Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIOGELU A DIWALLU ANGHENION POBL DDIGARTREF

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr a’r Rheolwr Gwasanaeth:  Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi ynghlwm) yn gofyn am farn y Pwyllgor a chefnogaeth i ddull corfforaethol y Cyngor tuag at atal digartrefedd

 

10.10am – 10.45am

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gyda'r nod o amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda’r dull corfforaethol newydd o ddelio gyda digartrefedd yn y sir.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys Cynllun Gweithredu Digartrefedd Corfforaethol drafft ynghyd â manylion ailstrwythuro’r Tîm Atal Digartrefedd a oedd yn rhan o Wasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor.   Hefyd roedd yr adroddiad yn nodi dull corfforaethol y Cyngor ar gyfer atal digartrefedd, darparu llety argyfwng / dros dro i unigolion a theuluoedd sy'n rhoi gwybod eu bod yn ddigartref, a sut mae'r Cyngor yn gweithio i symud y rhai mewn llety argyfwng / dros dro i ddatrysiadau tai cynaliadwy a hirdymor.   Yn ystod ei chyflwyniad, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod digartrefedd yn broblem gynyddol ar draws Cymru ac o ganlyniad roedd Llywodraeth Cymru (LlC), yn debyg i Sir Ddinbych ac awdurdodau lleol eraill, wedi nodi y dylid mynd i'r afael â'r mater fel blaenoriaeth.  

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol mai rhan o ddatrysiad Sir Ddinbych er mwyn mynd i’r afael â materion digartrefedd yn y sir oedd sefydlu partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i dreialu prosiect peilot ar draws y ddwy sir o’r enw Tai yn Gyntaf.   Roedd manylion y prosiect yn Atodiad 6 yr adroddiad.   Roedd cyllid grant o gronfa Arloesi Tai yn Gyntaf LlC, cyfanswm o £330mil, wedi’i ddyfarnu i’r prosiect peilot a oedd wedi arwain at sefydlu tîm newydd i gynorthwyo pobl ddigartref sydd ag anghenion uchel a chymhleth.   Nod y Tîm oedd sicrhau bod pobl yn setlo cyn gynted â phosibl yn eu cartrefi eu hunain ac yn derbyn cefnogaeth berthnasol.   Byddai cefnogaeth ar gael iddynt cyn belled ag y bo ei angen arnynt er mwyn iddynt allu cynnal eu tenantiaeth.   Roedd tystiolaeth a gasglwyd ar draws y DU a rhannau eraill o’r byd yn nodi bod gan y math hwn o ddull arloesol y potensial i ddarparu dull cynaliadwy allan o ddigartrefedd, gwella iechyd a lles a galluogi integreiddio cymdeithasol.   Disgwylir i Dai yn Gyntaf Conwy a Sir Ddinbych groesawu eu tenantiaid cyntaf cyn diwedd Gorffennaf 2019.  

 

Roedd penderfyniad Sir Ddinbych i fabwysiadu dull corfforaethol o fynd i’r afael â digartrefedd a phenodi Cyfarwyddwr Corfforaethol i arwain y gwaith yn tanlinellu ein hymrwymiad i leihau nifer yr unigolion a'r teuluoedd sy'n nodi eu bod yn ddigartref yn y sir.   Yn y dyfodol byddai darpariaeth Cynllun Gweithredu Strategaeth Digartrefedd yn cael ei arwain gan Grŵp Strategaeth Tai.   Canolbwynt y Cynllun Gweithredu oedd ymyrraeth gynnar ac atal.  Roedd cyflwyno Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) wedi cynorthwyo’r awdurdod a’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL) i flaenoriaethu ymgeiswyr ar gyfer tai cymdeithasol, ond, roedd mwyafrif yr aelwydydd digartref ym Mand 2 ar hyn o bryd ac nid oeddent yn y band blaenoriaeth uchel.   Roedd yr awdurdod lleol a’r RSLau yn y broses o gydlynu adeiladu a phrynu oddeutu 370 o unedau tai fforddiadwy / cymdeithasol. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Brian Blakeley i’r Pwyllgor, yn ei gapasiti fel Hyrwyddwr Digartrefedd y Cyngor, roedd wedi gweld gwaith rhagorol y Tîm Digartrefedd mewn amgylchiadau anodd iawn ar adegau gyda’i lygaid ei hun, ac roedd yn hyderus bod y Cyngor yn symud ymlaen yn ei nodau o fynd i’r afael â materion digartrefedd y sir.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Economi a'r Parth Cyhoeddus, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r Prif Reolwr: Gwasanaethau Cynnal i gwestiynau yr Aelodau fel a ganlyn:

·         darparu eglurder o ran pwy oedd yn cael eu cyfrif fel ‘digartref’ – roedd gan Sir Ddinbych nifer cyfyngedig iawn o bobl oedd yn cysgu allan.  

Roedd mwyafrif yr unigolion a’r teuluoedd ‘digartref’ yn: 

Ø  aros gyda ffrindiau dros dro (cysgu ar soffa); 

Ø  tenantiaid gyda landlordiaid sydd eisiau gwerthu’r eiddo y maent yn byw ynddo;

Ø  dioddefwyr cam-drin domestig;

Ø  pobl y mae eu cartrefi ar fin cael eu had-feddiannu am eu bod wedi methu taliadau morgais neu rent; 

Ø  pobl ifanc nad oeddent yn gallu parhau i fyw gartref ond nad oedd ganddynt ddigon o incwm i rentu neu brynu lle eu hunain ac ati.  

Pwysleisiwyd nad yw pob person digartref yn unigolyn diamddiffyn, ond gall fod yn bobl sydd yn wynebu cyfnodau anodd heb unrhyw fai arnynt eu hunain h.y. wedi colli swydd neu'n ddi-waith;

·         cadarnhawyd y gallai pobl o du allan i’r sir gyflwyno eu hunain fel unigolion digartref yn Sir Ddinbych pe baent yn gallu profi bod ganddynt gysylltiad lleol gyda'r ardal;

·         cynghorwyd ynglŷn â’r gofyniad cyfreithiol bod gan awdurdod lleol Strategaeth Digartrefedd wedi’i gyhoeddi fel y nodwyd yn Neddf Tai (Cymru) 2014;

·         pwysleisiwyd pe bai holl wasanaethau’r Cyngor yn cyfrannu at y Strategaeth Digartrefedd ac yn gyfrifol amdano gallai ategu ac atgyfnerthu dull y Cyngor o ganfod datrysiadau cynaliadwy a lleihau pwysau ar wasanaethau eraill.  

Ond byddai rhywfaint o alw am lety brys a thros dro i ddiwallu anghenion byr dymor pobl .   Roedd enwebu Aelod Arweiniol a Chyfarwyddwr Corfforaethol i arwain gwaith y Cyngor mewn perthynas â materion digartrefedd yn sicrhau y gwneir pob ymdrech i ganfod datrysiadau cynaliadwy;

·         Eglurwyd y byddai Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor, a oedd yn ceisio dod â 500 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, yn gymorth i leihau digartrefedd yn y sir.  

Ond, nid oedd pob un o’r 500 eiddo yn cael eu paratoi i’w defnyddio gan deuluoedd / pobl sy’n datgan eu bod yn ddigartref.   Roedd Strategaeth Cartrefi Gwag yn un darn o jig-so enfawr sy'n ceisio cyflawni blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor ynglŷn â thai;

·         Eglurwyd bod y Cyngor yn ceisio dyfeisio datrysiadau i broblemau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, yn enwedig pobl ifanc sengl, wrth geisio canfod tai addas.  

Roedd gwaith ar y gweill gyda phrosiect Sir Ddinbych yn Gweithio a gyda RSLau i archwilio pecynnau posibl a allai gynorthwyo pobl ifanc sengl i dderbyn mynediad at dai addas a sefydlu eu hunain fel deilydd tŷ;

·          darparwyd trosolwg o fenter Tai yn Gyntaf sef canfod cartref yn gyntaf i’r unigolyn neu’r teulu gydag anghenion cymhleth yna darparu cefnogaeth ddwys i'w cynorthwyo i sefydlu eu hunain a datblygu'r sgiliau sy'n ofynnol i gynnal tenantiaeth hirdymor a gwella eu lles o ganlyniad i hynny.  

Er mwyn sefydlu’r fenter roedd yn rhaid i'r ddau gyngor weithio'n agos gyda landlordiaid er mwyn sicrhau bod eiddo addas ar gael i'w osod i denantiaid Tai yn Gyntaf.    Drwy’r Cynnig Landlord, byddai’r cyngor yn derbyn y denantiaeth ar ran yr unigolyn / teulu diamddiffyn ac yn gyfrifol am dalu’r rhent i’r landlord cyn cael eu had-dalu drwy system Budd-daliadau Tai.   Hyd yma roedd 18 eiddo wedi’u sicrhau drwy’r dull hwn a oedd yn rhoi sicrwydd i landlordiaid o ran taliadau rhent.   Os yw’r preswylwyr a gefnogir yn derbyn yr hyder a’r sgiliau a ddisgwylir o ganlyniad i’r gefnogaeth ddwys sy’n cael ei darparu iddynt yna’r nod fyddai bod y Cyngor yn trafod gyda’r landlord i sicrhau y gellir trosglwyddo’r denantiaeth i’r preswylydd yn hirdymor;     

·         Cadarnhawyd y byddai Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd (SHHG) yn cymeradwyo ei gylch gorchwyl yn eu cyfarfod nesaf.  

Nod ei ailsefydlu oedd rhoi mwy o ganolbwynt ar ddarparu’r Strategaeth Tai ac i ymgorffori’r Strategaeth Digartrefedd a Chynllun Gweithredu yn rhan o Gynllun Gweithredu a Strategaeth Tai cyffredinol y Cyngor gyda’r nod o sicrhau dull corfforaethol ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â thai;

·         Cadarnhawyd nad oedd gan y Cyngor gynlluniau ar hyn o bryd i ddelio ag unrhyw ostyngiad mawr mewn cyllid Cefnogi Pobl (SP) a allai ddigwydd o ganlyniad i ailddosbarthiad Grant Cymorth Tai SP gan LlC.   Pe bai’n dod i’r amlwg y byddai’r ailddosbarthiad hwn yn cael effaith andwyol ar yr awdurdod byddai strategaeth yn cael ei llunio er mwyn mynd i'r afael â cholli cyllid.   Ni chafwyd unrhyw ddangosyddion eto o ran sut byddai’r ailddosbarthiad yn effeithio ar gyllid Sir Ddinbych, roedd posibilrwydd y byddai ailddosbarthu cyllid yn gweithio o blaid Sir Ddinbych;  

·         Cynghorwyd bod y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau yn gweithredu Grant Tai Dewisol (DHG) y gallai teuluoedd wneud cais amdano i’w cynorthwyo i dderbyn tenantiaeth, er enghraifft.  

Byddai talu’r un taliad hwn yn rhatach na chefnogi teulu mewn llety dros dro a byddai’n gwella eu lles;

·         Cadarnhawyd bod y swm y mae’r Cyngor yn ei dalu am lety gwely a brecwast dros dro yn amrywio, roedd yn dibynnu ar y math o lety, maint yr uned sy'n ofynnol ar gyfer y teulu, pa adeg o'r flwyddyn ydoedd ac ati.  

Roedd y Cyngor yn trafod y cyfraddau gyda'r perchennog busnes.   Mewn rhai achosion, defnyddir carafanau fel llety dros dro gan eu bod yn well am gadw teuluoedd gyda’i gilydd nac ystafelloedd mewn gwestai neu dai llety;

·         Cynghorwyd yn ystod 2018/19 roedd y Cyngor wedi talu £1.2 miliwn am lety dros dro ar gyfer pobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref.  

Roedd yr Awdurdod yn cydnabod nad oedd hyn yn gynaliadwy yn y tymor canolig i hirdymor ac felly roeddent yn archwilio opsiynau gyda chymorth y Tîm Adfywio Economaidd er mwyn darparu datrysiadau tai dros dro yn fewnol h.y. datblygu canolfannau neu unedau llety argyfwng dros dro ac unedau tai â chymorth.   Y nod oedd datblygu ystod o ddewisiadau bychan, gan na fyddai datrysiad ‘un maint i bawb' yn gweithio;   

·         Cytunwyd bod yr hyd cyfartalog y mae pobl yn ei dreulio mewn llety dros dro, 56 diwrnod ar hyn o bryd, yn annerbyniol.   Fodd bynnag, y rheswm dros hyn oedd diffyg eiddo addas i'w hailgartrefu ynddynt;

·         Cadarnhawyd pe na allai pobl sy’n datgan eu bod yn ddigartref brofi fod ganddynt gysylltiad lleol gyda'r ardal byddent yn cael eu cynghori a'u cefnogi i ddychwelyd i'w hardal eu hunain cyn belled nad oes pryderon am eu diogelwch drwy wneud hynny.   Byddai’r Cyngor yn ceisio trefnu darpariaeth llety dros dro ar eu cyfer yn yr ardal y maent yn dod ohono a rhoi gwybod i'r awdurdod lleol perthnasol ynglŷn â'r sefyllfa.

·          Cynghorwyd os oes gan denant y Cyngor ôl-ddyledion rhent byddai’r Tîm Atal Digartrefedd yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tai'r Cyngor gyda’r nod o sicrhau na fyddai’r tenant yn cael eu troi allan ac i geisio llunio datrysiadau i sicrhau’r denantiaeth yn hirdymor;

·         Cadarnhawyd bod un RSL sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych wedi mabwysiadu polisi dim troi allan ar sail iechyd a thai.  Roedd yr RSL penodol hwn yn archwilio a ellir caniatáu ‘gwyliau tenantiaeth’ pe bai’r tenantiaid yn yr ysbyty neu’n derbyn gofal mewn man arall dros dro;

·         Cynghorwyd hefyd fod gan y gymuned rôl i gefnogi preswylwyr diamddiffyn a’r rhai sydd mewn perygl o golli eu cartrefi;

·         ar hyn o bryd nid oedd dinasyddion yn cael llety yn Sir Ddinbych o Gonwy a Sir y Fflint, ond roedd rhai o breswylwyr Sir Ddinbych yn cael llety yng Nghonwy a Sir y Fflint.  Roedd awdurdodau lleol yn rhoi gwybod i’r awdurdod arall os oeddent yn darparu llety i’w dinasyddion mewn llety argyfwng dros dro mewn awdurdod cyfagos;

·         eglurwyd mai nod y Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol oedd llunio'r Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol gyda’r nod o leihau digartrefedd ar draws Gogledd Cymru drwy rannu arferion gorau a datblygu gwasanaethau a rennir lle bo modd, gan sicrhau y gwireddir y manteision gorau posibl o'r cyllid SP sydd ar gael;   

·         cynghorwyd bod y Gwasanaeth yn gwneud pob ymdrech posibl i gefnogi pobl sydd angen cymorth y tu allan i’w canolfan yn Nhŷ Russell, y Rhyl. 

Roedd y gwasanaeth yn ariannu swyddog yn y Ganolfan Waith yn y Rhyl gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar o'r lleoliad hwnnw.   Roeddent yn archwilio dewisiadau presennol ar gyfer lleoli tîm yn y gymuned, o bosib mewn cydweithrediad gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych (CAD); ac fe

·         gadarnhawyd y gellir defnyddio llety dros dro arbenigol dim ond pan fo anghenion penodol wedi'u nodi ar gyfer y rhai sydd angen llety.   Efallai y bydd unigolion a theuluoedd yn cael eu lleoli yn y mathau hyn o lety am gyfnodau hirach nag mewn llety dros dro arferol.   

 

 Cytunodd yr aelodau pwyllgor gyda’r Aelod Arweiniol a'r swyddogion bod mabwysiadu ymagwedd gorfforaethol o ymyrraeth gynnar ragweithiol yn ddull darbodus o fynd i'r afael â materion digartrefedd yn y sir.  Roedd rheoli disgwyliadau pobl o’r Gwasanaeth a'r Cyngor hefyd yn allweddol.

 

Cyn dod â’r drafodaeth i ben, gofynnodd y Pwyllgor bod Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata’r Cyngor yn cyflwyno datganiad i’r wasg / gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol i egluro'r diffiniad o ddigartref a digartrefedd gyda'r nod o addysgu'r cyhoedd mewn perthynas â'r mater.  Cyflwynodd yr Aelodau bryderon hefyd o ran effaith bosibl ar y Cyngor a darpariaeth gwasanaeth ar gyfer preswylwyr pe bai ailddosbarthiad Grant Cymorth Tai SP yn andwyol ar gyfer yr Awdurdod.   Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei fod ef, yr Aelod Arweiniol ac unrhyw uwch swyddogion eraill ar gael bob amser i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl gan y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr arsylwadau uchod a chyflwyno datganiad i’r wasg / cyfryngau:

(i)            y dylid cefnogi’r dull corfforaethol newydd o ddelio gyda digartrefedd drwy Grŵp Strategol Tai a Digartrefedd;

(ii)          cefnogi’r Cynllun Gweithredu Digartrefedd Corfforaethol drafft;

(iii)         cefnogi nodau ailstrwythuro Tîm Atal Digartrefedd; a

(iv)         bod adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran delio gyda digartrefedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ymhen 12 mis.

 

Dogfennau ategol: