Eitem ar yr agenda
CWESTIWN GAN Y CYHOEDD
Mae Ms Gwyneth Ellis, Cynwyd, wedi cyflwyno’r cwestiwn canlynol:
“A yw’r Cyngor yn cydnabod y Siarter rhwng cynghorau dinas, tref a chymuned Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych, ac yn ymdrechu i gydweithio gyda’r cynghorau lleol yn unol â’r Siarter hwnnw?”
Cofnodion:
Ar y pwynt hwn,
dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno fel a
ganlyn:
(i)
Cyflwynodd
Ms Gwyneth Ellis o Gynwyd y cwestiwn canlynol:
“A yw’r Cyngor yn cydnabod y Siarter rhwng Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych ac yn ymdrechu i gydweithredu gyda'r
cynghorau lleol yn unol â'r Siarter honno?"
Ymateb gan Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Tony Thomas:
“Rwyf wedi cysylltu'r wythnos ddiwethaf gyda'r
aelod lleol ar gyfer Cynwyd ac rwy’n aros am ateb ond byddaf yn cysylltu â
Chyngor Cymuned Cynwyd cyn gynted ag y byddaf wedi derbyn ateb.”
Yna, gofynnodd Ms Ellis gwestiwn atodol:
“Roeddwn i, fel Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Cynwyd,
wedi anfon e-bost at y Cynghorydd Richard Mainon, gan mai ei bortffolio ef
ydoedd ar y pryd, ond nid oeddwn wedi derbyn ymateb. Yn yr e-bost roeddwn yn
gofyn am gefnogaeth gan y Cyngor Sir, oherwydd nad ydym ni fel Cyngor Cymuned,
wedi llwyddo i gyflogi Clerc newydd. Rydym wedi bod yn ceisio gwneud ers tair blynedd yn awr
ac nid oes unrhyw un yn dangos diddordeb yn y rôl. Mae’n ei gwneud bron yn
amhosibl i ni weithredu’n effeithiol.
Hoffwn ofyn i’r Cyngor, yn y Siarter, mae paragraff
6.1 yn nodi bod y Cyngor Cymuned yn dibynnu ar gefnogaeth broffesiynol gan
eraill yn benodol, rydym yn dibynnu ar waith Clerc proffesiynol a rhywun i
ofalu am ein gwefan.
Hoffwn ofyn
yn unol â 6.1.2 y Siarter, a fyddai’r Cyngor Sir yn darparu cefnogaeth
ymarferol i ni, i benodi Clerc newydd, a nes y byddwn yn penodi Clerc newydd eu
bod yn sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu cadw'n gywir a'n cynghori ar faterion
cyfreithiol a gweithdrefnol, i gymryd cofnodion a gosod rhaglenni a chyhoeddi'r
cofnodion hynny i'r mannau priodol gan gynnwys ar y we ac i gynnal y wefan.
Ymatebodd y Cynghorydd Thomas i'r cwestiwn atodol
fel a ganlyn:
“Byddaf yn cysylltu â’r Prif Swyddog ynglŷn â
hyn ac yn ymateb i chi’n fuan”.
(ii)
Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys
Thomas y cwestiwn canlynol ar ran y Cynghorydd Glenn Swingler a oedd yn methu â
bod yn y cyfarfod:
“A oes modd i’r Aelod Arweiniol ddarparu’r
wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd ar ail fand rhaglen ysgolion y 21ain
ganrif? Ar pa gam y gallwn ddisgwyl amlinelliad manwl o'r ysgolion newydd neu
adnewyddu ysgolion".
Ymateb gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod
Cabinet Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd:
“Fe gyfeiriaf yn ôl at yr hyn a ddywedais ym mis
Mawrth 2019. Bydd gan y Cyngor Llawn gynigion cwmpas a fydd yn cael eu cyflawni
a'u cyflwyno ym mis Medi 2019. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i
gyflawni hynny. Bydd yn cael ei rannu
gyda’r Cyngor yn gyntaf cyn i ni ymgynghori gyda’r ysgolion unigol yr effeithir
arnynt yn yr ardal benodol”.
(iii)
Cododd y Cynghorydd Rhys
Thomas y cwestiwn canlynol:
“Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gyllideb
atodol ar 18 Mehefin 2019. Mae’n ymddangos y bydd oddeutu £20 miliwn o arian
newydd ar gael i awdurdodau lleol Cymru.
Bydd y gyllideb yn cael ei thrafod gan Gynulliad Cymru ar 9 Gorffennaf
2019. A oes modd i chi ddweud wrthym a oes gan Sir Ddinbych gynlluniau yn eu
lle o ran sut y byddem yn defnyddio ein cyfran o'r arian ychwanegol a pha
wasanaethau'r cyngor sy'n debygol o elwa o hynny?"
Dyma ymateb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:
“er eglurder, roedd y cyhoeddiad ar 18 Mehefin 2019
yn gyllid cyfalaf ychwanegol o £85 miliwn ar draws Cymru. Roedd yr £85 miliwn wedi’i rannu'n fras o ran
y prif faterion £50 miliwn (ffigyrau Cymru gyfan) ar gyfer tai cymdeithasol, £5
miliwn - cynnal a chadw priffyrdd, £10 miliwn ar gyfer rhyw fath o gronfa
enillion y dyfodol ac £20 miliwn sy'n cael ei ddiffinio fel cefnogi cynlluniau
cyfalaf awdurdodau lleol. Nid ydym wedi
derbyn manylion eto felly nid ydym yn gwybod beth fydd y dyraniadau ac nid ydym
yn gwybod beth fydd yr amodau grant.
O ran yr £20 miliwn i gefnogi cynlluniau cyfalaf
awdurdod lleol, byddwn yn credu bod hynny’n golygu cynnydd yn ein grantiau
wedi'u neilltuo er mwyn diwallu ein dyraniadau bloc.
Roedd cafeat i'r cyhoeddiad y byddai Llywodraeth
Cymru yn ceisio gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau priodol ar
gyfer hyn sy’n awgrymu y byddai rhywfaint o neilltuo, ond nid ydym yn gwybod
hyn eto. Pan fydd y cyllid yn cyrraedd,
byddwn yn dilyn ein prosesau arferol.
O ran unrhyw grantiau sy’n benodol i wasanaeth bydd
y rhain yn cael eu dosbarthu i’r gwasanaeth penodol yn y modd arferol”. .