Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018/19
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros
Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno’r
Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2018-19 cyn ei gyflwyno i’r
Cyngor er cymeradwyaeth.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cadarnhau cynnwys yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft
2018-19.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad
Blynyddol ar gyfer 2018-19, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth a’i
gyhoeddi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Hysbyswyd
y Cabinet o newidiadau diweddar yn y dulliau adrodd a oedd yn sail ar gyfer y
ddogfen dan sylw, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am chwarter 4 a’r
Ddogfen Gyflawni Flynyddol, a gyflwynid ar wahân fel arfer. Roedd y ddogfen gyfun yn
cynnwys adroddiad ar gynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol, ynghyd â
phrosiectau penodol i’w cyflawni yn 2019-2020 ac astudiaethau achos ac
enghreifftiau o’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol
ym mhortffolio ehangach y Cyngor. Roedd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad wedi trafod y ddogfen heb godi unrhyw faterion o bwys.
Esboniodd
Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol ac Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol bod y
ddogfen yn dangos mor dda oedd y cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, ond
soniont hefyd am gyfleoedd i wella a chymryd camau gweithredu priodol. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r
Cabinet yn fanwl, a rhannodd y swyddogion yr holl wybodaeth ddiweddaraf
ynglŷn â’r cynnydd a wnaed o ran pob un o’r blaenoriaethau corfforaethol –
er y gwnaethpwyd cynnydd gwerth chweil yn gyffredinol, roedd cyflawni’r
targedau perfformiad ar gyfer Pobl Ifanc yn flaenoriaeth o ran gwella. Rhoes y Prif Weithredwr glod
i’r gwaith a wnaethpwyd wrth gyflawni’r Cynllun Corfforaethol, a’r modd y bu
i’r aelodau a’r swyddogion gydweithio er budd trigolion y sir.
Wrth
ystyried yr adroddiad, trafododd y Cabinet y materion canlynol –
·
Clymu Cymunedau – o ran
dulliau ymarferol o ehangu rhwydweithiau band eang/ffôn symudol tra chyflym,
roedd y Cyngor yn gweithio’n uniongyrchol â darparwyr band eang a chymunedau;
roedd ffynonellau cyllid posib yn cael eu hystyried, gan gynnwys arian ffermydd
gwynt, er mwyn creu seilwaith digidol ar gyfer cymunedau cefn gwlad. Efallai na
châi’r cymunedau hynny eu cynnwys yng nghynllun Llywodraeth Cymru, Cyflymu
Cymru, ac roedd cysylltedd hefyd yn un o flaenoriaethau Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru.
·
Cymunedau Cryf – soniodd y
Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn â llwyddiant y Timau Adnoddau Cymunedol
wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd yn y gymuned. Soniodd hefyd am brosiectau i
gefnogi gofalwyr, a rhoes longyfarchiadau i’r Cyngor am ennill gwobr gan
Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddiweddar, i gydnabod
ei fod yn gyflogwr sy’n croesawu gofalwyr.
·
Yr iaith Gymraeg – ar gais y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, cytunodd y swyddogion i gynnwys cyfeiriad yn y
ddogfen at y Ganolfan Gymraeg newydd yn Llanelwy, a fyddai’n darparu
gwasanaethau i Sir Ddinbych gyfan.
·
Cymunedau Cryf – soniodd y
Cynghorydd Tony Thomas y byddai oddeutu £925,000 y flwyddyn ar gael drwy
Gronfeydd Buddsoddi Cymunedol Fferm Wynt Clocaenog a Brenig, ac fe gâi manylion
yr ardaloedd a fyddai’n elwa eu cadarnhau cyn hir. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd Mark Young ynglŷn â chydraddoldeb, rhoddwyd sicrwydd fod yno
brosiect ar waith i gefnogi cymunedau wrth wneud y ceisiadau cychwynnol am
gyllid, er mwyn sicrhau y gallai pob rhan o gymdeithas elwa ar hyn. Rhoes y Cynghorydd Young
longyfarchiadau i Adnoddau Dynol am yr hyfforddiant Cam-drin Domestig, ond
dywedodd y gallai llwyddiant y cwrs arwain at gynnydd yn nifer yr achosion a
adroddwyd, o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth.
·
Clymu Cymunedau – soniodd y
Cynghorydd Brian Jones nad oedd cyflwr ffyrdd Sir Ddinbych o reidrwydd cyn
waethed â’r hyn a gredai’r cyhoedd, gan ystyried na fu ond mân ddirywiad yn
ffyrdd A y Sir a bod ffyrdd B ac C wedi gwella – neilltuwyd cyllid ychwanegol
ar gyfer priffyrdd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, a byddai newidiadau yn y
timau mewnol yn arwain at welliannau o ran mynd i’r afael â mân ddiffygion ar
ffyrdd y sir.
·
Pobl Ifanc – roedd Iechyd y
Cyhoedd wedi pennu llinyn mesur ar gyfer Rhaglen Mesur Plant Cymru, a oedd yn
paru plant â phwysau iach gyda phlant a oedd o dan bwysau – credai’r Cynghorydd
Feeley fod hynny’n amhriodol, gan y gallai bod o dan bwysau fod yn broblem, a
gofynnodd am ddiwygio ystadegau’r Cyngor i adlewyrchu hynny.
Wrth
ymateb i gwestiynau gan gynghorwyr nad oedd yn Aelodau o’r Cabinet, bu i’r Aelodau
Arweiniol a’r swyddogion –
·
gytuno i ddileu’r cyfeiriad at
ganeuon Cymraeg ‘syml’ yn y rhan o’r adroddiad ynglŷn â’r Iaith Gymraeg
·
cadarnhau bod y nifer (1,148)
a nodwyd ar gofrestr Un Llwybr Mynediad at Dai yn cyfeirio at aelwydydd, a bod
y Cyngor ar y trywydd iawn tuag at gyflawni’r targed o 170 o dai ychwanegol ar
gyfer rhentu cymdeithasol erbyn 2022
·
cydnabod ei bod yn
flaenoriaeth i wella perfformiad mewn meysydd allweddol i Bobl Ifanc, a bod y
Cyngor yn wynebu heriau yn hynny o beth; amlygwyd nifer o ffactorau a oedd yn
cyfrannu at y canlyniadau, gan gynnwys newidiadau ym mholisïau’r llywodraeth a’r
cwricwlwm, ynghyd â'r llu o gamau gweithredu a gymerwyd er mwyn ateb yr heriau
hynny a gwella pethau. Nodwyd
hefyd fod llawer o waith yn digwydd gyda’r ysgolion, y tu hwnt i’r Cynllun
Corfforaethol, ac roedd darpariaeth dda ar gyfer pobl ifanc yn y sir, fel y
gwelwyd yn y buddsoddiad sylweddol mewn addysg a’r adroddiadau rhagorol a
gafwyd gan Estyn yn sgil arolygu ysgolion a Gwasanaethau Addysg y Cyngor
·
esbonio fod yno restr ar gyfer
cynnal a chadw cwteri a’u clirio, bod mannau gwael yn cael eu clirio’n amlach,
a bod pobl yn cael eu hannog i hysbysu’r Cyngor o unrhyw gwteri wedi tagu neu
broblemau cysylltiedig drwy’r system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
·
o ran absenoliaeth mewn
ysgolion, roedd y pwyllgor craffu perthnasol wedi ystyried y mater ac roedd
gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y defnyddid y codau absenoldeb cywir yn gyson
ymhob ysgol, a bod y gweithdrefnau’n cael eu dilyn yn gadarn er mwyn sicrhau gwell
cofnodion i gael darlun manwl gywir o lefelau absenoldeb.
Esboniodd
yr Arweinydd bwrpas y Cynllun Corfforaethol a’r sail resymegol ar gyfer y
targedau heriol oedd ynddo a'r meysydd y dylid eu gwella er mwyn medru ymdrin
yn well â’r materion dan sylw er lles trigolion y sir. Os nad oedd y cynnydd cystal
â’r disgwyl mewn rhai meysydd, roedd gan aelodau craffu swyddogaeth allweddol
wrth graffu ymhellach ar y materion hynny. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r potensial ar gyfer cyllid ychwanegol wedi’i dargedu,
cadarnhaodd y Prif Weithredwr y neilltuwyd cyllid ar gyfer y Cynllun
Corfforaethol a bod y prosiectau’n cael eu hadolygu’n fanwl o hyd, gan
ailddyrannu cyllid fel y bo’n briodol er mwyn sicrhau’r cynnydd a’r canlyniadau
gorau posib. Er
ei bod yn cydnabod fod y Cynllun Corfforaethol yn uchelgeisiol, ac y dylai fod
felly, roedd hi hefyd yn ffyddiog y gellid cyflawni canlyniadau da erbyn diwedd
cyfnod y Cynllun Corfforaethol. Ychwanegodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod y ddogfen yn cynnwys data hanesyddol, a
bod cynnydd yn cael ei wneud o hyd o ran prosiectau’r Cynllun Corfforaethol.
Byddai’r rhain yn parhau dros gyfnod y Cynllun, a gallai rhai materion barhau
ar ôl ethol y Cyngor nesaf.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft
2018-19.
Dogfennau ategol:
- ANNUAL PERFORMANCE REVIEW, Eitem 7. PDF 277 KB
- ANNUAL PERFORMANCE REVIEW - APPENDIX, Eitem 7. PDF 3 MB