Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EFFEITHIOLRWYDD ASESIADAU EFFAITH AR LES (WIA)

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) sy'n adolygu effeithiolrwydd dull y Cyngor i asesu effaith ei benderfyniadau a gofyn am farn y Pwyllgor ynghylch sut gall Aelodau gefnogi herio a chraffu'r asesiadau effaith hyn yn effeithiol.

 

11.40am – 12.15pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar weithredu ac effeithiolrwydd dull y Cyngor ar asesu effaith ei benderfyniadau, gan ddefnyddio ei Asesiad o Effaith ar Les ar y wefan.  Yn ystod ei gyflwyniad hysbysodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi bod mewn bodolaeth ers peth amser, fodd bynnag nid oeddent bob amser wedi bod yn effeithiol neu’n ddarostyngedig i her neu archwilio digonol.   Gyda chyflwyniad y Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, roedd Sir Ddinbych wedi gwneud penderfyniad rhagweithiol i ddatblygu Asesiad o Effaith ar Les i gynnwys pob agwedd o ofynion y Ddeddf tra'n parhau i ddiwallu gofynion deddfwriaethol eraill, er enghraifft yr angen i gynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.   Wrth fabwysiadu’r dull hwn, roedd y Cyngor wedi datblygu pecyn gwefan ar gyfer arwain adran i hwyluso cynnal Asesiad o’r Effaith ar Les, dull a ystyriwyd yn arfer da gan Swyddfa Archwilio Cymru.    Drwy gynnal yr Asesiad o’r Effaith ar Les yn defnyddio’r pecyn hwn, roedd gwybodaeth wedi’i chyflwyno i’r cynghorwyr mewn ffurf hawdd i’w deall fyddai’n helpu’r broses gwneud penderfyniad, tra byddai’n ofynnol i’r holl swyddogion ystyried yr effeithiau ar holl amcanion lles a'r egwyddor datblygu cynaliadwy.  Roedd hyn yn sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio i gynnal yr Asesiad o’r Effaith ar Les bob tro.    Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw’r Pwyllgor at y gwahaniaethau a sylwyd drwy ymgymryd â’r dull hwn, gan gynnwys penderfyniadau gwell a her mwy effeithiol yr Asesiadau o Effaith ar Les.    Er hynny, roedd yna le i wella ymhellach, ac o ganlyniad y rheswm dros adolygu eu heffeithiolrwydd.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddog Cynllunio a Pherfformiad bod yr Asesiadau o’r Effaith ar Les a archwiliwyd fel rhan o’r adolygiad wedi bod o ansawdd amrywiol, rhai yn dioddef rhagfarn gan yr awdur ac eraill yn amlwg ddim yn dechrau’n ddigon buan yn y camau cynllunio ar gyfer y cynigion i’w hystyried.     Roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd gyda swyddogion i bwysleisio’r angen i ddechrau’r Asesiad o’r Effaith ar Les yn fuan tra’n ffurfio cynnig neu brosiect ac i barhau i’w ddiweddaru yn ystod ei oes.    Roedd hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â phrosiectau mawr yr oedd y Cyngor yn bwriadu ymgymryd â nhw.  Roedd y broses Grŵp Cyfaill Beirniadol ar gyfer herio Asesiadau o’r Effaith ar Les wedi profi’n arbennig o ddefnyddiol ac roedd yna gynlluniau i adfer y broses hon yn ffurfiol wrth symud ymlaen.    Roedd cefnogaeth aelodau etholedig ar gyfer y broses yn allweddol ar gyfer llwyddo yn ogystal â’u rôl i herio’r Asesiadau o’r Effaith ar Les a gyflwynwyd iddynt. 

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddog Perfformiad:

 

        gadarnhau nad oedd pob Asesiad o’r Effaith ar Les yn cael eu gwirio o ran ansawdd.  

Roedd y Gwasanaeth Moderneiddio a Gwella Busnes yn dibynnu ar swyddogion i gysylltu â nhw am gymorth a chyngor os oeddent yn cael anhawster cwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Les.   Fodd bynnag, mewn rhai gwasanaethau e.e. y swyddogion yn delio gyda’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) roedd yna lefel uchel o arbenigedd cwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Les ac roedd swyddogion o bob gwasanaeth arall yn cael eu hannog i weithio gyda’i gilydd lle bo’n bosibl i lunio Asesiadau o’r Effaith ar Les o ansawdd uchel. 

        cadarnhawyd bod hawlfraint pecyn gwefan Asesiad o’r Effaith ar Les yn eiddo i Gyngor Sir Ddinbych.

Roedd nifer o awdurdodau lleol eraill wedi dangos diddordeb ynddo ac roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ystyried defnyddio pecyn Sir Ddinbych, fodd bynnag, nid oedd Sir Ddinbych yn rhagweld y byddai’n cynhyrchu incwm sylweddol i’r awdurdod;

        dywedwyd bod yna ddogfen Cwestiynau Cyffredin ar fewnrwyd y Cyngor i gynorthwyo cynghorwyr a swyddogion i herio Asesiadau o’r Effaith ar Les; a

        cytunwyd i roi ystyriaeth i’r ffordd orau i roi cefnogaeth bersonol i gynghorwyr herio Asesiadau o’r Effaith ar Les yn effeithiol wrth symud ymlaen e.e. drwy ddarparu sesiwn ar gyfer Briffio’r Cyngor, hyfforddi grŵp llai a digwyddiadau datblygu ac ati. 

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD:  - yn ddarostyngedig i’r sylw uchod a darparu cefnogaeth i holl aelodau etholedig o ran sgiliau datblygu i herio ac archwilio Asesiadau o’r Effaith ar Les yn effeithiol, i dderbyn canfyddiadau’r adolygiad o’r broses Asesiad o’r Effaith ar Les.  

 

Dogfennau ategol: