Eitem ar yr agenda
EISTEDDFOD YR URDD - DIWEDDARIAD
Derbyn cyflwyniad
gan Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd ar Eisteddfod yr Urdd.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd (ATCRhY) adroddiad er mwyn rhoi
diweddariad am y cynnydd hyd yn hyn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych
2020.
Dywedodd yr Arweinydd y byddai
Eisteddfod yr Urdd ar y rhaglen o heddiw ymlaen, i sicrhau fod yr aelodau’n
cael y newyddion diweddaraf.
Byddai seremoni
gyhoeddi’n cael ei chynnal i hyrwyddo’r Eisteddfod ym mis Hydref. Byddai’r
digwyddiad yn dechrau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, ac yn gorymdeithio ar hyd y
Stryd Fawr ac yn parhau i Gaeau Bastion, Prestatyn. Cafodd yr aelodau wybod nad oedd yna gynllun
wrth gefn, felly byddai’r digwyddiad yn ddibynnol ar y tywydd.
Roedd disgwyl y
bydd tua 2,000 o bobl yn y digwyddiad ym mis Hydref. Roedd ysgolion eisoes wedi
dechrau paratoi posteri a baneri ar gyfer y digwyddiad. Fe fydd Swyddogion yr
Urdd wedi’u lleoli ar hyd y stryd ac yn y digwyddiad yn hyrwyddo ac yn rhoi
gwybodaeth i’r cyhoedd.
Diogelwch –
Cynhaliwyd Asesiad Risg mewn cysylltiad â diogelwch ffordd i gerddwyr a
cherbydau; gan gynnwys cau ffyrdd.
Dywedodd yr
Arweinydd Tîm fod yr Urdd wedi gwneud cais am stiwardiaid i gynorthwyo â’r
digwyddiad, yn bennaf at ddibenion diogelwch.
Dywedodd fod y tîm
Cysylltiadau Cyhoeddus yn gweithio’n agos gyda’r Urdd i sicrhau y bydd y
digwyddiad yn llwyddiannus, fe fyddai stondinau ar y cae yn ystod y prynhawn i
blant a phobl ifanc.
Unwaith y bydd y
digwyddiad ym mis Hydref wedi bod, bydd y tîm yn canolbwyntio ar Eisteddfod
2020.
Dylid sefydlu is-bwyllgor
ym mis Medi er mwyn dechrau cynllunio ar gyfer Maes yr Eisteddfod. Y
flaenoriaeth oedd pabell neu adeilad ar gyfer y prif lwyfan.
Cadarnhaodd y
Rheolwr Tîm fod cynllun cyfathrebu eisoes ar waith, byddai gwefan a chyfrifon
cyfryngau cymdeithasol yn cael eu sefydlu i sicrhau llif cyson o wybodaeth i'r
cyhoedd.
Trwyddedu
Cafodd yr Aelodau
wybod fod Sir Ddinbych eisoes wedi cytuno gyda’r Urdd i gael un trwydded oedd
yn cynnwys pob perfformiad ac ati.
Yn bennaf, Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol yr Eisteddfod fyddai hyrwyddo’r digwyddiad, hyrwyddo Sir
Ddinbych ei hun; pethau i wneud, lleoedd i aros, cynlluniau cludiant ac ati.
Maes arall a
fyddai’n cael sylw fyddai delwedd Sir Ddinbych, bydd hyn yn cynnwys plannu
blodau ar gylchfannau, addurno’r strydoedd a sicrhau fod Sir Ddinbych yn cael
ei chyflwyno mewn modd da.
Dywedodd y Rheolwr
Tîm y bydd diweddariad misol yn cael ei ddarparu i Aelodau o fis Medi ymlaen er
mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru a rhag ofn eu bod eisiau cymryd
rhan. Bydd Sir Ddinbych yn bresennol yn
yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst hefyd.
Wrth ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag apelio am wirfoddolwyr, dywedodd y Rheolwr Tîm eu bod
wedi cysylltu â chlybiau rygbi, clybiau pêl-droed, y wasg, cymunedau ac ati ac
roedd yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol.
O ran addurno, fe
eglurodd y byddent yn gweithio’n agos gyda'r gwasanaethau priffyrdd a’r
amgylchedd i sicrhau fod Sir Ddinbych cyfan yn cael ei addurno ar gyfer y
digwyddiad.
Fe atgoffwyd yr
Aelodau fod y digwyddiad yn cael ei drefnu a’i redeg gan yr Urdd. Rôl yr
awdurdod lleol oedd hyrwyddo a marchnata’r digwyddiad, roedd yr ALl hefyd yn
gyfrifol am drwyddedau, rheoliadau, safonau diogelwch y stondinau, diogelwch o
ran cyrraedd a gadael y Maes ac ati.
PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r cyflwyniad am Eisteddfod yr Urdd.