Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHEOLAETH DIM GALW DIWAHODDIAD YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Reolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio a chefnogi cynigion ar gyfer cyflwyno ‘Parthau Dim Galw Diwahoddiad’ yn y sir yn y dyfodol

 

11.30am – 12pm

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Diogelach yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn amlinellu sut yr oedd y Parthau Dim Galw Diwahoddiad yn y sir yn cael eu gweinyddu ar hyn o bryd.   Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio safbwyntiau ar gynigion newydd ar gyfer y broses o gyflwyno parthau o'r fath yn y dyfodol.

 

 Yn ystod ei gyflwyniad pwysleisiodd Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd nad oedd yr Awdurdod yn cynnig gwaredu ‘parthau dim galw diwahoddiad' na gwahardd dynodi 'parthau dim galw diwahoddiad' newydd, ond oherwydd y pwysau a achoswyd oherwydd bod llai o adnoddau ariannol nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru'r capasiti i gynnal ymgysylltiad ac ymgynghoriad cyhoeddus i sefydlu parthau newydd neu i gefnogi ail-rymuso parthau sefydledig.  Byddent, fodd  bynnag, yn parhau i ymateb i gwynion mewn perthynas â galw diwahoddiad.   Gyda'r nod o hwyluso parhad y parthau presennol ac er mwyn galluogi sefydlu parthau newydd roedd y Cyngor yn cynnig y byddai disgwyl i breswylwyr / cymunedau sy’n dymuno sefydlu ‘parthau dim galw diwahoddiad’ yn y dyfodol yn trefnu’r ymgysylltiad cyhoeddus a’r ymarfer ymgynghori eu hunain ac y byddai'n rhaid i'r unigolion neu'r grwpiau cymunedol sy'n trefnu'r cais dalu am gostau yr arwyddion ac ati.  Byddai’r Cyngor, fodd bynnag, yn eu cynorthwyo gyda'r broses ac yn darparu pecyn gwaith hunangymorth, a fyddai’n cynnwys dogfennau templed ar gyfer ymgynghori, pleidleisio, lansio’r parth a gwerthuso ei effeithlonrwydd.   Byddai’r Cyngor hefyd yn fodlon nodi busnesau lleol a allai fod yn fodlon cynorthwyo gyda chostau’r arwyddion ac ati, tra bo Heddlu Gogledd Cymru yn barod i barhau i gyflenwi sticeri ffenestr, codi ymwybyddiaeth mewn digwyddiadau cymunedol ac ar gyfryngau cymdeithasol.    Rhwng 2007 a 2016 sefydlwyd oddeutu 355 'parth dim galw diwahoddiad' yn Sir Ddinbych.   Roedd yr holl barthau wedi’u sefydlu ar gais y preswylwyr a / neu’r Heddlu.   Yn 2017 roedd adolygiad rhannol o effeithiolrwydd y parthau wedi’i gyflawni, a'r canlyniad oedd bod rhai preswylwyr nad oeddent yn sylweddoli eu bod yn byw mewn 'parth dim galw diwahoddiad'.   Fodd bynnag, roedd mwyafrif y rhai a holwyd yn credu bod ymyraethau fel 'parthau dim galw diwahoddiad' yn ddefnyddiol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, bu i'r Aelod Arweiniol, Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd, a Swyddog Gwarchod y Cyhoedd (Safonau Masnach):

·         gynghori bod y prisiau a ddarparwyd yn yr adroddiad ar gyfer arwyddion allanol yn rhoi gwybod i bobl eu bod mewn 'parth dim galw diwahoddiad' yn costio oddeutu £200 fesul arwydd.  

Dyma’r pris yr oedd y Cyngor wedi’i dalu i’r Siop Arwyddion yn y Cyngor, cyn iddo gau.   Roedd wedi ennill y contract ar y pryd yn dilyn proses dendro;

·         cadarnhau bod y Cyngor yn fodlon ymgysylltu ag unrhyw asiantaeth neu sefydliadau oedd eisiau cefnogi gwaith yn ymwneud â ‘pharthau dim galw diwahoddiad' h.y.   OWL ( a weithredir gan Heddlu Gogledd Cymru);

·         cynghori nad oedd gan y Cyngor unrhyw gontract ffurfiol na chytundeb lefel gwasanaeth (SLA) mewn perthynas â ‘Pharth Dim Galw Diwahoddiad';

·         cadarnhau bod masnachwyr yn agored i erlyniad pe baent yn ymweld heb wahoddiad ag eiddo mewn ‘parth dim galw diwahoddiad’.  Fodd bynnag, roedd Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor yn ffafrio cynnal gwaith atal gan gynnwys dosbarthu taflenni i bob cartref yn yr ardal gyda'r nod o ddiogelu preswylwyr, yn enwedig preswylwyr diamddiffyn, rhag ymwelwyr diwahoddiad a thwyllwyr;

·         cynghori y byddai unigolion a grwpiau sydd eisiau sefydlu ‘parth dim galw diwahoddiad’ yn meddu ar fuddiant breintiedig mewn sefydlu’r parth.  

Ar ôl cymryd camau i sefydlu parth byddai swyddogion Safonau Masnach yn gwirio y cymerwyd yr holl fesurau gofynnol er mwyn ei sefydlu’r ffurfiol o fewn chwe mis o’r cais gwreiddiol;

·         cadarnhau mai Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor fyddai’n gyfrifol am gamau gorfodi yn erbyn unigolion neu gwmnïau sy’n anwybyddu cyfyngiadau’r ‘parth dim galw diwahoddiad’, gallai hyn gynnwys erlyn y troseddwr (troseddwyr).  

Ond, prin iawn oedd yr achosion lle bo preswylwyr eisiau erlyn y ‘galwr diwahoddiad’ oni bai y cyflawnwyd trosedd ddifrifol, fel arfer roedd gair o rybudd gan swyddog Safonau Masnach yn ddigon i atal ymweliadau diwahoddiad;

·         cynghori bod mwyafrif gwaith Safonau Masnach yn ymwneud â chwynion ‘galw diwahoddiad’ yn cynnwys casglu tystiolaeth a’i rannu gydag awdurdodau eraill.   Roedd y Cyngor a Heddlu Gogledd Cymru wedi llunio cytundeb rhannu data i hwyluso rhannu gwybodaeth a dadansoddiad.   Roedd hyn yn cynorthwyo’r sefydliadau i dargedu adnoddau i ddelio â chwynion yn effeithiol; a

·         chytuno y byddai ‘parth dim galw diwahoddiad’ ar draws y sir yn fuddiol i’r  holl breswylwyr, yn enwedig y rhai diamddiffyn, pe bai adnoddau ar gael i gefnogi’r cysyniad.

 

Teimla’r aelodau bod y costau a ddyfynnwyd ar gyfer arwyddion allanol yn ormodol a gofyn i’r swyddogion geisio dyfynbrisiau gan wneuthurwyr arwyddion o ran costau presennol arwyddion.   Roeddent hefyd yn gofyn i’r swyddogion sicrhau bod yr holl arwyddion a sticeri yn cydymffurfio â Pholisi’r Gymraeg yn Sir Ddinbych ac yn cael eu cynhyrchu o ddeunyddiau sy'n ecogyfeillgar a bod modd eu hailgylchu.

 

Yn ogystal â hyn, gofynnwyd bod naill ai Briffio’r Cyngor neu ddigwyddiad hyfforddi’n cael ei drefnu ar gyfer yr holl gynghorwyr sir ar Raglen Atal Sgamiau.

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr arsylwadau uchod a darparu costau arwyddion allanol a sticeri sy’n ecogyfeillgar, i gefnogi dull arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer gweinyddu cyflwyno ‘parthau dim galw diwahoddiad' a'u gweithrediad.

 

 

Dogfennau ategol: