Eitem ar yr agenda
MABWYSIADU SIARTER GYDYMFFURFIO Â CHYNLLUNIO
Ystyried
adroddiad oddi wrth y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn am farn yr aelodau ar Siarter Gydymffurfio â Chynllunio
drafft yn amlinellu sut yr ymdriniwyd â honiadau o dorri rheolaeth gynllunio a
sut y gallai cwynion a sefydliadau lleol fel Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
gynorthwyo gyda sicrhau cydymffurfio â chynllunio.
10.10 a.m. – 10.40 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod
y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a
Gwarchod Y Cyhoedd) (a ddosbarthwyd eisoes), a oedd yn amlinellu sut yr oedd y
Cyngor yn ymdrin ac yn gweithio i ddatrys achosion honedig o dorri amodau
rheoli cynllunio. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut
y gallai Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned, cwynion a sefydliadau lleol weithio
gyda’r Cyngor i sicrhau cydymffurfedd cynllunio. Ynghlwm i’r adroddiad oedd
copi o siarter cydymffurfio cynllunio drafft i’r Pwyllgor roi'i sylwadau arni. Lluniwyd y Siarter hon ar gais y Pwyllgor yn dilyn trafodaeth ar adnoddau
cydymffurfedd cynllunio yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2018. Darparodd Rheolwr
Datblygu’r Cyngor (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) drosolwg o’r Siarter ddrafft
yn canolbwyntio ar y broses tri cham a ddatblygwyd o fewn y Siarter, sef -
·
ymchwiliad
o achosion honedig o dorri amodau rheoli cynllunio
·
asesu’r
lefel o fuddsoddiad sydd ei hangen er mwyn ymchwilio i’r achosion honedig o
dorri amodau rheoli cynllunio; a
·
phenderfynu
ar y dull mwyaf addas i unioni unrhyw achos o dorri amodau rheoli cynllunio a
brofwyd.
Dywedodd wrth yr
aelodau fod angen i'r Gwasanaeth gynnwys Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn y
broses gydymffurfio gan mai’r Cynghorau oedd y ‘llygaid a’r clustiau’ lleol a
oedd yn debygol o gael gwybod am achosion honedig o dorri amodau rheoli
cynllunio yn gyntaf, felly gallai eu cymorth â’r broses hon helpu’r Cyngor Sir i flaenoriaethau
gwaith cydymffurfio yn fwy effeithiol, yn enwedig o ystyried ei adnoddau hynod
gyfyngedig yn y maes arbenigol hwn. Pe bai’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
yn fodlon cytuno i'r Siarter byddai’n cynorthwyo â rheoli eu disgwyliadau eu hunain a disgwyliadau’r
cyhoedd ac mewn blynyddoedd i ddod fe allai arwain at Ardaloedd Gwella Busnes
yn dod yn rhan o’r broses.
Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, bu i’r Aelod
Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth
Cyhoeddus, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Rheolwr Datblygu a Swyddog
Cynllunio -
·
amlinellu’r
dull amlweddog tuag at flaenoriaethu’r ymchwiliad i achosion honedig o dorri
cydymffurfedd cynllunio, yn dibynnu ar y brys a oedd yn gysylltiedig â’r honiad, fel y gwelwyd ym mharagraff 2.4
o’r Siarter ddrafft.
·
cydnabod,
yn debyg i awdurdodau lleol, bod yr adnoddau ariannol sydd ar gael i Gynghorau
Dinas, Tref a Chymuned yn gyfyngedig iawn. Prif amcan y Siarter fyddai sicrhau
cymorth yr haen hon o lywodraeth leol i gynorthwyo’r Cyngor Sir â blaenoriaethu ei waith cydymffurfio drwy
ymgymryd ag archwiliadau lleol o faterion cynllunio sy’n digwydd yn eu
cymunedau ac i ganfod p'run ai oeddent wedi cael y caniatâd gofynnol ai peidio.
·
cadarnhau,
er i sawl aelod o staff cymorth a gorfodi’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd, wrth ymweld ag ardaloedd amrywiol o’r sir i gyflawni eu dyletswyddau,
roi gwybod i’r Swyddog Cynllunio am unrhyw achos posib o dorri amodau cynllunio
ac roeddent wedi’u hyfforddi i ymgymryd â gwaith ymchwiliol, nid oeddent yn
gymwys i ymgymryd â dyletswyddau gorfodi cynllunio mewn perthynas ag unrhyw
achos o dorri amodau cynllunio gan fod hon yn rôl arbenigol. Fodd bynnag, roedd
y berthynas waith agos hon rhwng swyddogion gorfodi amrywiol o gymorth i’r
Swyddog Gorfodi â blaenoriaethu ei waith.
·
cynghori
er bod y gwaith cydymffurfio cynllunio ar y cyfan yn dueddol o fod yn ymatebol,
gwnaed peth gwaith cydymffurfio rhagweithiol pan oedd achosion posibl o dorri
amodau rheoli cynllunio yn dod i’r amlwg ar y dechrau.
·
dweud
eu bod o’r farn y byddai’r ddogfen Siarter hefyd yn ddefnyddiol i breswylwyr a
busnesau lleol gan ei bod yn amlinellu pa safonau oedd yn ddisgwyliedig
ganddynt a beth allai’r Cyngor ei wneud petaent yn torri unrhyw safon
cydymffurfio cynllunio.
·
cadarnhau
bod y dull o fynd i’r afael â safleoedd hyll yn wahanol i’r dull o fynd i’r
afael â diffyg cydymffurfedd ag amodau cynllunio. Roedd mynd i’r afael â’r
safleoedd hynny yn broses gymhleth a oedd yn gofyn bod swyddogion o wasanaethau
gwahanol yn gweithio â’i gilydd. Yn ffodus, roedd cyllid wedi’i ganfod i gyflogi
Swyddog Cynllunio dros dro am gyfnod o ddwy flynedd i ganolbwyntio ar ganol
tref Y Rhyl fel rhan o’r prosiect i adfywio’r ardal. Roedd y swydd dros dro hon wedi profi’n
hynod lwyddiannus yn y 12 mis cyntaf. Roedd y swydd dros dro hon wedi’i hariannu am 12
mis pellach, ond oherwydd y manteision sydd wedi dod i’r amlwg ar ôl ei chreu,
roedd y swyddogion yn ymchwilio i ffrydiau cyllido posibl i ariannu’r swydd yn
y dyfodol gyda’r posibilrwydd o gylch gwaith y swyddog yn cael ei ymestyn i
gynnwys yr ardal sirol gyfan.
·
cydnabod
pryderon yr aelodau ynglŷn â dogfen y Siarter pe bai’n cael ei mabwysiadu.
Gan ei bod yn ddogfen i’r cyhoedd ac ar gael i bawb ei darllen, mae’n bosib y
gallai hyn annog rhai preswylwyr i ddiystyru amodau cynllunio yn enwedig pe baent
yn sylweddoli nad oedd diffyg cydymffurfedd o’r fath yn debygol o gael ei drin
fel blaenoriaeth ar gyfer camau gorfodi. Er hynny, roedd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion
yn hyderus y byddai mabwysiadu’r Siarter a’i hargaeledd i’r cyhoedd o gymorth i
reoli disgwyliadau preswylwyr mewn perthynas â materion diffyg cydymffurfio.
Roedd yn bwysig cofio bod pob deddfwriaeth gynllunio yn nodi bod gorfodaeth yn
ôl disgresiwn, ac yn caniatáu amser i droseddwyr unioni achosion o ddiffyg
cydymffurfio yn cynnwys gwneud cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol os oedd
angen.
·
cynghori
na ddylai swyddog gorfodi wastraffu ei amser yn datrys anghydfodau rhwng
cymdogion.
·
cadarnhau
bod y Swyddog Cynllunio yn blaenoriaethu ei waith ar sail brys ac oherwydd
nifer yr ymholiadau / cwynion a oedd yn eu derbyn roedd y rhestr o
flaenoriaethau yn newid yn rheolaidd.
·
roedd
bob amser yn ddefnyddiol i’r Swyddog Cynllunio dderbyn gymaint o wybodaeth â
phosibl, yn cynnwys tystiolaeth ffotograffig, pan oedd ymholiadau / cwynion yn
cael eu gwneud roedd hyn yn helpu â’r broses flaenoriaethu. Er hynny, byddai’n anodd iawn i gynnwys
rhestr bendant yn y Siarter o’r math o wybodaeth neu’r dystiolaeth oedd ei
hangen gan yr oedd pob achos yn wahanol.
·
hysbysu
bod y fframwaith monitro arfaethedig ar gyfer cydymffurfedd mantais gymunedol o
gytundebau Adran 106 yn gwbl wahanol i’r broses ar gyfer monitro cydymffurfedd
cynllunio safle busnes neu breswyl unigol. Byddai dwy swydd yn cael eu creu yn y Ganolfan
Budd Cymunedol gyda’r bwriad o gefnogi cymunedau i gael mynediad at gronfeydd
mantais gymunedol, megis cyllid Adran 106 ac ati, i helpu i gyflawni
blaenoriaethau corfforaethol Yr Amgylchedd a Chymunedau Cryf y Cyngor, a
·
phwysleisio
mai’r cysyniad o gael Siarter Cydymffurfio Cynllunio gyda’r Cynghorau Dinas,
Tref a Chymuned oedd i leihau’r risg o dorri rheolau cynllunio yn y lle cyntaf,
gan fod y sefydliadau hyn wedi’u lleoli o fewn y gymuned a byddent yn cael eu
hysbysu o unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio yn gynnar. Nid oedd
disgwyl i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned fod yn arbenigwyr ym maes cynllunio
ond byddent yn gallu cysylltu â swyddogion y sir am gyngor a chyfarwyddyd. Gallai
Swyddogion o’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fynychu eu cyfarfodydd
i ddarparu hyfforddiant a’u briffio ar faterion cydymffurfedd cynllunio yn ôl y
galw.
Gofynnodd y Cadeirydd, yn dilyn yr ymgynghoriad
gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned ar y Siarter, bod yr adroddiad, a fydd
yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor, yn cynnwys gwybodaeth ar yr ymatebion i’r
ymgynghoriad, adnoddau staffio, amserlenni cyfathrebu gyda’r cyhoedd a nifer y
cwynion a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth mewn perthynas â thorri rheolau
cynllunio. Ar ddiwedd y drafodaeth -
PENDERFYNWYD yn amodol ar y
sylwadau uchod -
(a)
cefnogi’r
Siarter fel y'i drafftiwyd;
(b) gofyn bod y
Siarter ddrafft yn cael ei chyflwyno i’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned ar
gyfer ymgynghori a chynnig sylwadau, a
(c) bod y Siarter
ddiwygiedig, yn dilyn y broses ymgynghori, yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor ei
chefnogi ac argymell ei mabwysiadu ym mis Rhagfyr 2019 ynghyd â’r wybodaeth
ychwanegol a geisiwyd.
Dogfennau ategol:
- PLANNING COMPLIANCE CHARTER, Eitem 6. PDF 217 KB
- PLANNING COMPLIANCE CHARTER - APP 1, Eitem 6. PDF 2 MB
- PLANNING COMPLIANCE CHARTER - APP 2 WBIA, Eitem 6. PDF 97 KB