Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am Drwydded Cerbydau Hurio Preifat. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar –

 

(i)            gais yn cael ei dderbyn am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          swyddogion nad oeddent wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu yn cydymffurfio â pholisi'r Cyngor o ran y terfyn oedran pum mlynedd ar gyfer cerbydau a drwyddedwyd o dan gais newydd;

 

(iii)         amodau ychwanegol yn gymwys i drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol fel yr un a gyflwynir yn yr achos hwn, ynghyd â ffotograffau o'r cerbyd dan sylw’r cais, a

 

(iv)         gwahoddwyd yr ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Crynhodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad ac eglurodd fod yr Ymgeisydd wedi cyflwyno'r cerbyd fel cerbyd wrth gefn ar gyfer trwyddedu yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, ond ar ôl meddwl roedd wedi symud ymlaen gyda'r cerbyd gwreiddiol fel y manylwyd ar ei ffurflen gais, a ganiatawyd wedi hynny.  Fodd bynnag, nid oedd yr Ymgeisydd erioed wedi defnyddio'r cerbyd trwyddedig ac yn hytrach byddai'n well ganddo drwyddedu'r cerbyd wrth gefn.  Mae polisi'r Cyngor yn nodi na ddylai cerbydau sy'n destun cais newydd fod yn hŷn na phump oed ac roedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn un ar ddeg oed.  O ganlyniad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais yr Ymgeisydd i wyro oddi wrth polisi'r Cyngor a chaniatáu'r cais.

 

Cyflwynodd yr Ymgeisydd ei achos gan ddweud ei fod yn weithredwr cerbydau arbenigol cyfrifol, hirsefydlog ond ei fod wedi mynd yn groes i'r fanyleb newydd o ran oedran cerbyd.  Cyfeiriodd at ei gyflwyniad gerbron y Pwyllgor Trwyddedu diwethaf pan gafodd drwydded cerbyd, yn groes i'r terfyn oedran pump oed, ar sail y math o gerbyd, sef cerbyd moethus arbenigol a ddefnyddir ar gyfer achlysuron a digwyddiadau penodol a drefnir ymlaen llaw.  Ers prynu'r cerbyd hwnnw, roedd wedi caffael model newydd, gwell - a dyna pam y gwnaeth gais dilynol i'r Pwyllgor Trwyddedu.  Wrth ymhelaethu ar rinweddau'r cerbyd arfaethedig ar gyfer trwyddedu, rhoddodd dystiolaeth o amserlenni cynnal a chadw a gwasanaeth ynghyd â sicrwydd ynghylch safonau cerbydau uchel.  Mewn ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd ymhellach ar natur a gweithrediad ei fusnes.  Nododd yr Ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth pellach i'w ychwanegu o ran datganiad terfynol.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a'r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ofalus ac wedi nodi natur a math y busnes a weithredir, a'i fod yn weithredwr ag iddo enw da am wasanaethau arbenigol o'r fath.  Ar y sail honno ac ar ôl ystyried yn benodol y math o gerbyd y bwriedir ei drwyddedu, cytunodd yr aelodau y gwnaed achos i wyro oddi wrth eu polisi terfyn oedran yn yr achos hwn a chaniatáu'r cais fel ag yr oedd, yn amodol ar yr amodau ychwanegol sy'n berthnasol i'r math o gerbyd arbenigol.

 

Roedd penderfyniadau a rhesymau’r Pwyllgor felly wedi eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

 

Dogfennau ategol: