Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018/19

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio a Pherfformiad Strategol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2018-2019 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir, a gofyn i’r Pwyllgor benderfynu ac a oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach i ymateb i unrhyw faterion sy’n ymwneud â pherfformiad a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

12.15pm – 12.45pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (dosbarthwyd eisoes) oedd yn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor o ran cynnydd y Cyngor i gyflawni canlyniadau ei Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd Chwarter 4, 2018-19.  I gydymffurfio â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 roedd yr adroddiad hefyd yn manylu'r prosiectau Cynllun Corfforaethol a restrwyd ar gyfer eu cyflawni yn ystod y flwyddyn 2019-20.   Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i aelodau ychydig yn gynt na’r blynyddoedd blaenorol, roedd hyn oherwydd nad oedd cynghorau wedi eu gorfodi eleni gan yr angen i gyhoeddi ystadegau’r Uned Data Llywodraeth Leol.   Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol yr aelodau bod y ddogfen cyflawniad blynyddol wedi’i chynnwys yn yr adroddiad, canlyniadau’r arolwg preswylwyr, y wybodaeth ddiweddaraf ar raglenni a phrosiectau a gyflawnwyd, ynghyd â chyfeiriadau at ddatblygiad cynaliadwy, amrywiaeth a chynnydd gwybodaeth cydraddoldeb ac astudiaethau achos.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Prif Weithredwr, Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad:

 

        bod y graffiau yn Atodiad 3 wedi eu hailgynhyrchu o’r System Rheoli Perfformiad Verto ac felly nid oeddent yn hawdd i’w dilyn na’u darllen mewn fformat printiedig;

        cytunwyd nad oedd data ar gysylltedd band eang, yn arbennig o ran etholaeth Gorllewin Clwyd yn galonogol, felly dyna'r rheswm bod y Cyngor wedi dynodi fel un o’i flaenoriaethau corfforaethol bod cymunedau wedi eu cysylltu a mynediad i nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau trafnidiaeth da.   

Roedd gan holl awdurdodau lleol Gogledd Cymru bryderon o ran cysylltedd band eang a’i effaith posibl ar dwf economaidd, ffaith yr oedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi’i gydnabod.    Oherwydd hynny, roedd wedi’i nodi fel y prif flaenoriaeth o dan Fargen Dwf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.   Roedd yr Aelod Arweiniol a swyddogion yn cydnabod bod cysylltedd band eang a chyflymder, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig yn bryder mawr gan fod nifer o fusnesau bach wedi eu lleoli yn yr ardaloedd hyn oedd yn dibynnu ar gysylltedd digidol a di-wifr;

        ymgymryd â darparu gwybodaeth i aelodau ar sut fyddai llyfrgelloedd y Cyngor yn gallu cefnogi preswylwyr, yn arbennig pobl hŷn a diamddiffyn, i ymgeisio am fathodyn glas, a gwasanaethau eraill yn ddigidol. 

Roeddent hefyd yn cytuno i ddarparu gwybodaeth i’r pwyllgor ar y prosiect Ynysiad Digidol.

        cadarnhawyd er bod y Gofrestr Prosiect yn dangos ‘Gweithrediadau Ailfodelu Gwasanaeth Gwastraff yn oren, roedd hyn oherwydd ei fod yn cynnwys gwaith cyfalaf i’w wneud yn y depos.   

Roedd swyddogion yn hyderus y byddai’r prosiect hwn yn cael ei ddarparu; a

        dywedwyd bod gan y Cyngor bolisi clir o ran absenoliaeth mewn ysgolion a’r mater o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer absenoldeb anawdurdodedig.  

Er hynny, roedd gwahanol ysgolion yn defnyddio’r polisi mewn ffyrdd gwahanol.   Roedd Addysg a Gwasanaethau Plant yn monitro’r sefyllfa hon yn agos. 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Tîm Cynllunio Strategol ar lunio dogfen wedi’i hysgrifennu’n dda oedd yn hawdd i’w darllen ac yn llawn gwybodaeth.   Hefyd gofynnodd gan fod enillydd y gystadleuaeth i ysgolion i ddylunio logo ar gyfer Statws Cyfeillgar i Wenyn y Sir wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar, i’r logo gael ei ddefnyddio yn y ddogfen derfynol cyn ei chyhoeddi. 

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD:  - yn ddarostyngedig i’r sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol, i dderbyn a chymeradwyo perfformiad y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau a dyletswyddau cysylltiol fel y manylwyd yn yr adolygiad perfformiad blynyddol 2018-19.    

 

 

Dogfennau ategol: