Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL I GOMISIYNYDD Y GYMRAEG
Derbyn adroddiad
gan Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd ar yr Adroddiad Blynyddol i
Gomisiynydd y Gymraeg (gweler yn amgaeedig).
Cofnodion:
Rhoddodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli
Ymgyrchoedd (ATCRhY) gyflwyniad am yr Adroddiad Blynyddol i Gomisiynydd y
Gymraeg.
Roedd yr adroddiadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Sir Ddinbych
bob blwyddyn er mwyn i Gomisiynydd y Gymraeg eu darllen ac os bydd ganddo
unrhyw bryderon, bydd yn trefnu cyfarfod.
Roedd yr adroddiad yn adolygu prosesau a datblygiadau o
fewn y Cyngor.
Un o ddigwyddiadau llwyddiannus y tîm oedd Eisteddfod y
Cyngor, gyda staff o adrannau gwahanol yn cymryd rhan. Y bwriad gwreiddiol oedd
cynnal Eisteddfod y Cyngor bob dwy flynedd, ond yn sgil ei lwyddiant a’r galw,
bydd yn cael ei gynnal bob blwyddyn.
Fe soniodd y Rheolwr Tîm am rai o’r prosiectau parhaus
sydd ar waith. Yn ddiweddar, roeddynt wedi darparu hyfforddiant i aelodau staff
oedd yn gallu siarad Cymraeg ond yn ddim yn teimlo’n gyfforddus yn ysgrifennu
Cymraeg, rhoddodd y cwrs hyder i staff a bu'n llwyddiant.
Dywedodd Swyddog y Gymraeg fod 22 aelod o staff wedi
cofrestru i ddechrau gwersi Cymraeg ym mis Medi. Roedd staff yn cefnogi
gweithgareddau megis clybiau cerdded a sesiynau paned a sgwrs. Serch hynny, fe
ddywedodd ei bod hi’n cael problemau trefnu gweithgareddau i bob lefel, ond
roedd y gweithgareddau presennol yn addas i'r aelodau staff.
Fe soniodd y Rheolwr Tîm am un peth penodol
roedd yr Hyrwyddwyr yr Iaith Gymraeg wedi’i godi, ac roedd yn rhywbeth mae Sir
Conwy eisoes wedi’i gyflwyno. Roedd modd actifadu gosodiad ar e-byst i alluogi
dysgwyr i ddewis opsiynau megis Siaradwr Cymraeg, Dysgwr ac ati. Fe eglurodd
fod yna nifer o newidiadau technolegol y gellir ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg.
Cafodd yr aelodau wybod fod yn rhaid nodi unrhyw gwynion
am y Gymraeg yn yr adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg. Dim ond 2 gŵyn
swyddogol oedd yn yr adroddiad blaenorol, sef enw SC2 a'r ail oedd poster 'ddim
yn gweithio' dros dro ar beiriant parcio.
Fe ddywedodd pan fo cwynion yn cael eu derbyn, mae'r tîm
yn eu datrys ac yn cynllunio er mwyn sicrhau na dderbynnir rhagor o gwynion.
Meysydd eraill i gael sylw oedd;
Ø Nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Ganolfan Alwadau
Ø Nifer yr aelodau staff sy’n cael gwersi Cymraeg
Ø Cynllun Strategol Addysg Gymraeg
Dywedodd y Rheolwr Tîm eu bod yn derbyn adroddiad
blynyddol am gynnydd y staff sy’n mynychu gwersi Cymraeg. Trwy’r adroddiad
byddent yn adolygu a ydi’r cwrs yn briodol i’r aelod o staff neu a fyddent yn
elwa mwy ar gwrs arall.
Wrth ddod â'i gyflwyniad i ben cyn i’r aelodau gael cyfle
i ddweud eu dweud, dywedodd y dylid cyhoeddi’r adroddiad, os oedd yr aelodau’n
hapus ag o.
Mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne bryder ynghylch
arwyddion ffordd. Fe eglurodd fod yna broblem gyda chwmnïau allanol yn
defnyddio arwyddion ffordd dwyieithog. Roedd yn cydnabod nad oedd hyn yn
broblem enfawr, ond roedd cwynion yn cael eu mynegi o’u herwydd.
Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm eu bod yn cysylltu â’r adran
berthnasol pan maent yn cael gwybod am broblem ac yn gofyn iddynt gael gwared
ar yr arwyddion. Mae’r tîm wrthi’n rhoi system ar waith i sicrhau fod pob
arwydd sydd wedi’i gyfieithu’n cael ei anfon atynt i’w wirio. Fe ychwanegodd
fod yn rhaid i gontractwyr trydydd parti ddilyn Safonau Cymraeg yr Awdurdod.
Dywedodd fod yna ychydig o broblemau’n fewnol hefyd, wrth
i staff greu eu harwyddion papur eu hunain heb ddilyn Safonau’r Gymraeg. Ar y
cyfan serch hynny, roedd Sir Ddinbych yn dda iawn. Roedd y Rheolwr Tîm yn cydnabod efallai fod
staff wedi gweithio mewn Awdurdodau Lleol eraill yn y gorffennol heb fod yn
ymwybodol o Safonau Cymraeg Sir Ddinbych, felly yn sgil hyn, roeddynt wedi
awgrymu fod Safonau’r Gymraeg yn rhan o'r broses gynefino, er mwyn iddynt fod
yn ymwybodol ohonynt o'r dechrau.
Wrth ymateb i ymholiad ynglŷn â staff cymorth mewn
ysgolion, eglurodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Aelod Arweiniol Addysg,
Plant a Phobl Ifanc ei fod eisoes wedi adolygu hyn. Roedd y Sir a’r athrawon
wedi penderfynu lledaenu’r gyllideb rhwng yr ysgolion i sicrhau fod rhywun â’r
wybodaeth berthnasol yn yr ysgol bob dydd.
Dywedodd wrth yr Aelodau mai Sir Ddinbych oedd â’r safonau Cymraeg uchaf
mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, felly roedd yn teimlo fod yr ystadegau’n
adlewyrchu pa mor dda roedd y broses bresennol yn gweithio.
Gofynnodd y Cynghorydd Ann Davies gwestiwn ynglŷn â
myfyrwyr Lefel A. Gofynnodd sut y gellir annog myfyrwyr i aros mewn ysgolion
Cymraeg i astudio eu pynciau Lefel A.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod
dosbarthiadau Chweched Dosbarth Cymraeg yn fach o ran niferoedd, gan olygu fod
ysgolion yn cydweithio i agor eu cyrsiau i fyfyrwyr o ysgolion eraill. Yn
anffodus, dywedodd fod cludiant bellach yn broblem a fod hynny’n peri problem i fyfyrwyr chweched
dosbarth yn cyrraedd a gadael eu gwersi.
Awgrymodd y Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies fod y
problemau o ran arwyddion a safonau’r Gymraeg yn dychwelyd i'r Pwyllgor Craffu
i'w hadolygu, gan ei fod yn teimlo na fu newid ers y tro diwethaf i'r mater
gael ei godi. I gloi, fe ganmolodd ‘Denbighshire Today’ a’r rhannau yn Gymraeg.
Gofynnodd y cadeirydd i’w gyd-aelodau a oeddynt yn credu
fod pethau’n gwella, ddim yn newid neu’n gwaethygu o ran y Gymraeg yn Sir
Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod pethau
wedi gwella. Aeth ymlaen i ddweud fod pobl yn fwy ymwybodol yn sgil Safonau’r
Gymraeg, ac felly roedd negeseuon ffôn bellach yn ddwyieithog, roedd staff y
rheng flaen yn siarad Cymraeg. Serch hynny, roedd yn cydnabod nad oedd modd i’r
awdurod ddarparu popeth, mae’n rhaid i’r unigolyn fod yn fodlon dilyn y
safonau.
Awgrymodd y Cynghorydd Emrys Wynne y dylai Safonau’r
Gymraeg gael eu monitro yn rhan o adolygiad cyfnod prawf 6 mis yr aelod staff.
Roedd y Cynghorydd Ann Davies yn teimlo na fu gwelliannau
a bod angen gwneud mwy.
Roedd y Cadeirydd yn cydnabod ei bod yn eithriadol o
anodd monitro Safonau’r Gymraeg yn enwedig gyda phwysau gwaith ac ati.
PENDERFYNWYD: bod yr Aelodau yn cytuno
ar gynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: