Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018 - 19

Ystyried adroddiad gan Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i gymeradwyo’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018-19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Adroddiad Adolygu Perfformiad Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'w gymeradwyo, yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref bob blwyddyn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. 

 

Roedd newidiadau diweddar yn y dulliau adrodd wedi arwain at y ddogfen dan sylw, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am chwarter 4 a’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol, a gyflwynid ar wahân fel arfer.  Byddai mesuryddion cenedlaethol yn cael eu hadrodd ar wahân pan fyddent ar gael.

 

Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn cynnwys astudiaethau achos ac enghreifftiau o gynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau corfforaethol o bortffolio ehangach y Cyngor.  Roedd hyn yn cydnabod bod gwasanaethau yn gwneud gwaith pwysig y tu allan i'r Cynllun Corfforaethol sydd o fudd i drigolion.

 

Esboniodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol bod y ddogfen yn dangos mor dda oedd y cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, ond roedd hefyd yn adlewyrchu ar y cyfleoedd i wella a chymryd camau gweithredu priodol.

 

 Arweiniodd y Cyngor drwy’r adroddiad a darparu gwybodaeth fanwl am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob blaenoriaeth gorfforaethol.   

 

Roedd y pum blaenoriaeth fel a ganlyn:

·         Tai – Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion;

·         Clymu Cymunedau - Mae cymunedau wedi’u cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da;

·         Cymunedau gwydn - mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid;

·         Amgylchedd - mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac wedi ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd; a

·         Pobl ifanc - man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Roedd arolwg gofalwyr ar y gweill ac fe gadarnhawyd y byddai'r data sy'n cael ei gasglu'n cael ei ddefnyddio i lunio'r strategaeth er mwyn nodi anghenion ac i sicrhau y gellir cynllunio'r gwasanaeth priodol i gefnogi gofalwyr yn y dyfodol.

·          Cadarnhawyd mai Sir Ddinbych oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio chwynladdwr heb lyswenwyn y gellir ei nodi drwy'r strategaeth amgylcheddol.

·         Cadarnhawyd bod Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wedi bod yn cyfathrebu gyda phobl ifanc yn y sir i gael eu barn am gyfleoedd swyddi ac ati.

·         Gallai problemau godi o derfynu’r ffurflen gais ar bapur ar gyfer bathodynnau glas.  

Roedd yn rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein.   Byddai’n rhaid i rai ymgeiswyr ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell i gyflwyno cais, ond nid oedd gan bob llyfrgell staff arbenigol i gynorthwyo.   Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'n rhannu'r pryder gyda'r adran berthnasol.

·         Roedd menter digartrefedd ar waith ac roedd gofalwyr ifanc yn cael cymorth i ganfod tai.  

Holwyd a oedd mynediad hawdd i lwybr at yr ysgol dai.   Cadarnhaodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol y byddai’n siarad gyda’r adran berthnasol ac yn rhannu'r wybodaeth gyda'r aelodau er gwybodaeth.

 

Canmolodd y Prif Weithredwr y gwaith i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol a mynegi ei hyder y byddai’r Cynllun Corfforaethol o fudd i breswylwyr y sir.

 

Canmolodd y Cadeirydd y gwaith a wnaed a diolchodd i Nicola Kneale, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Alan Smith ac Iolo McGregor am eu gwaith ar y Cynllun Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD- yn amodol ar unrhyw newidiadau cytunedig, bod y Cyngor yn cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018-19.

 

 

 

Dogfennau ategol: