Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GYNNYDD BLAENORIAETHAU'R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Hysbysu'r aelodau o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn erbyn y meysydd blaenoriaeth a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer meysydd gwaith penodol.

 

a.    PoblLles meddyliol

 

I dderbyn diweddariad ar lafar ar y flaenoriaeth lles meddwl.

 

Teresa Owen (Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus)

 

b.    CymunedGrym cymunedol

 

       i.        To receive an update on the Community Empowerment priority and to seek approval for the approach and resourcing of the weight management project. 

 

Judith Greenhalgh (Prif Weithredwr, CSD)

 

      ii.        I dderbyn diweddariad ar lafar am y rhaglen dan arweiniad y gymuned sy'n ymwybodol o ddementia.

 

Helen Wilkinson (Prif Weithredwr, CGGSD)

 

c.    LleGwydnwch amgylcheddol

 

I dderbyn diweddariad ar flaenoriaeth Cydnerthedd yr Amgylchedd a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Sefyllfa Addewidion Gwyrdd y Gymuned a'r Amgylchedd.

 

Iwan Davies (Prif Weithredwr, CBSC)

 

Cwestiynau i'r Bwrdd eu hystyried

·         A ddylid cymryd ymagwedd ranbarthol at y blaenoriaethau? (e.e. amgylchedd)

·         Ymrwymo staff / adnoddau ariannol / penodi arweinwyr

·         Pwy all gyfrannu tuag at y blaenoriaethau (cynrychiolwyr ar bob gweithgor)

·         Sut mae gwaith y Bwrdd wedi'i sefydlu yn eich sefydliad?

 

 

9:35am – 10:35am

 

 

Cofnodion:

a.            Pobl – Lles Meddyliol

 

Eglurwyd nad oedd unrhyw brif wybodaeth i'w gyflwyno ers y diweddariad diwethaf.

 

Nodwyd nod BGCau eraill ar draws Cymru yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl yn wahanol. Awgrymwyd y gallai’r BGC gysylltu â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r Tîm Gweithredu Lleol. Byddai’n fuddiol trafod pa elfennau o waith oedd yn cael eu cyflawni gan y ddau sefydliad. Roedd tirlun y gwaith sy’n cael ei gyflawni o ran iechyd meddwl wedi'i rannu'n glystyrau a byddai eglurder ynglŷn â'r gwaith sy'n cael ei gyflawni'n fuddiol.

 

Cytunwyd mai Lles Meddyliol fyddai canolbwynt cyfarfod nesaf y BGC.

 

b.         Cymuned – Grym Cymunedol

 

Cyflwynodd Judith Greenhalgh  - Prif Weithredwr (JG) y  wybodaeth ddiweddaraf ar agwedd Gymunedol o flaenoriaeth y BGC.

 

Mae’n debyg y byddai gweithrediad y prosiect Rheoli Pwysau wedi’i leoli yn y Rhyl yn Sir Ddinbych, byddai gwaith agos gyda BIPBC ar y prosiect. Byddwn yn ceisio enwebiadau ar gyfer sefydliadau i weithio ar y prosiect a’u dychwelyd i’r BGC.

 

Canmolwyd gweithdy ymwybyddiaeth o ddementia, a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia, fel digwyddiad a arweiniwyd gan y gymuned, gyda budd-ddeiliaid yn bresennol. Roedd adroddiad o effaith yn cael ei gynhyrchu a fyddai’n cael ei gyflwyno yn yr hydref; wedi derbyn yr adroddiad byddai digwyddiad ar y cyd rhwng CSDd a CBSC yn cael ei drefnu i ymgysylltu ag ardal fwy.

 

Tynnwyd sylw at ymwybyddiaeth o ddementia gan y bwrdd a holwyd a fu gohebiaeth gyda Chymdeithas Alzheimer. Nodwyd na fu gohebiaeth, ond byddai trafodaethau’n cael eu cynnal yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y Gymraeg o fewn sefydliadau sy’n gyfeillgar i Ddementia ac  a oedd digon o waith yn cael ei gyflawni gyda staff sy'n siarad Cymraeg. Mewn ymateb, nodwyd bod y Gymraeg yn cael ei hystyried o ddifrif, nodwyd bod swyddi gwag presennol o fewn DVSC wedi’u nodi gyda'r Gymraeg yn hanfodol. Cytunwyd y gellir hysbysebu swyddi gwag drwy safleoedd CSDd hefyd.

 

PENDERFYNWYD – bod adroddiad cynnydd ar brosiectau dementia’n cael eu dychwelyd i’r BGC yn yr hydref, gan gynnwys ystyriaethau ar gyfer ehangu’r gwaith a chynnwys partneriaid.

 

c.         Lle – Gwydnwch amgylcheddol

 

Cyflwynodd Iwan Davies Prif Weithredwr (ID) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy'r wybodaeth ddiweddaraf am yr Addewidion Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi Amgylcheddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Diben yr adroddiad oedd bod aelodau yn nodi'r cynnydd gyda’r Addewidion Gwyrdd Cymunedol a Datganiadau Polisi Amgylcheddol.

 

Mewn perthynas â’r Addewidion Gwyrdd Cymunedol, cytunodd y Bwrdd y byddent yn cymeradwyo'r gwaith.  Cynigodd y Cadeirydd bod unrhyw ddiwygiadau terfynol yn cael eu dosbarthu i'r swyddogion prosiect erbyn diwedd Gorffennaf.   

 

Hysbyswyd y Bwrdd bod cynllun cyfathrebu’n cael ei ddatblygu i lansio’r cynllun.  Mae cyllid yn cael ei geisio o grant rhanbarthol BGC i gefnogi’r gwaith hwn.

 

Mewn perthynas â’r Datganiad Polisi Amgylcheddol, eglurwyd y byddai’n fuddiol pe bai’r bwrdd yn cytuno canolbwyntio ar nifer penodol o ymrwymiadau o fewn y datganiadau polisi amgylcheddol fel blaenoriaethau cychwynnol.   

 

Yr ymrwymiadau a awgrymwyd i ganolbwyntio arnynt oedd y ddau gyntaf, sef:

 

·         Lleihau ein defnydd o garbon ac ynni, felly erbyn 2030 byddem yn sector cyhoeddus carbon niwtral.

·         Lleihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu o’n gweithgareddau, felly erbyn 2050 byddai dim gwastraff yn cael ei anfon i’w dirlenwi.

 

Cynghorwyd y byddai dull partneriaeth tuag at yr ymrwymiadau yn fuddiol; gyda’r polisi amgylcheddol yn benodol, gan fod gan yr holl sefydliadau o fewn y BGC eu dulliau eu hunain o ddelio ag ymrwymiad carbon niwtral. Hysbyswyd y bwrdd bod gweithdy i drafod newid hinsawdd wedi'i drefnu ar gyfer 18 Medi.

 

Hysbyswyd y bwrdd bod CSDd a CBSC wedi datgan argyfwng hinsawdd ac yn ceisio sicrhau bod y ddwy sir yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Canmolodd Bethan Jones (BIPBC) y gwaith, a byddai'r ymrwymiadau a restrwyd yn her ar gyfer BIPBC oherwydd byddai maint y sefydliad yn ei gwneud yn anodd mabwysiadu'r datganiadau polisi amgylcheddol.

 

Roedd ffynonellau cyllid ar gyfer yr ymrwymiadau’n cael eu ceisio. Roedd cronfa gymunedol gyda datblygiadau ffermydd gwynt yn ffynhonnell gyllid posibl.  

 

Cytunodd y Bwrdd mai carbon ac ynni ddylai fod yn brif flaenoriaethau ond ni ddylid cyfyngu'r 'ymrwymiadau' ar y cam hwn.  

 

Cytunodd yr Aelodau y byddent yn cyflwyno’r fersiwn newydd o’r ddogfen datganiad polisi i’w sefydliadau i geisio eu safbwyntiau. Yn dilyn trafodaeth, byddai mater Addewidion Gwyrdd Cymunedol a'r Datganiadau Polisi Amgylcheddol yn cael eu dychwelyd i'w trafod yng nghyfarfod nesaf bwrdd y BGC.

 

PENDERFYNWYD -

 

  1. Mai iechyd meddwl yw canolbwynt  cyfarfod nesaf y BGC, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Thîm Gweithredu Lleol.
  2. Bod adroddiad cynnydd am elfen Dementia o flaenoriaeth grym cymunedol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.
  3. Bod yr Addewidion Gwyrdd Cymunedol yn cael eu cymeradwyo, gyda'r diwygiadau terfynol yn cael eu hanfon erbyn diwedd mis Gorffennaf.
  4. Bod datganiad polisi'n cael ei ddiwygio yn unol â thrafodaeth y Bwrdd a'i ddosbarthu i'r Bwrdd er mwyn ceisio safbwyntiau mewnol o sefydliadau'r Aelodau.
  5. Bod y wybodaeth ddiweddaraf am allbynnau amgylcheddol yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

 

Dogfennau ategol: