Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FERSIWN DDRAFFT POLISI ENWI A RHIFO STRYDOEDD

Derbyn adroddiad gan y Gweinyddwr Perfformiad a Systemau ar y Polisi Enwau a Rhifau Strydoedd Drafft (gweler yn amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Gweinyddwr Perfformiad a Systemau Rhaglenni yr adroddiad am Bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd.

 

Y rheswm roedd yr adroddiad wedi dod gerbron Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg oedd mater oedd yn ymwneud â chyfieithiad o’r polisi.  Fe ysgrifennwyd y polisi drafft yn Saesneg heb unrhyw ystyriaeth y byddai’r ramadeg yn newid ar ôl iddo gael ei gyfieithu; felly gofynnwyd i’r grŵp adolygu’r ddogfen o safbwynt y Gymraeg cyn iddi ddychwelyd i’r pwyllgor Craffu ym mis Tachwedd.

 

Wrth ymateb i ymholiad ynglŷn ag enwi strydoedd, dywedodd y Gweinyddwr fod y polisi presennol sef Deddf Iechyd y Cyhoedd 1925 yn nodi, pan fo stryd yn cael ei henwi, boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg, mai dyna fyddai’r teitl cyfreithiol swyddogol.

Fe eglurodd nad ydynt yn annog yr arfer o newid enwau cyfreithiol gan y byddai’n achosi problemau i breswylwyr a’r Gwasanaethau Brys. Yr unig adeg y byddai enw’n cael ei newid yn gyfreithiol fyddai petai’r gwasanaeth brys yn cael trafferth dod o hyd i’r cyfeiriad.

 

Dywedodd y Gweinyddwr y dylai preswylwyr gynnig unrhyw newidiadau. Bu cais diweddar gan breswylydd yn llwyddiannus; roedd enwau ar dai ar stryd yn Nyserth yn hytrach na rhifau. Roedd hyn wedi achosi problemau i’r gwasanaeth ambiwlans. Lluniodd y preswylwyr ddeiseb gan olygu fod y newid wedi cael ei gymeradwyo, ac ers y newid ni fu unrhyw broblemau.

Mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne ei bryder y byddai enwau pwysig yn cael eu colli trwy’r broses bresennol. Dywedodd os oes yna gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yna dylid gwneud hynny heb unrhyw rwystrau.

 

Cytunodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts nad oedd modd cyfieithu Saesneg mewn rhai achosion. Cynigiodd fod y polisi’n cael ei adolygu eto. Gofynnodd pam fod angen enwau dwyieithog yng Nghymru lle nad yw hynny’n digwydd mewn gwledydd eraill.  Cynigiodd fod y polisi’n cael ei adolygu a lle y bo’n bosibl, fod enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio. Roedd yn teimlo fod technoleg, codau post, GPS ac ati sydd ar gael heddiw yn golygu y dylai fod yn hawdd lleoli unrhyw gyfeiriad, boed yn enw Cymraeg neu Saesneg.

 

Eiliodd y Cynghorydd Arwel Roberts gynnig y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

Roedd y Cynghorydd Graham Timms yn cytuno hefyd. Roedd yn teimlo y dylai unrhyw ystadau, ffyrdd newydd ac ati gael enw Cymraeg. Roedd yn cytuno y dylid edrych eto ar y polisi a’i rannu i ymgynghori arno.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau (CDC) wrth yr aelodau nad oes modd i’r Pwyllgor wneud unrhyw benderfyniadau ffurfiol, serch hynny gallai wneud argymhelliad yn seiliedig ar drafodaethau a dadleuon y pwyllgor y dylid adolygu’r polisi ymhellach i awgrymu fod pob tŷ, stryd newydd ac ati yn cael enw Cymraeg.

 

Byddai’r polisi yn dychwelyd gerbron y Pwyllgor Craffu ym mis Tachwedd, ac yna’r Cabinet. Y penderfyniad fyddai i symud ymlaen â’r ystyriaethau ac argymhellion o Bwyllgor Llywio’r Gymraeg a Phwyllgor Craffu neu beidio.

 

Tynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies sylw at y ffaith y gallai rhai enwau strydoedd fod yn anghywir mewn cronfeydd data gan fod pobl yn tueddu i ddefnyddio’r enw anghywir fel arferiad. Fe awgrymodd fod y pwyllgor yn adolygu’r polisi cyfan yn drylwyr.

 

PENDERFYNWYD: bod Pwyllgor Llywio'r Gymraeg yn argymell adolygiad o Bolisi Enwi Strydoedd Cymraeg.

 

 

Dogfennau ategol: