Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD DIWEDDARU AR REOLI GWYLANOD

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn diweddaru’r aelodau ar y cynnydd a wnaed ar y Cynllun Gweithredu Rheoli Gwylanod ynghyd â chamau gweithredu pellach arfaethedig.

 

11.30 a.m. – 12 hanner dydd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod Y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Gweithredu Rheoli Gwylanod, yn canolbwyntio ar gamau gweithredu penodol a roddwyd ar waith yn Y Rhyl a chynghori ar y camau gweithredu arfaethedig i’w rhoi ar waith yn y dyfodol.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ddweud -

 

·         yn y Rhyl, ffocws y gweithgaredd rheoli gwylanod diweddar oedd storio gwastraff a gweithgareddau Strydwedd. Roedd y cynnydd a gyflawnwyd yn y meysydd hyn o ganlyniad i gydweithio effeithiol rhwng y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, a oedd yn gyfrifol am wasanaethau rheoli gwastraff a Strydwedd.  Roedd y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol wedi llwyddo i drosglwyddo 700 eiddo ychwanegol yn y Rhyl i finiau gwastraff bwyd o blastig caled, arferai’r tai hyn ddefnyddio sachau neu finiau cymunedol mawr a oedd yn denu gwylanod a phlâu eraill. Roedd darparu biniau unigol wedi’i gwneud yn anoddach i'r gwylanod  fynd at y gwastraff ac o ganlyniad roedd yn lleihau cyfanswm y sbwriel yn yr ardal.  Bu i’r Gwasanaeth Strydwedd gyflawni gweithgareddau glanhau stryd yng nghanol tref Y Rhyl ac roedd hyn yn cynorthwyo ag edrychiad yr ardal ar gyfer preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

·         roedd y gostyngiad mewn capasiti o fewn y Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata wedi effeithio rhywfaint ar ddarparu negeseuon i’r cyhoedd o ran peidio â bwydo gwylanod ac ati gan yr oedd rhaid i’r Gwasanaeth flaenoriaethu ei waith ar sail brys ac argaeledd staff.  Fodd bynnag, roedd cyfathrebu’n dda iawn ac nid oedd rhaid bod yn ddwys o ran adnoddau, hynny yw, gofyn i bobl  a busnesau osod posteri yn eu ffenestri ac ati, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon i’r cyhoedd.

·         ni dderbyniwyd pob cwyn mewn perthynas â gwylanod a/neu bobl yn eu bwydo drwy system Rheoli Cyswllt Cwsmer y Cyngor, derbyniwyd rhai yn uniongyrchol gan y Gwasanaeth ei hun. Os oedd cwyn yn cael ei derbyn, y cam cyntaf oedd cyflwyno llythyr rhybuddio (roedd copi ynghlwm wrth Atodiad 3 i’r adroddiad). Hyd yma, roedd yr arfer o gyflwyno’r llythyr wedi bod yn ddigonol ac nid oedd rhybudd cyfreithiol wedi’i gyflwyno i unrhyw unigolyn am fwydo gwylanod. Ni dderbyniwyd cwynion mewn perthynas ag unrhyw un yn bwydo gwylanod mewn mannau cyhoeddus.

·         byddai cymryd camau gorfodi yn erbyn unigolion am fwydo gwylanod yn anodd iawn ond, pe bai angen, gallai swyddogion gorfodi’r Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gymryd camau gorfodi yn erbyn troseddwyr cyson. Er hynny, hyd yma nid oes wedi bod angen dilyn y trywydd hwn. Bu i’r mwyafrif o bobl ymateb yn gadarnhaol i’r posteri a oedd yn cael eu harddangos mewn trefi arfordirol yn gofyn yn garedig i bobl “fwydo’r bin gwastraff” ac nid y gwylanod (Atodiad 4 i’r adroddiad) ac i’r llythyrau rhybudd a gyflwynwyd.

·         roedd gwylanod yn greaduriaid deallus ac er mwyn goroesi roeddent yn dilyn cyflenwadau bwyd, dyna’r rheswm pam ei bod yn ymddangos bod nifer gynyddol ohonynt yn nhrefi marchnad mewndirol y sir. 

·         roedd mesurau atal megis gosod baneri wedi’u treialu yn yr ardaloedd arfordirol.  Roedd hyn yn llwyddiannus i ddechrau nes i’r gwylanod ddod i arfer â’r baneri a sylweddoli nad oeddent am eu niweidio.

·         nid oedd y problemau a oedd yn cael eu hachosi gan wylanod yn unigryw i Sir Ddinbych, roedd problemau tebyg ar draws Gymru.   Felly, roedd yn siomedig iawn nad oedd yr un o’r tri chorff cyhoeddus a gysylltwyd â nhw mewn perthynas â’r broblem, yn dilyn trafodaeth y Pwyllgor ar y Cynllun Rheoli Gwylanod yn ystod ei gyfarfod ym mis Mawrth 2018, sef Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi cydnabod y llythyrau a anfonwyd ar ran y Pwyllgor heb sôn am ymateb iddynt, a

·         lle bo’n bosibl, roedd adeiladau newydd y Cyngor (yn cynnwys ysgolion) yn cynnwys mesurau atal gwylanod, hynny yw, ar y toeau, polion lamp ac ati. Defnyddiwyd dulliau tebyg pan gynhaliwyd gwaith ailwampio mawr ar eiddo’r Cyngor.

 

Pwysleisiodd yr aelodau’r manteision o addysgu plant yn ysgolion y sir am pam na ddylent fwydo’r gwylanod a gofynnodd yr aelodau i’r swyddogion holi’r Gwasanaeth Addysg a fyddai modd cynnwys yr agwedd hon o gyfrifoldeb cymunedol yn y cwricwlwm, yn debyg iawn i’r agwedd a fabwysiadwyd wrth addysgu disgyblion am bwysigrwydd peidio â gollwng sbwriel, yn enwedig ymysg disgyblion ysgolion cynradd.  Gofynnodd y Pwyllgor bod yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion yn ysgrifennu at LlC, CNC a CLlLC unwaith eto yn ceisio cefnogaeth a chymorth i awdurdodau lleol wrth ymdrin â phroblemau a achosir gan wylanod ac yn nodi eu siom na chafodd y llythyrau cyntaf eu cydnabod heb sôn am dderbyn ymateb.  Ymgymerodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd â gweithredu’r pwyntiau hyn a chysylltu â’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i archwilio cyfleoedd posibl i gyflwyno sticeri hyrwyddol, yn seiliedig ar y poster, ar finiau diogel ar draws y sir.

 

Dywedodd yr aelodau y byddai’n fuddiol pe bai’r Cyngor Sir yn gallu gweithio gyda’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned gyda’r nod o gael biniau gwastraff cyhoeddus diogel ym mhob cymuned maes o law a hefyd ei gwneud yn orfodol i fusnesau sy’n gysylltiedig â bwyd gael cynhwysyddion gwastraff bwyd diogel.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth –

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani -

 

 (a)      anfon gohebiaeth unwaith eto at Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ceisio cefnogaeth a chymorth i awdurdodau lleol wrth ymdrin â phroblemau yn gysylltiedig â Gwylanod oherwydd eu statws rhywogaeth a warchodir; a

 

 (b)      chefnogi’r camau a gymerwyd hyd yma a’r camau sydd wedi’u nodi ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â Rheoli Gwylanod yn Sir Ddinbych.

 

 

Dogfennau ategol: