Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD ESTYN O ADDYSG GREFYDDOL

(a) Ystyried argymhellion o adroddiad Estyn (copi’n amgaeedig), a

 

 (b) sut y bydd CYSAG yn monitro cynnydd ysgolion yn erbyn argymhellion Estyn? (copi’n amgaeedig)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych ac Arolygydd Cyfoedion Estyn (HTDHS) Adolygiad Estyn o Addysg Grefyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Gwahoddwyd yr HTDHS i gymryd rhan mewn astudiaeth thematig gyda chylch gwaith i edrych ar ddarpariaeth ac ansawdd Addysg Grefyddol ar draws Cyfnod Allweddol 3. 

 

Yn ystod yr ymweliadau, roedd gan yr arolygwyr gyfle i gyfarfod gyda’r Penaethiaid i ofyn cyfres o gwestiynau, ac yna roedd cyfle i gyfarfod â’r myfyrwyr ac adolygu enghreifftiau o’u gwaith.

 

Safonau – daeth y panel o arolygwyr i'r casgliad bod gan nifer o'r ysgolion safon dda o Addysg Grefyddol.   O ran pontio rhwng Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, roedd ailadrodd yn y gwaith, cafwyd y wybodaeth hon o ddatganiadau'r myfyrwyr. 

Nododd y myfyrwyr bod Addysg Grefyddol yn gymorth iddynt ddeall y gwrthdaro yn y Byd, ac yn gymorth i ddeall pam fod gan wahanol bobl safbwyntiau gwahanol.  Eglurodd HTDHS ei bod yn amlwg yng Nghyfnod Allweddol 3 bod athrawon dosbarth yn galluogi trafodaeth gyda phynciau megis perthnasau ac ati. 

 

Roedd yn amlwg bod Addysg Grefyddol yn dda iawn am ddatblygu sgiliau myfyrwyr, yn enwedig llythrennedd, meddwl a rhesymu. Nid oedd gan Addysg Grefyddol mewn ysgolion bwynt yn diffinio beth y gellir ei astudio. 

 

Darpariaeth – Roedd gan nifer o'r ysgolion staff cymwys i gyflwyno'r pwnc, yng nghyfnod Allweddol 2 a 3.  Ond roedd diffyg gwaith pontio yn golygu bod testunau’n cael eu hailadrodd. 

 

Nododd yr adroddiad bod yr adran mewn ysgolion uwchradd yn aml yn cael eu harwain gan arbenigwr pwnc a oedd â chymhwyster lefel gradd.  Roedd cefnogaeth darpariaeth yn amrywio ar draws yr ysgolion, roedd gan rai ysgolion ddull systematig o ddysgu gyda'r holl adnoddau ar gael ac roedd gan eraill gyfarfodydd wythnosol gydag arbenigwr i sicrhau bod y cwricwlwm yn gywir ac i ofyn am unrhyw ddarpariaethau oedd yn ofynnol. 

 

Cysylltiadau – roedd gan bron yr holl ysgolion cynradd gysylltiadau da gyda sefydliadau ond dim ond lleiafswm o ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 oedd yn ymweld â man crefyddol nad oedd yn Gristnogol.  Codwyd y cwestiwn pa mor aml yr oedd cynrychiolwyr crefyddol yn ymweld ag ysgolion. 

 

 Holodd Dominic Oakes ai llai o gynrychiolwyr crefyddol oedd yn cysylltu â’r ysgolion i ymweld neu ddiffyg gwahoddiadau gan yr ysgolion.  Cadarnhaodd HTDHS mai cyfuniad o'r ddau ydoedd.  Roedd lleoliad yn elfen bwysig, eglurodd bod ysgol uwchradd wedi ymweld â Mosg ym Manceinion unwaith, ond nad ydynt yn gwneud hynny bellach oherwydd rhesymau ymarferol.  Cynigodd y cadeirydd syniad o greu rhestr o leoliadau addoli cymeradwy y gallai ysgolion ymweld â nhw, teimlai y byddai hyn yn annog yr ysgolion i drefnu'r ymweliadau.

 

 

Ansawdd Adborth Athrawon – eglurwyd i’r aelodau bod y wybodaeth yn amrywio ar draws Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Ond roedd yr adborth yn drylwyr. 

 

Aelodaeth – roedd cwricwlwm nifer o’r ysgolion cynradd a bron yr holl ysgolion uwchradd yn cael ei fonitro.  Roedd gan nifer o’r ysgolion uwchradd broses hunanwerthuso o fewn Addysg Grefyddol, byddai gwybodaeth yn cael ei adrodd i’r Pennaeth a fyddai yna’n adrodd i’r Cyrff Llywodraethu. 

 

Dysgu Proffesiynol - Roedd gan nifer o ysgolion fynediad cyfyngedig at hyfforddiant ar gyfer athrawon.  Roedd nifer o’r ysgolion yn ymwybodol o CYSAG ond yn ansicr ynglŷn â’i rôl. 

Roedd llai o gyfleoedd i athrawon Cyfnod Allweddol 3 i gyfarfod â'u cyd arbenigwyr pwnc, ac roedd llai o achosion lle roedd athrawon o Gyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn cyfathrebu i sicrhau pontio da. 

 

Dywedodd Ali Ballantyne gan fod Addysg Grefyddol yn orfodol yng Nghyfnod Allweddol 3, pam nad oedd myfyrwyr yn derbyn lefel, roedd yn teimlo bod y pwnc yn dod yn llai pwysig o gymharu â phynciau gorfodol eraill. 

 

Teimla'r Cynghorydd Ellie Chard nad oedd graddau yn angenrheidiol yn Addysg Grefyddol   Mae gan fyfyrwyr safbwyntiau gwahanol, felly roedd yn teimlo na fyddai'n deg eu graddio ar eu safbwyntiau. 

 

Eglurodd HTDHS er mwyn gwirio cynnydd myfyrwyr, rhoddir lefel i bob unigolyn ar gyfer pob pwnc dyniaethol.  Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, roedd gan yr ysgol ofyniad cyfreithiol i adrodd i’r rhieni. Yn ôl y gyfraith, nid oedd yn rhaid i’r ysgol ei adrodd cyn yr adroddiad terfynol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. 

 

Teimla Ali Ballantyne y dylid adrodd y lefelau. 

 

Ychwanegodd Dominic Oakes y byddai’r defnydd o lefelau yn bwynt dadleuol iawn, ond teimla bod y pwnc yn anrhydeddus o beidio â chael lefelau.  Ychwanegodd hefyd nad oedd yn teimlo y byddai cyflwyno argymhelliad o fewn cylch gwaith y grŵp.

 

Eglurodd Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (SSIO) i’r aelodau y byddai'r Awdurdod Lleol yn ymateb i'r Cwricwlwm newydd.  Fel awdurdod gallant awgrymu bod Addysg Grefyddol yn derbyn pwysau cyfartal o fewn y pynciau dyniaethau eraill. 

 

Teimla Swyddog Addysg yr Esgobaeth (DEO) bod y sgiliau sy’n cael eu datblygu drwy Addysg Grefyddol yn hanfodol ar gyfer bywyd.  Felly teimla wrth symud ymlaen tuag at y cwricwlwm newydd, dylid rhoi mwy o ystyriaeth i'r themâu, astudiaethau, enghreifftiau a'r disgwyliadau o'r themâu. 

 

Teimla’r cadeirydd er bod y pwnc yn bwysig, dylid ei ystyried mewn cyfarfod arall pan fo sefyllfa'r cwricwlwm newydd wedi symud ymlaen ymhellach.

Nododd hefyd bod ymgynghorydd arbenigol Addysg Grefyddol wedi mynychu a chefnogi’r CYSAG, holodd pam nad oedd arbenigwr yn mynychu’r cyfarfodydd mwyach.  Cadarnhaodd y SSIO bod arbenigwr oedd yn gweithio ar gyfer GwE a oedd yn mynychu cyfarfodydd, fodd bynnag roedd Addysg Grefyddol yn rhan fechan iawn o’r swydd a phan fo amgylchiadau'n newid roedd y ddarpariaeth wedi mynd.  Ond fe gadarnhaodd yr SSIO bod arbenigwr yn cael ei ganfod i gefnogi CYSAG yn y tymor ysgol newydd. 

 

Eglurodd yr SSIO bod Ysgolion wedi derbyn copïau o adroddiadau Estyn.  Mae’n rhaid i’r ysgolion ddatblygu’r argymhellion yn eu hysgolion, gan nad oedd gan yr awdurdod y capasiti i fonitro’r argymhelliad ar gyfer pob ysgol unigol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gweithdrefnau presennol, eglurodd yr SSIO na ellir gwella’r gweithdrefnau presennol a gan nad oedd pryderon mawr am unrhyw ysgol yn yr awdurdod, ni fyddai angen newid y gweithdrefnau. 

 

Holodd y Cynghorydd Emrys Wynne beth oedd yr agwedd tuag at atal o fewn ysgolion a sut yr eir i’r afael â diogelu. Eglurodd HTDHS bod posteri ym mhob dosbarth yn Ysgol Uwchradd Dinbych gyda lluniau ac enwau'r swyddogion diogelu.  Roedd yr aelodau o staff yn ymwybodol pe bai mater diogelu, y dylid ei adrodd i'r swyddogion diogelu neu'r pennaeth.  Yna byddai’r ysgol yn ffonio rhif Porth Plant y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi gwybod am y materion.  Mae’r staff yn derbyn hyfforddiant blynyddol ac roedd atal yn rhan o’r hyfforddiant.

 

Ar ran yr aelodau diolchodd y cadeirydd i Bennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych ac Arolygydd Cyfoedion ar gyfer Estyn am ei adroddiad ac awgrymu y dylid ychwanegu diogelu mewn ysgolion at y rhaglen gwaith i'r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:  - Bod y pwyllgor yn nodi'r argymhellion yn Adroddiad Estyn.

 

 

Dogfennau ategol: