Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU/SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus yn ceisio barn y Cyngor mewn perthynas â’r Achos Busnes drafft (copi yn yr atodiad) ar gyfer sefydlu Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol, ar gyfer ystod o weithgareddau/ swyddogaethau "mewn cwmpas" a gytunwyd arnynt yn flaenorol yn ymwneud â hamdden.

 

Cofnodion:

Cyn parhau â’r eitem hon, talodd y Cynghorydd Bobby Feeley deyrnged i’r tîm etholiad a oedd yn gyfrifol am redeg yr etholiadau diweddar i Senedd Ewrop yn effeithlon. Cefnogodd y Cynghorydd Arwel Roberts y sylwadau gan y Cynghorydd Feeley.

 

Cyflwynodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Holl yr adroddiad ar y cyd yn ceisio barn y Cyngor mewn perthynas â’r Achos Busnes drafft (Atodiad A) ar gyfer sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol (LATC), ar gyfer ystod o weithgareddau/ swyddogaethau "mewn cwmpas" a gytunwyd arnynt yn flaenorol yn ymwneud â hamdden.

 

Adroddodd y Cynghorydd Feeley ar y gwasanaethau a oedd wedi ‘gwella’n aruthrol’ a’r gwelliannau a gyflawnwyd mewn perthynas â chyfleusterau a gweithgareddau hamdden Sir Ddinbych dros y 10 mlynedd diwethaf. Amlinellodd rai o’r cyfleusterau newydd a gwell a dywedodd bod cyfanswm y cymhorthdal i gefnogi gwasanaethau hamdden oddeutu yr un fath ag yr oedd yn 2012. Nododd fod llawer o’r gwelliannau wedi’u sicrhau’n defnyddio adnoddau presennol neu fenthyca a hunan ariannwyd i fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd neu well.

 

Darparwyd yr Aelodau â manylion am y Bwrdd a fyddai’n goruchwylio Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ynghyd ag aelodaeth ddangosol o’r Bwrdd hwnnw. Tynnodd y Cynghorydd Feeley sylw at y trefniadau arfaethedig a fyddai’n caniatáu i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol fod yn llwyddiannus a pharhau i ffynnu mewn amgylchedd masnachol wrth ddiogelu a chadw buddion y Cyngor a rheolaeth o Hamdden Sir Ddinbych.

 

Adroddodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y rhesymau ariannol dros sefydlu Model Darparu Amgen, rhagwelwyd y byddai’r model hwn yn darparu arbedion sylweddol ar gyfer y Cyngor wrth alluogi'r gwasanaeth i fasnachu’n fwy masnachol er mwyn helpu i gynnal cyfleusterau ar gyfer y dyfodol. Yn gryno, amcangyfrifwyd bod yr arbedion oddeutu £1,107k gydag arbedion mawr mewn perthynas â Threthi Annomestig Cenedlaethol a thaliadau TAW. Ar ôl amlinellu’r costau hysbys ac arian at raid, amcangyfrifwyd y byddai’r arbedion blynyddol net yn ystod y flwyddyn gyntaf yn £800k. Ar hyn o bryd, mae’r cyfleusterau a'r gwasanaethau “mewn cwmpas”, hynny yw, y rhai y cynigir eu trosglwyddo i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, yn derbyn cymhorthdal y Cyngor o oddeutu £3 miliwn y flwyddyn ond y byddai’r cymhorthdal yn cael ei leihau drwy’r arbedion a gyflawnir gan y model Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:

 

·         Bydd yr adeiladau / tiroedd a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer darparu'r gwasanaethau hamdden “mewn cwmpas” yn cael eu prydlesu i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ar rent pitw am gyfnod o 10 mlynedd.  Bydd darpariaeth yn cael ei gwneud o fewn y prydlesi i ddiogelu'r cytundebau lefel gwasanaeth presennol gydag ysgolion, a chynnal y fynedfa bresennol i’r adeiladau ar gyfer etholiadau, gofynion argyfwng ac ati.

·         Y gwersi a ddysgwyd o brofiad Sir Ddinbych o ddefnyddio Hamdden Clwyd i reoli cyfleusterau a’r rhai o brofiadau awdurdodau lleol eraill o Fodelau Darparu Amgen.

·         Y lefel o sicrwydd a'r risg mewn perthynas â chyflawni arbedion drwy ostyngiadau i Drethi Annomestig Cenedlaethol a thaliadau TAW a’r risg i’r model pe bai deddfwriaeth yn newid yn y dyfodol ac yn atal yr arbedion a ragolygwyd rhag cael eu gwireddu. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y risgiau hyn yn bodoli ac eu bod wedi cael eu archwilio o fewn yr achos busnes. O ganlyniad i’r Cyngor yn cadw perchnogaeth, byddai’r cytundeb prydles yn darparu ar gyfer adennill asedau Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol drwy’r Cyngor dan amodau penodol.

·         Cadarnhawyd y byddai staff sy’n cael eu heffeithio yn cael eu trosglwyddo i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol dan reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth ac yn destun yr un telerau ac amodau â staff eraill yn Sir Ddinbych. Esboniodd Pennaeth y Gyfraith, oherwydd y byddai’r Cyngor yn berchen ar y cwmni, ni fyddai Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn gallu amrywio tâl ac amodau ei staff, byddai’r tâl a’r amodau'r un fath â’r hyn sydd yn berthnasol i’r rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan y Cyngor, heb gytundeb y Cyngor, a oedd yn annhebygol iawn o gael ei roi. Yn ychwanegol, dywedodd, gan y byddai'r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn eiddo i’r Awdurdod, gallai unrhyw wahaniaeth o ran tâl ac amodau arwain at hawliadau tâl cyfartal gan staff a oedd o ganlyniad ag amodau a thâl llai ffafriol. Roedd y ddarpariaeth her gyfreithiol hon am dâl cyfartal yn rheswm arall pam y byddai'r un tâl ac amodau yn cael eu cynnal gan Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol a’r Cyngor.

·         Roedd cyfleoedd posibl i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol fasnachu’n fasnachol i werth hyd at 20% o’i drosiant blynyddol ac i ychwanegu gweithgareddau neu swyddogaethau eraill i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn y dyfodol pe bai’r model mor llwyddiannus â’r disgwyl. Nid oedd yr agweddau hyn wedi’u cynnwys yn y cynllun busnes gan mai’r bwriad ar y pwynt hwn oedd canolbwyntio ar sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn llwyddiannus.

·         Y manteision i’r Cyngor o gadw’r elw a wnaed gan ei wasanaethau hamdden ei hun a redir gan Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, yn hytrach na bod y gwasanaethau hamdden hyn yn cael eu darparu gan weithredwr masnachol allanol.

·         Yn dilyn cyfnod pontio i baratoi ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau, bwriedir i Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2020.

 

Ar y pwynt hwn cymerodd yr aelodau egwyl ac ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, ystyriodd yr aelodau wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972,  bydd y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar sail y bydd yn cynnwys datgelu gwybodaeth wedi'i gwahardd fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Adolygodd yr aelodau'r trefniadau staffio uwch arfaethedig a’r prosesau penodi ar gyfer Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr byddai'r cynigion yn gofyn am ailstrwythuro staff a threfniadau rheoli ac y byddai’n hysbysu’r aelodau o unrhyw newidiadau.

 

 

 (Ar y pwynt hwn agorwyd y cyfarfod unwaith eto).

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

 

 (i) Cefnogi Achos Busnes terfynol y Prosiect;

 (ii) Rhoi cefnogaeth i sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol cyfyngedig drwy Warant (LATC) nid er elw;

 (iii) Cefnogi penodiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus i Fwrdd y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol;

 (iv) Rhoi cefnogaeth i gadw’r enw presennol ‘Hamdden Sir Ddinbych' i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol; a .

 (v) Chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 564, Cyf. 564) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: