Eitem ar yr agenda
CYNLLUN CYFLAWNI DYLETSWYDD BIOAMRYWIAETH
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Ecoleg (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor archwilio a
gwneud argymhellion mewn perthynas â Chynllun Cyflawni’r Ddyletswydd
Bioamrywiaeth cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ei ardystio a’i fabwysiadu.
10.45am – 11.15am
Cofnodion:
Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a Chymunedau, cyflwynodd
Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd adroddiad y Swyddog Ecoleg a Chynllun
Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth drafft ac Asesiad o Effaith ar Les y Cyngor
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Pwyllgor. Eglurodd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor i geisio safbwyntiau’r aelodau ar y Cynllun a’i gynnwys cyn ceisio
cymeradwyaeth yr Aelod Arweiniol ar gyfer y cynllun drwy'r broses o wneud
penderfyniadau dirprwyol.
Eglurodd
Pennaeth y Gwasanaeth bod Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud
yn ofynnol bod pob awdurdod lleol yn ymgorffori'r ystyriaeth o fioamrywiaeth ac
ecosystemau yn eu hystyriaethau cynnar a chynllunio busnes ac i gyhoeddi
cynllun o ran sut y maent yn bwriadu cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo
gwydnwch ecosystem. Eglurodd i’r
Pwyllgor bod llunio’r Cynllun, nodi camau allweddol a dangosyddion perfformiad,
wedi cynnwys ymgysylltiad ac ymgynghori helaeth gyda swyddogion ar draws holl
wasanaethau’r Cyngor, oherwydd os yw’r Cynllun am gael ei gyflawni mae angen
i'r holl wasanaethau ymgysylltu a bod yn barod i gyflawni eu rhan nhw ohono. Roedd y Cynllun ei hun
ac adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu ynddo angen eu cyhoeddi erbyn diwedd
2019.
Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i Bennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd
a'r Swyddog Ecoleg:
·
gadarnhau bod cost darparu’r
Cynllun a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn seiliedig ar gyllideb bresennol y
Gwasanaeth, gan wneud newidiadau bychan i arferion gwaith ac ati ac argaeledd
cyllid grant allanol yr oedd gan y Gwasanaeth gofnod da yn y gorffennol o’i
sicrhau.
Fodd bynnag, o ganlyniad i Rybudd o Gynnig i'r Cyngor yn
ddiweddar ar Argyfwng Newid Hinsawdd, yn dibynnu ar argymhellion y gweithgor
arfaethedig, efallai y bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer gwaith
bioamrywiaeth yn y dyfodol ac efallai y bydd angen ailddrafftio'r Cynllun;
·
Cadarnhau bod y Gwasanaeth
yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (NRW) ar nifer o brosiectau,
drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ac Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE);
·
cynghori bod y Gwasanaeth
yn defnyddio gwirfoddolwyr ar gyfer amryw o brosiectau, gan gynnwys monitro
nythfeydd y Fôr-Wennol Fechan
Roedd Prifysgol Bangor hefyd yn ymwneud â phrosiect y Fôr-Wennol fechan ac
yn astudio ymddygiad y nythfeydd;
·
cynghori bod amryw o wasanaethau'r
Cyngor yn cefnogi a chyfrannu tuag at ddarpariaeth mentrau bioamrywiaeth fel
rhan o'u diwrnodau meithrin tîm yn y Gwasanaethau.
·
cadarnhau bod gwelliannau
ecolegol ar gyfer ceisiadau cynllunio wedi newid ac yn awr roedd y Gwasanaeth
yn cyfrannu'n rheolaidd at y gwaith o ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
ac yn darparu arsylwadau ecolegol ar geisiadau cynllunio unigol;
·
egluro bod y gwylanod yn
rywogaeth a warchodir a bod gan y Cyngor gynllun gweithredu ar wahân o ran sut
i reoli gwylanod a lleihau'r niwsans y maent yn ei achosi. Roedd Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi archwilio effeithiolrwydd y cynllun
hwn yn eu cyfarfod yr wythnos flaenorol;
·
egluro mai polisi'r Cyngor
o ran cynnal a chadw ymylon glaswellt ar briffyrdd, ym marn y Cyngor, oedd y
gorau yng Nghymru o ran hyrwyddo a chefnogi bioamrywiaeth;
·
cyfeirio at nifer y
prosiectau bioamrywiaeth dolydd blodau gwyllt yr oedd y Cyngor yn cyfrannu
atynt a sut yr oeddent yn canfod hadau a phlanhigion cynhenid ar gyfer y dolydd
hyn mewn ymgais i sicrhau eu cynaliadwyedd;
·
cynghori bod gwaith ar y
gweill gyda Gwasanaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai’r Cyngor i lunio cynlluniau
bioamrywiaeth ar gyfer ardaloedd gwyrdd o fewn ystadau tai’r Cyngor;
·
cadarnhau y gwnaed pob
ymdrech gyda chynghorau dinas, tref a chymuned yn y sir i hyrwyddo nodau
bioamrywiaeth y Cyngor a'r rhesymau sy'n tanategu eu polisïau cynnal a chadw
priffyrdd a glaswellt.
Fodd bynnag, roedd rhai grwpiau cymunedol wedi dangos
rhywfaint o wrthwynebiad i ymagwedd y Cyngor;
·
Egluro eu bod yn credu bod
y Cyngor wedi cael y cydbwysedd cywir mewn perthynas â chynnal a chadw ymylon
glaswellt ar briffyrdd rhwng diogelu bioamrywiaeth a diogelwch defnyddwyr
ffyrdd.
Roedd iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth. Cynghorwyd
yr Aelodau pe bai ganddynt unrhyw bryderon iechyd a diogelwch mewn perthynas â
pholisi cynnal a chadw ymylon priffyrdd dylid eu hadrodd i Ganolfan
Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor er mwyn eu cofrestru ar system Rheoli Cysylltiadau
Cwsmeriaid (CRM) a’u harchwilio’n unigol;.
·
cadarnhau ei bod yn
ofynnol i NRW gyhoeddi a darparu Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth
ynghyd ag Asiantaeth Cefnffyrdd LlC a oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw ymylon
glaswellt ar gefnffyrdd y sir;
·
cynghori bod Gwasanaethau
Cefn Gwlad y Cyngor yn ymdrin â gwaredu planhigion ymledol nad ydynt yn
gynhenid, tra byddai rhywogaethau cynhenid fel llysiau'r gingroen yn cael eu
trin gan Strydwedd a staff neu gontractwyr eraill Priffyrdd a’r Amgylchedd yn
cynnal gwaith ar ran y Cyngor; a
·
chytuno gyda’r aelodau bod
angen cynnal trafodaeth yn genedlaethol o ran casglu sbwriel ar gefnffyrdd
Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:
PENDERFYNWYD:
(i)
bod
y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau ar gyfer y Cynllun
Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth;
(ii)
yn
amodol ar yr arsylwadau uchod i argymell i’r Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a
Chymunedau, o dan y pwerau dirprwyol sydd ganddo, y dylid cymeradwyo Cynllun
Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth;
(iii)
bod
cyflwyniad yn cael ei ddarparu mewn sesiwn Friffio’r Cyngor yn y dyfodol ar
ddyletswyddau’r Awdurdod mewn perthynas â bioamrywiaeth a lleihau carbon a’r
cynnydd a wnaed i ddiwallu’r dyletswyddau hyn; ac
(iv)
argymell
i Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a Chymunedau y dylai ysgrifennu at Asiantaeth
Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru yn ceisio mabwysiadu ymagwedd debyg i
fioamrywiaeth i un Cyngor Sir Ddinbych wrth ymgymryd â thoriadau cynnal a chadw
ymylon priffyrdd ac i waredu sbwriel o ymylon
Dogfennau ategol:
- Biodiversity Plan Report 110719 - Cym, Eitem 7. PDF 273 KB
- Biodiversity Plan Report 110719 - App 1, Eitem 7. PDF 2 MB
- Biodiversity Plan Report 110719 - App 2, Eitem 7. PDF 206 KB