Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CREDYD CYNHWYSOL

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Perfformiad a Chontractau - Cyllid (copi ynghlwm) sy'n amlinellu effaith Credyd Cynhwysol ar wasanaethau'r Cyngor a thrigolion y sir hyd yn hyn.  Mae’r adroddiad hefyd yn asesu effeithiolrwydd mesurau lliniaru hyd yn hyn, ac yn amlinellu cynlluniau ar gyfer mesurau lliniaru effeithiau yn y dyfodol.

 

11.30am – 12.15pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol adroddiad y Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad - Cyllid (a ddosbarthwyd eisoes) yn crynhoi effaith hyd yma symud drosodd i Gredyd Cynhwysol (CC) ar drigolion y Sir ac effeithiolrwydd mesurau lliniaru, gan amlinellu’r cynlluniau a sefydlwyd i liniaru’r effeithiau ar wasanaethau a thrigolion wrth i’r rhai sy’n derbyn budd-dal gal eu symud  drosodd i CC.  Croesawyd Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i'r cyfarfod fel un o bartneriaid allweddol y Cyngor ar gyfer rhoi cefnogaeth gyda Chredyd Cynhwysol.  Eglurodd fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr aelodau ar ôl ystyried adroddiad y llynedd am y paratoadau yr oedd y Cyngor a’i bartneriaid yn eu gwneud yn barod ar gyfer lledaeniad cychwynnol CC i’r rhan fwyaf o’r sir.

 

Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd yr Aelod Arweiniol bod y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi y dylai ‘ymfudo rheoledig’ pobl sydd eisoes yn derbyn budd-daliadau drosodd i Gredyd Cynhwysol ddechrau yn Sir Dinbych ddiwedd 2020.  Nododd aelodaeth y Bwrdd Credyd Cynhwysol amlasiantaeth yr oedd y Cyngor wedi’i sefydlu mewn ymgais i liniaru’r risgiau i'r Cyngor a phreswylwyr wrth gyflwyno CC.  Mae ymdriniaeth Sir Ddinbych o ran sefydlu tȋm amlasiantaeth sy’n  cynnwys cynrychiolwyr o’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn wahanol i ymdriniaeth awdurdodau lleol eraill,  sydd mae’n debyg wedi sefydlu Byrddau Cyllid neu Fyrddau Refeniw a Budd-Dal.  Ers i Gredyd Cynhwysol ddod i rym yn Sir Ddinbych mae deddfwriaeth newydd wedi’i chyflwyno sy’n berthnasol i fudd-dal tai a phrydau ysgol am ddim ayyb.   Mae hyn wedi creu gwaith ychwanegol ar gyfer staff sy’n delio â’r meysydd hynny a gyda hawliadau CC.  Roedd penderfyniad y Cyngor a’i bartneriaid i gydleoli staff yng Nghanolfan Waith y Rhyl wedi profi’n ddefnyddiol dros ben wrth fynd i'r afael â'r newidiadau, tynnu sylw hawlwyr budd-dal at hawliau eraill posibl a darparu gwasanaethau ymyrraeth mewn modd amserol er mwyn rhwystro sefyllfaoedd o argyfwng.   Roedd Atodiad 2 i’r adroddiad yn rhoi manylion camau penodol a gymerwyd gan wasanaethau unigol a’r canlyniadau a gafwyd ac roedd Atodiad 3 yn nodi astudiaethau achos dienw er mwyn dangos effeithiolrwydd ymdriniaeth y Cyngor a'i bartneriaid.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, Prif Weithredol CAB Sir Ddinbych, y Rheolwr Contractau a Pherfformiad – Cyllid a’r Rheolwr Prosiect Contractau a Pherfformiad - Cyllid:

  • hyd at 31 Mawrth 2019 bod CC wedi bod yn 'fudd-dal pasbort’ ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim.  O 1 Ebrill 2019 mae terfyn incwm o £7,400 wedi’i gyflwyno ar gyfer PYDd.  Fodd bynnag roedd unrhyw un oedd â hawl i PYDd ar 31 Mawrth 2019 wedi eu symud drosodd i PYDd o dan y Cynllun newydd.  I hwyluso’r gwaith hwn mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cwmni o’r enw Atkins i gefnogi Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  
  • cytuno bod digartrefedd ymysg pobl o dan 35 oed yn bryder cynyddol  Nid yw digartrefedd yn digwydd o ganlyniad i CC yn unig, yn aml iawn mae llawer o ffactorau'n cyfrannu ato.
  • er bod gwahanol fudd-daliadau a chredydau treth wedi’u cyfuno o dan ymbarél CC, nid oedd hynny’n golygu bod hawlwyr wedi colli unrhyw fudd-daliadau.  Byddai budd-daliadau blaenorol yn awr yn gydrannau o’r budd-dal CC newydd.  Roedd rhai premiymau wedi’u stopio ond eraill wedi’u cyflwyno.  Nod y CC newydd yw cefnogi’r rhai sy’n gallu gweithio  i fynd yn ôl i’r gwaith gan sicrhau hefyd y cefnogir y diamddiffyn a’r rhai nad ydynt yn gallu gweithio.  Mae'n bosib yn awr i rai unigolion weithio a derbyn elfen o CC.  Caiff CC ei gyfrifo yn seiliedig ar amgylchiadau unigol;
  • bod CAB Sir Ddinbych yn awr wedi sefydlu adnodd yng Nghanolfan Waith y Rhyl i helpu gydag ymholiadau am ddigartrefedd.  Mae’r swydd hon wedi’i noddi gan gynllun yr UE tan Ebrill 2020 ac mae'n rhoi profiad gwerthfawr i’r di-waith ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.
  • bod Civica wedi cadarnhau na fu cynnydd dramatig mewn ôl ddyledion Treth y Cyngor o ganlyniad i gyflwyniad CC.  Fodd bynnag mae Gwasanaeth Refeniw a Budd-dal Civica wedi cofnodi cynnydd o 33% yn ei lwyth gwaith ers cyflwyniad CC.  Credir mai’r rheswm am hyn yw’r prosesau mwy cymhleth cysylltiedig a CC a mwy o ymgysylltiad â chwsmeriaid.  Roedd Civica yn llwyr ymgysylltiedig â CC a gwaith y Bwrdd.  Roedd CAB Sir Ddinbych, drwy Canolfan Byd Gwaith a Mwy yn hyrwyddo argaeledd Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor a PYDd.
  • bod trigolion ardal Dyffryn Dyfrdwy sy’n hawlio’u budd-dal CC drwy Ganolfan Waith Wrecsam wedi cael eu cefnogi, felly hefyd y rhai a oedd yn hawlio drwy Ganolfan Waith y Rhyl.  Roedd saith pentref gwledig yn ne Sir Ddinbych a thrigolion ardal Dyffryn Dyfrdwy wedi cael cefnogaeth i dderbyn gwasanaethau, cyngor a gwybodaeth gan CAB Sir y Fflint drwy Bartneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych.  Yn ychwanegol at bresenoldeb CAB yn Llyfrgell Llangollen un diwrnod yr wythnos,  mae cyfleusterau Skype hefyd ar gael yn y Llyfrgell ar y dyddiau eraill er mwyn i bobl allu siarad â staff yn swyddfa CAB Rhuthun.  Roedd perthnasoedd gwaith effeithiol yn bodoli rhwng staff llyfrgelloedd y Cyngor, CAB a staff Canolfannau Byd Gwaith ar draws y sir.  
  • bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi na fydd o Ebrill 2020 yn talu’r arian y mae’n ei roi i Awdurdodau Lleol  i gefnogi hawlwyr CC ar draws y DU ac y bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i CAB. Fodd bynnag oherwydd perthynas agos a chryf  Sir Ddinbych gyda CAB sir Ddinbych, sydd eisoes yn darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau cefnogi CC ar ran y Cyngor, ni ddylai’r newid hwn gael effaith andwyol ar y Cyngor na’i drigolion.  Byddai hyn yn cyfateb i golled £15k o incwm i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, fodd bynnag nid oedd y Gwasanaeth yn rhagweld pwysau ychwanegol gormodol o ganlyniad i golled incwm.
  • atgoffwyd aelodau bod Cyngor ar Bopeth, yn cynnwys CAB Sir Ddinbych, yn sefydliad ymchwilio ac ymgyrchu yn ogystal ag yn sefydliad sy’n cefnogi unigolion.  Mae’r sefydliad wedi bod yn llwyddiannus yn genedlaethol mewn sicrhau bod budd-dal yn cael ei ôl ddyddio o dan yr ymgyrch 'Treat as Made'.  Yn Sir Ddinbych, yn ogystal â darparu gwasanaethau o’i swyddfeydd, mae gan CAB wasanaethau allgymorth er mwyn cyfarfod pobl yn y gymuned neu yn eu cartrefi eu hunain.  Roeddent yn ddiweddar hefyd wedi dechrau darparu gwasanaethau ym Modelwyddan drwy’r gwasanaeth allgymorth.
  • Mae gan CAB Sir Ddinbych ganolfan ddigidol yn ei swyddfeydd yn y Rhyl a ddefnyddir ymysg pethau eraill i wella sgiliau digidol derbynyddion budd-dal.  Mae CAB hefyd yn trafod gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau y posibilrwydd  bod y AGP yn cydleoli aelod o’u staff o dro i dro yn swyddfeydd CAB yn Ninbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen.
  • bod y graff yn Atodiad 1 yr adroddiad sy’n dangos bod nifer cynyddol o breswylwyr yn derbyn CC yn gadarnhaol gan ei fod yn dangos bod ymdriniaeth yr AGP, CAB a'r Cyngor yn effeithiol ac yn golygu bod preswylwyr yn ymgysylltu ar gam cynnar ac o bosibl yn llwyddo i osgoi cyrraedd pwynt o argyfwng.
  • nad oes data ar gael sy’n awgrymu bod landlordiaid preifat yn dewis peidio gosod eiddo i bobl sy’n derbyn credyd cynhwysol oherwydd y ddyletswydd fydd ar y tenant i dalu eu rhent yn uniongyrchol i'r landlord.  Roedd Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor wrthi’n trefnu digwyddiad fforwm Landlordiaid Preifat ar gyfer mis Mehefin.   Mae CAD, Civica, adrannau’r Cyngor Sir, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn a bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at Gynghorwyr Sir.  Er bod disgwyliad y bydd y rhai sy’n derbyn budd-dal yn gyfrifol am dalu eu rhent yn syth i’w landlord, mae cyfle hefyd i denantiaid ddewis bod eu rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r landlord.  Fodd bynnag nid yw’r opsiwn hwn yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol ar hyn o bryd.
  • bod CAB Sir Ddinbych wedi gwella ei brosesau er mwyn helpu hawlwyr i sefydlu cyfleusterau bancio er mwyn derbyn taliadau budd-dal.
  • y bydd yr AGP  yn gwrando ar CAB pe bai ganddynt bryderon difrifol ynghylch hawliad neu amgylchiadau hawlwyr pa un a ydynt yn gwpl, yn uned deuluol neu'n berson sengl.
  • bod peth gwaith wedi'i wneud gyda'r Tîm Atal Digartrefedd i weld a oes unrhyw gysylltiad rhwng cyflwyniad CC a nifer y bobl sy'n mynd yn  ddigartref.
  • ar hyn o bryd dim ond hawlwyr newydd a'r rhai hynny sydd wedi profi newid mewn amgylchiadau sydd â hawl i hawlio CC.  Mae hawlwyr budd-dal ‘etifeddiaeth’ yn debygol o ddechrau symud drosodd o ddiwedd 2020 ymlaen yn Sir Ddinbych, er nad yw’r AGP wedi cadarnhau’r union ddyddiad eto.
  • bod talu CC yn broses pum wythnos.  Fodd bynnag, yn ystod yr amser hwnnw gallai’r hawlydd wneud cais am daliad ymlaen llaw o hyd at 100% o’r swm y mae ganddynt hawl iddo.  Roedd Cyngor ar Bopeth yn genedlaethol yn ymgyrchu i gwtogi'r broses i fod yn un pedair wythnos er mwyn adlewyrchu'r broses ar gyfer gweithwyr.  Bydd Budd-dal Tai hefyd yn dal i gael ei dalu er mwyn cefnogi hawlwyr.
  • mae CAB Sir Ddinbych eisoes yn gweithio'n agos â banciau bwyd lleol.  Ateb dros dro yn unig yw banciau bwyd.  Byddai CAB Sir Ddinbych yn gweithio gyda theuluoedd ac unigolion mewn argyfwng er mwyn mynd i wraidd y broblem a’i dileu ar gyfer y dyfodol.
  • mae’r AGP yn lleol yn hynod hyblyg ac yn barod i weithio'n agos gyda CAB a'r Cyngor er mwyn datrys problemau unigol, ac
  • ar hyn o bryd nid oes unrhyw un o’r partneriaid yn rhagweld y bydd unrhyw broblemau mawr yn digwydd yn ystod y broses o drosglwyddo’r rhai sydd eisoes yn hawlio budd-dal drosodd i CC.  Tra byddai rhai o dderbynyddion yr hen fudd-dal o bosibl wedi bod yn economaidd anweithgar ers cryn amser ac o bosibl ddim yn dda iawn gyda TG nac wedi arfer rheoli arian mewn ffordd wahanol, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn byw bywyd mwy sefydlog h.y. bydd pobl sy'n dechrau derbyn CC ar hyn o bryd yn gwneud hynny oherwydd digwyddiad arwyddocaol yn eu bywydau (e.e. statws perthynas yn newid neu ddiswyddiad) ac ni fydd y rhai hynny sy'n symud drosodd dan reolaeth yn gorfod ymdopi gyda'r fath ddigwyddiad ar yr un pryd a newid drosodd i CC.  Er mwyn paratoi ar gyfer y brif broses fudo bydd yr AGP yn cynnal peilot yn ardal Harrogate o dan yr ymdriniaeth 'Who Knows Me' er mwyn asesu effeithiolrwydd dulliau mudo, cyn eu rhoi ar waith yn genedlaethol.

 

Mewn perthynas â'r mater o ddigartrefedd yn Sir Ddinbych dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n ystyried y mater yn ei gyfarfod ar 11 Gorffennaf 2019.  Dywedodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth ei bod o'r farn bod Sir Ddinbych, fel Awdurdod Lleol, ochr yn ochr â'i bartneriaid, wedi gwneud gwaith rhagorol wrth baratoi ar gyfer cyflwyniad CC a’i bod yn edrych ymlaen at dderbyn casgliadau’r astudiaeth ar CC a digartrefedd yn Sir Ddinbych.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod

 

(i)            llongyfarch y Cyngor ar ei ymdriniaeth a’i reolaeth o gefnogaeth ar gyfer preswylwyr mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych;

(ii)          parhau i gefnogi a chymeradwyo’r dull cyflawni prosiect y mae'r swyddogion yn ei ddefnyddio, sef y Bwrdd Credyd Cynhwysol; a

(iii)         gofyn bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ddiwedd 2020/dechrau 2021 i asesu effaith symud derbynyddion budd-dal etifeddiaeth drosodd i Gredyd Cynhwysol ar Wasanaethau’r Cyngor, ac effeithiolrwydd camau a gymerwyd gan y Cyngor a’i bartneriaid i liniaru effeithiau trosglwyddo i CC ar breswylwyr a gwasanaethau’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: