Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLWYNO DULL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/ SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cyngor argymell bod y Cabinet yn cefnogi mabwysiad yr Erthyglau Cymdeithasu ar gyfer Cwmni Masnachu Cyfyngedig Drwy Warant nid er elw arfaethedig yr Awdurdod Lleol.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor gefnogi mabwysiadu’r Erthyglau Cymdeithas drafft a Chytundeb Aelodau ar gyfer y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw fel yr amlinellir yn atodiadau'r adroddiad hwn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r argymhelliad bod y Cyngor o blaid mabwysiadu’r Erthyglau Cwmni drafft ar gyfer y cwmni masnachu awdurdod lleol cyfyngedig drwy warant, nid-er-elw, y bydd y Cyngor yn ei ddefnyddio fel dull gwahanol o ddarparu amryw weithgareddau a swyddogaethau ym maes hamdden.  Roedd yr adroddiad hwn yn gam arall tuag at sefydlu’r Dull Darparu Amgen.

 

Roedd y Cyngor wedi cytuno i greu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant ar 30 Mai 2019. Y ddogfen gyfansoddiadol ar gyfer cwmni cyfyngedig drwy warant oedd ei Erthyglau Cwmni a gofrestrwyd i’r cyhoedd eu gweld yn Nhŷ’r Cwmnïau (Erthyglau).  Yr hyn a gynigiwyd oedd mabwysiadu Erthyglau oedd yn seiliedig ar yr Erthyglau Enghreifftiol, gan gynnwys newidiadau yn benodol i ofynion y Dull Darparu Amgen, er mwyn gwarchod y Cyngor a rhoi rheolaeth iddo dros y cwmni.  Yn ogystal â’r Erthyglau, roedd yr adroddiad yn sôn am Gytundeb Aelodau rhwng y Cyngor a’r Dull Darparu Amgen a oedd yn amlinellu nifer o faterion nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr Erthyglau.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth y dylid darllen yr Erthyglau Cwmni drafft, yr Erthyglau Enghreifftiol a’r Cytundeb Aelodau drafft gyda’i gilydd, ac y byddai’r rhain i bob pwrpas yn cyfuno i ffurfio cyfansoddiad i’r cwmni newydd.  Rhoes esboniad i’r Aelodau o’r swyddogaethau pennaf a nodwyd yn yr Erthyglau a’r telerau a bennwyd yn y Cytundeb Aelodau.  Byddai’n rhaid diwygio geiriad y dogfennau drafft ymhellach, ac fe roddid esboniad o hynny wrth gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor fis Gorffennaf, a cheisid awdurdod dirprwyedig i gadarnhau’r dogfennau terfynol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau cafwyd yr ymatebion canlynol gan yr Arweinydd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth –

 

·         yn ogystal â chyflwyno’r cyfrifon yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, byddai’r Cyngor yn monitro er mwyn sicrhau tryloywder o ran perfformiad ariannol; byddai’n rhaid i’r cwmni ufuddhau i unrhyw gais gan y Cyngor am wybodaeth ariannol

·         wrth drafod a fyddai unrhyw dargedau newydd wedi’u pennu gan y Cyngor yn berthnasol i’r cwmni newydd, soniwyd y byddai gofyn i’r Cyngor ei gytuno â’r cwmni drwy’r cynllun busnes pe byddai’n dymuno pennu targedau penodol i’w cyflawni; o ran adolygu perfformiad, câi manylion y cwmni newydd eu cynnwys yn Adolygiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor, a oedd yn ymdrin â’r holl wasanaethau’r oedd y Cyngor yn gyfrifol amdanynt (gan gynnwys rhai a gomisiynwyd)

·         yn ôl pob tebyg roedd y sail resymegol ar gyfer yr amcan i ‘hyrwyddo swyddi a chryfhau’r economi leol’ wedi’i gynnwys er mwyn rhoi sicrwydd nad oedd bwriad cwtogi ar swyddi, ond yn hytrach eu diogelu a’u hybu, a chydnabod fod cyfleusterau mewn rhai rhannau o’r sir yn allweddol o ran gweithgarwch economaidd ac adfywio

·         gallai pwyllgorau craffu alw i mewn unrhyw faterion ynglŷn â’r cwmni newydd, ac esboniodd y Pennaeth Cyllid y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio elfennau o berfformiad ariannol y cwmni a gâi eu cynnwys yn natganiad cyfrifon y Cyngor.  Byddai gan y cwmni ei archwilwyr ei hun hefyd

·         mater i’r Cyngor oedd penodi Bwrdd Cyfarwyddwyr, gan fod a wnelo hynny â chyfansoddiad y cwmni newydd, a chyflwynid adroddiad i’r Cyngor ym mis Medi yn ceisio cadarnhad o aelodaeth y Bwrdd.

 

Gan ystyried yr angen i ddarllen yr holl ddogfennau gyda’i gilydd, cytunwyd i ddiwygio’r argymhelliad fel ei fod hefyd yn cynnwys mabwysiadu’r Cytundeb Aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor gefnogi mabwysiadu’r Erthyglau Cymdeithas drafft a Chytundeb Aelodau ar gyfer y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Cyfyngedig drwy Warant nid er elw fel yr amlinellwyd yn atodiadau’r adroddiad.

 

Yn y fan hon (11.45 a.m.) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: