Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018-19

I ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2018/19 (copi yn atodedig) gan ddarparu adborth a/neu argymhellion i’r Bwrdd fel bo’n briodol

 

2.10pm – 3.10pm

Cofnodion:

Hysbysodd Iwan Davies, Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yr aelodau o fis Mehefin 2019, y byddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a byddai Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

Cyflwynodd Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yr adroddiad a chyflwyniad (dosbarthwyd yn flaenorol) i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’r aelodau.  Eglurodd fod gan ardal bob awdurdod lleol rwymedigaeth gyfreithiol i sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Gan fod Conwy a Sir Ddinbych wedi sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y cyd yn flaenorol, rhagflaenydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cytunwyd i barhau’r bartneriaeth hon drwy sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd.   Roedd aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys y ddau Gyngor, yr Heddlu, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Tân ac Achub, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru, Iechyd y Cyhoedd Cymru, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a'r Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol yn y ddwy sir (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Dinbych) ac ati.  Byddai sefydliadau cyhoeddus eraill yn cael eu gwahodd i gyfrannu at waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus os oedd yn cael ei ystyried yn briodol.  Rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardaloedd y siroedd drwy weithio i gyflawni’r saith nod lles a amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Hysbyswyd yr Aelodau am y broses a ddilynir i lunio Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.    Fel rhan o’r broses hon, cysylltwyd â’r cyhoedd yn yr haf 2016 yn defnyddio dull Sgyrsiau’r Sir.    Diben hyn oedd cael dealltwriaeth o’r hyn oedd yn gweithio’n dda yn yr ardaloedd gwahanol a beth oedd angen canolbwyntio arno er budd cenedlaethau’r dyfodol.  Rhwng yr haf 2016 ac Ebrill 2017, cafodd yr Asesiad Lles ei lunio.    

 

Penderfynodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus na ddylai ddyblygu gwaith a wnaed neu a wneir gan sefydliad arall, felly roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi nodi 6 thema y gellir eu hadolygu.  Roedd y rhain yn cynnwys:

 

1. Mil Diwrnod Cyntaf Bywyd

2. Hybu canolfannau cymunedol

3. Hybu lles meddyliol ar gyfer pob oed

4. Hybu gwytnwch mewn pobl hŷn

5. Hybu gwytnwch amgylcheddol

6. Magu pobl ifanc wydn ac uchelgeisiol

 

Drwy’r broses Sgyrsiau’r Sir, roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymgynghori â’r cyhoedd ar y themâu hyn ac yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd penderfynwyd rhesymoli’r nifer o themâu blaenoriaeth o 6 i 3.  Gwnaed hyn drwy asesu’r effaith, goblygiadau hirdymor ac archwilio a oedd gwaith eisoes wedi’i wneud mewn perthynas â’r rhain.    Yn dilyn y broses hon roedd y Cynllun Llesiant ei hun wedi’i gymeradwyo gan bob partner statudol cyn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ebrill 2018.  Roedd y Cynllun terfynol yn nodi cyfanswm o dair thema y dylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddelio â nhw, roedd y rhain yn cynnwys:

 

1. Pobl – Cefnogi lles meddyliol da i rai o bob oed

2. Cymuned - Rhoi grym i gymunedau

3. Lle - Cefnogi Gwytnwch Amgylcheddol

 

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wedi ymrwymo i 4 egwyddor ychwanegol sy’n cefnogi’r 3 thema blaenoriaethau:

 

a.  Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thrin pawb yn gyfartal

b.  Cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg

c.  Cefnogi pobl er mwyn iddynt gael gafael ar lety iach, diogel a phriodol

ch.Osgoi dyblygu gwaith.

 

Roedd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru yn egluro ar y dechrau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno cysylltu â’r prosiect o ongl wahanol, yn hytrach na chael arbenigwr yn eu meysydd perthnasol ar gyflawni’r blaenoriaethau byddent yn mabwysiadu dull gwahanol ar gyfer penodi arbenigwyr o feysydd pwnc eraill i arwain ar flaenoriaethau y tu allan i’w meysydd arbenigol e.e.   Cyfoeth Naturiol Cymru i arwain ar iechyd meddwl.  Nod hyn oedd caniatáu gwahanol safbwyntiau ar y themâu, gyda’r gobaith y gellir gofyn cwestiynau newydd i gael canlyniad gwahanol a gwell.  Roedd arferion yn dangos nad oedd y dull hwn wedi bod mor effeithiol ag y rhagwelwyd yn wreiddiol.    Felly, o hyn ymlaen byddai’r sefydliad arbenigol yn arwain ar y themau perthnasol i barhau ymchwil. 

 

Roedd y flaenoriaeth gyntaf, Cefnogi Lles Meddyliol da i bob oed yn profi’n thema fwy nag y rhagwelwyd.  Roedd Cadeirydd newydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn hysbysu’r Pwyllgor bod Is-Grŵp Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i sefydlu i gael dealltwriaeth o’r gwaith a wneir eisoes yn y maes drwy’r Partneriaethau a Byrddau Lleol.

 

Yn unol â’r adroddiad wedi'i amgáu, tudalen 31.  Roedd 2 gam cyntaf y thema Cefnogi Lles Meddyliol da wedi’i gwblhau gyda’r trydydd cam ar y gweill.  Hysbyswyd yr Aelodau yn ystod cyfarfod blaenorol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y cytunwyd i drosglwyddo’r ffrwd gwaith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Byddai yna angen nawr i nodi amcanion tymor byr, canolig a hir mewn perthynas â chyflawni themau.

 

Roedd Is-Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn awgrymu i’r Pwyllgor, ei fod fel rhan o’i raglen gwaith i’r dyfodol, efallai yn dymuno asesu'r cynnydd a gyflawnwyd hyd yma o ran y thema benodol hon.

 

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol Sir Ddinbych yr ail flaenoriaeth; Cymuned – Cefnogi Ymrymuso'r Gymuned i’r grŵp.

 

Eglurodd fod y canlyniad wedi’i ffurfio drwy gasglu gwybodaeth yn y Gweithdai Cyhoeddus. Y 3 maes a nodwyd oedd;

 

Ø  Cymunedau Cyfeillgar i Dementia

Ø  Presgripsiynu Cymdeithasol

Ø  Cefnogaeth i Ddigartrefedd a Thenantiaethau Ansefydlog

 

Hysbyswyd yr Aelodau er fod Sir Ddinbych yn arwain ar y thema Ymruso’r Gymuned, roedd ganddynt ddigon o gefnogaeth gan adrannau yn Sir Ddinbych a Chonwy. Yn ystod y gweithdai dywedodd un partner o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych eu bod wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu Rhaglen o dan arweiniad Cymuned sy’n Ymwybodol o Dementia, byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi’r rhaglen ac yn derbyn diweddariadau drwy gydol 2 flwyddyn y cynllun.

 

Yn wreiddiol roedd y nod ar gyfer Rhagnodi Cymdeithasol yn edrych ar y ddarpariaeth a ffurfioli’r cynigion i’r cyhoedd.  Dywedodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol yn ystod misoedd diweddar bod yr agenda wedi newid a’r canolbwynt presennol ar gyfer Rhagnodi Cymdeithasol oedd Rheoli Pwysau. Y bwriad oedd creu cynllun lleol ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy i helpu pobl i reoli eu pwysau. Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus nawr yn ceisio datblygu rhaglen ar gyfer rheoli pwysau.

 

Cafodd yr Aelodau eu hysbysu nad oedd y trydydd maes, Cefnogaeth ar gyfer Digartrefedd a Thenantiaethau Ansefydlog yn derbyn yr un sylw â’r ddau faes blaenorol roedd hyn o ganlyniad i'r capasiti o fewn y tîm. Fodd bynnag, eglurodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol eu bod yn ymwybodol o gefnogaeth oedd ar gael ar hyn o bryd a byddai'n canolbwyntio mwy ar y maes hwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. 

 

Cyflwynodd Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol Conwy y drydedd flaenoriaeth, Cefnogi Gwydnwch Amgylcheddol.  Eglurodd mai un maes lle roeddent yn teimlo bod yna fwlch o ran gweithio mewn partneriaeth oedd y brys o ran newid hinsawdd.

 

Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn teimlo bod angen mwy o waith o ran ymrymuso cymunedau i fynd i’r afael â’r broblem newid hinsawdd a sut gall y sector cyhoeddus eu cynorthwyo.  Roedd yna angen hefyd i ystyried y testun ar lefel strategol, drwy brosesau caffael, ceisiadau cynllunio a gwasanaethau gwastraff. 

 

Eglurodd y Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol bod 2 is-grŵp wedi eu sefydlu i ganolbwyntio ar themâu ar wahân.  Byddai’r grŵp cyntaf yn cynnwys arbenigwyr amgylcheddol yn datblygu datganiad polisi oedd yn amlinellu pa fframweithiau y byddai pawb yn gweithio tuag atynt, gan gynnwys meysydd arferion da a chamau i’w cymryd.    Byddai’r ail grŵp yn dod ag arbenigwyr amgylcheddol ynghyd i ddatblygu addewidion gwyrdd cymunedol. Y canlyniad fyddai annog cymunedau i gynorthwyo.  Roedd ymchwil wedi canfod bod rhai cymunedau eisoes wedi datblygu mentrau llwyddiannus.  Roedd rhai addewidion cymunedol wedi eu drafftio, byddai’r rhain yn cael eu defnyddio fel canllawiau i awgrymu ffyrdd o fod yn fwy gwyrdd. 

 

Roedd y Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol yn hysbysu’r aelodau yr ymgynghorir â chynghorau tref a chymuned yn ystod yr haf 2019. 

 

Pwnc arall fyddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn delio ag ef fyddai risgiau amgylcheddol. Er bod hwn yn ei ddyddiau cynnar. Hysbyswyd yr Aelodau bod trafodaethau ar y gweill.  Nodwyd hefyd bod yna fwriad i weithio’n rhanbarthol, i sicrhau y gall yr holl gynghorau rannu syniadau a'u gweithredu ar draws Gogledd Cymru. 

 

Roedd Is-Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn canmol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am y cynnydd a wnaed, gan nodi y byddai rhai agweddau o ymchwil y Bwrdd angen mwy o amser a sylw. Roedd hefyd yn amlygu canlyniad cadarnhaol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y berthynas waith gadarnhaol gyda sefydliadau eraill, oedd yn dwyn ffrwyth mewn amrywiol agweddau o waith sector cyhoeddus yn yr ardal.

 

Roedd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol, Cyngor Sir Ddinbych yn ychwanegu y bu newidiadau newydd o ran deddfwriaeth tai oedd wedi rhoi pwysau ar Awdurdodau Lleol. O ran Sir Ddinbych, roeddent eisiau sicrhau bod y broses bresennol yn gywir cyn gweithio gyda sefydliadau partner, cadarnhaodd mai dyma pam y bu oedi o ran datblygu’r elfen Dai yn thema Ymrymuso'r Gymuned.

 

Roedd Aelodau yn cydnabod y byddai yna lawer o bethau y gellir eu rhannu rhwng y ddwy sir.  Pryder arbennig oedd yr angen i ystyried yr effeithiau a’r budd i’r ddwy sir o ran datblygu ar hyd ardaloedd ffiniau’r siroedd.  Roedd Is-Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn hysbysu'r aelodau bod gwaith wedi'i wneud gyda’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), i sicrhau bod y ddau CDLl yn ymwybodol o bryderon ffin y naill Sir a’r llall. 

 

Cytunodd yr Aelodau y dylai Conwy a Sir Ddinbych weithio gyda'i gilydd ar nifer o faterion.  Roedd llifogydd yn fater mawr i’r ddwy sir a gellir gwneud mwy o waith ar y cyd.  Roedd gan Bodelwyddan a nodwyd yn y Fargen Dwf Gogledd Cymru fel ardal ddatblygu y potensial i achosi materion i Sir Ddinbych a Chonwy.  Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi argymell bod y byrddau yn gweithio’n rhanbarthol ar y sefyllfa risg llifogydd.  Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi sefydlu grwpiau i weithio gyda’i gilydd ar lifogydd a materion cysylltiol – byddai Gwynedd ac Ynys Môn yn cydweithio ar lifogydd a newid hinsawdd, tra byddai Sir Ddinbych a Chonwy yn gweithio ar effaith y rhain ar gymunedau ar draws y rhanbarth.    Byddai canfyddiadau’r gwaith hwn yn dod ynghyd ac yn cael ei rannu’n rhanbarthol.  

 

Roedd yr Aelodau yn holi pa fudd ychwanegol fyddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gynnig i’r bobl, hefyd sut gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddylanwadu ar wasanaethau/sefydliadau eraill i gynorthwyo. Egluro sut byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus angen herio Llywodraeth Cymru i ddarparu adnoddau i sicrhau y gellir delio â’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus  Eglurodd yr Is-Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bod y meysydd blaenoriaeth wedi eu datblygu ar y cyd, ond roedd yn cydnabod bod sicrhau bod gwasanaethau/sefydliadau eraill yn cyflawni eu hymrwymiad yn gallu bod yn heriol gan fod eu trefniadau llywodraethu yn wahanol i rai awdurdodau lleol.  Rôl y Pwyllgor oedd herio uwch swyddogion sefydliadau partner ar eu hymrwymiad i gyflawni blaenoriaethau a chynlluniau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Roedd Cydlynydd Craffu Sir Ddinbych yn hysbysu’r Pwyllgor fod ganddo’r grymoedd i adrodd i Weinidogion Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar ei farn ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni ei flaenoriaethau a llywodraethu.

 

Roedd  Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru yn atgoffa’r aelodau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymwybodol o sicrhau nad oedd yn dyblygu syniadau na newidiadau yr oedd gwasanaethau/sefydliad arall eisoes wedi eu gweithredu. Byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn edrych ar waith nad oedd wedi'i gyflawni yn y gorffennol ac yn asesu a fyddai defnyddio dull cydbartneriaeth yn gallu ei gyflawni. 

 

Roedd Aelodau yn amlygu’r ffaith na fyddai’r cynlluniau ar gyfer Gorsaf Bŵer Niwclear Wylfa yn symud ymlaen, felly dylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus edrych ar sut y gall gefnogi’r agenda ynni gwyrdd.  Roedd gan Sir Ddinbych a’i siroedd cyfagos y potensial ar gyfer cynlluniau ynni dŵr felly gallai hynny fod yn rhywbeth y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyfrannu ato a’i annog.  Roedd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru

yn nodi'r sylwadau a wnaed a dywedodd y byddai yna botensial i archwilio cynlluniau ynni gwyrdd cymunedol.   Aeth ati i godi’r materion uchod gyda Grŵp Ynni Gogledd Cymru.

 

Roedd yr Aelodau yn dweud sut yr oeddent yn teimlo y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddod at ei gilydd a gwneud i bethau ddigwydd.    Roeddent yn amlygu bod yna ddigon o bynciau lle roedd yna faterion y byddai o fudd delio â nhw ar y cyd.  Roedd swyddogion yn cynghori er nad oedd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei gyllideb benodedig ei hun roedd y budd o amgylch datblygu perthynas a chynyddu lefelau ymddiriedaeth i allu darparu prosiectau ac wrth wneud hynny mwyhau effaith a budd y prosiectau hynny i bawb..

 

Rhoddodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru

drosolwg i‘r aelodau o brosiect parhaus gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Roedd y prosiect wedi dechrau 3-4 blynedd yn ôl ac roedd yn canolbwyntio ar y tirwedd ar ran uchaf Dyffryn Conwy, ar rostir y Migneint. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyfrannu o safbwynt atgyfeiriad iechyd. Roedd yn gwneud sylwadau ar fanteision perthnasoedd gwaith drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu’r prosiect hwn a darparu budd iechyd, lles ac amgylcheddol. 

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r dair thema a ddewiswyd i’w blaenoriaethu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

Roedd yr Is-Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn canmol cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hyd yma ond hefyd amlygodd yr angen am fwy o waith ar bynciau penodol. 

 

Roedd y Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol yn hysbysu’r aelodau eu bod mewn cysylltiad rheolaidd gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol mewn perthynas â'r cynllun a’i ddarpariaeth. Roedd brîff prosiect Swyddfa Archwilio Cymru wedi’i gyhoeddi o ran gwaith archwilio ar y Cynllun a fyddai’n dechrau ar ddiwedd yr haf/dechrau'r hydref 2019. 

 

Roedd Aelodau yn canmol yr ystadegau ar anifeiliaid a’r amgylchedd gan ei fod yn faes sydd angen mwy o sylw.  Roeddent hefyd yn holi am ystadegau Sgwrs y Sir gan fod yna wahaniaeth mawr rhwng oedrannau a phwnc rhwng pob sir.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol fod Sir Ddinbych wedi ymweld â chynghorau ysgol i gael barn y bobl ifanc, roeddent hefyd wedi cael llawer o wybodaeth o grwpiau ffocws.  Felly, yn dibynnu lle roedd Conwy yn cael y wybodaeth, efallai y bydd yna wahaniaeth mewn materion oed a phwnc. 

 

Penderfynwyd: - bod y Pwyllgor;

 

(i)            yn derbyn Adroddiad Blynyddol 2018/19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych, yn cymeradwyo’r tri chynllun blaenoriaeth a gymeradwywyd gan y Bwrdd a’r cynlluniau ar waith i’w cyflawni; a

 

(ii)          cefnogi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran eu cyflawni a'r mesurau arfaethedig i wneud cynnydd gyda chyflawni Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod 2019/20

 

Dogfennau ategol: