw o
ychwanegiadau wedi eu gwneud nad ydynt wedi ychwanegu fawr ddim at gymeriad yr
ardal – nid oedd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys unrhyw
wrthwynebiad i’r cais ar yr amod y
gwneir cofnod o’r adeilad cyn ei ddymchwel.
(iii)
mae’n annedd yn simsan ac yn aneffeithlon a
soniwyd am annigonolrwydd yr adeilad presennol a’r gwaith sylweddol a fyddai’n
angenrheidiol yn ôl yr adroddiad ar yr
archwiliad strwythurol sy’n golygu nad yw’r prosiect yn ariannol hyfyw.
Wrth gloi ychwanegodd y Cynghorydd Holland bod
Cyngor Cymuned Llanferres a Chynghorwyr Cymuned Maeshafn yn cefnogi’r cais ac
mai pryderon pennaf y cymdogion agosaf yw cynhaliaeth y llwybr troed cyhoeddus
ac mae’r ymgeiswyr wedi cytuno i roi sylw i hyn. [Nododd yr adroddiad y disgwylir ymateb i’r
ymgynghoriad gan Gyngor Cymuned Llanferres o hyd].
Yn ystod y drafodaeth ystyriodd yr aelodau
rinweddau’r cais a dehongliadau’r profion polisi a gyflwynwyd gan y swyddogion,
yr aelod lleol a’r siaradwr cyhoeddus. Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi’i berswadio y
gwnaed achos cryf dros ganiatáu’r cais, yn enwedig o ystyried y cyfle i adeiladu
eiddo addas i’r pwrpas newydd, wedi’i osod yn ôl oddi wrth y ffordd heb unrhyw
achos cryf wedi’i gyflwyno o ran pwysigrwydd hanesyddol yr adeilad presennol. Siaradodd y Cynghorwyr Merfyn Parry a
Julian Thompson-Hill hefyd o blaid y cais gan ystyried na fydd unrhyw golledion
gormodol i’r amgylchedd lleol gan y bydd yr adeilad yn cyd-fynd â natur gymysg
gweddill yr eiddo yn y cyffiniau.
Cyfeiriodd swyddogion at y profion Polisi RD4 sy’n
berthnasol yn yr achos hwn a chadarnhaodd bod i’r adeilad hawliau defnydd
cyfreithiol fel annedd yn uned ag RD4(i). Wedi ystyried safbwyntiau Cyfoeth Naturiol Cymru a
Phwyllgor yr AHNE roedd y swyddogion yn teimlo bod yr annedd presennol yn
gwneud cyfraniad pwysig i gymeriad yr ardal leol ac nad oedd felly'n
cydymffurfio ag RD4(ii) ac yn
cydymffurfio dim ond yn rhannol ag RD4(iii) (mae’r adeilad yn strwythurol
gadarn er ei fod mewn cyflwr gwael ac mae potensial i’w atgyweirio). Er y parchu rhinweddau’r ddadl a gyflwynwyd,
yng ngoleuni ymrwymiad i Cyngor i ddiogelu adeiladau o gymeriad neu rinwedd yng
nghefn gwlad, roedd y swyddogion wedi argymell y dylid gwrthod y cais.
Cynnig - Roedd Cynghorydd Emrys Wynne
yn teimlo y diwallwyd y prawf polisi perthnasol i Bolisi RD4 a bod y cynigion
yn dderbyniol yng ngoleuni'r holl bolisïau ac arweiniad perthnasol. Ar y sail hwnnw cynigiodd, a chafodd ei
eilio gan y Cynghorydd Merfyn Parry, y dylid caniatáu’r cais a bod y swyddogion
yn ymgysylltu â'r
aelod lleol am amodau cynllunio sydd i’w rhoi ynghlwm â’r caniatâd.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU – 12
GWRTHOD – 2
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais,
yn groes i argymhellion y swyddogion, ar y sail bod y cynigion yn dderbyniol ar
ôl ystyried yr holl bolisïau ac arweiniad perthnasol, a bod y swyddogion yn
ymgysylltu â’r aelod lleol o ran yr amodau cynllunio sydd i'w rhoi ynghlwm wrth
y caniatâd.
Dogfennau ategol:
- ITEM 6 - TAN Y CRAIG, MAESHAFN, MOLD, Eitem 6. PDF 95 KB
- ITEM 6 - TAN Y CRAIG, MAESHAFN, MOLD - APPENDIX, Eitem 6. PDF 935 KB