Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MEYSYDD PARCIO YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad oddi wrth y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd (copi ynghlwm) gan ddarparu diweddariad ynghylch gweithredu Cynllun Buddsoddi mewn Meysydd Parcio a materion meysydd parcio eraill, a chael barn yr aelodau arnynt.

12 hanner dydd – 12.30 p.m.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd adroddiad y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (a ddosbarthwyd eisoes) er mwyn diweddaru'r aelodau ar y cynnydd a wnaed o safbwynt rhoi'r Cynllun Buddsoddi Mewn Meysydd Parcio a mentrau cysylltiedig ar waith. Yn ystod ei gyflwyniad, tynnodd sylw’r aelodau at y gwaith a wnaed yn ystod 2018/19, blwyddyn gyntaf y cynllun buddsoddi pum mlynedd a’r gwaith a wnaed hyd yma yn 2019/20.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod Arweiniol, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd -

 

·         ddweud, yn dilyn ail ymarfer tendro dylai’r contract ar gyfer datblygu hen safle Swyddfa'r Post yn y Rhyl yn faes parcio arhosiad byr fod yn barod i’w osod yn yr hydref 2019.

·         cadarnhau bod y costau'n gysylltiedig â’r gwaith selio rhag dŵr ar loriau'r meysydd parcio aml-lawr yn ddiogel rhag chwyddiant.

·         cadarnhau fod Cyngor Tref Prestatyn yn rhoi cymhorthdal i feysydd parcio o fewn y dref ac felly nid oedd y Cyngor yn derbyn unrhyw refeniw gan y meysydd parcio hynny, o ganlyniad roedd gwasanaethau Strydwedd yn cael eu darparu yn y safleoedd hyn dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng y Sir a Chyngor Tref. Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd mathau hyn o Gytundebau Lefel Gwasanaeth wedi datblygu’n llawer mwy manwl mewn perthynas â pha wasanaethau fyddai’n cael eu darparu am y pris a oedd yn cael ei godi. Roedd Cytundebau Lefel Gwasanaeth bellach wedi’u datblygu ar gyfer amwynderau cymaradwy ar draws y sir, bu i’r dull hwn gynorthwyo’r Gwasanaeth â monitro’r gwaith cynnal a chadw a wnaed yn effeithiol.

·         pwysleisio bod meysydd parcio’r sir yn aml yn byrth ar gyfer ymwelwyr i’r sir a’i threfi, felly roedd yn bwysig eu bod yn groesawgar yn esthetaidd oherwydd eu potensial i gefnogi a datblygu’r economi leol, dyma’r rheswm dros bwysigrwydd cynnal y rhaglen fuddsoddi;

·         hysbysu bod y cynllun datblygu pum mlynedd wedi’i lunio ar sail flaenoriaeth gyda’r bwriad o osgoi dirywiad pellach a fyddai’n gofyn am fuddsoddiad sylweddol i unioni’r sefyllfa yn y tymor hir. Roedd y prosiectau buddsoddi strwythurol mawr wedi’u trefnu ar gyfer blynyddoedd 1 i 4 gyda blwyddyn 5 yn canolbwyntio mwy ar y gwaith estheteg llai. Wrth i amser fynd rhagddo byddai rhagor o fanylion am y gwaith cynnal a chadw i’w gynnal mewn lleoliadau penodol a’r blynyddoedd ariannol y byddai'r gwaith yn cael ei gynnal yn ymddangos yn y Cynllun Buddsoddi. Disgwyliwyd yn y pen draw y byddai gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn ffurfio rhan o gynllunio ariannol ‘busnes fel arfer’ y Gwasanaeth ac yn cael ei ariannu o fewn y refeniw yr oedd y Gwasanaeth yn ei gynhyrchu.

·         hysbysu mai dim ond oddeutu 33% o feysydd parcio’r sir oedd yn derbyn dulliau gwahanol o dalu di-arian ar hyn o bryd, y nod yn y pen draw oedd bod gan yr holl feysydd parcio’r cyfleusterau i dderbyn taliadau di-arian ac i fod yn ddi-bapur drwy system adnabod taliadau digidol.

·         cadarnhau y byddai’r cyfleuster presennol a oedd yn caniatáu talu â ffôn symudol yn cael ei ddisodli gan gyfleuster ap ffôn clyfar.

·         cydnabod y byddai darparu arwyddion electronig yn nodi nifer y gofodau parcio sydd ar gael yn gyfleuster defnyddiol yn nhrefi twristiaeth y sir, er roedd y rhain yn ddrud iawn, felly byddai’n rhaid cynnal astudiaeth ddichonoldeb i gyfiawnhau’r buddsoddiad.

·         cadarnhau bod camau gorfodi parcio yn cael eu rhoi ar waith yn ôl yr angen ym mhob un o’r 47 maes parcio a weithredir gan Wasanaeth Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor. Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor oedd yn gyfrifol am weithredu’r camau gorfodi parcio mewn meysydd parcio gwledig a oedd yn cael eu gweithredu gan y sir.

·         cadarnhau bod mynd i gytundeb â busnesau lleol er mwyn galluogi pobl a oedd prynu tocynnau parcio i dderbyn gostyngiad gan fusnesau bach neu fawr mewn tref neu bentref, hynny yw, drwy daleb adbrynadwy / rhan y gellir ei thorri oddi ar y tocyn parcio yn bosibl. Roedd hyrwyddiadau tebyg wedi bod yn y gorffennol.  Roedd busnesau yn Rhuddlan wedi mynegi diddordeb mewn mynd i gynllun o’r fath a disgwyliwyd am gostau mewn perthynas â hwyluso’r cynllun.  Nid oedd disgwyl i’r costau fod yn ormodol nac ychwaith yn afresymol, ac

·         fe gadarnhawyd bod y sefyllfa a oedd wedi bod yn weithredol yn Ninbych am nifer o flynyddoedd, a oedd yn caniatáu pobl a oedd yn mynychu addoldai ar foreau Sul i barcio am ddim yn y meysydd parcio a oedd yn eiddo i’r Cyngor, yn gwbl unigryw ac roedd yn gytundeb lleol sefydledig. Roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt ag eglwysi a chapeli lleol gyda’r bwriad o ddatrys y sefyllfa ac alinio'r polisi codi tâl ar gyfer y meysydd parcio’r dref a oedd yn eiddo i’r Cyngor gyda gweddill y sir lle’r oedd ffioedd yn daladwy rhwng 8am a 5pm ar ddydd Sul.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth –

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

 (a)      gefnogi parhad y gwaith a wneir i weithredu’r Cynllun Buddsoddi Mewn Meysydd Parcio a’r mentrau parcio eraill a restrir yn yr adroddiad, a

 

 (b)      gofynnodd bod Adroddiad Gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn 18 mis i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau o ran y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chyflawni’r Cynllun Buddsoddi / Rheoli Asedau Maes Parcio a gweithgareddau cysylltiedig.

 

 

Dogfennau ategol: