Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2018/19
Gofyn i’r Pwyllgor i graffu ar Adroddiad
Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (copi ynghlwm) ar berfformiad
y Cyngor o ran darparu gwasanaethau gofal plant a gofal cymdeithasol yn ystod
2018-2019, cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Mae’r adroddiad hefyd yn darparu'r Cyngor
gyda chyfle i amlygu unrhyw faterion neu bryderon o ran perfformiad a allai
elwa o gael eu craffu ymhellach.
10.10am – 11am
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau yr
adroddiad drafft (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn rhoi trosolwg gonest i’r
cyhoedd o ddarpariaeth gwasanaeth gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn ystod
2018-19 ac yn gofyn am farn y Pwyllgor ar asesiad y Cyfarwyddwr o ddarpariaeth
gwasanaeth a'r heriau gerbron cyn cyflwyno'r adroddiad i Arolygiaeth Gofal
Cymru (AGC). Roedd yr adroddiad, a
luniwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau
Cymdeithasol y Cyngor, yn ofyniad statudol o dan Rhan 8 Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a fwriadwyd i ddangos i'r cyhoedd fod gan
y Cyngor ddealltwriaeth glir o’i gryfderau, ac yn bwysicach na dim ei wendidau
a’r heriau o’i flaen.
Wrth gyflwyno’r
adroddiad roedd y Cyfarwyddwr yn talu teyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad staff
ar bob lefel o fewn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant. Er bod pob ymdrech wedi’i wneud i gadw’r
adroddiad yn fyr ac yn hawdd i'w ddarllen, oherwydd yr ystod eang o wasanaethau
a ddarperir i bob grŵp oedran gan y Gwasanaeth roedd hyn yn hynod anodd
i'w gyflawni. Diolchodd y Cyfarwyddwr i
aelodau etholedig am y gefnogaeth barhaus a ddarparwyd i’r gwasanaethau gofal
cymdeithasol yn y sir a sicrhau nad oedd y gwasanaethau pwysig hyn yn cael eu
defnyddio fel arf gwleidyddol gan unrhyw un o’r grwpiau gwleidyddol.
Wrth ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau ac Aelod Arweiniol y Cabinet dros
Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth yn methu bod yn bresennol yn anffodus oherwydd ymrwymiad
portffolio arall):
- hysbyswyd, o ran yr ‘Arolwg Dweud eich Dweud’
roedd 71% o blant yn yr arolwg wnaeth ddweud eu bod yn hapus gyda’r bobl
yr oeddent yn byw gyda nhw yn cyfateb i 7 o blant.
Tra ar yr olwg gyntaf, nad oedd hyn yn ymddangos yn gadarnhaol iawn roedd
yn bwysig cofio bod y rhain yn blant oedd wedi eu symud oddi wrth eu rhieni a’i
rhoi mewn gofal maeth ar gyfer eu diogelwch eu hunain. Roeddent felly yn mynd drwy brofiad trawmatig oedd yn achosi gofid
sylweddol iddynt. Roedd
lle yr oedd plant yn cael eu lleoli ar ôl cael eu symud oddi wrth eu rhieni yn
dibynnu ar yr amgylchiadau dros eu symud.
Weithiau byddai’n
briodol eu lleoli gydag aelodau o’r teulu neu gyda ffrindiau’r teulu, ar adegau
eraill byddai er eu budd pennaf i gael eu lleoli gyda gofalwyr maeth.
Roedd pob achos yn cael ei asesu yn
ôl ei deilyngdod, a’r penderfyniad yn cael ei wneud gyda budd pennaf y plentyn
mewn golwg. Nid oedd goblygiadau cost eu lleoliad byth yn
ffactor. Er nad oedd gan y Cyngor unrhyw gartrefi plant ei
hun, roedd yna nifer o gartrefi preifat yn gweithredu yn y sir ac roedd un
arall oedd yn bwriadu mabwysiadu dull newydd a ffres i ofalu am blant sy'n
derbyn gofal yn aros i weithredu ei drwydded;
- dywedwyd er bod y Cyngor yn anelu i gael ei
blant sy'n derbyn gofal wedi eu cofrestru gyda deintydd o fewn tri mis
ohonynt yn symud i ofal nid oedd hyn bob amser yn bosibl, gan fod ganddynt
anghenion eraill mwy dwys o bosibl oedd angen eu diwallu o fewn tri mis o
fod yn blentyn sy'n derbyn gofal;
•
dywedwyd
ei bod yn galonogol dweud bod cyllid trawsnewid Llywodraeth Cymru wedi’i
sicrhau yn rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru at ddiben sefydlu canolfan asesu
plant a datblygu gwaith Anableddau Dysgu.
Roedd Gogledd Cymru yn unigryw o ran nodi a sicrhau cyllid ar gyfer
datblygu gwaith anableddau dysgu;
•
cadarnhawyd
bod proffil ‘diogelu’ ar draws y Cyngor wedi codi’n eithaf sylweddol yn y
blynyddoedd diweddar.
Roedd gan y Cyngor Bolisi Diogelu Corfforaethol yr oedd disgwyl i holl
staff gadw ato, roedd gan bob Gwasanaeth ei Swyddog Diogelu penodedig ei hun
oedd yn adrodd i'w Gwasanaeth ar ddarpariaeth hyfforddiant ac ati ac oedd yn
gyfrifol am adrodd i'r Bwrdd Diogelu ar gydymffurfio ac ar faterion oedd yn
achosi pryder o fewn eu Gwasanaethau.
Roedd gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cynnal a’u
monitro yn rheolaidd ac ati. Roedd yn
ofynnol i holl staff y Cyngor hefyd gwblhau modiwlau e-ddysgu ar Ddiogelu a
Thrais yn Erbyn Merched. Roedd pob un
o’r mesurau hyn yn ychwanegol at gyfrifoldebau diogelu statudol y Cyngor. Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu dull
corfforaethol ar gyfer diogelu, o ganlyniad roedd cyfrifoldeb diogelu yn
ymddangos o fewn cyfrifoldeb tri deilydd portffolio’r Cabinet – Aelod Arweiniol
Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth a’r Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel;
•
cadarnhawyd
bod gan y Cyngor fewnbwn strategol a gweithredol lleol i waith Heddlu Gogledd
Cymru yn ymwneud â gwaith camddefnyddio sylweddau ‘Llinellau Cyffuriau'.
Roedd rhyngweithiad y Cyngor gyda’r gwaith hwn
wedi’i ddangos i’r Pwyllgor mewn ffurf nifer o enghreifftiau diweddar o waith a
wnaed gyda sefydliadau partner. Pwysleisiwyd bod ‘plant’ oedd yn ymwneud ag
ymchwiliadau ‘Llinellau Cyffuriau’ eu hunain yn ddioddefwyr ac yn hynod fregus.
O ganlyniad, gwnaed pob ymdrech i’w cefnogi a’u diogelu;
•
eglurwyd,
o ran ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’, roedd Sir Ddinbych yn un o’r awdurdodau
lleol gorau am adrodd yn gywir ar y ffigyrau hyn, roedd gan rai awdurdodau
dueddiad i guddio’r ffigyrau.
Yn y blynyddoedd diweddar, roedd y Cyngor wedi ymgymryd â gwaith sylweddol
i nodi holl blant sy’n derbyn addysg gartref ac ymgysylltu â nhw a’u teuluoedd
gyda’r bwriad i'w perswadio i ailymuno ag addysg prif ffrwd. Cyfarwyddwr Addysg Sir Ddinbych oedd Cyfarwyddwr
Arweiniol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru dros ranbarth Gogledd Cymru a’r
arweinydd ar gyfer addysg gartref. Roedd
gan y Cyngor wasanaeth Addysg yn y Cartref ardderchog, ffaith oedd wedi’i
gydnabod gan Estyn mewn adroddiad arolygu diweddar;
•
dywedodd os oedd
plant yn absennol o’r ysgol ar sail feddygol yr ysgol oedd yn gyfrifol am
ddarparu eu haddysg yn y tymor byr a chanolig.
Os oedd eu habsenoldeb o’r ysgol ar sail feddygol yn hirdymor byddai Addysg
a Gwasanaethau Plant y Cyngor yn gwneud trefniadau iddynt gael eu haddysgu
•
eglurwyd
bod y prosiect ‘Mesur y Mynydd’ yn fenter Cymru gyfan a anelwyd at werthuso
effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deall
profiadau pobl o ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd gan Sir Ddinbych gipolwg o’r prosiect hwn gan fod gofalwr o'r sir yn
aelod o'r Panel. Byddai’n rhoi
cyflwyniad ar waith y Panel a’i ganfyddiadau i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
yn y dyfodol agos. Byddai’r Cyfarwyddwr
yn trefnu i ddosbarthu’r adroddiad cenedlaethol i’r aelodau pan fydd ar gael;
•
cytunwyd
er bod y derminoleg yn yr adroddiad ar adegau yn ymddangos yn anghyfarwydd e.e.
dinasyddion ac ati, roeddent nawr yn cael eu defnyddio ym maes gofal
cymdeithasol ac yn cymharu â therminoleg, fel 'cleient’ neu ‘defnyddiwr
gwasanaeth’;
•
cadarnhawyd
bod gwaith y Gwasanaeth Atal Digartrefedd ledled y sir ac nid wedi’i gyfuno i
ogledd y sir yn unig, er bod y galw mwyaf am y Gwasanaeth yn ardal arfordirol y
gogledd o’r sir.
•
dywedwyd
ei bod yn ofynnol i’r Cyngor weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (BIPBC) fel bwrdd iechyd lleol yr ardal.
Er nad oedd gweithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd bob amser yn
hawdd neu’n ddelfrydol, roedd yn parhau i wella gyda phob partner bellach yn
cydnabod blaenoriaethau a phwysau’r naill a’r llall;
•
cadarnhawyd
y byddai’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn archwilio diogelu ac yn diwallu
anghenion y digartref yn y sir yn ogystal â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac
Oedolion (CAMHS) yn ystod y misoedd i ddod;
•
cydnabuwyd
bod Dementia yn faes oedd yn achosi pryder cynyddol.
Roedd cefnogaeth sylfaenol a gwasanaethau lleol yn aml iawn y camau gorau i
gefnogi dioddefwyr dementia a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Fodd bynnag, gyda chynnydd yn y nifer o
bobl hŷn yn byw gyda dementia, rhagwelir y byddai Cymru mewn argyfwng yn
fuan, yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr ychydig flynyddoedd yn ôl;
•
pwysleisiwyd nad
oedd y Cyngor wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r
afael ac ariannu pwysau a nodwyd o fewn gofal cymdeithasol a Gwasanaethau
Plant.
Fodd bynnag, drwy gynllunio ariannol darbodus fel rhan o’i Gynllun Ariannol
Tymor Canolig, roedd wedi gallu rhyddhau £2filiwn ychwanegol i gefnogi
darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol yn 2019/20. Yn ogystal, roedd y Cyngor yn eithaf
effeithiol am dynnu arian grant penodol i lawr i helpu i ddarparu elfennau
penodol o’r gwasanaethau a ddarperir.
Fodd bynnag, oherwydd yr union ffaith bod yr arian grant hwn yn
gyfyngedig o ran amser byddai’n risg sylweddol bod yn ddibynnol arnynt yn y
tymor hir, ac er bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi newid
gwaith ataliad ac ymyrraeth gynnar o fod yn wasanaethau yn ôl disgresiwn i rai
statudol, nid oedd y Ddeddf wedi
cydnabod hyn drwy sicrhau bod y cyllid ar eu cyfer wedi’i gynnwys yn y Grant
Cynnal Refeniw. Roedd hyn yn parhau i
gael ei dalu mewn ffurf arian grant, heb unrhyw sicrwydd hirdymor ynglŷn
â’i argaeledd;
•
cadarnhawyd
bod ‘chwythu'r chwiban’ mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol bob
amser yn her, er gwaethaf y ffaith y gellid ei wneud yn ddienw.
Fodd bynnag, byddai’r Fframwaith Rheoleiddio ac Arolygu Deddf Gofal
Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cynorthwyo gyda materion o’r fath. Roedd gan y Cyngor berthynas dda iawn gyda’r
undebau o ran materion chwythu'r chwiban; a
•
dywedwyd
eu bod yn hyderus bod pythefnos o gyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ar borthol
Sgwrs y Sir y Cyngor yn ddigon o amser i drigolion ymateb i gynnwys yr
adroddiad
Cytunodd y
Cyfarwyddwr i gynnwys diffiniad, eglurhad a gwybodaeth cyd-destunol yn y
ddogfen derfynol ar delerau fel ‘Rhagnodi Cymdeithasol’, ‘Symud y Mynydd’ ac
ati. Hefyd cytunwyd i ymestyn y geiriau
yn ail baragraff yr adran ‘Arolwg Dweud Eich Dweud’ ar dudalen 4 o’r adroddiad
i ddarllen “.... teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i barhau i ofalu’ ac
aileirio'r paragraff ar ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’ ar dudalen 22 o’r
adroddiad er mwyn egluro bod y “cynnydd o 50 i 100 o ddisgyblion nad ydynt yn
derbyn addysg yn y cartref mwyach’ yn golygu mewn gwirionedd eu bod bellach
mewn addysg prif ffrwd.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl, penderfynwyd:
PENDERFYNWYD: - yn ddarostyngedig i’r
sylwadau uchod a chynnwys y newidiadau gofynnol, bod
(i)
yr adroddiad yn rhoi disgrifiad clir o
berfformiad yn 2018/19; a
(ii)
bod y materion oedd yn achosi pryder yn
ystod y drafodaeth ar yr adroddiad eisoes wedi eu cynnwys yn rhaglen waith i’r
dyfodol y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau’r Cyngor
Dogfennau ategol:
- Director of Social Services Annual Report 2018-19, Eitem 6. PDF 227 KB
- Director of Social Services Annual Report 2018-19 - App 1, Eitem 6. PDF 1 MB