Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR Y DATGANIAD POLISI YNGHYLCH ADDASRWYDD YMGEISWYR A THRWYDDEDAU YN Y MASNACHAU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno Datganiad Drafft y Polisi sy’n ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai yn y masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i’w cymeradwyo o 1 Gorffennaf 2019.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       Mabwysiadu’r Datganiad Polisi ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ym musnesau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (sydd ynghlwm wrth Atodiad A), i’w weithredu ar 1 Gorffennaf 2019;

 

(b)       Awdurdodi swyddogion i wneud y newidiadau a nodir yn 4.8 uchod, fel bod y Datganiad Polisi ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau ym Musnesau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn gyson â’r ddogfen ganllawiau genedlaethol; a

 

(c)        Os derbynnir unrhyw gwyn neu ymholiad gan ddalwyr trwydded ynglŷn â'r Datganiad Polisi, bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trwyddedu oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r ddogfen bolisi wedi dod i ben.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Datganiad Drafft y Polisi sy’n ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i’w cymeradwyo o 1 Gorffennaf 2019.

 

Ar 5 Rhagfyr 2018, penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu fabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Trwyddedu a rhoi cyfarwyddyd i’r Swyddogion ddrafftio polisi a oedd yn bodloni’r gofynion yn y ddogfen dan sylw.  Ers hynny mae llawer o waith wedi cael ei wneud i ymgysylltu â deiliaid trwydded a chodi ymwybyddiaeth o'r Canllawiau, a oedd yn cynnwys newyddlen i holl aelodau’r fasnach drwyddedig, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a nifer o gymorthfeydd trwyddedu drwy’r sir.  Y bwriad oedd cymhwyso’r polisi i’r holl ddeiliaid trwydded newydd o 1 Gorffennaf 2019, a dim ond os bydd euogfarnau ychwanegol yn cael eu cronni y byddai'r deiliaid trwydded presennol yn cael eu hadolygu.  O ystyried bod y Cyngor yn mabwysiadu polisi cenedlaethol, nodwyd y gellid gwneud newidiadau yn genedlaethol a gofynnwyd i'r aelodau ystyried a ddylid awdurdodi swyddogion i fabwysiadu mân newidiadau heb adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.  Lle gwnaed newidiadau sylweddol, argymhellwyd bod swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau yn y cyfarfod nesaf sydd ar gael.

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd yr aelodau'n siomedig iawn i nodi mai dim ond tri deiliad trwydded oedd wedi mynd i’r cymorthfeydd trwyddedu, yn enwedig o gofio'r ymdrechion sylweddol a wnaed gan swyddogion i ymgysylltu â'r fasnach.  Yn ogystal â'r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, cadarnhaodd swyddogion fod newyddlen wedi'i anfon at bob deiliad trwydded yn y sir.  Cyfeiriwyd at waith caled y swyddogion a'r aelodau wrth adolygu a mabwysiadu polisïau'n barhaus er mwyn codi safonau ac effeithio ar welliannau o fewn y fasnach drwyddedig. Y Datganiad Polisi oedd y ddogfen ddiweddaraf o fewn y broses honno o welliant parhaus.  Heb ystyried y diffyg ymateb gan y fasnach er gwaethaf yr ymdrechion gorau i'w cynnwys yn y broses, derbyniwyd bod pob deiliad trwydded wedi cael digon o gyfle i ymateb ac felly cytunodd yr aelodau i fabwysiadu'r polisi ac awdurdodi swyddogion i fabwysiadu unrhyw newidiadau dilynol a wnaed yn genedlaethol.  Fodd bynnag, cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, os derbynnir unrhyw gwyn neu ymholiad yn y dyfodol gan ddeiliaid trwydded ynglŷn â'r ddogfen, fod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r Datganiad Polisi wedi dod i ben.  O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Mabwysiadu’r Datganiad Polisi ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ym musnesau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (sydd ynghlwm wrth Atodiad A), i’w weithredu ar 1 Gorffennaf 2019;

 

 (b)      Awdurdodi swyddogion i wneud y newidiadau a nodir yn 4.8 uchod, fel bod y Datganiad Polisi ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau ym Musnesau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn gyson â’r ddogfen ganllawiau genedlaethol; a

 

 (c)       Os derbynnir unrhyw gwyn neu ymholiad gan ddalwyr trwydded ynglŷn â'r Datganiad Polisi, bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trwyddedu oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r ddogfen bolisi wedi dod i ben.

 

 

Dogfennau ategol: