Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU A DIWEDDARIAD AR Y PROSIECT RHEOLEIDDIO CARAFANAU GWYLIAU

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) oddi wrth y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn darparu diweddariad ar reoleiddio meysydd carafanau gwyliau yn y sir ac i asesu effeithiolrwydd ymagwedd y Cyngor tuag at sicrhau cydymffurfio ag amodau cynllunio a thrwyddedu.

10.40 a.m. – 11.20 a.m.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar gynnydd y gweithgareddau rheoleiddiol, ac archwilio a oedd y dull a gytunwyd gan y Pwyllgor yn 2017 i reoleiddio parciau gwyliau ar sail ‘busnes fel arfer’ yn cael yr effeithiau dymunol. Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) wrth y Pwyllgor bod yr adroddiadau cynnydd mewn perthynas â’r prosiect hwn wedi cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf gan fod aelodau eisiau sicrwydd nad oedd unigolion yn defnyddio carafannau mewn parciau gwyliau fel eu preswylfeydd parhaol ac o ganlyniad yn osgoi talu Treth y Cyngor ac yn cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor.

 

Rhoddodd drosolwg o’r broses a ddilynwyd i gyflawni’r prosiect i'r hyn a oedd nawr yn cael ei hystyried yn safon foddhaol lle’r oedd modd rheoleiddio parciau gwyliau ar sail ‘busnes fel arfer’. Roedd y cam cyntaf wedi cynnwys mynd drwy holl gronfeydd data gwasanaethau’r Cyngor i nodi unigolion a oedd yn cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor yn defnyddio cyfeiriadau parciau gwyliau.  Ar ôl nodi achosion posibl o dorri amodau cynllunio a / neu drwyddedu ar safleoedd gwyliau, bu i’r swyddogion weithio gyda gweithredwyr y parc gyda’r bwriad o unioni unrhyw achos o dorri amodau, ac ar yr un pryd, sicrhau bod preswylwyr diamddiffyn yn cael eu diogelu ac nad oeddent yn cael eu gwneud yn ddigartref. Cam olaf y prosiect oedd ymgymryd â chamau gorfodi yn erbyn y gweithredwyr hynny a oedd yn anfodlon cydweithredu, neu gydymffurfio, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi cael y cyfle i wneud hynny. Roedd enghreifftiau o’r mathau o gamau gorfodi a ymgymerwyd â nhw wedi’u hamlinellu yn Atodiad 2 (cyfrinachol) i’r adroddiad. Sicrhaodd y Rheolwr Datblygu yr aelodau mai’r amcan o hyn allan fyddai monitro gweithgareddau parciau gwyliau’n rheolaidd drwy ymgysylltu’n rheolaidd â’r gweithredwyr a monitro mynediad at wasanaethau’r Cyngor o barciau gwyliau.  Byddai camau gorfodi yn cael eu cymryd pan fo’r holl ddulliau eraill wedi methu.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, bu i’r Aelod Arweiniol, y Rheolwr Datblygu a’r Swyddog Cynllunio -

 

·         hysbysu y gellid cymryd camau gorfodi yn unol â rheoliadau cynllunio a/neu drwyddedu. Fodd bynnag, mewn achos o ddiffyg cydymffurfedd cyson, roedd gan ddeddfwriaeth drwyddedu fwy o ddarpariaethau i’w defnyddio i sicrhau ataliad gan fod diffyg cydymffurfedd â deddfwriaeth drwyddedu yn golygu cosb ariannol neu gellid dirymu trwydded y gweithredwr a fyddai’n arwain at y gweithredwr yn colli’i fywoliaeth. Yn debyg i’r gwaith gorfodi cynllunio, roedd adnoddau’n gyfyngedig iawn yn y maes hwn ond pe bai'r holl gamau gweithredu eraill yn methu byddai’r uchod yn cael ei ddefnyddio.

·         cadarnhau nad oedd gan y Gwasanaeth unrhyw dystiolaeth o garafannau, cabanau, neu chalets wedi’u lleoli mewn ardaloedd o goetir anghysbell e.e. at ddibenion preswyl.

·         hysbysu mai un o’r prif resymau dros bobl yn byw mewn carafanau gwyliau drwy gydol y flwyddyn oedd bod rhai parciau yn cam-werthu ar ran gweithredwyr / perchnogion y parciau, a oedd yn hysbysu eu carafanau/ chalets/ cabanau fel eiddo preswyl yn hytrach nag eiddo at ddibenion gwyliau.

·         cadarnhau bod swyddogion gorfodi wedi ymweld â’r holl barciau gwyliau yn ystod eu ‘cyfnod cau’ i wirio a oedd tystiolaeth eu bod yn cael eu defnyddio at ddibenion preswyl. Os oedd cwyn yn cael ei derbyn o ran gweithrediad y parc ar unrhyw adeg o’r flwyddyn roedd yn cael ei harchwilio fel mater o drefn.

·         hysbysu y gallai amrywiaeth o swyddogion gorfodi ymweld â rhai o’r parciau gwyliau mwy yn ystod y flwyddyn, hynny yw, cynllunio, trwyddedu, y Gwasanaeth Tân ac Achub.  Os oedd gan un awdurdod gorfodi bryderon am agwedd o weithrediad y parc a oedd yn gyfrifoldeb i wasanaeth gorfodi arall, byddai’r awdurdod gorfodi hwnnw yn tynnu sylw’r awdurdod perthnasol at unrhyw achos posibl.

·         amlinellu dull fesul cam y Cyngor tuag at ymdrin ag unrhyw achos o dorri amodau, gan ddweud pe bai’r achosion o dorri amodau yn parhau byddai proses uwchgyfeirio yn cael ei rhoi ar waith mewn perthynas â chymryd camau gorfodi.

·         cadarnhau bod Treth y Cyngor yn cael ei godi ar garafanau preswyl ar safleoedd preswyl, fodd bynnag nid oedd y Cyngor yn dymuno cynyddu nifer y carafanau preswyl yn y sir ac nid oedd y mwyafrif o weithredwyr parciau carafanau yn dymuno gwneud hyn ychwaith gan fod pobl a oedd yn byw mewn carafanau preswyl yn dueddol o wario llai yn lleol o gymharu â thwristiaid.

·         tynnu sylw’r aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod gostyngiad sylweddol wedi’i weld ers dechrau prosiect o ran nifer y bobl a oedd yn ceisio mynediad at wasanaethau’r Cyngor o gyfeiriadau ar barciau gwyliau, ar wahân i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd wedi nodi cynnydd bychan.  Priodolwyd y cynnydd i’r ffaith fod aelodau etholedig eisiau sicrhau bod preswylwyr diamddiffyn yn cael eu diogelu ac nad oeddent yn cael gwneud yn ddigartref gan y Cyngor, a 

·         hysbysu y gallai dinasyddion Prydeinig sydd yn byw dramor ddefnyddio cyfeiriad eu carafán at ddibenion Cofrestru Etholiadol i arfer eu hawl i bleidleisio yn y DU, waeth os yw’r garafán wedi’i lleoli o fewn parc gwyliau neu ar safle preswyl.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl gan y Pwyllgor -

 

PENDERFYNWYD-

 

 (a)      yn amodol ar y sylwadau uchod, cefnogi effeithiolrwydd y dull ‘busnes fel arfer’ tuag at reoleiddio defnydd parciau gwyliau yn Sir Ddinbych;

 

 (b)      Cefnogi swyddogion y Cyngor wrth iddynt barhau i ymchwilio i achosion anawdurdodedig o feddiannaeth breswyl ar barciau gwyliau, a

 

 (c)       chytuno y gellir parhau gyda rheoliad Parciau Gwyliau a Charafanau yn Sir Ddinbych ar sail ‘busnes fel arfer’ heb yr angen am unrhyw gyfeiriad pellach i’r pwyllgor Craffu. 

 

Ar y pwynt hwn (11.05 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: