Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARCHWILIAD MEWNOL O IECHYD A DIOGELWCH MEWN YSGOLION

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Mewnol (copi'n amgaeedig) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, am y cynnydd o ran rhoi'r cynllun gweithredu ar waith a oedd yn cyd-fynd â'r adroddiad archwilio mewnol ar iechyd a diogelwch mewn ysgolion ym mis Mehefin 2018.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Archwilydd (UA) adroddiad (a gylchredwyd eisoes) i roi diweddariad i’r aelodau ynglŷn â’r ffordd y mae’r Cyngor wedi gweithredu gwelliannau ym maes Iechyd a Diogelwch mewn ysgolion ers i’r adroddiad Archwilio Mewnol gael ei ddarparu.

 

Mae adroddiad dilynol Archwilio Mewnol (Atodiad 1) yn dangos bod y mater risg uchel yn ymwneud ag asesiadau perygl tân a dau allan o'r pedwar mater risg cymedrol wedi eu datrys yn llwyddiannus. Roedd angen gwelliannau pellach er mwyn mynd i’r afael â'r ddau fater risg canolig sydd ar ôl, sy'n ymwneud â datblygu system lwybro gweithredu a chynnal a chadw cofnodion cyflawn o staff yr ysgol sydd wedi mynychu’r hyfforddiant Iechyd a Diogelwch gofynnol.

 

Yn seiliedig ar yr adolygiad gwreiddiol a’r gwaith gwella a oedd wedi’i wneud, roedd y gyfradd sicrwydd wedi codi o isel i ganolig. Byddai Archwilio Mewnol yn parhau i fonitro’r camau gweithredu a oedd yn weddill ac wedi'u datrys yn rhannol er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn cael eu cyflawni.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod trafodaethau -

 

·         Cadarnhawyd bod y llythyr a ddosbarthwyd i ysgolion, hefyd wedi ei anfon at gyrff llywodraethu'r ysgolion.

·         Soniwyd am y cynllun rheoli haint, a’r math o faterion yr oedd ysgolion â heintiau yn eu hwynebu. Ymatebodd yr UA trwy ddatgan bod y gwaith yn ymwneud â rhoi mesurau ataliol i reoli heintiau megis gweithredu cynlluniau rheoli heintiau priodol a glanweithdra h.y. glanhau teganau. Roedd hyfforddiant yn cael ei drefnu ar gyfer staff ysgolion hefyd.

·         Codwyd pryderon ynglŷn â’r gwaith ychwanegol i athrawon a allai gael ei greu yn dilyn yr archwiliad. Holwyd ynghylch y posibilrwydd o benodi swyddog i wneud y gwaith mewn ysgolion. Hysbyswyd aelodau bod Cydgysylltydd Ysgolion Iach ar gael i gynorthwyo ysgolion. Hysbysodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol y pwyllgor y byddai'r tîm Iechyd a Diogelwch hefyd o gymorth i ysgolion. Anfonwyd canllawiau at bob ysgol ond roedd pob ysgol yn wahanol a tybiwyd y byddai'n fwy priodol i rywun â gwybodaeth am yr ysgol weithredu'r gwaith yn eu hysgol eu hunain.

·         Roedd yr adroddiad gwreiddiol wedi cael ei gylchredeg i’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

·         Cafodd y gwaith a wnaethpwyd ei ganmol gan aelodau, roedd iechyd a diogelwch yn cael ei ystyried yn risg mawr lle bo plant ifanc yn y cwestiwn a bod angen monitro hynny’n drylwyr. Cytunwyd y byddai llythyr dilynol gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei anfon at benaethiaid a llywodraethwyr, cytunwyd hefyd y byddai adroddiad dilynol yn cael ei ddychwelyd at y pwyllgor ym mis Tachwedd.

·         Roedd y Cyngor wedi gosod asesiadau diogelwch tân i gael eu cynnal bob tair blynedd, nid oedd hynny’n ofyn statudol ystyriwyd bod asesiadau tair blynedd yn ddigonol. Fodd bynnag, sicrhawyd aelodau os oedd unrhyw newidiadau mawr i unrhyw ysgol; byddai asesiadau'n cael eu cynnal eto.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi cynnydd o ran mynd i’r afael â chamau gweithredu archwilio yn amodol ar yr arsylwadau uchod.

 

(i)    Gofyn i adroddiad dilynol gael ei roi i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Tachwedd 2019.

(ii)  Cylchredeg llythyr dilynol gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion.

 

Ar y pwynt hwn (10.50 am) cafwyd 10 munud o egwyl.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.00 a.m.

 

 

Dogfennau ategol: